Eitem ar yr agenda
RHEOLI ASEDAU STRATEGOL
Ystyried adroddiad gan y cyd gan y Prif Reolwr Eiddo a’r
Rheolwr Prisio a Stadau (copi’n amgaeëdig) a oedd yn manylu Strategaeth Rheoli
a Gwaredu Asedau’r Cyngor a’r gweithdrefnau a’r canllawiau sy’n bodoli.
12.05 p.m.
Cofnodion:
Roedd copi o
gyd-adroddiad gan y Prif Reolwr Eiddo a’r Rheolwr Prisio a Stadau, yn amlinellu
Strategaeth Rheoli a Gwaredu Asedau’r Cyngor a’r trefniadau a’r canllawiau a
oedd yn bodoli, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi
gwybodaeth ac yn gofyn am sylwadau ar Strategaeth Rheoli a Gwaredu Asedau’r
Cyngor, ac yn amlinellu’r trefniadau a’r canllawiau sy’n rheoli gwaredu
asedau’r Cyngor. Roedd manylion y ffocws presennol a rhagarweiniol ar y rhaglen
yn ymwneud â gwaredu asedau nad oedd eu hangen mwyach wedi eu hamlinellu yn yr
adroddiad.
Crynhowyd
proses adolygu rheoli asedau safonol y Cyngor ar gyfer yr Aelodau, ynghyd â
manylion cylch gorchwyl y Grŵp Rheoli Asedau (AMG). Roedd amlinelliad o gynllun y Cyngor ar gyfer
cymeradwyaeth ddirprwyedig i waredu asedau a Chydymffurfedd Statudol ar Waredu
Tir ac Adeiladau’r Cyngor, Adran 123, Deddf Llywodraeth Leol 1972, wedi ei
gynnwys yn yr adroddiad. Roedd y tri prif opsiwn ar gyfer gwaredu tir neu
adeiladau nad oedd eu hangen mwyach wedi eu nodi yn Atodiad A i’r adroddiad.
Esboniwyd
bod gan y Cyngor strategaethau i gael gwarediad gan
Bortffolio’r
Swyddfa Amaethyddol a Chorfforaethol a’r portffolio Eiddo Amrywiol, ac roedd
copi o Gynllun Rheoli Gwasanaeth Stad Amaethyddol ynghlwm fel Atodiad B. Roedd
gan y Stad Datblygiad Economaidd strategaeth ddrafft i gyflawni rhesymoliad
asedau a reolir o’r portffolio eiddo erbyn Ebrill 2013 ar gyfer ei drafod a’i
gymeradwyo a’i fabwysiadu, a byddai rhan o’r strategaeth hon yn cynnwys
argymhellion ar gyfer gwaredu asedau. Roedd gan Ddysgu Gydol Oes bolisi
Moderneiddio Addysg a gallai hyn gyflwyno asedau dros ben maes o law. Byddai
GwasanaethU eraill yn datgan asedau nad oeddynt eu hangen mwyach wrth iddynt
resymoli eu portffolios gwaith perthnasol.
Roedd
cyfranogiad aelodau mewn gwaredu asedau wedi ei amlinellu yn yr adroddiad.
Roedd y
Gweithgor Stadau Amaethyddol wedi cytuno strategaeth buddsoddi a gwaredu ar
gyfer y Stad a oedd yn arwain gwaith presennol. Byddai Grwpiau Aelodau Ardal yn
derbyn manylion yr holl eiddo yn eu hardaloedd hwy yn ystod y gwanwyn. Byddai
adolygiad o’r portffolio diwydiannol a busnes yn cynnwys yr Aelodau a byddai
ymgynghori gydag Aelodau unigol ar waredu asedau yn eu wardiau hwy. Esboniwyd
bod gwaredu asedau dros ben yn cynhyrchu derbyniadau cyfalaf ac ynghyd â’r
arbedion refeniw cysylltiedig byddai’n cynorthwyo gyda chyflawni Blaenoriaethau
Corfforaethol a fyddai fel arall yn aros heb eu hariannu. Roedd targed o £10m mewn
derbyniadau cyfalaf ar gyfer y cyfnod 2010-15 wedi ei adnabod fel Blaenoriaeth
Gorfforaethol.
Roedd
yr adroddiad yn cynnwys manylion y costau a’r risgiau a oedd yn gysylltiedig â
gwaredu tir ac eiddo. Sicrhawyd yr Aelodau, cyn gwaredu eiddo, y rhoddwyd
ystyriaeth i ddefnydd amgen bob tro, gan gynnwys defnydd cymunedol, a bod pob
trafodaeth waredu yn agored, ac yn cael ei hymgymryd er budd y cyhoedd.
Ymatebodd y swyddogion i'r cwestiynau a’r materion canlynol a godwyd
gan yr Aelodau:
-
Pwysleisiwyd pwysigrwydd
cyfranogiad Aelodau Lleol ac ymgynghori â hwy ar waredu a phrynu tir ac asedau
yn eu hardaloedd perthnasol
- diweddariad ar y sefyllfa
gyfreithiol mewn perthynas â hen Ysgol
Cynwyd.
-
Mewn
perthynas â’r posibilrwydd o Sir Ddinbych yn gwerthu tir i Gyngor Tref y Rhyl i
ddarparu mynwent yn ardal y Rhyl, esboniwyd nad oedd tir addas yn yr ardal dan
sylw, a bod hyn yn amlygu’r anawsterau a oedd yn gysylltiedig â gorlifdiroedd.
-
Enghreifftiau
o achosion lle’r oedd Sir Ddinbych wedi prynu tir neu eiddo. Esboniodd
swyddogion eu bod yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Adfywio i brynu tir neu eiddo a
fydda’n helpu gwella neu adfywio ardal.
-
Gwybodaeth
ar waith a chylch gorchwyl y Grŵp Stadau Amaethyddol a’r cynnig ar gyfer
Gweithgor Stadau Masnachol a Diwydiannol.
-
Manylion o’r camau a gymerwyd i
sicrhau y byddai’r Cyngor yn elwa o unrhyw enillion yn y dyfodol yn deillio o
dir a werthwyd i drydydd parti. Cadarnhawyd hefyd, wrth waredu eiddo, y
byddai’r cynnydd mewn gwerth yn cael ei ystyried cyn ei ddodi ar y farchnad.
-
Byddai unrhyw faterion yn
ymwneud â Stad Amaethyddol y Cyngor yn cael eu trin trwy’r Grŵp Stadau
Amaethyddol.
Fe:-
BENDERFYNWYD – yn amodol ar y
sylwadau uchod, derbyn a chydnabod cynnwys yr adroddiad ar Strategaeth Rheoli
Asedau’r Cyngor.
Dogfennau ategol:
- Strat Ass Man Rept, Eitem 9. PDF 90 KB
- Strat Ass Man App A, Eitem 9. PDF 7 KB
- Strat Ass Man Rept App B, Eitem 9. PDF 30 KB
- Strat Ass Man App C, Eitem 9. PDF 1 MB