Eitem ar yr agenda
SAFONAU GWASANAETH LLYFRGELL: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2011/12
Ystyried adroddiad gan y Swyddog Arwain: Llyfrgelloedd,
Archifau a Chelfyddydau (copi ynghlwm) sy’n manylu perfformiad y Gwasanaeth
Llyfrgell mewn perthynas â Fframwaith Asesu Blynyddol CyMAL ar gyfer Awdurdodau
Llyfrgell Cyhoeddus yng Nghymru.
11.15
a.m.
Cofnodion:
Roedd
copi o adroddiad gan y Swyddog Arwain: Llyfrgelloedd, Archifau a Chelfyddydau,
yn manylu perfformiad y Gwasanaeth Llyfrgell mewn perthynas â Fframwaith Asesu
Blynyddol CyMAL ar gyfer Awdurdodau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, wedi ei
ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden yr adroddiad,
a oedd yn crynhoi perfformiad 2011/12 y Gwasanaeth Llyfrgell o gymharu â 9
Safon Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, 7 Dangosydd Perfformiad Llyfrgelloedd
Cyhoeddus Cymru ac yn manylu Fframwaith Asesiad Blynyddol CyMAL ar gyfer
Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Byddai’r Fframwaith yn weithredol am gyfnod o
dair blynedd o Ebrill 2011 i Fawrth 2014, ac yn canolbwyntio ar gynnal
gwasanaeth llyfrgell craidd.
Cadarnhaodd asesiad CyMAL o Adroddiad Blynyddol Sir Ddinbych bod yr
Awdurdod yn 2011/12 wedi cyflawni 5 o’r 9 Safon Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru,
wedi cyflawni 3 Safon yn rhannol ac wedi methu â chyflawni un Safon. Ystyriai
CyMAL bod perfformiad Sir Ddinbych ychydig yn is na’r cyfartaledd o gymharu ag
awdurdodau eraill yng Nghymru.
Roedd crynodeb o’r safonau a gyflawnwyd, a gyflawnwyd yn rhannol a
nas cyflawnwyd gan Sir Ddinbych wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Gan mai'r
cyfartaledd yng Nghymru o ran cyflawni’r Safonau oedd 6, roedd yn awgrymu bod
perfformiad Sir Ddinbych yn is na’r cyfartaledd. Fodd bynnag, roedd
Dangosyddion Perfformiad yn cynnig safbwynt gwahanol:-
·
Gwasanaeth Llyfrgell gyda
niferoedd ymweld a defnyddio 2il uchaf yng Nghymru.
·
Awdurdod 3ydd uchaf yng Nghymru
am fenthyg llyfrau a deunyddiau eraill.
·
17eg o ran canran cyllideb
refeniw’r Gwasanaeth Llyfrgell a werir ar stoc.
·
12fed ar gyfer canran defnydd
cyfrifiaduron sydd ar gael i’r cyhoedd.
Roedd ffigurau defnydd a benthyg uchel Sir Ddinbych ar gyfer 2011-12
wedi adlewyrchu llwyddiant ei Her Ddarllen yn yr Haf, y mwyaf llwyddiannus
erioed yn y Sir. Roedd Sir Ddinbych yn 4ydd ar gyfer gwariant net fesul 1,000
o’r boblogaeth ar Wasanaethau Llyfrgell. Fodd bynnag, roedd yn 20fed gyda chost
o £2.29 fesul ymweliad a defnydd, o gymharu â chyfartaledd Cymru o £2.84, a’r
uchaf yng Nghymru, sef £4.24.
Roedd data Dangosyddion Perfformiad ar gyfer holl awdurdodau Cymru
wedi eu cynnwys yn Atodiad A a chadarnhaodd swyddogion y buasent yn cysylltu â
Gwasanaethau Llyfrgell eraill a oedd yn perfformio’n dda, megis Sir Fynwy, i
rannu arferion da a dysgu o’u profiad hwy. Adroddwyd ar berfformiad mewn
perthynas â’r Fframwaith Asesu ar gyfer 2011-14 yn flynyddol i CyMAL. Roedd yr
arfarniad diweddaraf yn awgrymu bod Sir Ddinbych wedi tanberfformio o ran
cyflawni 5 o’r 9 Safon. Fodd bynag, roedd Dangosyddion Perfformiad yn dangos
bod Sir Ddinbych yn un o’r rhai a oedd yn perfformio orau o ran ymweliadau â’r
llyfrgell, defnydd a benthyciadau. Nid oedd unrhwy risgiau’n gysylltiedig â’r
asesiad presennol ac roedd y gwasanaeth yn hyderus y gallai gyflawni ei
flaenoriaethau ei hun o ran diwallu anghenion trigolion lleol a chymunedau Sir
Ddinbych.
Esboniodd y Cadeirydd iddo gyfarfod â’r Aelod Arweiniol, y
Cynghorydd H.Ll. Jones, a’r Prif Swyddog: Llyfrgelloedd, Archifau a
Chelfyddydau, Arwyn Jones, i drafod yr hyn a oedd yn fwyaf perthnasol i
gyflwyno’r Gwasanaeth Llyfrgell yn Sir Ddinbych. Pwysleisiodd y Pennaeth
Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden bwysigrwydd y Strategaeth Llyfrgell, a fyddai’n
datblygu ystod newydd o fetrigau gan ddarparu mwy o wasanaethau cymunedol yn y
llyfrgelloedd. Byddai hyn hefyd yn codi proffil y Gwasanaeth Llyfrgell ac yn
ffurfio rhan o’r ymateb i CyMAL.
Esboniodd y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden bod
gwasanaethau Llyfrgell Llanelwy wedi eu colli oherwydd difrod llifogydd a
fyddai’n effeithio ystadegau i’r dyfodol. Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan
y Cynghorydd M Ll Davies ar yr angen i ddarparu cyfleusterau dros dro,
esboniwyd y byddai’r Llyfrgelloedd yn Rhuddlan a Dinbych yn rhoi cefnogaeth,
gyda’r posibilrwydd o anfon yr Uned Symudol Ieuenctid i’r ardal i alluogi i
drigolion lleol ddefnyddio gwasanaethau. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyfathrebu,
Marchnata a Hamdden na roddid ystyriaeth i leihau oriau llyfrgell nes byddai’r
effaith ar wasanaethau cysyltiedig yn glir, gan ganfod arbedion trwy ddefnyddio
adnoddau presennol yn fwy effeithiol.
Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd A Roberts, cadarnhaodd y Pennaeth Cyfathrebu,
Marchnata a Hamdden nad oedd cynigion yn y cynllun ariannol presennol nac o
fewn yr Her Gwasanaeth i gau Llyfrgell Rhuddlan. Cadarnhaodd bod problemau mewn
perthynas â’r to a’r system wresogi wedi eu cyferio at y Gwasanaethau Adeiladu a
chytunodd holi ynglŷn â’r mater. Fodd bynnag, ystyriwyd y byddai gwneud
gwaith cynnal a chadw yn destun blaenoriaethu ac a fyddai arian ar gael.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, cymeradwyodd y Pwyllgor y gwaith
a ymgymerwyd ac fe:-
BENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Craffu Perfformiad:-
(a)
yn derbyn yr adroddiad a chymeradwyo perfformiad y Gwasanaeth
Llyfrgell mewn perthynas â’r Fframwaith Asesu Blynyddol, a
(b)
yn cytuno anfon datganiad i CyMAL ar berfformiad y Gwasanaeth
Llyfrgell.
Dogfennau ategol: