Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CERBYDAU HYGYRCH I GADEIRIAU OLWYN – Y WYBODAETH DDIWEDDARAF

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am ganlyniad yr ymgynghoriad ar y gofynion trwyddedu presennol ar gyfer Cerbydau sy’n Hygyrch i Gadeiriau Olwyn a cheisio barn yr aelodau am y newidiadau posibl i’r gofynion hynny wrth symud ymlaen.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)       dileu dros dro y gofynion oedran presennol ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn a’u disodli am gyfnod o 12 mis gyda’r angen i bob Cerbyd Hygyrch i Gadeiriau Olwyn gyrraedd safonau allyriadau Ewro 6, gyda phrawf cydymffurfio ychwanegol bob blwyddyn unwaith y bydd y cerbyd yn 12 oed h.y. 3 phrawf y flwyddyn bob 4 mis, a

 

(b)      bod swyddogion yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu ym mis Mehefin 2026 ynglŷn â p’un a yw’r newidiadau dros dro a nodir yn (a) uchod wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer y Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn ac i ystyried ymhellach a oes angen newid y polisi yn barhaol o ganlyniad i’r newidiadau dros dro hynny.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol (Trwyddedu) adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am ganlyniad yr ymgynghoriad â'r fasnach drwyddedig ar y gofynion trwyddedu presennol ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn, ac yn gofyn am farn yr aelodau am newidiadau posibl i'r gofynion hynny yn y dyfodol.

 

Ym mis Mehefin 2024, adolygodd y Pwyllgor Trwyddedu'r gofynion presennol ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn sydd wedi'u trwyddedu gan y Cyngor oherwydd diffyg argaeledd cerbydau o'r fath, a phenderfynodd ymgynghori ar welliannau arfaethedig i'r gofynion presennol gyda'r bwriad o fynd i'r afael â'r mater.  Darparwyd manylion y pum ymateb, o safbwyntiau cymysg, i'r ymgynghoriad ynghyd â barn Adran Cludiant Teithwyr y Cyngor a groesawodd fesurau i gynyddu nifer y Cerbydau sy’n Hygyrch i Gadeiriau Olwyn.  Gallai'r newid ymestyn oes weithredol Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn gan gynyddu argaeledd ar y farchnad ac o bosibl lleihau costau cludiant ysgol.  Roedd cynnal y polisi presennol hefyd yn berygl o roi rhai defnyddwyr gwasanaeth ag anghenion hygyrchedd dan anfantais.

 

Gan ystyried yr adroddiad a'r ymateb i'r ymgynghoriad, gofynnwyd i'r aelodau ystyried dileu'r gofyniad oedran presennol ar gyfer cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn dros dro a'i ddisodli, am gyfnod o 12 mis, gyda'r gofyniad bod yn rhaid i bob cerbyd sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn fodloni safonau allyriadau Ewro 6, gyda phrawf cydymffurfio ychwanegol unwaith y flwyddyn ar ôl i’r cerbyd gyrraedd 12 oed.  Awgrymwyd y dylid adolygu'r sefyllfa ym mis Mehefin 2025 i ganfod a oedd y newid dros dro wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer y cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ac i ganfod a oedd angen newid parhaol.

 

Bu’r aelodau yn ystyried yr adroddiad ac yn trafod gyda swyddogion rhinweddau posibl argymhellion yr adroddiad, y posibilrwydd o ddulliau eraill o gynyddu argaeledd cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn yn y sir, a'r effaith ar y fflyd tacsis yn gyffredinol.  Roedd barn gymysg ynghylch yr argymhellion o ystyried na fyddai pob cerbyd yn destun yr un meini prawf trwyddedu gyda'r un safonau diogelwch yn berthnasol i bawb.  Cwestiynwyd y rhesymeg y tu ôl i newid gofynion trwyddedu i gynorthwyo i ddarparu cludiant ysgol ac nid oedd barn glir gan y fasnach tacsis ar y mater o ystyried y diffyg ymatebion i'r ymgynghoriad.  Teimlai aelodau eraill fod achos wedi'i wneud i gyflwyno'r newidiadau dros dro i'r gofynion trwyddedu o ystyried y prinder cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn yn y sir, a fyddai, pe baent yn llwyddiannus, o fudd nid yn unig i ddarpariaeth cludiant ysgol ond i'r gymuned ehangach a defnyddwyr gwasanaeth sydd angen cerbydau o'r fath, a byddai effeithiolrwydd y newid dros dro yn cael ei adolygu ymhen 12 mis cyn gwneud penderfyniad terfynol ar y mater.

 

Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r aelodau fel a ganlyn –

 

·       roedd prinder cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn yn y sir wedi’i amlygu gan yr Adran Cludiant Teithwyr gyda chontractau ysgolion yn cael eu dyfarnu y tu allan i Sir Ddinbych o ganlyniad; byddai cynyddu argaeledd y cerbydau hyn yn Sir Ddinbych o bosibl yn arwain at fwy o gystadleuaeth a phrisiau tendr is ar gyfer y contractau hynny.

·       byddai’r posibilrwydd o’r Cyngor yn caffael ei Gerbydau sy’n Hygyrch i Gadeiriau Olwyn ei hun yn fater i’w ystyried gan y Gwasanaethau Fflyd a’r Adran Cludiant Teithwyr

·       nid oedd y gyfradd ymateb isel i'r ymgynghoriad yn annisgwyl o ystyried nifer isel y cerbydau hyn ar y fflyd ar hyn o bryd; y gobaith oedd y byddai'r cynnig i ganiatáu cerbydau hŷn sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ar y fflyd, sydd yn gyffredinol yn gwneud llai o filltiroedd, gan barhau i gynnal trefn brofi lem, yn cynyddu argaeledd y cerbydau hyn o ystyried y byddai cerbydau newydd yn rhy gostus i lawer o weithredwyr.

·       y cyngor cyfreithiol mewn perthynas â'r argymhelliad a oedd yn arwain at ofynion trwyddedu gwahanol oedd bod unrhyw benderfyniad a wnâi awdurdod lleol yn agored i risg gyfreithiol, a bod gan y Cyngor hefyd ddyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus a risg y gallai defnyddwyr cadeiriau olwyn deimlo eu bod yn cael eu camwahaniaethu, felly byddai angen i aelodau benderfynu beth oedd yr opsiwn â’r lleiaf o risg gyfreithiol

·       nid oedd data ar gael am lefelau milltiroedd cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, ond roeddent yn gyffredinol wedi gwneud llai o filltiroedd o ystyried bod y cerbydau hynny’n gallu dal hyd at 8 o deithwyr ac nad oeddent yn gyffredinol yn cael eu defnyddio ar gyfer gwaith ranciau tacsis nac i’w hurio oherwydd eu maint; pe bai’r argymhelliad yn cael ei gymeradwyo byddai modd casglu’r data hwnnw dros y 12 mis canlynol

·       roedd y cynnig yn anelu at gynyddu argaeledd cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn o bosibl, gan eu gwneud yn fwy fforddiadwy i weithredwyr eu prynu a'u trwyddedu gan gadarnhau bod y gwiriadau diogelwch cywir yn eu lle i sicrhau bod safonau'n cael eu cynnal

·       byddai'n bosibl ystyried cyfyngiad milltiroedd ar bob cerbyd trwyddedig yn hytrach na chyfyngiad oedran i sicrhau bod pob cerbyd yn bodloni'r un safon a allai fod yn destun adroddiad i gyfarfod yn y dyfodol

·       cafwyd adborth cyffredinol gan weithredwyr ynghylch fforddiadwyedd cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ac roedd rhai gweithredwyr yn croesawu'r newid; gobeithiwyd y byddai'r newid dros dro yn helpu i gynyddu fflyd y cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ac os byddai'r dull hwn yn llwyddiannus gellid ystyried gwneud newid parhaol.

·       Nid oedd rhai awdurdodau lleol cyfagos yn gosod cyfyngiadau oedran ar gyfer cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ac, os byddai'r argymhelliad yn cael ei gymeradwyo, byddai'n rhoi Sir Ddinbych mewn sefyllfa debyg ond gyda gofynion profi llymach.

 

Ar ddiwedd y ddadl, cadarnhaodd y swyddogion, pe bai'r argymhelliad yn cael ei gefnogi, y gellid cyflwyno adroddiad ymhen 12 mis i gwmpasu hefyd yr agweddau ehangach a godwyd yn ystod y cyfarfod, gan gynnwys adolygu'r polisi ynghylch cyfyngiadau milltiroedd ac oedran, opsiynau ar gyfer un safon ar gyfer pob cerbyd neu ddwy safon ar gyfer gwahanol fathau o gerbydau, ynghyd ag ystyried gwaith Llywodraeth Cymru ar adolygu deddfwriaeth tacsis fel rhan o'r adroddiad cyffredinol ar gerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       dileu dros dro’r gofynion oedran presennol ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn a’u disodli am gyfnod o 12 mis gyda’r angen i bob Cerbyd Hygyrch i Gadeiriau Olwyn gyrraedd safonau allyriadau Ewro 6, gyda phrawf cydymffurfio ychwanegol bob blwyddyn unwaith y bydd y cerbyd yn 12 oed h.y. 3 phrawf y flwyddyn bob 4 mis, a

 

(b)      bod swyddogion yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu ym mis Mehefin 2026 ynglŷn â p’un a yw’r newidiadau dros dro a nodir yn (a) uchod wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer y Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn ac i ystyried ymhellach a oes angen newid y polisi yn barhaol o ganlyniad i’r newidiadau dros dro hynny.

 

 

Dogfennau ategol: