Eitem ar yr agenda
ETAPE CYMRU 2012
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol
(copi’n amgaeëdig) yn rhoi dadansoddiad manwl o effaith digwyddiad 2012 ar y
gymuned leol, busnesau lleol a chyfranogwyr ynghyd â’r manteision a welwyd/yr
effaith ar yr economi lleol ehangach a Sir Ddinbych gyfan.
10.10
a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Prif
Swyddog Strategaeth Adfywio, a oedd yn rhoi dadansoddiad manwl o effaith
digwyddiad 2012 ar y gymuned leol, busnesau lleol a chyfranogwyr, ynghyd â’r
manteision / effaith ar yr economi lleol ehangach a Sir Ddinbych gyfan, wedi ei
ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd y Rheolwr Adfywio
Strategol (SRM) yr adroddiad.
Y
llynedd, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu ei fod yn cymeradwyo’r ceisiadau i
gau ffyrdd i ganiatáu cynnal Etape Cymru 2012, yn amodol ar:-
a)
Ymgynghoriad llawn gyda’r cymunedau a’r busnesau lleol a
effeithiwyd gan y ffyrdd yn cau gan gynnwys ymgynghori â’r Grŵp lleol
Aelodau Ardal.
b)
Ymgymryd ag asesiad o’r
effaith.
c) bod
y Pwyllgor yn derbyn gwarant y byddai Bwlch yr Oernant yn ailagor i draffig
erbyn 11am.
Byddai
arfarniad o effaith y digwyddiad ac unrhyw fanteision a gafwyd neu effeithiau
andwyol a achoswyd yn galluogi gwneud argymhellion mewn perthynas â’r
trefniadau ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau mawr yn y dyfodol. Roedd Sir Ddinbych
wedi parhau i gyfathrebu’n rheolaidd gyda Human Race, trefnwyr Etape Cymru, a
Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mewn perthynas â digwyddiad beicio ‘ffordd
ar gau’ 2012 a gynhaliwyd ym Medi 2012 ac roedd cynlluniau nawr ar y gweill ar
gyfer digwyddiad 2013 i’w gynnal ar ddydd Sul, 8fed Medi, 2013. Cyfarfu trefnwyr gyda’r Grŵp Ymgynghorol
ar Ddiogelwch a swyddogion Priffyrdd ac Adfywio Wrecsam a Sir Ddinbych i
adolygu 2012, ac roeddynt wedi derbyn argymhellion y Grŵp.
Roedd
Atodiad 1 i’r adroddiad yn cynnwys adolygiad o ddigwyddiad Etape Cymru 2012 a
oedd yn rhoi trosolwg gadarnhaol o’r effaith economaidd ar ardal Wrecsam / de
Sir Ddinbych. Manylwyd adolygiad Sir Ddinbych o fusnesau ar neu yn agos at
lwybr cau ffyrdd dros dro ar gyfer Etape Cymru 2012 yn Atodiad 2 ac roedd
cofnodion cyfarfod diwethaf Grŵp
Ymgynghori ar Ddiogelwch wedi ei gynnwys fel Atodiad 3 i’r adroddiad. Roedd
gwybodaeth ar gyfraniad y penderfyniad mewn perthynas â Blaenoriaerhau
Corfforaethol, effaith costau ar wasanaethau eraill, ymgynghoriad a ymgymerwyd
a manylion risgiau a mesurau a weithredwyd i’w lleihau, wedi eu cynnwys yn yr
adroddiad. Roedd crynodeb o’r adborth gan y Grŵp Ymgynghori ar Ddiogelwch,
Aelodau Wardiau a busnesau yn yr adroddiad.
Cododd y Cynghorwyr T.R. Hughes a M.L. Holland nifer o
bryderon a chytunodd y Pwyllgor bod angen eu cyflwyno i’r Grŵp Ymgynghori
ar Ddiogelwch (SAG) ac a oedd angen atebion cyn cyflwyno’r adroddiad i’r
Cabinet ym mis Chwefror, 2013. Cytunodd
y Pwyllgor bod y pryderon a’r materion canlynol a godwyd gan yr aelodau yn cael
eu cyflwyno gan y swyddogion i gyfarfod nesaf y Grŵp Ymgynghori ar
Ddiogelwch:-
·angen
i wella cyfathrebu gyda thrigolion a busnesau, yn enwedig mewn ardaloedd
gwledig, mewn perthynas â’r digwyddiad. Pwrpas a disgwyliadau’r Digwyddiad, cau
ffyrdd a’r effaith ar fywydau bob dydd y trigolion a’r angen i’r holl
gyfathrebu fod yn amserol.
·Atebolrwydd
cyhoeddus os bydd digwyddiad neu ddamwain yn cynnwys cystadleuwr, warden,
trigolyn, busnes a stoc ffermio byw neu farw.
·Canlyniad
unrhyw asesiadau risg a ymgymerwyd mewn perthynas â materion atebolrwydd
cyhoeddus.
·Dilysrwydd
y ffigurau ar y fantais economaidd i’r ardal oherwydd pryderon a godwyd gydag
aelodau gan fusnesau yn eu hardaloedd hwy ar yr amser yr oeddynt wedi gorfod
cau oherwydd y digwyddiad.
·Darpariaeth
wardeniaid annigonol yn y digwyddiad.
·Rhoi
ystyriaeth i'r posibilrwydd o gychwyn y digwyddiad yn gynharach yn y y bore er
mwyn lleihau’r ymyrraeth i fusnesau a thrigolion lleol.
·A
oedd y deunydd hyrwyddo ar gyfer y digwyddiad ei hun yn helpu hyrwyddo a
marchnata Sir Ddinbych, ac a ellid gwneud hyn neu ei wella yn y dyfodol.
·Y
posibilrwydd o gael Aelod Lleol i fynychu SAG gyda swyddogion o Sir Ddinbych.
·Goblygiadau cyfreithiol damwain mewn
perthynas ag atebolrwydd yswiriant Etape.
·Archwilio lefel a digonolrwydd y wardeniaid
ar gyfer y digwyddiad.
Pwysleisiodd y Rheolwr
Adran – Rheoli Rhwydwaith, bod meddiant y Gorchymyn Cau Ffordd yn aros gyda’r
trefnwyr ac y byddant hwy yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol, atebolrwydd
a risg, o fewn y trefniadau cau ffyrdd. Amlinellwyd dyletswyddau a
chyfrifoldebau Sir Ddinbych a chyfeiriwyd at rôl y SAG a oedd yn cyfarfod yn
rheolaidd i ystyried a thrafod unrhyw faterion a godai trwy’r fforwm.
Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau,
amlinellodd yr SRM y camau a oedd yn cael ei cymryd i hyrwyddo Sir Ddinbych
trwy'r digwyddiad, a oedd yn cynnwys adroddiadau helaeth mewn cylchgronau
beicio, manylion y lleoliad ar gyfer cyn-gofrestriad y digwyddiad a dolennau i
lety yn yr ardal. Cefnogodd yr Aelodau awgrym gan y Cynghorydd H C Irving y
dylid cael arweiniad gan y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden mewn
perthynas â chynnwys gwybodaeth i hyrwyddo Sir Ddinbych yn y pecynnau
gwybodaeth.
Ystyriodd yr Aelodau yr argymhellion yn yr
adroddiad ac argymell y dylid cynnwys eitem Etape Cymru ar Flaenraglen waith y
Pwyllgor.
Gofynnodd y Cynghorydd T R Hughes bod y
cofnodion yn nodi nad oedd wedi mynegi ei gefnogaeth i’r digwyddiad.
PENDERFYNWYD
-
(a)
Argymhell bod Etape Cymru 2013
yn cael ei gynnwys ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor i’w ystyried;
(b)
Bod pryderon a materion a godwyd
gan yr Aelodau yn cael eu cyfleu gan y swyddogion i gyfarfod nesaf y Grŵp
Ymgynghori ar Ddiogelwch
(SAG), a bod yr atebion i’r cwestiynau uchod ac esboniad ar y pwyntiau a godwyd
yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad i’r Cabinet ym mis Chwefror gan anfon copi i
aelodau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor, a
(c)
Gofyn am arweiniad gan y Pennaeth Cyfathrebu,
Marchnata a Hamdden mewn perthynas â chynnwys deunydd hyrwyddo ar Sir Ddinbych
yn y pecynnau gwyboaeth.
Dogfennau ategol:
- Etape Report, Eitem 6. PDF 80 KB
- Etape App 1, Eitem 6. PDF 1 MB
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./3 yn gyfyngedig
- Etape App 3, Eitem 6. PDF 44 KB