Eitem ar yr agenda
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO
Ystyried adroddiad gan y Cydgysylltydd Craffu (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am adolygiad o flaenraglen waith y pwyllgor ac yn diweddaru’r aelodau ar faterion perthnasol.
10.55 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, yn gofyn ar i’r Pwyllgor
adolygu drafft eu Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol (RhGD) a darparu diweddariad
ynglŷn â materion perthnasol, wedi cael ei gylchredeg ynghyd â phapurau’r
cyfarfod. Roedd RhGD y Cabinet wedi ei gynnwys yn
Atodiad 3 ac roedd tabl yn rhoi crynodeb o'r penderfyniadau Pwyllgor diweddar
ac a oedd yn hysbysu’r Aelodau ynglŷn â’r cynnydd o’u rhoi ar waith wedi
ei gynnwys yn Atodiad 4 yr adroddiad.
Roedd Ffurflen Cynnig, Atodiad
2, a oedd yn ymwneud â swyddogaeth Coleg Glannau Dyfrdwy/Coleg Llysfasi wrth
ddarparu addysg o fewn Sir Ddinbych ac mewn partneriaeth â'r Cyngor, wedi cael
ei gyflwyno i gael ei ystyried gan y Pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau i gynnwys yr eitem hon yn
rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor ar gyfer mis Gorffennaf, 2013. Fodd bynnag, gofynnodd yr Aelodau i hysbysu
Pennaeth y Coleg ynglŷn â’r broses Archwilio a gofyn iddo ddarparu’r
wybodaeth ganlynol:-
·
Niferoedd myfyrwyr, llwyddiannau, lefelau cynnydd ac
ysgoloriaethau.
·
Manylion ynglŷn â chyllid ac adnoddau.
·
Sut mae’r iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i datblygu.
·
Materion yn ymwneud â chludiant.
·
Manylion ynglŷn â bwriadau i’r dyfodol a gweithio
mewn partneriaeth.
Eglurodd y Cydlynydd Archwilio ei fod yn disgwyl ymateb mewn perthynas â
chais a wnaed i’r Bwrdd Iechyd am adroddiad ynglŷn â Phrostheteg, am
ddarpariaeth a chynnal a chadw cymalau artiffisial i oedolion a phlant (gan
gynnwys gwybodaeth ynglŷn â mynediad at y gwasanaeth, unrhyw oedi sy'n
digwydd neu unrhyw gyfyngiadau sy'n cael ei gosod a gweithdrefnau cwynion) er
mwyn rhoi ystyriaeth i hyn yn y cyfarfod nesaf sydd wedi ei amserlennu gyda'r
cynrychiolwyr Iechyd ar 10 Mehefin 2013.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddrafft eu Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, fel y manylir yn
Atodiad 1, a chytunwyd ar y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:-
- Aildrefnu’r adroddiad ar y Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol
Lleol, a amserlenwyd yn wreiddiol ar gyfer y cyfarfod hwn, a chynnal y drafodaeth
honno yn hytrach yn ystod cyfarfod y Pwyllgor gyda chynrychiolwyr o Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ym mis Mehefin 2013. Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan yr
Aelodau mewn perthynas â dyfodol Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, ac unrhyw
oblygiadau posibl i’r Cyngor Sir ac i ddyfodol Ysbyty Glan Clwyd, cafwyd
cadarnhad y byddai unrhyw faterion neu bryderon yn cael eu codi yng nghyfarfod
y Pwyllgor Craffu gyda BIPBC ym mis Mehefin.
- Cytunodd yr Aelodau i ohirio’r eitem ynglŷn â Chydweithio
Rhanbarthol ym maes Datblygu Economaidd hyd fis Medi 2013, pryd mae disgwyl y
byddai rhagor o fanylder ar gael.
- Yn dilyn penderfyniad gan Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Archwilio (GCIGA), ar 7 Mawrth, 2013, cytunwyd y byddai’r eitem fusnes sy’n
ymwneud ag Asedau Treftadaeth a’r Celfyddydau yn trosglwyddo o Raglen Gwaith
i’r Dyfodol y Pwyllgor Archwilio Cymunedau i eiddo’r Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau i’w hystyried ym mis Rhagfyr 2013.
- Cytunodd y Pwyllgor, pe bai’r Cabinet yn cytuno i symud ymlaen i
ddatblygu Achos Busnes Terfynol (ABT) ar gyfer Prosiect Cydweithio Rhanbarthol
Cludiant Teithwyr, y dylid cynnwys yr ABT yn y
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer mis Tachwedd 2013.
Roedd rhestr o bob cynrychiolydd archwilio ar y Grwpiau Herio Gwasanaethau
wedi ei gynnwys yn Atodiad 5 yr adroddiad.
Pan wnaed y penodiadau, roedd ‘Cwsmeriaid’ wedi cael ei gynnwys yn
Grŵp Herio Gwasanaeth y Gwasanaethau Addysg a’r Cynghorydd B. Blakeley wedi ei benodi fel y cynrychiolydd ar ei gyfer. Fodd bynnag, roedd ‘Cwsmeriaid’ bellach yn
ffurfio un o saith Blaenoriaeth Gorfforaethol y Cyngor gogyfer â 2012/17, felly
at bwrpasau'r broses o Herio Gwasanaethau roedd 'Cwsmeriaid' wedi cael ei
wahanu oddi wrth y Gwasanaethau Addysg.
Cytunodd y Pwyllgor y dylai’r Cynghorydd B. Blakeley gael ei enwebu i
wasanaethu fel eu cynrychiolydd ar Grŵp Herio Gwasanaeth
‘Cwsmeriaid’. Cytunwyd hefyd y dylid
gwahodd y Cynghorydd P. Penlington i wasanaethu ar
Grŵp Herio Gwasanaeth y Gwasanaeth Adnoddau Dynol (AD) Strategol pan fydd
yn cymryd ei le ar y Pwyllgor yn y dyfodol agos.
PENDERFYNWYD
(a)
(a)
yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau yn cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y caiff ei
hamlinellu yn Atodiad 1 yr adroddiad, a
(b) bod y Pwyllgor yn enwebu’r Cynghorydd B. Blakeley i wasanaethu ar y
Grŵp Herio Gwasanaeth y Gwasanaeth Cwsmeriaid, ac yn gwahodd y Cynghorydd
P. Penlington i wasanaethau fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar Grŵp Herio
Gwasanaeth Adnoddau Dynol Strategol.
Dogfennau ategol:
- FWP Report, Eitem 9. PDF 90 KB
- FWP App 1[1], Eitem 9. PDF 154 KB
- FWP App 2, Eitem 9. PDF 69 KB
- FWP App 3, Eitem 9. PDF 133 KB
- FWP App 4, Eitem 9. PDF 77 KB
- FWP App 5, Eitem 9. PDF 33 KB