Eitem ar yr agenda
GWASANAETH RHANBARTHOL EFFEITHIOLRWYDD YSGOLION A CHYNNWYS YSGOLION
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) yn
manylu’r cynnydd hyd yma gyda sefydlu a rhedeg Gwasanaeth Rhanbarthol
Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion, a’r manteision a welwyd hyd yma o’i sefydlu.
9.35 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y
Pennaeth Addysg, a oedd yn disgrifio’r cynnydd o ran sefydlu a chynnal y
Gwasanaeth Rhanbarthol Effeithiolrwydd Ysgolion a Chynnwys Ysgolion (RSEIS),
a’r buddion a sylweddolwyd ers ei sefydlu, wedi’i gylchredeg gyda’r papurau i’r
cyfarfod.
Cyflwynodd y Pennaeth Addysg yr adroddiad ac eglurodd fod y Cabinet, ym
mis Chwefror 2012, wedi cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn i sefydlu Gwasanaeth
Rhanbarthol Effeithiolrwydd Ysgolion a Gwella Ysgolion (RSEIS) i fod yn atebol
i chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru, a chynnal eu cyfrifoldebau statudol, o ran
y dyletswyddau i fonitro, herio, darparu gwasanaethau cymorth i ddatblygiad
proffesiynol parhaus cwricwlwm a rheoli ysgolion, ac, yn ogystal, darparu
gwasanaethau y gellid eu comisiynu gan ysgolion ac Awdurdodau Lleol. Roedd copi
o’r adroddiad i’r Cabinet wedi’i gynnwys yn Atodiad 1, gyda chopi o’r achos
busnes llawn yn Atodiad 2.
Amlinellwyd i’r Aelodau gyfanswm costau
cyfredol cyflenwi’r swyddogaethau gwella ysgolion o fewn y cwmpas cynghorol a
statudol presennol ledled chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru. Nodwyd ei bod yn
bosibl arbed £882k o swm holl-ranbarthol y gellid ei ail-fuddsoddi mewn Addysg,
neu ei ryddhau fel arbediad ariannol, gan ddibynnu ar anghenion pob Awdurdod
Lleol.
Dywedwyd wrth yr Aelodau mai Gwynedd a
benodwyd yn Awdurdod Cynnal ar gyfer y Gwasanaeth Rhanbarthol Effeithiolrwydd
Ysgolion a Chynnwys Ysgolion. Bu’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democratig (HLDS) yn crynhoi’r trefniadau cyfreithiol a gyflwynwyd i sicrhau
llinell glir o atebolrwydd i reoli’r Gwasanaeth a rhoes fanylion yn ymwneud â
sefydlu Cydbwyllgor, gan amlinellu ei gylch gwaith a’i gyfansoddiad.
Amlinellodd ddiben y Cytundeb Rhwng Ysgolion a oedd yn ffurfioli’r trefniadau
rhwng yr Awdurdodau priodol ac yn nodi paramedrau a ffiniau clir.
Cyfeiriodd y Cynghorydd E.W. Williams at y farn a fynegwyd gan y
Gweinidog ynglŷn ag amserlenni a phwysleisiodd fod safonau’n bwysicach na
strwythurau a bod Sir Ddinbych wedi gosod esiampl dda fel Awdurdod Addysg.
Mewn ymateb i’r pryderon a fynegwyd na ddylai
sefydlu’r Gwasanaeth Rhanbarthol Effeithiolrwydd Ysgolion a Gwella Ysgolion
rwystro’r safonau uchel a osodwyd ac a gyflawnwyd gan Sir Ddinbych, cyfeiriodd
y Pennaeth Addysg at yr heriau a’r buddion sy’n codi o’i gyflwyno a sicrhaodd
na fyddai’r safonau a’r lefelau a gyflawnwyd yn Sir Ddinbych yn cael eu
rhwystro. Cadarnhaodd y byddai’r broses
yn cael ei monitro’n ofalus ac y byddai’r cysylltiadau a’r berthynas waith agos
a ddatblygwyd â’r Penaethiaid yn parhau. Mynegwyd pryderon hefyd am y
cymariaethau posibl y gellid eu gwneud rhwng yr Awdurdodau priodol, yn enwedig
o ran safonau a darpariaeth gyllidebol, a pha mor bwysig yw derbyn y byddai
rhai Awdurdodau am gynnal eu disgwyliadau a’u safonau uchel cyfredol. Eglurodd
y Cynghorydd E.W.Williams y byddai sefydlu’r Gwasanaeth Rhanbarthol
Effeithiolrwydd Ysgolion a Chynnwys Ysgolion yn cynyddu’r gallu i ymdrin â
chylch ehangach o’r Rhaglen Gwella Ysgolion ac yn sicrhau gwelliant helaeth yn
y ddarpariaeth addysg.
Cytunodd y Pennaeth Addysg y byddai gwybodaeth bellach yn cael ei rhoi am
gyfraniad Aelodau at adolygiad sy’n cael ei wneud gan Robert Hill. Eglurodd y
byddai rolau a swyddogaethau’n cael eu trosglwyddo o awdurdodau lleol gyda
staff yn cael eu hadleoli, ynghyd â’r cyllidebau priodol, ar ôl sefydlu’r
Gwasanaeth Rhanbarthol Effeithiolrwydd Ysgolion a Chynnwys Ysgolion.
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democratig y byddai’r
Pwyllgor Craffu Partneriaethau’n craffu ar waith partneriaeth ac eglurodd fod
Mesur Llywodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno cysyniad craffu ar y cyd y gellid ei
fabwysiadu i fonitro’r Gwasanaeth Rhanbarthol Effeithiolrwydd Ysgolion a
Chynnwys Ysgolion. Dywedodd y Pennaeth Addysg wrth yr Aelodau y byddai Estyn yn
monitro’r broses a chyfeiriwyd at yr arolygiad gwaith consortiwm ac at gynnwys
yr Awdurdod Lleol mewn Arolygiadau. Cyfeiriodd y Cydlynydd Craffu at y
posibilrwydd bod cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru i wneud y gwaith paratoi
sy’n ofynnol i sefydlu trefniadau craffu ar y cyd ar gyfer prosiectau fel y
gwasanaeth addysg rhanbarthol.
Ymatebodd y Pennaeth Addysg i bryderon a
fynegwyd a sicrhaodd y byddai’r safonau a osodwyd gan Sir Ddinbych yn cael eu
cynnal a’u datblygu. Cadarnhaodd fod grŵp defnyddwyr wedi’i sefydlu a oedd
yn rhoi’r cyfle i Benaethiaid a Llywodraethwyr Ysgol gyfarfod ag uwch
swyddogion o’r Gwasanaeth Rhanbarthol Effeithiolrwydd Ysgolion a Chynnwys
Ysgolion. Amlygodd y Pennaeth Addysg hefyd bwysigrwydd yr Adroddiad Safonau
Cyrhaeddiad, a gyflwynir yn flynyddol i’r pwyllgor craffu, a oedd yn ceisio
gwella canlyniadau i blant. Mewn ymateb i bryderon am yr amserlenni dan sylw
a’r angen i sicrhau bod aelodau o staff yn cael digon o amser i addasu i unrhyw
newidiadau, roedd y Cynghorydd E.W. Williams yn teimlo y gellid cyfleu pryderon
felly i’r Gweinidog priodol. Ar ôl trafod ymhellach:-
PENDERFYNWYD –
(a) derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd a gyflawnwyd hyd
yma o ran sefydlu’r gwasanaeth newydd, a
(b)
cyflwyno adroddiad pellach ym mis Ionawr 2014 ar y cynnydd a gyflawnwyd
yn sefydlu’r Gwasanaeth, am broblemau neu rwystrau y daethpwyd ar eu traws ac
am y cyflawniadau hyd yma.
Dogfennau ategol: