Eitem ar yr agenda
ARCHWILIAD GWASANAETHAU CYMDEITHASOL AWDURDOD LLEOL, GWERTHUSIAD AC ADOLYGIAD 2011-12
Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles (copi’n amgaeëdig) ar arfarniad AGGCC o Wasanaethau
Cymdeithasol Sir Ddinbych a’u persbectif ar berfformiad ac effeithiolrwydd
Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cofnodion:
Cyflwynodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles adroddiad (a gylchredwyd yn
flaenorol) yn mynegi’r prif faterion a oedd yn codi o werthusiad Arolygiaeth
Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) o berfformiad Gwasanaethau
Cymdeithasol Sir Ddinbych ar gyfer 2011 - 12.
Roedd copi o’r gwerthusiad llawn wedi ei atodi i’r adroddiad (Atodiad 1)
ynghyd â throsolwg o ymateb y Cyngor i’r meysydd cynnydd a nodwyd a’r meysydd
i’w gwella (Atodiad 2).
Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles, Angela Mortimer a Sue
Millington, Rheolwyr Ardal AGGCC ynghyd â Rheolwr Gwasanaeth: Datblygu Ansawdd
a Systemau'r Cyngor, Craig McLeod, a’u croesawu i’r cyfarfod. Rhoddodd beth gwybodaeth gefndir i’r
adroddiad a chyd-destun y gwerthusiad blynyddol fel rhan o system reoli
perfformiad cyffredinol y Cyngor. Roedd
yn werthusiad positif i Sir Ddinbych yn nodi cynnydd arwyddocaol mewn llawer o
feysydd gyda meysydd i’w gwella wedi eu nodi a oedd yn adlewyrchu’r rheiny yn
hunanasesiad y Gyfarwyddiaeth. Tynnwyd
sylw Aelodau’n arbennig at y meysydd canlynol -
·
Roedd
rhaglenni uchelgeisiol o newid gwasanaeth gydag arweinyddiaeth glir a
threfniadau rheoli perfformiad wedi eu hamlygu
·
Roedd
meysydd a nodwyd i’w gwella wedi eu mewnblannu o fewn Cynlluniau Busnes
Gwasanaethau a oedd yn cael eu monitro’n chwarterol
·
Roedd
risg wedi ei nodi o ran cynllunio strategol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr (BIPBC) [a oedd hefyd wedi ei nodi ar draws awdurdodau Gogledd Cymru
i gyd]. Roedd ymateb cynhwysfawr i
ymgynghoriad BIPBC ar gynlluniau i ad-drefnu darpariaeth gofal iechyd wedi ei
gyflwyno ac roedd yr angen am Grŵp Strategol wedi ei amlygu.
Rhoddodd y Rheolwr
Ardal sylw ar yr adroddiad positif a
oedd yn edrych yn ôl dros y deuddeng mis blaenorol gan ddweud fod pethau wedi
symud ymlaen ac roedd camau’n cael eu cymryd i symud ymlaen â’r meysydd a oedd
wedi eu nodi i’w gwella. Rhoddodd
sylwadau hefyd ar ansawdd yr ymgysylltiad â’r awdurdod ac uwch swyddogion a
oedd wedi bod yn gynorthwyol yn cynhyrchu gwybodaeth er mwyn arwain y broses
werthuso.
Roedd aelodau’n
falch o nodi agweddau positif yr adroddiad a’r cynnydd arwyddocaol sy’n cael ei
wneud ond roedd eu cwestiynau’n canolbwyntio ar y meysydd hynny a nodwyd i’w
gwella a lle’r oedd cynnydd wedi bod yn fwy cyfyngedig a cheisiwyd sicrwydd
ynglŷn â chadernid y camau i ddelio â nhw.
Fe ganolbwyntiodd y drafodaeth ar y meysydd canlynol -
·
Roedd AGGCC wedi nodi gallu parhaus i ddylanwadu
ar gynllunio strategol sy’n canolbwyntio ar ardal gyda BIPBC fel risg potensial -
esboniodd y Rheolwr Ardal bod cydgysylltu ag iechyd yn hanfodol i gynllunio a
darpariaeth gwasanaeth ar gyfer gwaith Oedolion a Phlant a bod ailstrwythuro
BIPBC wedi tarfu ar lawer o gysylltiadau a hynny wedi effeithio ar gyflymdra
symud cynlluniau ymlaen i’w terfyn.
Mynegodd aelodau bryderon difrifol ynglŷn â’r risgiau canfyddadwy,
yn enwedig o ystyried ad-drefnu’r ddarpariaeth gofal iechyd ac effaith ddilynol
ar wasanaethau a chyllidebau’r Cyngor, ac fe geisiwyd sicrwydd ynglŷn â
sut y byddai’r risg yn cael ei reoli’n effeithiol. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles at fentrau fel y prosiect ardaloedd, a oedd wedi bod yn
arafach i symud ymlaen oherwydd yr anhawster o ymgysylltu staff yn lleol yn
dilyn ailstrwythuro a gweithrediad BIPBC yn rhanbarthol ynghyd â blaenoriaethau
eraill sy’n gwrthdaro. Roedd yn obeithiol
y byddai Grwpiau Strategol yn cael eu sefydlu’n sirol i alluogi datrys
problemau lleol a’u bwrw ymlaen.
Ychwanegodd fod cysylltiadau ar lefel weithredol yn dal i fod yn dda efo
BIPBC mewn meysydd eraill ac roedden nhw wedi bod yn weithredol ymglymedig â
BIPBC yn datrys problemau penodedig.
Roedd fforwm strategol o chwe Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a
Chyfarwyddwyr BIPBC yn cyfarfod yn chwarterol hefyd gyda’r bwriad o ddatrys
problemau. [Roedd y Cynghorydd Stuart
Davies am iddo gael ei nodi fod sicrwydd wedi ei geisio gan BIPBC na fyddai
cyfleusterau presennol yn cael eu cau’n rhan o’r ad-drefnu nes byddai rhai
newydd yn agor. Er bod y Prif Weithredwr
wedi derbyn y sicrwydd hwnnw fe ddywedwyd wrth rai aelodau ar wahân na ellid
rhoi unrhyw sicrwydd].
·
Gwella absenoldeb oherwydd salwch - roedd
cynnydd wedi bod yn fwy cyfyngedig gyda gwella absenoldeb oherwydd salwch a
gofynnodd aelodau a ddeliwyd ag adnoddau staffio a baich gwaith; y rhesymau am
absenoldeb, a pha ddulliau a gyflwynwyd i wella perfformiad. Cadarnhaodd swyddogion nad oedd staff
asiantaeth yn cael eu defnyddio bellach a bod staff digonol wedi eu
recriwtio. Er bod lefelau salwch wedi
gwella roedd cynnydd yn dal yn gyfyngedig ac fe ymhelaethodd swyddogion ar y
dulliau cadarnach a gyflwynwyd i reoli absenoldeb a hwyluso dychweliad i’r
gwaith yn dilyn salwch. Roedd straen
wedi ei nodi’n brif reswm am absenoldeb ac roedd hyn yn cael ei ailadrodd ar
draws holl wasanaethau’r cyngor ond roedd cyfraddau Sir Ddinbych yn cymharu’n
ffafriol ag awdurdodau lleol eraill.
Roedd trafodaethau’n barhaus ynghylch achos straen ac a oedd salwch yn
berthynol i waith a byddid yn cynnal dadansoddiad o wasanaethau a oedd yn
perfformio’n well gyda’r bwriad o rannu arferion gorau. Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley y byddid
yn sefydlu Gweithgor gyda’r bwriad o daclo’r broblem benodedig yn y
gwasanaethau cymdeithasol.
·
Adolygiad o Wasanaethau a ddarperir
i Oedolion –
amlygwyd pwysigrwydd cynlluniau gofal a dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth: Datblygu
Ansawdd a Systemau fod 94% o gynlluniau gofal wedi eu hadolygu’n brydlon ac
roedd systemau cadarnach wedi eu cyflwyno er mwyn olrhain perfformiad
adolygiadau.
·
Systemau Gofal Seibiant -
Amlygodd y Cynghorydd Raymond Bartley y fiwrocratiaeth a oedd yn gysylltiedig
â’r broses o ddarparu gofal seibiant mewn cartrefi gofal. Teimlai y dylid ei adolygu er mwyn cynorthwyo
gofalwyr a sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cyfweld yn rhan o’r broses honno. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles at y Strategaeth Gofalwyr a’r cyswllt â theuluoedd a’r
cydbwysedd rhwng cynorthwyo gofalwyr a chynnal annibyniaeth pobl. Amlygodd hefyd yr angen i flaenoriaethu a
gwneud y defnydd gorau o adnoddau cyfyngedig wrth gefnogi gofalwyr. Ychwanegodd y Rheolwr Adnoddau fod gofalwyr
sy’n derbyn gwasanaethau wedi bod yn bositif yn gyffredinol.
·
Diogelu Plant - Ceisiodd y Cynghorydd Martyn Holland
sicrwydd ynglŷn â mecanweithiau sydd yn eu lle i adnabod plant sydd mewn
perygl. Dywedodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Moderneiddio a Lles fod yna systemau gwydn iawn yn eu lle a
chysylltiadau gweithio da ar y cyd ag asiantaethau eraill. Adroddodd ar waith y Panel Amlasiantaeth ar y
Cyd i sgrinio atgyfeiriadau a oedd yn
darparu dull amlasiantaeth cydlynol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynglŷn ag ymyriad cynnar
mewn teuluoedd sy’n agored i niwed, adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles ar ddull amlasiantaeth i nodi ffactorau cyfranogol
allweddol er mwyn canfod y teuluoedd sy’n fwyaf agored i niwed. Byddid yn defnyddio’r wybodaeth honno ar
gyfer ymyrryd drwy’r Rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Chymorth Dwys i
Deuluoedd. Roedd y broses wedi ei
dogfennu’n helaeth a gellid rhoi’r canlyniadau ar gael i aelodau ar gais. Y gobaith oedd y byddai ymyriad cynnar yn
golygu llai o achosion gofal.
·
Lleoliadau
y Tu Allan i’r Sir - fe
atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles gwestiwn gan y
Cynghorydd Raymond Bartley gan ddweud fod tua phymtheg o blant wedi eu lleoli y
tu allan i’r sir ar hyn o bryd a bod y nifer wedi bod yn graddol leihau. Cyfeiriodd y Rheolwr Ardal at adolygiad
diweddar gan yr AGGCC o blant mewn gofal, a fyddai ar gael ym mis Chwefror
2013, a oedd yn nodi arferion da ac fe allai fod o ddiddordeb i’r awdurdod.
Diolchodd y Cadeirydd
i Reolwyr Ardal yr AGGCC am eu presenoldeb yn y cyfarfod a’u persbectif ar
berfformiad a gwerthusiad gwasanaethau cymdeithasol y Cyngor.
PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad ar werthusiad perfformiad Gwasanaethau
Cymdeithasol Sir Ddinbych ar gyfer 2011-12.
Dogfennau ategol:
- LA SS INSPECTION W, Eitem 5. PDF 73 KB
- LA SS INSPECTION APP 1, Eitem 5. PDF 97 KB
- LA SS INSPECTION APP 2, Eitem 5. PDF 83 KB