Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O ASEDAU TREFTADAETH A CHELFYDDYDAU

Ystyried y cynnydd hyd yma o ran sicrhau mesurau effeithlonrwydd mewn perthynas ag asedau Treftadaeth a Chelfyddyd y Sir a’r strategaethau a ddatblygwyd gyda golwg ar sicrhau eu hyfywedd yn y dyfodol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth yr Amgylchedd adroddiad i ystyried y cynnydd hyd yma o ran cael arbedion effeithlonrwydd mewn perthynas ag asedau Treftadaeth a Chelfyddydau’r Sir a’r strategaethau a ddatblygwyd gyda golwg ar sicrhau eu hyfywedd yn y dyfodol. Y nod oedd datblygu gwasanaeth a fyddai’n cyflwyno’r manteision mwyaf i drigolion lleol, cymunedau, twristiaid a’r cyngor. 

 

Ym mis Tachwedd 2010 cynhyrchwyd adroddiad cynhwysfawr o’r enw “Adolygiad o Asedau Treftadaeth a chwmnïau hyd braich cysylltiedig”. Roedd yr adroddiad yn dadansoddi’r opsiynau a oedd ar gael i’r cyngor, ac yn dod i’r casgliad nad oedd opsiynau hawdd ar gael ar gyfer gwaredu neu gyflwyno’r asedau i ffynonellau allanol. Nid oedd y ddogfen wedi ei chyhoeddi ond byddai ar gael i’r Aelodau o wneud cais.

 

Trosglwyddwyd y gwasanaeth i’r Gwasanaethau Amgylcheddol ar 1 Ebrill 2011.  Cafwyd newidiadau arwyddocaol ers y trosglwyddo ac roedd mwy o newidiadau wedi eu cynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

Penderfynwyd bod angen agwedd mwy masnachol. Roedd angen cynhyrchu mwy o incwm i wella’r gwasanaeth. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr y Rheolwr Masnachol Treftadaeth a roddodd amlinelliad  byr o’i phrofiad a’i chefndir.  

 

Mae’r safleoedd canlynol yn cael eu rhedeg gan y Cyngor:

Ø      Carchar Rhuthun

Ø      Nant Clwyd y Dre (Rhuthun)

Ø      Plas Newydd (Llangollen)

Ø      Roedd y portffolio hefyd yn cynnwys perthynas y Cyngor gydag Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan.

 

Yn y gorffennol, roedd y safleoedd wedi eu rhedeg fel amgueddfeydd ac yn dibynnu’n drwm ar dderbyn cyllid grant a oedd wedi lleihau’n fawr dros y blynyddoedd. Cafwyd gwaith ymchwil dros y 12 mis diwethaf yn archwilio twf posibl. Roedd y safleoedd i’w rhedeg fel atyniadau i ymwelwyr i ddibenion addysgol, atyniadau i dwristiaid a chanolfannau treftadaeth, tra'n cadw statws achrededig amgueddfeydd. Roedd priodasau nawr yn digwydd ar y safleoedd ac roedd trefniadau wedi eu derbyn eisoes ar gyfer 2013.

 

Roedd y farchnad oruwchnaturiol hefyd yn faes twf ac roedd yr adeiladau hanesyddol yn rhai â diddordeb mawr i’r grwpiau archwilio. Nid oedd y grwpiau hyn yn cael effaith ar weithgareddau a gynhelir ar y safleoedd yn ystod y dydd. Maent yn cyrraedd am 8.00pm, ymgymryd â’u harchwiliadau dros nos, ac yn gadael tua 5.00 neu 6.00 a.m. 

 

Roedd yr incwm a godwyd gan y grwpiau goruwchnaturiol yn £17,000. Pennwyd cynnydd targed mewn incwm o 10% ar gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd gwaith ar y gweill i ddod â chostau i lawr a chynyddu incwm. Yn ystod 2010/11 cafwyd rhyw £60,000 mewn incwm, ond yn 2011/12 roedd wedi cynyddu i £71,000.

 

Roedd rotas staff nawr yn fwy effeithiol nag yn y gorffennol e.e. yn ystod yr haf, byddai’r Hen Garchar yn cau am ddau ddiwrnod yr wythnos, gan golli busnes ymwelwyr. Roedd hyn i newid i annog mwy o ymwelwyr. 

 

Roedd Sir Ddinbych yn gweithio gyda Chynghorau Conwy, Sir y Fflint a Wrecsam i weld sut roedd Awdurdodau Lleol eraill yn monitro eu cyllideb.

 

Dim ond ystafell arddangos oedd Amgueddfa’r Rhyl, ac roedd angen ei dwyn allan o’r llyfrgell. Roedd yr amgueddfa yn ddifyr iawn ond roedd angen lleoliad gwahanol. Yn anffodus, ar hyn o bryd nid oedd cyllideb i ganiatáu hyn.

 

Roedd prosiect i gychwyn yn 2013 i gatalogio’r holl arteffactau a ddelid yn y storfeydd ar hyn o bryd. Unwaith y byddai’r prosiect hwn wedi ei gwblhau, gellid defnyddio mwy o’r arteffactau mewn arddangosfeydd.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod angen integreiddio’r gwasanaeth mewn cynlluniau tref a rhoddodd grynodeb:

Ø      Roedd y Gwasanaeth Treftadaeth ar hyn o bryd yn costio mwy na’r incwm roedd yn ei gynhyrchu

Ø      Roedd angen rhoi pwyslais ar ddarparu’r gwasanaethau yr oedd ymwelwyr eu heisiau, a byddai hyn yn dibynnu ar gyfathrebu cryf.

Ø      Byddai pob safle unigol angen cynllun busnes, i’w ddatblygu ar y cyd â’r Cynlluniau Tref.

 

Awgrymodd y Cadeirydd bod y cynlluniau busnes ar gyfer pob safle yn cael eu cyflwyno i’r Grŵp Aelodau Ardal priodol i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd masnachol ac i sicrhau bod y gwasanaethau yn berthnasol i flaenoriaethau pobl leol.

 

PENDERFYNWYD bod  y Pwyllgor Craffu Cymunedau:

(a)   Yn cymeradwyo’r mesurau gweithredol y mae’r Gwasanaeth wedi eu cyflwyno, a’r cyfeiriad sy’n cael ei ddilyn ar hyn o bryd, a

(b)   Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor mewn blwyddyn er mwyn rhoi diweddariad ar effeithiolrwydd y strategaeth a gyflwynwyd ar ôl yr Adolygiad ac i arfarnu sefyllfa ariannol y Gwasanaeth.

 

 

Dogfennau ategol: