Eitem ar yr agenda
CYFAMOD Y GYMUNED GYDA’R LLUOEDD ARFOG
Ymgynghoriad, trafodaeth
a llunio telerau’r Cyfamod Cymunedol gyda’r Lluoedd Arfog, cyn ei
gyflwyno i’r Cyngor Sir i’w lofnodi’n ffurfiol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cysylltu â’r Gymuned adroddiad ar
Gyfamod gyda’r Lluoedd Arfog.
Gofynnwyd i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gan Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru ac eraill, i lofnodi Cyfamod Cymunedol gyda’r Lluoedd
Arfog a oedd yn ceisio sefydlu ymrwymiad gofal i staff y Lluoedd Arfog, eu
teuluoedd a chyn-filwyr. Nodau’r cyfamod oedd annog cymunedau lleol i gefnogi
cymuned y Lluoedd yn eu hardaloedd a chynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth
ymhlith y cyhoedd o faterion a oedd yn effeithio Cymuned y Lluoedd Arfog. Roedd
yr adroddiad yn cynnwys Cyfamod drafft yn diffinio’r hyn y gellid ei gynnig i
staff y Lluoedd Arfog i sicrhau nad oeddynt yn dioddef unrhyw anfantais wrth
gyrchu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae Cyfamod Cymunedol yn ddatganiad gwirfoddol o gefnogaeth
rhwng cymuned sifilaidd a’r gymuned lluoedd arfog yn lleol. Y bwriad oedd ei
fod yn mynd gyda’r cyfamod cenedlaethol gyda’r Lluoedd Arfog, a oedd yn
amlinellu’r ymrwymiad moesol rhwng y genedl, y llywodraeth a’r lluoedd arfog ar
lefel leol.
Roedd yr adroddiad wedi ei gymeradwyo’n unfrydol gan y
Cyngor ym Medi 2012 ac yn gofyn i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau fodloni ei hun ar
y mesurau yr oedd Sir Ddinbych eisiau eu mabwysiadu.
Roedd yn bwysig rhoi sylfaen i’r ethos nad oedd y Lluoedd
Arfog yn cael eu hanfanteisio wrth ddefnyddio gwasanaethau Sir Ddinbych, er bod
angen i’r Cyngor hefyd fod yn ofalus peidio â gwahaniaethu’n gadarnhaol o’u
plaid gan ddifreintio grwpiau eraill mewn cymdeithas, oni fo camwahaniaethu
positif eisoes wedi ei ymgorffori mewn deddfwriaeth.
Roedd y mesurau i’w mabwysiadu gan Sir Ddinbych wedi eu
nodi’n llawn yn yr adroddiad (5.2).
Roedd y cyngor wedi ei rwymo gan ddeddfwriaeth ac roedd
staff y lluoedd arfog yn derbyn pwyntiau tai ychwanegol o gymharu ag aelodau
eraill y gymuned. Byddai’n heriol gofalu am drigolion Sir Ddinbych a scirhau
cwrdd â’r ddeddfwriaeth. Roedd y rhan fwyaf o’r mesurau yn yr adroddiad, nid
oherwydd y byddai staff y lluoedd arfog yn cael blaenoriaeth, ond oherwydd eu
bod wedi eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth.
Rheolwr Cysylltu â’r Gymuned i gymryd y mater tai yn ôl, i
gael esboniad ar y ddeddfwriaeth. Unwaith y byddai wedi cael hyn, byddai’n
hysbysu’r Pwyllgor.
Codwyd mater cyflogaeth fel mater tebyg i’r un tai.
Cadarnhaodd y Rheolwr y byddai’n cael esboniad ar y mater.
Byddai trafodaethau hefyd gydag asiantaethau, a oedd yn rhoi cyngor ar yrfa ac
ati. Roedd yr holl asiantaethau cyflogaeth yn ymwneud â’r cyfamod.
Ni fyddai’r gostyngiad a gynigid gan Gyngor Sir Ddinbych i
staff y lluoedd arfog yn anfanteisio grwpiau eraill. Roedd gostyngiad ar gael i
aelodau’r heddlu, a’r gwasanaeth tân a chytunwyd bod staff y lluoedd arfog yn
dod o fewn y categori hwn hefyd. Byddai’r gostyngiad ar gyfer milwyr a oedd yn
gwasanaethu ar hyn o bryd, nid cyn-filwyr neu deuluoedd staff y lluoedd arfog.
Cyfyngid y gostyngiad i’r pwll nofio a’r gampfa yn unig.
Holwyd a oedd aelodau’r Fyddin Diriogaethol neu’r Cadetiaid
yn cael eu cynnwys.
Dywedodd Rheolwr Cysylltu â’r Gymuned nad oeddynt ond y
byddai’n gofyn am arweiniad ar y mater. Roedd union dempled y cyfamod wedi ei
gytuno, ac felly roedd llawer o’r ethos o ran sut y dylid ei fabwysiadu nawr yn
ei le.
Roedd y Cyfamod yn ddogfen fyw, y gellid ei hadolygu.
Unwaith yr oedd y Pwyllgor Craffu wedi cytuno gyda’r argymhellion, y bwriad
oedd mabwysiadu’r Cyfamod yn ffurfiol mewn cyfarfod o’r Cyngor yn y dyfodol
gyda chynrychiolwyr y Lluoedd Arfog a chyrff allanol eraill yn bresennol.
Awgrymodd Rheolwr Cysylltu â’r Gymuned bod yr adroddiad yn
cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor bob blwyddyn, ac os oedd angen ychwanegu mesurau
ychwanegol neu ddileu rhai, yna gellid gwneud hynny.
Dywedodd y Cadeirydd, unwaith y cafwyd esboniad ar y
pwyntiau perthnasol, nad oedd angen trafodaeth bellach gan y Pwyllgor Craffu.
Cytunwyd cymeradwyo’r mesurau i’w cyflwyno mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn yn y
dyfodol.
PENDERFYNWYD bod y
Pwyllgor Craffu Cymunedau:
i)
Yn
cymeradwyo’r Cyfamod Cymunedol gyda’r Lluoedd Arfog yn amodol ar gael esboniad
ar yr effaith bosibl ar dai a chyflogaeth yn Sir Ddinbych, a
ii)
Cytuno
ychwanegu adroddiad i’r Flaenraglen Waith i’w ystyried ymhen 12 mis a fydd yn
caniatáu i’r Pwyllgor adolygu’r Mesurau yn y Cyfamod.
Dogfennau ategol:
- Armed Services Covenant Report 061212 W, Eitem 7. PDF 97 KB
- Armed Services Covenant Report 061212 - Appendix, Eitem 7. PDF 118 KB