Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD AR GYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR DDINBYCH

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, yr Aelod Arweiniol dros Addysg (copi’n amgaeedig) yn diweddaru’r Cabinet ar y Cynllun Datblygu Lleol ac atebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar safleoedd tai ychwanegol a pholisi drafft o gyflwyno graddol.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)        yn cadarnhau’r angen i gael Cynllun Datblygu Lleol diweddar wedi ei fabwysiadu ar gyfer Sir Ddinbych;

 

(b)        yn cefnogi’r polisi fesul cyfnod sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad a’r bwriad i’w ddefnyddio mewn perthynas ag unrhyw safleoedd tai ychwanegol a gyflwynir gan y Cyngor i’r Arolygwyr Cynllunio;

 

(c)        yn cydnabod yr adroddiad a’r sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i ymgynghoriad y Cyngor ar safleoedd tai ychwanegol arfaethedig a’r polisi drafft fesul cyfnod, ac yn argymell eu bod yn cael eu hystyried gan y Cyngor llawn, a

 

(d)        yn cytunio i gynnwys unrhyw sylwadau hwyr ar gyfer ymgynghoriad gan y Cyngor llawn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar y Cynllun Datblygu Lleol (LDP) gan gynnwys ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar safleoedd tai ychwanegol a’r polisi fesul cam drafft ynghyd ag amlinelliad o’r camau nesaf.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig rhywfaint o hanes cefndir oedd yn arwain at y sefyllfa bresennol gan gynnwys crynodeb o’r prif gamau ers i’r gwaith ddechrau ar yr LDP yn 2006.  Prif ffocws yr adroddiad oedd rhoi adborth ar y broses a’r sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad ar safleoedd tai ychwanegol arfaethedig a’r polisi fesul cam drafft oedd wedi’i gyflwyno mewn ymateb i ddarganfyddiadau Arolygwyr Cynllunio am yr angen a’r cyflenwad tai a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2012.  Gofynnwyd am gefnogaeth y Cabinet i’r polisi fesul cam drafft ynghyd â’r argymhelliad y byddai’r polisi fesul cam a’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried gan y Cyngor llawn.   Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill fod sylwadau hwyr hefyd yn cael eu hystyried yn yr achos hwn.   Dywedodd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (H:P&PP) y byddai’n rhaid cyflwyno derbyn sylwadau hwyr i sylw’r Arolygwyr a hefyd byddai’n rhaid i’r Cyngor llawn benderfynu ar yr angen hwn am dderbyn unrhyw sylwadau hwyr.  Cytunodd y Cabinet y dylai cyflwyniadau hwyr gael eu derbyn yn unol â’r broses y cytunwyd arni ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio.

 

Eglurodd y Cynghorydd y cynnydd gyda’r LDP a dywedodd fod 21 o safleoedd tai ychwanegol posibl wedi’u nodi i’w hystyried gan y Cyngor llawn.  Amlygodd bwysigrwydd sicrhau bod camau diogelu perthnasol ar gael i warantu na fyddai’r polisi fesul cam yn cael ei ystyried heblaw bod y cyflenwad tir ar gyfer tai yn disgyn yn is na 5 mlynedd.  Ychwanegodd ei fod yn teimlo’n drist gan gais yr Arolygwyr am safleoedd ychwanegol i’w cynnwys o fewn y cynllun a’i fod wedi’i adael i lawr gan Aelodau’r Cynulliad y gofynnwyd am eu cefnogaeth i’r ddarpariaeth dai.

 

Trafododd y Cabinet yr adroddiad a mynegodd siom am yr angen am gael hyd i safleoedd tai ychwanegol yng ngoleuni’r broses anferth oedd wedi’i chynnal yn barod.  Roedd gan rai aelodau bryderon am y safleoedd unigol a gynigiwyd a dywedodd yr Arweinydd y dylid codi unrhyw gwestiynau penodol safle yn y Cyngor llawn.  Cadarnhawyd y bydden nhw’n pleidleisio ar bob un o’r 21 safle yn unigol.

 

Manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod nifer o broblemau gyda’r Aelod Arweiniol a swyddogion yn codi o’r adroddiad oedd yn ymateb fel a ganlyn -

 

·        Byddai unrhyw safleoedd tai ychwanegol y cytunwyd arnyn nhw gan y Cyngor llawn yn cael eu cyflwyno i’r Arolygwyr ac y byddai sesiynau gwrando’n cael eu cynnal ym mis Ionawr lle byddai gwrthwynebwyr yn cael cyfle i siarad;  byddai gwrthwynebwyr yn cael eu hannog i ethol siaradwr ond roedd ganddyn nhw’r hawl i ymddangos yn unigol.

·        Byddai’r Arolygwyr yn cyhoeddi adroddiad yn dilyn cau’r sesiynau gwrando a byddai’n rhaid i’r Cyngor lynu at eu hargymhellion.

·        Cefnogodd yr Arolygwyr y targed tai newydd o 7500 ond nid oedden nhw’n credu bod digon o dir wedi’i ddarparu i sicrhau’r nifer hwn cyn 2021.  Felly, gofynnodd yr Arolygwyr am fwy o safleoedd i gyfateb i 1000 o dai gael eu cynnwys yn y cynllun; byddai’r 21 safle presennol yn darparu 980 o dai.

·        Roedd y swyddogion yn adrodd ar ystod o ffactorau oedd wedi’u hystyried i gyrraedd y ffigwr o’r angen am 7500 o dai.

·        Credai’r swyddogion y byddai derbyn y polisi fesul cam yn diogelu’r safleoedd hynny oherwydd dim ond mewn amgylchiadau penodol y bydden nhw’n cael eu rhyddhau ar gyfer datblygu.

·        Eglurodd y swyddogion y broses ymgynghori helaeth dros oes datblygu’r cynllun ac yn fwy diweddar ar y safleoedd tai ychwanegol y cynhaliwyd ymgynghoriad arnyn nhw yn ystod y camau cyntaf.

·        Wrth ystyried tai fforddiadwy a rhagfynegiadau twf, roedd y cyfrifiad wedi dangos nad oedd y twf mewn poblogaeth wedi bod mor uchel ag y rhagwelwyd.

·        Trafodwyd dwysedd ar safleoedd gyda’r Arolygwr ynghyd â lefelau tai fforddiadwy y gellid eu cyflawni a bod angen sicrhau’r datblygiad mwyaf priodol i bob ardal arbennig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts am gyfreithlondeb mynegi ei farn bersonol ac eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y gallai aelodau fynegi eu barn ond atgoffodd aelodau y dylid mesur ac ystyried y sylwadau a phob ffaith berthnasol cyn gwneud penderfyniad.   Ychwanegodd y byddai’n dosbarthu nodyn cyngor i gynghorwyr cyn y Cyngor llawn am fuddion a datganiadau.

 

Mynegodd y Cynghorydd Alice Jones ei phryderon am y broses LDP gan gynnwys casgliadau y daethpwyd iddyn nhw o’r astudiaeth i gyfradd llenwi tai a thwf poblogaeth a’r datganiad tir cyffredin tai fforddiadwy,  Roedd hefyd yn amau a fyddai’n rhaid i aelodau’r Cabinet bleidleisio dros y cynigion yn y Cyngor llawn.   Dywedodd yr Arweinydd y byddai’r holl gynghorwyr yn pleidleisio yn ôl eu dymuniad sef fel yr oedd wedi bod bob amser.  Ymatebodd y swyddogion i’r pryderon am yr astudiaeth dai yn dweud bod 3000 wedi’u hadeiladu yn Sir Ddinbych ond mai dim ond o 600 yr oedd y boblogaeth wedi cynyddu gan arwain at y casgliad nad oedd y mwyafrif o’r tai hynny â phobl oedd yn symud i mewn i’r sir yn byw ynddyn nhw.  Dangosodd yr astudiaeth fod 87% o’r rhai oedd yn byw yno wedi symud i mewn i’r ardal o Gymru gyda 67% wedi symud o fannau eraill o fewn Sir Ddinbych,  Roedd y datganiad tir cyffredin yn ddogfen gyhoeddus oedd wedi’i chynhyrchu yn dilyn cais yr Arolygwr bod y Cyngor a chynrychiolwyr adeiladwyr tai yn trafod y problemau dan sylw.

 

Croesawodd y Cynghorydd Huw Williams y tai ychwanegol yn Llanbedr fyddai o fudd i fusnesau lleol a’r ysgol o fewn y gymuned.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eryl Williams yr argymhellion yn yr adroddiad a’r gwelliant i dderbyn ac ystyried cyflwyniadau hwyr sef -

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet–

 

(a) yn cadarnhau’r angen am fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol diweddaraf gyfer Sir Ddinbych;

 

(b) yn cefnogi’r polisi fesul cam yn Atodiad 1 i’r adroddiad a’r bwriad i’w gymhwyso i unrhyw safle tai ychwanegol a gyflwynwyd gan y Cyngor i’r Arolygwyr Cynllunio;

 

(c) yn nodi’r adroddiad a’r sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i ymgynghoriad y Cyngor ar y safleoedd tai ychwanegol arfaethedig a’r polisi fesul cam drafft ac yn argymell eu bod yn cael eu hystyried gan y Cyngor llawn; a’i

 

(d) fod yn cytuno bod unrhyw sylwadau hwyr a dderbynnir cyn 5.00 p.m. dydd Llun 3 Rhagfyr yn cael eu trosglwyddo i’r Cyngor llawn ar 4 Rhagfyr 2012.

 

 

 

Dogfennau ategol: