Eitem ar yr agenda
DEDDF DIWYGIO’R HEDDLU A CHYFRIFOLDEB CYMDEITHASOL 2011 – ARDOLL HWYR Y NOS A GORCHYMYN CYFYNGU BORE CYNNAR
- Meeting of Pwyllgor Trwyddedu, Dydd Mercher, 5 Rhagfyr 2012 9.30 am (Item 11.)
- Gweld y cefndir i eitem 11.
Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn amlinellu’r pwerau newydd sydd ar gael
i’r Awdurdod Trwyddedu o 31 Hydref 2012 dan ddiwygiadau i Ddeddf Trwyddedu 2003
i wneud Gorchmynion Cyfyngu Bore Cynnar a phennu Ardollau Hwyr y Nos.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD –
(a) cydnabod
cynnwys yr adroddiad ar Ardollau Hwyr y Nos a Gorchmynion Cyfyngu Bore Cynnar,
a
(b) peidio
â chefnogi gwneud Gorchmynion Cyfyngu Bore Cynnar a phennu Ardollau Hwyr y Nos,
a chyflwyno barn y Pwyllgor Trwyddedu i’r Cyngor Sir pan fyddai’n ystyried yr
adroddiad ar y mater hwn.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad
gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw) yn amlinellu’r pwerau newydd a oedd ar gael i’r Awdurdod Trwyddedu
o 31 Hydref 2012 dan ddiwygiadau i Ddeddf Drwyddedu 2003 i wneud Gorchmynion
Cyfyngu Bore Cynnar (EMRO) a phennu Ardollau Hwyr y Nos (LML).
Rhoddwyd peth gwybodaeth gefndir i’r aelodau ar
gyflwyniad yr EMRO a’r LNL, a’u bwriad i ddelio â throsedd ac anhrefn sy’n
gysylltiedig ag alcohol a helpu talu am gostau gorfodi ychwanegol a oedd yn
gysylltiedig ag eiddo sy’n agor yn hwyr. Roedd pwyntiau allweddol yn cynnwys -
ARDOLLAU HWYR Y NOS (LNL)
·
Pwerau i
awdurdodau lleol godi tâl ar safle yn gwerthu alcohol yn hwyr y nos am y costau
gorfodi ychwanegol a achosir i’r heddlu ac awdurdodau lleol
·
Pe cawsai
ei gyflwyno, byddai angen i’r Cyngor benderfynu pryd y bydd yr ardoll yn
berthnasol yn yr ardal (wedi ei gyfyngu i gyfnod rhwng hanner nos a 6.00a.m.) a
pha eithriadau a gostyngiadau a fyddai’n berthnasol
·
Byddai
angen i’r ardoll fod yn berthnasol i bob safle (oni fo categori eithrio) sy’n
gwerthu alcohol yn ystod cyfnod yr ardoll ac ni ellid ei gyfyngu i dref neu
ardal benodol
·
Ar ôl
tynnu swm gan yr awdurdod lleol am weinyddu a chyflwyno’r cynllun, rhaid anfon
o leiaf 70% o’r swm ymlaen i’r Heddlu
·
Nid oedd
yn rhaid i’r Heddlu wario eu cyfran hwy o’r ardoll mewn ardaloedd lleol lle’r
oedd wedi ei chasglu nac ar blismona a oedd yn gysylltiedig â throsedd ac
anrhefn oherwydd alcohol, er bod Heddlu Gogledd Cymru wedi awgrymu y buasent
hwy yn gwario’r ardoll ar faterion trwyddedu pe cawsai ei chyflwyno
·
Manylion y
gost i safleoedd pe cawsai ei chyflwyno yn seiliedig ar werth ardrethol
·
Byddai
rhyw 175 safle yn cael eu heffeithio gan yr ardoll.
GORCHMYNION CYFYNGU BORE CYNNAR
(EMRO)
·
Byddai
EMRO yn berthnasol i drwydded safle, tystysgrif safle clwb a hysbysiadau
digwyddiad dros dro a oedd yn digwydd mewn ardal EMRO benodol
·
Roedd
angen hysbysebu’r cynnig i wneud yr EMRO ac roedd angen i awdurdodau lleol
ddangos bod ganddynt dystiolaeth i gyfiawnhau gwneud hynny ac ystyried sylwadau
cyn eu cyflwyno.
Wrth ystyried yr adroddiad, cymerodd yr aelodau
y cyfle i gael esboniad ar nifer o faterion gan y swyddogion ar y pwerau newydd
a oedd ar gael i wneud LNL ac EMRO.
Nododd yr Aelodau bod yr ardoll wedi ei phennu ar lefel genedlaethol, a
mynegasant bryderon ynglŷn â’r taliadau arwyddocaol a achosid i safleoedd
ledled y sir petai’r Cyngor yn dewis cyflwyno’r ardoll, boed y safleoedd hynny
wedi eu lleoli mewn ardaloedd a oedd yn achosi problemau trosedd ac anhrefn
oherwydd alcohol ai peidio. Roedd y pwyllgor yn cydnabod bod busnesau eisoes yn
cael anhawster yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni a theimlai y byddai
cyflwyno ardoll ar safleoedd trwyddedig yn debygol o achosi i lawer ohonynt
fynd allan o fusnes. Roedd y Cyngor yn gweithio’n galed i adfywio ei drefi a’i
gymunedau a'r economi hwyr y nos, ac ystyriai’r pwyllgor y byddai cyflwyno
ardoll mor drom yn niweidio’r economi lleol ymhellach. Nodwyd bod yr heddlu o
blaid cyflwyno ardoll a’r refeniw a fyddai’n deillio, a’u bod wedi awgrymu, er
nad oedd gofyniad, y buasent yn gwario’r refeniw hwnnw ar faterion trwyddedu.
Fodd bynnag, nododd yr aelodau na fyddai gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros
ddyraniad y refeniw hwnnw ac roeddynt yn bryderus y byddai’r awdurdod lleol yn
gyfrifol am gasglu’r ardoll ac os nad oedd safle yn talu yna roedd y Cyngor yn
atebol am y ffi o hyd. Mewn perthynas â chyflwyniad EMRO, teimlai’r Cadeirydd y
gallent fod yn ddefnyddiol i ddelio ag ardaloedd lleol a oedd yn achosi
problem, ond yn ystod y drafodaeth nodwyd bod mesurau’n bodoli eisoes a
fyddai’n fwy effeithiol, megis adolygu trwyddedau safleoedd.
Nododd y pwyllgor y byddai angen penderfynu ar
gyflwyno Ardoll neu EMRO ar lefel y Cyngor Sir ac fe –
BENDERFYNWYD –
(a) cydnabod
cynnwys yr adroddiad ar Ardollau Hwyr y Nos a Gorchmynion Cyfyngu Bore Cynnar,
a
(b) peidio
â chefnogi gwneud Gorchmynion Cyfyngu Bore Cynnar a phennu Ardollau Hwyr y Nos
a chyflwyno barn y Pwyllgor Trwyddedu i’r Cyngor Sir pan fyddai’n ystyried y
mater hwn.
Daeth y cyfarfod i ben am 11.25 a.m.
Dogfennau ategol: