Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CANLYNIAD ADOLYGIAD PWYLLGOR CRAFFU PARTNERIAETHAU O BENDERFYNIAD Y CABINET YN YMWNEUD Â CHYNNIG ARBEDION TOILEDAU CYHOEDDUS - ASESIAD O’R ANGEN LLEOL A STRATEGAETH DDRAFFT TOILEDAU LLEOL

Ystyried canlyniad adolygiad o’r penderfyniad a wnaethpwyd gan y Cabinet ar 29 Ebrill 2025 ynghylch Cynnig Arbedion Toiledau Cyhoeddus a oedd wedi cael ei alw i mewn a’i ystyried gan y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar 22 Mai 2025.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet, drwy bleidlais fwyafrifol, ar ôl ystyried a chymryd  argymhelliad y Pwyllgor Craffu Partneriaeth i ystyriaeth, yn cytuno i ychwanegu 3 argymhelliad pellach at ei benderfyniad a wnaed ar 29 Ebrill 2025:

 

(f)       bod swyddogion yn parhau i gael trafodaethau ystyrlon gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned perthnasol ac unrhyw drydydd parti perthnasol arall ynglŷn â’r opsiynau ar gyfer cadw’r cyfleusterau cyhoeddus dan sylw ar agor ac adrodd yn ôl ar ganlyniadau’r trafodaethau hyn i gyfarfod y Pwyllgor Craffu a’r Cabinet cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl yn y dyfodol o ystyried proses gosod cyllideb y Cyngor ar gyfer 2026/27;

 

(g)      bod yr argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Craffu Partneriaeth i ariannu’r cyfleusterau cyhoeddus trwy gynnydd yn Nhreth y Cyngor yn rhan o broses gosod cyllideb flynyddol y Cyngor ar gyfer 2026/27 ac yn cymryd canlyniad y trafodaethau y cyfeirir atynt uchod i ystyriaeth, ac

 

(h)      y bydd y cyfleusterau cyhoeddus dan sylw yn aros ar agor nes y bydd y trafodaethau y cyfeirir atynt yn (f) ac (g) uchod wedi'u cwblhau er boddhad y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau, yr adroddiad ynglŷn â chanfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu a gyfarfu ar 22 Mai 2025 wedi ystyried galw i mewn y penderfyniad a wnaeth y Cabinet ar 29 Ebrill ynghylch y Cynnig Arbedion Cyfleusterau Cyhoeddus.

 

Roedd sôn yn yr adroddiad am y ddadl drwyadl a gafodd y Pwyllgor Craffu ynglŷn â’r sail ar gyfer galw’r penderfyniad i mewn.  Wedi ystyried yr holl safbwyntiau a’r atebion i’r cwestiynau a ofynnwyd, cytunodd y Pwyllgor â’r holl bwyntiau a godwyd yn y Rhybudd o Alw i Mewn.  Yn ogystal â hynny, mynegodd aelodau bryderon ynghylch

 

·       effaith cau toiledau mewn mannau poblogaidd fel Dyserth, Rhuddlan a Llanelwy ar fywydau a lles y bobl a chymunedau lleol

·       effaith cau’r toiledau ar enw da’r Cyngor ymysg pobl leol, busnesau a budd-ddeiliaid eraill, gan gadw casgliadau’r Asesiad o’r Effaith ar Les mewn cof

·       effaith y penderfyniad ar staff y gwasanaeth a’r aelodau hynny o staff a ddefnyddiai’r toiledau wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl leol

·       amlder yr ohebiaeth ag aelodau etholedig a budd-ddeiliaid eraill ynglŷn â newidiadau arfaethedig yn narpariaeth y gwasanaeth

·       camdybiaeth fod peidio ag ymateb i’r ymgynghoriad yn gyfystyr a bod o blaid y cynigion.

 

Wrth gyfeirio’r mater yn ôl i’w adolygu, gofynnai’r Pwyllgor gyda pharch bod y Cabinet a’r swyddogion yn gwneud pob ymdrech i gyfathrebu â Chynghorau Dinas/Tref/Cymuned a’r holl fudd-ddeiliaid eraill drwy bob dull posib, er mwyn sicrhau mynediad i bawb ag urddas at gyfleusterau cyhoeddus o ansawdd da ledled y sir.

 

Diolchodd y Cynghorydd Jones i’r Cynghorydd Merfyn Parry am ei argymhelliad a’i gydnabyddiaeth o’r costau a ddeilliai o gadw toiledau ar agor a bodloni anghenion yn y dyfodol, a derbyniwyd y gallai fod angen diwygio’r ffigurau yn sgil pennu’r gyllideb.  Felly, gofynnwyd i’r Cabinet ailystyried ei benderfyniad i gau cyfleusterau cyhoeddus oedd dan reolaeth Cyngor Sir Ddinbych ac yn hytrach, cynnal y gwasanaethau hynny drwy dalu’r costau gofynnol drwy gynnydd neilltuol o 0.27% yn sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2026/27.  Ni fyddai hynny’n fwy na £4.38 y flwyddyn ar gyfartaledd i aelwyd Band D, a chredai’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau y byddai hynny’n fuddsoddiad teg a chymesur mewn diogelu iechyd, urddas a hygyrchedd i bobl leol ac ymwelwyr ledled y sir.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Jones am adrodd ynghylch trafodaeth y Pwyllgor Craffu a’i argymhellion, a diolchodd hefyd i’r Pwyllgor Craffu am ei waith.  Gofynnodd yr Arweinydd i’r Cabinet ganolbwyntio ar argymhelliad y Pwyllgor Craffu yn ystod y drafodaeth.

 

Trafodwyd y prif bynciau canlynol -

 

·       cyfeiriodd y Cynghorydd Julie Matthews at gofnodion y cyfarfod blaenorol, a gyfeiriai at adran 4.8 o’r adroddiad, lle’r oedd y Cabinet wedi pwysleisio bod angen gweithio i sicrhau darpariaeth yn lle cyfleusterau sy’n cau a/neu gynnal y ddarpariaeth bresennol lle bo modd drwy gydweithio, gan gydnabod fod cyfleusterau cyhoeddus yn dal yn darparu gwasanaeth hanfodol, a gofynnodd am gynigion mwy cadarn ar gyfer diogelu’r ddarpariaeth, a sicrwydd bod y gwaith yn dod yn ei flaen.  Dywedodd swyddogion y bu cyswllt â’r Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned dan sylw, gan gynnwys trafodaeth ar y cyd â chynghorau Llanelwy, Dyserth a Rhuddlan gyda’r nod o ddod o hyd i ffyrdd o gadw toiledau ar agor yn yr ardaloedd hynny, ac roedd y trafodaethau’n parhau.  Roedd galw’r penderfyniad i mewn wedi amharu ar y trafodaethau, fodd bynnag, wrth i swyddogion aros am gadarnhad o fwriad y Cyngor cyn medru dal ati i drafod.  Pwysleisiodd yr Arweinydd mor bwysig oedd y trafodaethau hynny ac anogodd y swyddogion i ddal ati yn ddiymdroi.  Gofynnodd y Cabinet hefyd am roi gwybod i’r holl aelodau am unrhyw ddatblygiadau yn y trafodaethau hynny.

·       rhoes y Pennaeth Cyllid ac Archwilio rywfaint o gyd-destun, gan amlygu’r diffyg o £11 miliwn a ragwelid yng nghyllideb 2026/27 ar sail cynyddu Treth y Cyngor 9%, a rhybuddiodd rhag mynd ati bob yn dipyn fesul gwasanaeth wrth bennu’r gyllideb ond yn hytrach i’w hystyried yn ei chyfanrwydd gan gydnabod effeithiau ehangach y gyllideb, gan ddweud bod llawer iawn o waith i’w wneud eto yn hynny o beth cyn pennu’r gyllideb derfynol ym mis Chwefror 2026.  Roedd yr adroddiad i’r Cabinet ym mis Ebrill 2025 yn amlygu bod angen mwy o waith i asesu goblygiadau cyllidebol y buddsoddiad a gynigiwyd yn yr 11 o gyfleusterau, a oedd yn dal yn anhysbys.  Felly, roedd hi’n rhy gynnar yn y drefn o bennu’r gyllideb i fedru rhoi amcangyfrif o effaith unrhyw benderfyniadau ar yr adeg hon o’r flwyddyn ar Dreth y Cyngor ar gyfartaledd.  Derbyniodd yr Arweinydd ei bod yn rhy gynnar i benderfynu’n bendant ynglŷn â defnyddio Treth y Cyngor i ariannu’r gwasanaeth, ond credai y gellid ymrwymo i ystyried hynny fel rhan o’r broses gyffredinol a bod y dewis yn agored i’r Cyngor.  Cadarnhawyd y cynhelid gweithdai’r gyllideb i’r aelodau fel y gwnaed yn y blynyddoedd blaenorol.

·       Soniodd y Cynghorydd Emrys Wynne mai byr o dro oedd rhwng cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu a’r Cabinet a’i fod o’r farn y gallai fod yn rhy gynnar i benderfynu, gan awgrymu rhoi’r mater o’r neilltu nes cynhelid mwy o drafodaeth a gwaith ymchwil i oblygiadau’r hyn roedd y Pwyllgor Craffu wedi’i argymell.  Cytunodd y Cynghorydd Rhys Thomas fod angen i’r Cabinet gymryd amser i ystyried y goblygiadau’n drylwyr.  Dywedodd yr Arweinydd na fyddai angen cynyddu Treth y Cyngor i ariannu’r gwasanaeth pe byddai’r trafodaethau cydweithredol yn gynhyrchiol, a bod angen dal ati â’r trafodaethau hynny. Cytunodd y Cynghorydd Barry Mellor fod angen dal i gyfathrebu drwy bob dull posib, gan amlygu’r heriau ariannol sylweddol roedd yr awdurdod yn eu hwynebu.

 

Estynnodd yr Arweinydd gyfle i aelodau nad oeddent yn aelodau o’r Cabinet gyfrannu at y drafodaeth.

 

Roedd y Cynghorydd Merfyn Parry’n falch y byddai’r ddeialog â Chynghorau Dinas/Tref/Cymuned yn parhau ac fe ymhelaethodd ar y sail resymegol ar gyfer argymhelliad y Pwyllgor Craffu i wyrdroi’r penderfyniad a chynnig dull arall o ariannu’r gwasanaeth os nad oedd unrhyw ddewis arall.

 

Mynegodd y Cynghorydd Martyn Hogg ei bryderon ynglŷn â’r effaith anghymesur ar gymunedau gwledig pe trosglwyddid cyfrifoldebau i Gynghorau Dinas/Tref/Cymuned a bod eu praeseptau’n cynyddu yn sgil hynny, a chredai nad oedd yr Asesiad o’r Effaith ar Les wedi ystyried goblygiadau hynny’n iawn.  Dywedodd yr Arweinydd y byddai cynyddu Treth y Cyngor yn rhannu’r baich ar draws y sir ond ei bod yn bwysig trafod y dewisiadau â chynghorau lleol, ac mai mater iddynt hwy fyddai ystyried eu praeseptau. Roedd toiledau yn Nyserth, Rhuddlan a Llanelwy wedi’u cynnwys yn y cais i gronfa’r loteri ar gyfer gwella’r cyfleusterau pe byddant yn aros ar agor, a byddai’n rhaid eu cynnwys fel rhan o’r trafodaethau hynny.

 

Atebodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio gwestiwn drwy ddweud nad oedd pennu’r union swm y gellid ei arbed gan fod hynny’n dibynnu ar amryw ffactorau gwahanol.  Y gyllideb ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus yn 2024/25 oedd £272,000 wedi i’r Cyngor llawn benderfynu cwtogi £200,000 ohoni er mwyn pennu cyllideb ar gyfer 2024/25.  Amlygwyd y cyfyngiadau ar y gyllideb yn yr adroddiad i’r Cabinet fis Ebrill 2025, gan gynnwys y buddsoddiad mewn 11 o gyfleusterau, ac er y dyfynnid swm o £150,000, roedd yno gryn waith i’w wneud eto.  Nid oedd sicrwydd eto, felly, ynghylch swm y cynnydd yn Nhreth y Cyngor i ariannu’r gwasanaeth.

 

Wedi ystyried yr adroddiad, argymhelliad y Pwyllgor Craffu a chyngor y Pennaeth Cyllid ac Archwilio, cynigiodd yr Arweinydd bod y Cabinet yn cadarnhau ei benderfyniad gwreiddiol ond yn ymrwymo hefyd i barhau â’r trafodaethau oedd yn mynd rhagddynt â’r Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned perthnasol ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet ynghylch y trafodaethau hynny, ac ystyried yr argymhelliad i gynyddu Treth y Cyngor er mwyn ariannu cyfleusterau cyhoeddus fel rhan o’r drefn o bennu’r gyllideb flynyddol, gan roi sylw i’r trafodaethau oedd yn mynd rhagddynt.  Credai’r Arweinydd y byddai hynny’n rhoi sicrwydd ynghylch y trafodaethau rhagweithiol i gadw toiledau ar agor ac ystyried dulliau o’u hariannu.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Williams, ac er mwyn rhoi mwy o sicrwydd, cytunodd yr Arweinydd i ymrwymo hefyd i gadw cyfleusterau cyhoeddus ar agor nes bod y trafodaethau wedi dod i ben.

 

Ar y cyfan, roedd y Cabinet o’r farn fod hynny’n gyfaddawd derbyniol.

 

Wrth drafod ymhellach, amlygodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr angen i gydweithio go iawn a chredai y byddai cynyddu praeseptau cynghorau lleol i dalu’r costau’n gyfystyr â threth atchwel.  Credai’r Arweinydd ei bod yn bwysig peidio â gosod terfynau ar y trafodaethau â chynghorau lleol ac y byddai’r praeseptau’n fater i’r cynghorau eu hunain.  Cydnabu hefyd farn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o safbwynt ystyried cynyddu Treth y Cyngor yn hytrach na chwtogi ar wasanaethau.  Soniodd y Cynghorydd Rhys Thomas am benodi swyddog cyswllt i hwyluso cydweithio rhwng y Cyngor Sir a chynghorau lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrea Tomlin bod y Pwyllgor Craffu wedi gofyn i’r Cabinet newid ei benderfyniad gwreiddiol ar sail y pwyntiau a godwyd yn y Rhybudd o Alw i Mewn yng nghyswllt penderfyniadau’r Cabinet.  Nid oedd felly’n cytuno â geiriad y cynnig i gadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol o’r newydd, a gofynnodd am gofnodi bod y Cabinet wedi newid ei benderfyniad. Dywedodd yr Arweinydd bod a wnelo argymhelliad y Pwyllgor Craffu ag ariannu’r gwasanaeth ac y bu cryn drafod ynglŷn â chyllid a thelerau cyn cyrraedd y sefyllfa bresennol.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr nad oedd y rhesymau dros alw’r penderfyniad i mewn yn fater i’r Cabinet, ac mae’r mater dan sylw oedd argymhelliad y Pwyllgor Craffu yn sgil galw’r penderfyniad i mewn. Roedd y cynnig yn adlewyrchu bod y Cabinet wedi gwrando a chymryd camau lliniaru ar sail argymhelliad y Pwyllgor Craffu.

 

Ailadroddodd yr Arweinydd ei gynnig er eglurder ac fe eiliodd y Cynghorydd Julie Matthews y cynnig hwnnw.  Drwy bleidlais –

 

PENDERFYNWYD bod mwyafrif y Cabinet, wedi ystyried a rhoi sylw i argymhelliad y Pwyllgor Craffu Partneriaethau, yn cytuno i ychwanegu tri o argymhellion at ei benderfyniad a wnaed ar 29 Ebrill 2025:

 

(f)       bod swyddogion yn dal i gael trafodaethau ystyrlon gyda’r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned perthnasol ac unrhyw drydydd parti perthnasol arall ynglŷn â’r dewisiadau ar gyfer cadw’r cyfleusterau cyhoeddus dan sylw ar agor ac adrodd yn ôl ar ganlyniadau’r trafodaethau hyn i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl yn y dyfodol, gan ystyried y drefn o bennu cyllideb y Cyngor ar gyfer 2026/27;

 

(g)      bod argymhelliad y Pwyllgor Craffu Partneriaeth i ariannu’r cyfleusterau cyhoeddus trwy gynyddu Treth y Cyngor yn rhan o’r drefn o bennu cyllideb flynyddol y Cyngor ar gyfer 2026/27 ac yn cymryd canlyniad y trafodaethau y cyfeirir atynt uchod i ystyriaeth, ac

 

(h)      y bydd y cyfleusterau cyhoeddus dan sylw yn aros ar agor nes cwblheir y trafodaethau y cyfeirir atynt yn (f) ac (g) uchod er boddhad y Cabinet.

 

Cafwyd egwyl ar yr adeg hon (11.10am).

 

 

Dogfennau ategol: