Eitem ar yr agenda
STRATEGAETH GWYBODAETH AC YMGYNGHORI GOFALWYR GOGLEDD CYMRU
Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion a
Busnes (copi ynghlwm) mewn perthynas â gweithredu Mesur Strategaethau Gofalwyr
(Cymru) 2012 fel y nodwyd yn Strategaeth Gwybodaeth ac Ymgynghori Gofalwyr
Gogledd Cymru 2012 – 2015.
10.10 a.m.
Cofnodion:
Cylchredwyd
copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes gyda’r papurau
i’r cyfarfod.
Roedd yr adroddiad yn
disgrifio’r broses o weithredu Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010
newydd, sef y Mesur Gofalwyr, fel y nodir yn Strategaeth Gwybodaeth Ac
Ymgynghori Gofalwyr Gogledd Cymru 2012 – 2015, ac yn cynnwys nodyn gwybodaeth
am y llinell gymorth 24 awr i Ofalwyr yn Sir Ddinbych.
Yn unol â gofynion y Mesur Gofalwyr, roedd drafft terfynol y Strategaeth
Ranbarthol, Atodiad 1, wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Roedd yr
adroddiad yn amlinellu’r ffordd y byddai’r Strategaeth Ranbarthol yn mynd i’r
afael â gofynion y Mesur Gofalwyr, ac eglurwyd y byddai gofyn i bob un o’r chwe
Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru graffu ar y Strategaeth a’i chymeradwyo.
Dynodwyd Byrddau Iechyd Lleol yn ‘awdurdodau arwain’ yn y gwaith o
weithredu Rheoliadau’r Mesur Gofalwyr. Sefydlwyd Grŵp Strategol Arweinwyr
Gofalwyr Gogledd Cymru (NWCSLG) i ddatblygu’r Strategaeth Ranbarthol. Byddai’r
Grŵp hwn yn parhau i gyfarfod a gweithredu fel y gweithgor partneriaeth i
fynd ymlaen â’r camau a amlinellir yn y Strategaeth Ranbarthol. Roedd BIPBC
wedi sefydlu Bwrdd Prosiect Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru), a oedd yn
cynnwys cynrychiolwyr o Awdurdodau Lleol a’r trydydd sector, i graffu ar waith
Grŵp Strategol Arweinwyr Gofalwyr Gogledd Cymru ac i roi cyngor a sicrhad
i’r Bwrdd Iechyd.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi dod i’r casgliad bod y Strategaeth Ranbarthol
yn rhagweithiol gyda ffocws da ar ganlyniadau, a’i fod yn seiliedig ar
feddylfryd clir am yr hyn y gallai fod angen ei wneud yn wahanol er mwyn eu
cyflawni. Roedd y Strategaeth wedi arddangos gwaith partneriaeth cryf rhwng y
Bwrdd Iechyd, chwe Awdurdod Lleol a sefydliadau’r Trydydd Sector. Roedd meysydd
i’w gwella wedi’u hamlygu ac roeddent yn cynnwys yr angen am bennod ar wahân am
ofalwyr ifanc, gan gryfhau rhai o’r Camau Allweddol i Flwyddyn 3, egluro sut
byddai’r Strategaeth yn berthnasol i gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd
Ethnig a grwpiau eraill â nodweddion gwarchodedig a chyfnerthu’r elfen iechyd
meddwl o’r Strategaeth.
Roedd effaith y
Mesur newydd yn debygol o arwain at nodi nifer cynyddol o Ofalwyr a’u cyfeirio
ymlaen am asesiad statudol gan yr Awdurdod Lleol. Byddai posibilrwydd cynnydd mewn
atgyfeiriadau’n cael ei fonitro i ystyried materion lle a goblygiadau i
wasanaethau’r dyfodol.
Bu’r Cydlynydd
Gofalwyr yn rhoi crynodeb manwl o’r pwyntiau amlwg a’r Camau Allweddol sydd yn
y Strategaeth, Atodiad 1 i’r adroddiad. Eglurodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd
J.A. Davies wedi’i ailbenodi’n ddiweddar yn Hyrwyddwr Gofalwyr i Sir Ddinbych.
Rhoddwyd yr ymatebion canlynol
i faterion a chwestiynau a godwyd gan yr Aelodau:-
-
amlinellodd y Cydlynydd Gofalwyr y cysylltiadau cyfathrebu presennol a
chyfeiriodd yn arbennig at gylch gwaith Grŵp Strategol Arweinwyr Gofalwyr
Gogledd Cymru. Disgrifiodd y mesurau sydd ar waith i helpu i fynd i’r afael â’r
problemau a gaiff gofalwyr ifanc a chadarnhaodd y byddai gwaith pellach yn cael
ei wneud drwy’r Grŵp Strategol. Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles y gwaith sy’n cael ei wneud yn Ysgolion Sir Ddinbych a’i
Gwasanaethau Plant i nodi gofalwyr ifanc a sicrhau mwy o ymwybyddiaeth, a chadarnhaodd
y byddai gwaith pellach yn cael ei wneud drwy gomisiynu gwasanaethau’n
rhanbarthol.
-
o ran darparu gofal seibiant i ddefnyddwyr gwasanaeth i gynorthwyo
gofalwyr, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes y gellid
archwilio’r dull o nodi gofalwyr unigol a chytunwyd y gellid cynnwys eitem am y
mater hwn ar yr agenda i’w hystyried gan y Fforwm Gofalwyr. Cyfeiriodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles at y mesur a oedd yn annog nodi
gofalwyr ond pwysleisiodd fod angen adnoddau i fodloni’r galw. Cyfeiriodd y
Cydlynydd Gofalwyr at gylch gwaith BIPBC yn cyfeirio defnyddwyr at y broses
Asesu Anghenion Gofalwyr. Cadarnhaodd eu bod yn gwybod am y problemau cyfredol
a bod y mater hwn wedi’i amlygu i Lywodraeth Cymru gan Awdurdodau Lleol ledled
Cymru.
-
eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes fod yr asesiad
cyffredinol o bobl y mae angen gofal arnynt, ac o’u gofalwyr priodol, yn cael
ei wneud gan Dimau Gwaith Cymdeithasol, a chadarnhaodd fod gofyn cynnal
asesiadau’n flynyddol.
-
cydnabu swyddogion y Gwasanaeth Iechyd feichiau gwaith gormodol y staff
nyrsio mewn Ysbytai a chadarnhaodd y byddai Hyrwyddwyr Gofalwyr Gwasanaeth
Iechyd ar wardiau ysbytai’n cynnwys trawstoriad o staff o’r tu mewn i’r
Gwasanaeth.
-
darparodd y Swyddog Comisiynu Gofalwyr fanylion yn ymwneud â nifer y
gofalwyr, fel y nodwyd yng nghyfrifiad 2011. Rhoes fanylion y rhaglen hyfforddi
i staff gofal cymdeithasol a chytunwyd y gellid cylchredeg copi o’r
ddogfennaeth yn amlinellu’r gwasanaethau a ddarperir i’r Aelodau.
-
dywedodd
Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes wrth y Pwyllgor fod cyfarpar a gwaith
addasu yng nghartrefi defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu darparu drwy gynllun y
Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (DFG).
-
cadarnhawyd y byddai’r holl staff sy’n mynd i sesiynau hyfforddi yn cael
ffurflen safonol gynhwysfawr ar gyfer gwerthuso perfformiad, a fyddai’n cael ei
harchwilio a’i hasesu.
-
rhoes Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes fanylion cyfansoddiad y
Panel Gofal Cymunedol a’r broses a fabwysiadwyd ynglŷn â’r asesiad a
gynhelir gan y Gweithiwr Cymdeithasol priodol.
-
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan yr aelodau am yr angen i sicrhau bod
cleifion a ryddheir o’r ysbyty yn cael cynllun gofal digon da, eglurodd y
Cydlynydd Gofalwyr y byddai cynllunio rhyddhau pobl o’r ysbyty yn elfen bwysig
o sefydlu llwybr atgyfeirio ffurfiol drwy’r siwrnai iechyd a bod hwn yn rhan
o’r strategaeth sy’n cael ei chyflwyno ar hyn o bryd i wella’r broses. Mewn
ymateb i awgrym na ddylid rhyddhau cleifion nes eu bod yn destun cynllun gofal,
eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles y dylai cleifion gael
cynllun rhyddhau, a fyddai’n cynnwys cynllun gofal, a byddai gwella’r
strategaeth fel y cynigir yn sicrhau y byddai’r broses yn gadarnach. Cytunodd y
Pwyllgor nodi’r pryderon nad oes cynlluniau gofal digon da bob amser yn eu lle,
a bod Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes yn cysylltu â chydweithwyr yn y
Gwasanaeth Iechyd i archwilio ffyrdd posibl o fynd i’r afael â’r materion a’r
pryderon a godwyd gan yr Aelodau.
Tynnodd Pennaeth y Gwasanaethau
Oedolion a Busnes sylw’r Aelodau i’r
nodyn gwybodaeth a oedd yn ymateb i ymholiad am linell gymorth 24 awr i Ofalwyr
yn Sir Ddinbych. Mae’r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn comisiynu
gwasanaethau cymorth i ofalwyr gyda chwe sefydliad trydydd sector lleol sy’n
darparu gwybodaeth a chymorth un ac un yn bennaf i Ofalwyr, ac yn eu plith
NEWCIS, y Gymdeithas Alzheimer a Hafal.
Y brif linell ffôn 24 awr i Gymru oedd y Llinell Wrando a Chyngor
Cymunedol (C.A.L.L.) ynghyd â Llinell Gymorth Dementia Cymru. Roedd manylion y
gwasanaethau wedi’u cynnwys yn y Pecyn Gwybodaeth i Ofalwyr Sir Ddinbych a
chadarnhawyd y byddai datblygu’r Strategaeth Ranbarthol yn helpu i hyrwyddo’r gwasanaethau
cymorth i’r Gofalwyr a nodir gan staff iechyd.
Eglurwyd y byddai’n costio tua £100K y flwyddyn i gynnal llinell gymorth
ffôn 24 awr. Byddai gofyn gwneud gwaith manylach i asesu’r nifer posibl a
fyddai’n manteisio ar wasanaeth sirol lleol, ond byddai’n anodd ei gyfiawnhau o
ystyried lefel y buddsoddiad, a bod gwasanaethau eisoes ar gael ar lefel
genedlaethol. Byddai adolygiad o’r Pecyn
Gwybodaeth i Ofalwyr Sir Ddinbych yn dechrau ym mis Ionawr 2013 a gellid
ystyried hyrwyddo’r llinellau ffôn presennol yn rhan o’r adolygiad. Cytunodd y
Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes y gellid rhoi gwybod i’r aelodau am y
costau sy’n ymwneud â darparu llinellau gofal.
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, roedd yr Aelodau’n cefnogi’r farn y dylid newid argymhelliad 3.2 yn
yr adroddiad i ddweud “mae’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau’n nodi’r wybodaeth
a ddarparwyd o ran llinellau cymorth 24 awr i ofalwyr.”
PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor-
(a) yn
cefnogi Strategaeth Gwybodaeth ac Ymgynghori Gofalwyr Gogledd Cymru 2012/2015
a’r dull partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a’r
trydydd sector o ran ei gweithredu, a
(b) yn
nodi’r wybodaeth a ddarparwyd o ran y llinell gymorth 24 awr i Ofalwyr, a’r
gwasanaethau sydd ar waith i fodloni’r angen hwn i ofalwyr Sir Ddinbych.
Dogfennau ategol: