Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PONT LLANNERCH

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm) ynglŷn â’r prosiect i amnewid Pont Llanerch a’r risgiau sy’n gysylltiedig ag adeiladu pont.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)      wedi ystyried yr adroddiad a’r adroddiad am y cam dylunio manwl (ynghlwm fel Atodiad A i’r adroddiad) ac ar sail y dystiolaeth o’r risgiau a gyflwynwyd, ei fod yn cefnogi casgliadau’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a phenderfynu rhoi’r gorau i’r prosiect sydd â’r nod o ddisodli Pont Llannerch, a

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad B i'r adroddiad).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad ynghylch y prosiect oedd â’r nod o ailadeiladu Pont Llannerch a’r risgiau oedd yn gysylltiedig ag adeiladu pont yn y fan honno.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi, y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Uwch-beiriannydd – Pontydd ac Adeiladu.

 

Tynnwyd sylw’r Cabinet at y pwyntiau yn yr adroddiad, gan gynnwys y gwaith helaeth a wnaed eisoes a chymhlethdodau’r prosiect i godi pont newydd wedi i Bont Llannerch ddymchwel yn 2021.  Rhennid y prosiect yn dri cham:  Gwaith ar opsiynau, Dylunio Manwl ac Adeiladu.  Bu’r cam dylunio manwl yn drefn gymhleth a hirfaith a daeth amryw heriau i’r amlwg, yn bennaf felly’r sylfeini roedd eu hangen ar gyfer pont newydd.  Adeiladwyd hen Bont Llannerch dros dyfrhaen dŵr croyw dan haen o dywodfaen ac roedd Dŵr Cymru’n berchen ar safle echdynnu dŵr gerllaw.  Byddai gosod sylfeini ar gyfer pont newydd yn golygu turio drwy’r haenau tywodfaen, a fedrai amharu ar ansawdd y dŵr a chreu perygl o atal cyflenwadau 85,000 o gwsmeriaid Dŵr Cymru, yn ogystal â risg i iechyd y cyhoedd gyda goblygiadau pellgyrhaeddol.

 

Tynnwyd sylw’r aelodau hefyd i gyflwyniad technegol a roes ychwaneg o fanylion ynglŷn â’r Gwaith ar Opsiynau a’r Dylunio Manwl, gan gynnwys y sail resymegol ar gyfer y dewis a ffefrid, y sylfeini, archwiliadau o’r tir a’r canlyniadau.  Rhoddwyd sicrwydd i’r Cabinet yr ystyriwyd pob dull peirianyddol posibl o adeiladu pont newydd a bod y Cyngor wedi ymchwilio’n drylwyr i bob dewis a dyluniad posib.  Er hynny, ni fu modd dylunio pont newydd heb greu lefel anhysbys o risg i’r cyflenwad dŵr yn yr ardal ac ni ellid dod o hyd i ffordd o ddatrys hynny.  Bu’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau’n trafod y mater ym mis Ebrill 2025 a chyflwynwyd eu casgliadau a’u hargymhellion yn yr adroddiad i’r Cabinet eu hystyried.  Oherwydd y risgiau arwyddocaol oedd yn gysylltiedig ag adeiladu pont newydd, argymhellwyd bod y Cabinet yn penderfynu atal y prosiect.

 

Dywedodd aelodau’r Cabinet y dymunai pawb ailadeiladu Pont Llannerch a bod hynny’n un o nodau’r Cynllun Corfforaethol, a soniwyd am y gwaith helaeth a wnaed ynghylch hynny gyda chymorth Llywodraeth Cymru a chryn wariant ar gostau.  Wedi ymchwilio’n drylwyr i’r holl ddewisiadau ar gyfer dylunio pont newydd, fodd bynnag, roedd y cyngor arbenigol a gafwyd ynghylch materion peirianyddol a rheoli risg yn dangos yn bendant na fyddai modd adeiladu pont heb greu’r perygl o amharu ar gyflenwad dŵr ar gyfer 85,000 o aelwydydd a bod dim ffordd hysbys o ddatrys y broblem nac yswirio rhag atebolrwydd am hynny.  Trafodwyd y prif bynciau canlynol -

 

·       oherwydd cymhlethdodau’r prosiect a materion technegol, roedd teimlad fod y cyhoedd dan gamargraff i raddau a bod diffyg dealltwriaeth o’r sefyllfa

·       methodd cynrychiolydd Dŵr Cymru â dod i’r cyfarfod i ateb cwestiynau, ond bu cynrychiolydd yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ym mis Ebrill 2025 i gyfrannu at y drafodaeth, ac roeddent yn dal o’r un farn y byddai bwrw ymlaen â’r prosiect yn creu gormod o risg i gartrefi a busnesau yn y rhan helaeth o ogledd Cymru

·       roedd y ddyfrhaen ar ffurf craig hydraidd â dŵr y tu mewn iddi, ac fe gâi’r dŵr ei hidlo drwy’r graig honno cyn ei echdynnu; roedd y ddyfrhaen tua 22 cilometr o hyd, 5 cilometr o led a 100 metr o ddyfnder ac felly ni fyddai modd symud y bont ryw fymryn i lawr yr afon, gan y byddai’n dal yn mynd dros y ddyfrhaen

·       codwyd y posibilrwydd o adeiladu pont dros dro, ond byddai angen sylfeini ar gyfer hynny hefyd ac felly byddai’r risg yr un fath, ac ni fyddai’n ddichonadwy

·       Bu Llywodraeth Cymru’n llwyr gefnogol o’r prosiect gan fuddsoddi £1.5 miliwn fel y gallai’r Cyngor ystyried a dylunio’r dewis mwyaf dichonadwy, ac yn ôl pob tebyg byddai wedi ariannu’r gost o adeiladu pont newydd

·       cyfeiriai’r Asesiad o’r Effaith ar Les at wella ffyrdd eraill yn yr ardal a bod £900,000 wedi’i gael o Gronfa Ffyrdd Gwydn Llywodraeth Cymru i wella’r ffordd y dargyfeirid traffig y bont arni a’i gwneud yn fwy addas i draffig cymudo; pe gwneid penderfyniad i beidio ag adeiladu pont newydd, ymchwilid i ddewisiadau eraill ar y cyd â chymunedau lleol er mwyn manteisio i’r eithaf ar unrhyw gyfleoedd posib ar gyfer busnes a masnachu

·       gan fod y Cyngor yn ymwybodol o’r risg i’r cyflenwad dŵr, ni fyddai modd iddo yswirio rhag y risg honno pe byddai’n penderfynu adeiladu’r bont; ni fyddai modd asesu lefel yr effaith o flaen llaw ac efallai na fyddai’r canlyniadau’n dod i’r amlwg wrth adeiladu’r bont ond yn hytrach mewn blynyddoedd i ddod, a byddai’r Cyngor yn dal yn atebol.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai’r Cyngor yn esgeulus pe byddai’n bwrw ymlaen ag adeiladu’r bont gan ystyried y risg i’r cyflenwad dŵr, a hefyd yn atebol am y canlyniadau heb fod ffordd hysbys o ddatrys y broblem.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr aelodau lleol, y Cynghorwyr James Elson (Trefnant) a Chris Evans (Tremeirchion), i siarad ynghylch y mater.

 

Dywedodd y Cynghorydd Elson bod y camau Gwaith ar Opsiynau a Dylunio Manwl wedi arwain at bont ddelfrydol ond mai’r cyfan oedd ei hangen ar y cymunedau oedd pont, ac roedd yn rhaid i’r Cyngor gyflawni ei addewid.   Credai bod yn rhaid bod yno ddull ymarferol o godi pont yn unol â’r cyfyngiadau presennol, fel pont un lôn neu bont dros dro wedi’i hadeiladu o flaen llaw a’i gosod ar feinciau, heb effeithio’r ddyfrhaen, a soniodd fod cwmni adeiladu lleol wedi rhoi pris am y gwaith hwnnw.  Credai hefyd nad oedd gan swyddogion awydd i adeiladu pont newydd a phwysleisiodd fod angen dod o hyd i ffordd o ddatrys y sefyllfa.

 

Ategodd y Cynghorydd Evans y sylwadau hynny a chredai mai prin y bu’r Cyngor yn ymgysylltu, er anfantais i’r prosiect.  Credai bod yr amser a dreuliwyd a’r arian a wariwyd ar y prosiect yn fater i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.  Roedd y Cynghorydd Evans o’r farn y dylid ystyried codi pont dros dro, gan sôn fod adeiladwr lleol wedi cadarnhau y byddai hynny’n bosib.  Amlygodd yr effaith andwyol ar bobl leol, busnesau a’r ysgol a phwysleisiodd fod y bont yn angenrheidiol.  Yn olaf, gofynnodd i’r Cabinet ohirio ei benderfyniad nes cyflwynid cynnig i’r Cyngor llawn adolygu’r dewisiadau neu ystyried rhan newydd.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y dystiolaeth a gafwyd y byddai unrhyw bont newydd yn creu risg, a mynegodd amheuaeth y byddai pont dros dro’n werth yr arian.  Bu’r Cyngor a Llywodraeth Cymru’n benderfynol o adeiladu pont newydd a gweithiont yn ddiwyd dros ben i gyflawni’r nod hwnnw, ond roedd y risg yn rhy fawr ac roedd gan y Cyngor gyfrifoldeb yn gorfforaethol a dyletswydd gofal yng nghyswllt hynny.  Ni fyddai’n briodol i’r Cyngor roi ei hun mewn sefyllfa o fod yn atebol a bod risg o lygru’r cyflenwad dŵr ar gyfer miloedd o bobl.  Bu cryn ddadlau ynghylch y mater yng nghyfarfodydd y Cabinet a’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a bu swyddogion yn bresennol mewn nifer o gyfarfodydd cyhoeddus.  Ychwanegodd y swyddogion y cawsant eu beirniadu am dreulio gormod o amser a gwario gormod o arian ar y prosiect a hefyd am beidio â gwneud digon, a phwysleisiont eu bod wedi gweithio’n ddiwyd i gyflawni’r prosiect ac ymchwilio i bob dewis posib ar gyfer adeiladu pont a fyddai’n bodloni’r safonau diogelwch gofynnol mewn ardal sy’n destun llifogydd.  Serch hynny, oherwydd y risg ddybryd i’r cyflenwad dŵr a bod dim ffordd o ddatrys y broblem, roedd y prosiect wedi dod i ben.  Byddai trafodaethau ynglŷn â phont dros dro neu ryw fath arall o bont yn brosiect gwahanol a byddai’n rhaid ymdrin â hynny ar wahân. 

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorwyr Elson ac Evans am gynrychioli eu cymunedau’n ddygn a dywedodd ei fod yn rhannu eu rhwystredigaeth ynglŷn ag atal y prosiect.

 

Wrth ymateb i gwestiynau eraill gan aelodau, dywedodd y swyddogion:

 

·       ei bod yn anodd cyfrifo tebygolrwydd y risg i’r ddyfrhaen ond y byddai’r canlyniadau’n ddifrifol

·       y byddai turio i’r graig yn creu dirgryniadau a allai greu holltau yn y ddyfrhaen: pa bynnag fath o bont a ddewisid, byddai angen yr un sylfeini

·       y dyluniwyd y bont arfaethedig â’r nod o wasgaru llwyth a phwysau’r bont dros arwynebedd ehangach

·       y byddai angen yr un math o sylfeini ar gyfer unrhyw bont ar y safle er mwyn iddi fod yn ddiogel, boed honno’n bont dros dro, yn bont droed neu’n bont i feiciau

·       nad pwysau cerbydau ac ati ar y bont oedd y broblem, ond yn hytrach gwasgedd y dŵr wrth ochr y bont a fyddai’n tanseilio’r sylfeini, a byddai’n rhaid eu haddasu i fedru ymdopi â’r gwasgedd rhag iddynt erydu

·       esboniwyd y drefn a ddefnyddiai Dŵr Cymru i gymysgu dŵr o’r ddyfrhaen hon a dwy ffynhonnell arall i gyflenwi 85,000 o aelwydydd, a bod purdeb y dŵr dan safle Pont Llannerch yn golygu y câi’r dŵr ei drin yn llawer llai nag arfer – pe byddai rhywbeth yn llygru’r cyflenwad hwn, gallai gymryd blynyddoedd i’w adfer a byddai’r Cyngor yn atebol.

 

Amlygodd y Cynghorydd Barry Mellor brofiad ac arbenigedd y cwmni a gomisiynodd y Cyngor yn y mater hwn a dywedodd y dylid derbyn ei gyngor.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)      wedi ystyried yr adroddiad a’r adroddiad am y cam dylunio manwl (ynghlwm fel Atodiad A i’r adroddiad) ac ar sail y dystiolaeth o’r risgiau a gyflwynwyd, ei fod yn cefnogi casgliadau’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a phenderfynu rhoi’r gorau i’r prosiect i ailadeiladu Pont Llannerch, ac

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad B i'r adroddiad), ei ddeall a’i ystyried.

 

 

Dogfennau ategol: