Eitem ar yr agenda
CYNLLUNIAU TREF
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol
(copi’n amgaeëdig) a oedd yn adolygu effeithiolrwydd Cynlluniau Tref wrth ddechrau
cyflawni eu hamcanion.
9.35 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o
adroddiad gan y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol, a oedd yn adolygu
effeithiolrwydd Cynlluniau Tref wrth ddechrau cyflawni eu hamcanion, wedi ei
ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Rhoddodd y Rheolwr Adfywio Strategol (SRM) grynodeb o’r adroddiad, a
oedd yn amlinellu datblygu trefi economaidd hyfyw a chynaliadwy a fyddai’n rhoi
hwb i’r economi lleol, gwella canlyniadau i fusnesau lleol a thrigolion a denu
ymwelwyr i’r ardal.
Roedd
Cynlluniau Tref ar gyfer y saith anheddiad mwyaf, ac eithrio’r Rhyl, wedi eu
cymeradwyo gan y Cabinet. Cafwyd ymgynghoriad gydag Aelodau newydd eu hethol
iddynt ddod yn gyfarwydd â chynnwys y Cynlluniau Tref a gymeradwywyd eisoes a
chychwyn adolygiad o’u cynnwys i sicrhau eu bod yn dal yn ddilys, ac i alluogi
ymgorffori unrhyw flaenoriaethau ychwanegol. Roedd chwe Grŵp Aelodau Ardal (MAG), gan
gynnwys y Rhyl, wedi eu gwahodd i enwebu Aelod Arweiniol fesul Cynllun Tref i
weithio mewn Grŵp Cydgysylltu Cynlluniau i ddiweddaru’r Cynlluniau Tref.
Byddai fersiynau newydd y cynlluniau yn cael eu cyflwyno i’r MAG yn eu rownd
cyfarfodydd presennol. Roedd y Grŵp Cydgysylltu wedi ystyried dyrannu
cyllid i gyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol i wella’r economi lleol a byddai
hyn yn galluogi i’r camau blaenoriaeth hynny a adnabuwyd fel rhai i’w
gweithredu’n gynnar fynd rhagddynt.
Nid oedd y Cynlluniau a gymeradwywyd eto wedi delio ag
anghenion a blaenoriaethau cymunedau llai a mwy gwledig. Gofynnwyd i Aelodau
wardiau perthnasol adnabod materion rhagarweiniol gan gynnwys ardal ddaearyddol
briodol ar gyfer Cynlluniau Ardal na
fyddai o reidrwydd yn cyd-fynd â ffiniau MAG, a blaenoriaethau i’w trafod
trwy’r MAG. Byddai Cynlluniau Tref yn cael eu ehangu yn Gynlluniau Ardal
ehangach a rhagwelwyd y byddai gan Gynlluniau Ardal dair adran fras fel y
manylwyd yn yr adroddiad. Byddai proses ymgynghori yn cael ei mabwysiadu, yn
debyg i’r un ar gyfer y Cynlluniau Tref gwreiddiol. Byddai MAG yn adolygu ac
yna’n argymell Cynlluniau Ardal i’w mabwysiadu’n ffurfiol gan sicrhau bod
anghenion a blaenoriaethau holl gymunedau a oedd yn dod dan y Cynllun, gan
gynnwys cymunedau llai a mwy gwledig, yn cael eu hadlewyrchu’n briodol. Roedd
rôl yr Aelod Arweiniol ar gyfer Datblygu Gwledig wrth sicrhau bod Cynlluniau
Ardal yn ymgorffori blaenoriaethau gwledig, a’r broses ar gyfer monitro
perfformiad Cynlluniau Tref ac Ardal, wedi ei datblygu ar y cyd â’r gwasanaeth
Cynllunio Busnes a Pherfformiad i fynd gyda’r trefniadau adrodd ar gyfer y
Cynllun Corfforaethol, ac wedi ei amlygu yn yr adroddiad. Byddai adroddiad
perfformiad yn cael ei gyflwyno i’r MAG bob chwarter yn amlygu’r hyder cyflawni
a oedd yn gysylltiedig â phob cam blaenoriaeth byw yn y Cynlluniau Tref ac
Ardal perthnasol. Roedd adroddiad perfformiad enghreifftiol ar gyfer Rhuddlan
ynghlwm fel atodiad, fel enghraifft o’r fformat a gymeradwywyd ac a
fabwysiadwyd.
Byddai’r wybodaeth yn yr adroddiad Tref ac Ardal unigol yn
cael ei chasglu at ei gilydd a’i chynnwys yn yr Adroddiad Perfformiad
Chwarterol i’w gyflwyno i’r Cabinet yn chwarter cyntaf blwyddyn ariannol
2013/14. Byddai adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir a
chytunodd yr Aelodau bod adroddiadau monitro ar y Cynlluniau yn y dyfodol yn
cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu.
Hysbyswyd yr Aelodau gan yr SRM y byddai’r Cynlluniau Tref
yn cefnogi gweithrediad y Flaenoriaeth Gorfforaethol i wella’r economi lleol a
byddai hefyd yn cynorthwyo’r Cyngor wrth gyflawni ei uchelgais i fod yn gyngor
agosach at y gymuned.
Roedd manylion goblygiadau cyllidebol ac effeithiau posibl
ar wasanaethau eraill mewn perthynas â blaenoriaethau Cynlluniau Tref ac Ardal
ar gyfer 2012/13 a 2013/14 wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad. Cadarnhawyd y
byddai prosiectau y Rhyl yn Symud Ymlaen yn cael eu hariannu naill ai o
ddyraniad corfforaethol ar gyfer adfywio a wnaed yn 2011/12 neu, yn achos
prosiectau mwy, trwy gynigion penodol i’w hystyried gan y Grŵp Buddsoddi
Strategol cyn i’r Cabinet gymryd penderfyniad. Fodd bynnag, efallai y bydd peth
galw ar y dyraniad cyllid ar gyfer Cynlluniau Tref ac Ardal ar gyfer prosiectau
y Rhyl yn Symud Ymlaen.
Amlygwyd
y risgiau a oedd yn gysylltiedig â gweithredu Cynlluniau Tref. Roedd y risg o
beidio â chyflawni’r camau a nodwyd fel rhai i’w cwblhau ym mlynyddoedd cynnar
y Cynlluniau Tref wedi ei lleihau trwy greu rolau Hyrwyddwyr Cynlluniau Tref ac
Ardal i yrru cyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynlluniau Tref ac Ardal
perthnasol, a thrwy ddyrannu cyllidebau i alluogi ariannu camau blaenoriaeth na
fyddai fel arall yn cael eu cyflawni trwy gyllidebau gwasanaeth presennol.
Ymatebodd
yr SRM i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd T R Hughes a chadarnhaodd, ar ôl
cymeradwyaeth gan y Cabinet yn ddiweddar, y gellid nawr symud ymlaen gyda
chyflawni amcanion y Cynlluniau Tref.
Mynegodd
nifer o Aelodau eu cefnogaeth i strwythur presennol y Grwpiau Aelodau Ardal a’r
farn gyffredinol oedd na ddylid adolygu’r grwpiau presennol gan ei bod yn
ymddangos eu bod yn gweithio’n dda. Amlinellodd y Cynghorydd H.Ll. Jones ei rôl
fel Aelod Arweiniol yn goruchwylio’r ardal wledig yn y Sir a oedd yn cynnwys 9
ardal lle nad oedd unrhyw drefi. Esboniodd bod Aelodau yn y wardiau gwledig
wedi cael cais i gyflwyno manylion tair blaenoriaeth yr hoffent weld eu
datblygu yn eu hardaloedd hwy, ac esboniodd y byddai cyfarfod yn cael ei drefnu
ar gyfer yr aelodau dan sylw er mwyn sicrhau eu mewnbwn hwy i’r Cynlluniau Tref
perthnasol. Cadarnhaodd Aelodau a oedd yn cynrychioli’r ardaloedd gwledig y
byddant yn ymgynghori â’r Cynghorau Cymuned perthnasol i ofyn am eu barn hwy.
Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd T.R. Hughes, esboniodd yr SRM bod paramedrau
hyblyg wedi eu pennu gan y Pwyllgor mewn perthynas â dyrannu cyllid ar gyfer
cynlluniau a phrosiectau o fewn y Cynlluniau Tref.
Cadarnhaodd
y Pwyllgor yr angen i fonitro gweithrediad ac amserlenni cyflawni’r Cynlluniau
Tref, camau cyflawni gwasanaeth safonol, cyfrifoldeb Aelodau etholedig i gymryd
meddiant o’r Cynlluniau a’u gweithrediad. Amlygwyd pwysigrwydd cynnwys Aelodau
etholedig yn y gwaith o ailddiffinio’r ardaloedd, os oedd angen ailddiffinio
ardaloedd, gyda sylw penodol i gynnwys y cymunedau cysylltiedig llai a gwledig.
Mynegodd
y Cynghorydd G M Kensler y farn nad oedd, dan y strwythur craffu presennol, yn
glir pa Bwyllgor Craffu a ddylai dderbyn
adroddiadau yn y dyfodol ar y mater hwn. Cytunodd yr Aelodau y dylai
adroddiadau ar y Cynlluniau Tref yn y dyfodol gael eu cynnwys ar flaenraglen
waith y Pwyllgor Craffu Cymunedau. Ar ôl trafodaeth bellach, fe:-
BENDERFYNWYD
– bod y Pwyllgor Craffu
Cymunedau:-
(a)
Yn cymeradwyo’r trefniadau a
wnaed i symud ymlaen gyda chyflawni Cynlluniau Tref,
(b)
Yn cefnogi’r cynigion i
ddatblygu Cynlluniau Ardal i adnabod blaenoriaethau mewn cymunedau gwledig, a
(c)
Yn cytuno bod y Pwyllgor Craffu
Cymunedau yn derbyn adroddiadau yn y dyfodol ar y Cynlluniau Tref.
Dogfennau ategol: