Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 517116

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat mewn perthynas â Gyrrwr rhif 517116.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod Gyrrwr Rhif 517116 yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat a bod rhybudd ysgrifenedig yn cael ei roi mewn cysylltiad â’r euogfarnau goryrru parhaus a gafodd a’i fethiant i’w datgelu.  Gosodwyd amod hefyd ar Drwydded y Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat yn ei gwneud yn ofynnol i'r Gyrrwr gwblhau cwrs ymwybyddiaeth o gyflymder i gynnwys asesiad ymarferol yn ogystal ag unrhyw hyfforddiant theori a ddarperir o fewn 3 mis i ddyddiad yr hysbysiad penderfyniad.  Gallai methu â chydymffurfio â’r amod hwn arwain at atal y drwydded.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)             addasrwydd Gyrrwr Rhif 517116 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn euogfarnau goryrru a gafwyd ym mis Chwefror 2024 nad oeddent wedi'u datgan o'r blaen, ac ym mis Mehefin 2021 nad oeddent wedi'u datgan cyn cyflwyno ei gais adnewyddu;

 

(ii)            bod gwybodaeth gefndirol a dogfennau cysylltiedig wedi'u darparu gan gynnwys manylion yr euogfarnau moduro, cofnod o'r cyfweliad â'r Gyrrwr, ynghyd â'i hanes gyrru blaenorol a'i ymddangosiadau gerbron y Pwyllgor mewn perthynas â'i gais gwreiddiol yn 2017;

 

(iii)          penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r mater at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iv)          polisi’r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau ac addasrwydd yr ymgeiswyr a thrwyddedau; a

 

(v)           gwahoddwyd y Gyrrwr i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’r drwydded ac i ateb cwestiynau’r aelodau wedi hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol i gefnogi’r adolygiad o’i drwydded.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu (NS) yr adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Cyflwynodd y Gyrrwr ei fod wedi newid yn sylweddol ers yr euogfarnau moduro gwreiddiol a gafodd pan oedd yn ifanc o 1998 ac nid oedd yn derbyn bod camgyfathrebu wedi bod â Llys yr Ynadon yn 2017 fel y manylwyd yn yr adroddiad.  Esboniodd nad oedd wedi datgan bod ganddo bwyntiau cosb yn 2021 oherwydd ei fod wedi newid galwedigaeth ond ei fod wedi datgan y pwyntiau cosb hynny yn ddiweddarach.  Esboniwyd yr amgylchiadau o amgylch euogfarn mis Chwefror 2024 hefyd.  Yn olaf, rhoddodd y Gyrrwr sicrwydd ynghylch ei ymddygiad fel gyrrwr trwyddedig, cyflwynodd nifer o eirdaon yn tystio i'w gymeriad da, ac ymddiheurodd am beidio â datgan y pwyntiau cosb fel sy'n ofynnol.  Mewn ymateb i gwestiynau, ymhelaethodd y Gyrrwr ar amgylchiadau'r euogfarn am oryrru a'r 3 phwynt cosb a'i gyfrifoldebau rheoli yn ei swydd bresennol.

 

Gohiriwyd y Pwyllgor er mwyn ystyried yr achos a –

 

PENDERFYNWYD bod Gyrrwr Rhif 517116 yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat a bod rhybudd ysgrifenedig yn cael ei roi mewn cysylltiad â’r euogfarnau goryrru parhaus a gafodd a’i fethiant i’w datgelu.  Gosodwyd amod hefyd ar Drwydded y Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat yn ei gwneud yn ofynnol i'r Gyrrwr gwblhau cwrs ymwybyddiaeth o gyflymder i gynnwys asesiad ymarferol yn ogystal ag unrhyw hyfforddiant theori a ddarperir o fewn 3 mis i ddyddiad yr hysbysiad penderfyniad.  Gallai methu â chydymffurfio â’r amod hwn arwain at atal y drwydded.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried y dystiolaeth yn ofalus wrth wneud eu penderfyniad.  Roedd penderfyniad aelodau’r Pwyllgor yn gytbwys iawn ond credwyd bod y Gyrrwr yn dal i fod yn unigolyn addas a phriodol i barhau i ddal trwydded yrru ddeuol.

 

Bu i’r Pwyllgor ganfod fod y methiant i ddatgelu'r euogfarn arfaethedig yn y cais adnewyddu ym mis Rhagfyr 2023 yn anonest gyda'r Gyrrwr yn gwybod am euogfarn arfaethedig o ystyried ei fod wedi derbyn y cynnig o ddirwy a phwyntiau cosb ar unwaith.  Bu i’r Pwyllgor hefyd ganfod fod y methiant i ddatgelu’r pwyntiau cosb o fewn 7 diwrnod fel sy’n ofynnol ar ôl iddynt gael eu derbyn yn fwriadol ac yn anonest.

 

Er bod y Pwyllgor wedi canfod bod y Gyrrwr wedi ymddwyn yn anonest fel y disgrifiwyd uchod, roedd y Pwyllgor o'r farn bod amgylchiadau lliniarol a oedd yn cyfrannu at egluro pam nad oedd yr euogfarn wedi'i ddatgelu o fewn y cyfnod amser priodol fel sy'n ofynnol.  Roedd y Pwyllgor yn pryderu ynghylch goryrru parhaus y Gyrrwr ond cawsant eu sicrhau nad oedd yr euogfarnau hynny wedi digwydd wrth yrru tacsi gyda chwsmeriaid.  Serch hynny, roedd y Pwyllgor yn disgwyl i'r Gyrrwr barhau i fod yn broffesiynol bob amser o ran y safonau gyrru.  O ganlyniad, ystyriodd y Pwyllgor ei bod yn briodol cyhoeddi rhybudd ysgrifenedig mewn perthynas â'r goryrru parhaus a'r methiant i hysbysu'r awdurdod trwyddedu am faterion perthnasol ar yr adegau priodol.  Rhoddodd y Pwyllgor bwyslais ar y geirdaon a ddarparwyd a chredai, ar y cyfan, fod y Gyrrwr yn parhau i fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat. Byddai’r rhybudd ysgrifenedig yn parhau ar ffeil yr Awdurdod Trwyddedu i’w ystyried ar adegau priodol.

 

Felly, cafodd penderfyniad a rhesymau’r Pwyllgor eu cyfleu i’r Gyrrwr.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.40am.

 

Dogfennau ategol: