Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CANOLFANNAU AILGYLCHU GWASTRAFF Y CARTREF

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Swyddog Perfformiad Contractau Gwastraff, Caffael a Strategaeth (copi yn atodedig) sy’n gofyn i’r Pwyllgor archwilio effeithiolrwydd y contract sydd yn ei le ar gyfer rheoli a gweithredu canolfannau ailgylchu gwastraff cartref y Cyngor.

 

11.30am – 12.15pm

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yr adroddiad ynghylch Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (a ddosbarthwyd o flaen llaw) ar y cyd â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol:  yr Economi a’r Amgylchedd, Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Swyddog Contractau Gwastraff, Caffael a Pherfformiad Strategol. Rhoes yr adroddiad wybodaeth ynglŷn â chynnydd y contract a ddyfarnodd y Cyngor yn 2022 ar gyfer rheoli a gweithredu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Caffaelwyd y Contract hwnnw ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac fe’i dyfarnwyd i Bryson Recycling Limited.

 

Amlygwyd y gwahanol elfennau o’r adroddiad i’r Pwyllgor a soniwyd am y pethau allweddol y disgwylid i’r contract eu cyflawni, sef –

 

·         Arbed costau ariannol - rhagwelwyd y byddai’r Contract yn arbed costau sylweddol o gymharu â’r contract blaenorol a hynny oedd yn dod i ran. Darparwyd mwy o fanylion ynglŷn â’r union arbedion yn Atodiad A i’r adroddiad, a oedd yn gyfrinachol ac felly wedi’i eithrio rhag ei rannu a’r cyhoedd. 

·         Perfformiad Ailgylchu – er y bu cyfraddau ailgylchu Sir Ddinbych yn uchel cyn dechrau’r contract, roedd y gwelliant bach a gyflawnwyd yn arwyddocaol gan fod newidiadau yn y ddeddfwriaeth wedi lleihau’r amrywiaeth o ddefnyddiau y gallai Sir Ddinbych eu hailgylchu.  Roedd data ar gyfer 2024/25 yn dangos fod y gyfradd ailgylchu wedi gostwng tua 4%. Y rheswm pennaf am hynny oedd bod mwy o wastraff gweddilliol wedi cyrraedd Parciau Ailgylchu yn ystod Chwarter 1 a Chwarter 2 ar ôl lansio’r gwasanaeth casglu newydd, ar ymyl y palmant yn hytrach na bod perfformiad y Contractwr wedi dirywio. Ar sail hynny, roedd Sir Ddinbych yn dal yn yr ail chwartel yng Nghymru (9fed o 22) ar gyfer ailgylchu mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

·         Boddhad Cwsmeriaid - rhoes y swyddogion grynodeb o sylwadau a dderbyniwyd gan gwsmeriaid a oedd yn pwysleisio a chadarnhau nad oedd modd cymharu’r contract presennol â’r un blaenorol yn uniongyrchol. Roedd arolwg o foddhad cwsmeriaid a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2024, fodd bynnag, wedi nod bod 96% o ymwelwyr â’r safle naill ai’n fodlon neu’n fodlon iawn â’r gwasanaeth a ddarparwyd. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oedd yn gweinyddu’r system archebu ac roedd lefelau boddhad yn uchel ar gyfer honno hefyd (sgôr gyfartalog 4.7 allan o 5).

·         Cwynion - nid oedd unrhyw ddata rhifol ar gael ynglŷn â chwynion. Anaml y derbynnid cwynion, fodd bynnag.  Roedd a wnelo’r pryderon yn bennaf â’r angen i archebu er mwyn defnyddio parciau ailgylchu, anghysondeb yn y tâl a godid am wastraff annomestig ac agwedd/ymddygiad y staff ar y safleoedd hynny.

·         System Archebu - roedd y gofyniad i bobl archebu er mwyn defnyddio’r Parc Ailgylchu yn rhan allweddol o’r Contract hwn. Roedd y mwyafrif helaeth o bobl yn derbyn hynny ac roedd y drefn apwyntiadau’n cyfrannu at y buddion o ran arbed costau a pherfformiad ailgylchu. Roedd y system archebu’n un drawsffiniol; gallai pobl ddefnyddio’r safle oedd fwyaf cyfleus iddynt, ni waeth ym mha Sir roeddent yn byw. Fe wnaeth pobl Sir Ddinbych tua 275 o archebion i ddefnyddio safleoedd Conwy bob mis, a 200 arall ar gyfer Plas Madoc yn Wrecsam.

·         Siop Ailddefnyddio - nid oedd y siop ailddefnyddio ym Mharc Ailgylchu Marsh Road yn y Rhyl wedi cyrraedd y lefelau disgwyliedig o ran busnes eto. Roedd partneriaid trydydd sector wedi’i chael yn anodd recriwtio ac nid oeddent yn gallu cynnig gwasanaeth cyson.  Ers i Bryson ddechrau gweithredu’r siop ailddefnyddio ym mis Ebrill 2024, bu’r lefelau staffio’n fwy cyson a’r gwasanaeth yn fwy proffesiynol.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol –

  • Nid oedd aelodau, na phobl leol chwaith yn ôl pob tebyg, yn gwybod bod y system yn gweithredu ar draws ffiniau’r siroedd a bod modd archebu lle ar gyfer safleoedd yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Awgrymodd aelodau y dylid cyfathrebu’n fwy pendant ynglŷn â hynny gan y byddai’n fuddiol i’r bobl a ddefnyddiai’r canolfannau ailgylchu. Cytunodd y swyddogion â’r awgrym i gyfathrebu’n helaethach ynghylch y mater, a byddent yn ymchwilio i hynny.
  • Pwysleisiwyd nad oedd a wnelo’r adroddiad â’r drefn newydd o gasglu deunydd ailgylchu mewn trolibocsys wrth ymyl y palmant, ond roedd y swyddogion yn fodlon trafod y materion ynglŷn â’r gwasanaethau hynny â’r aelodau ar yr adeg briodol.
  • Mynegwyd pryderon ynglŷn â’r system archebu a sut y gellid ei wella er mwyn sicrhau y gallai pobl hŷn ei defnyddio heb fynd ar y rhyngrwyd, gan gynnwys ymchwilio i alluogi pobl i archebu wrth fynedfa’r safle.  Yn ogystal â hynny, pan fyddai pobl hŷn neu fregus yn mynd i’r canolfannau ailgylchu, gallai staff gynnig eu helpu i gael gwared â’r gwastraff oedd ganddynt. Dywedodd y swyddogion y byddent yn ymchwilio i’r materion hyn gan y gallai rhannau o’r system fod yn fwy ymarferol.  Roedd darparu cymorth yn dibynnu ar y staff oedd yn gweithio ar y diwrnod, ond byddai swyddogion yn rhannu’r pryderon hynny â’r staff ac yn eu cynghori i ofyn i bobl a oeddent angen cymorth wrth iddynt gyrraedd y canolfannau.
  • Cadarnhawyd nad oedd unrhyw ddarpariaeth leol ar gyfer ailgylchu pecynnau tabledi meddygol, heblaw am nifer fechan o archfarchnadoedd a fferyllwyr a oedd yn fodlon eu derbyn.  Bernid mai swm cymharol fach o wastraff fel hyn a gynhyrchid, ond roedd cyfansoddiad y pecynnau’n golygu ei bod yn eithriadol o anodd eu hechdynnu a’u didoli.  
  • Wrth sôn am yr elfen rhannu elw o’r contract, dywedodd y swyddogion nad oedd ganddynt amcan o’r dyddiad pan gyrhaeddid y trothwy ar gyfer hynny.  Diben y cymal hwnnw yn y contract oedd cyfyngu ar allu’r darparwr i wneud elw annerbyniol wrth ddarparu gwasanaeth statudol.  Pe cyrhaeddid y trothwy dan sylw, byddai’n rhaid i’r naill sir a’r llall fuddsoddi’r holl elw uwchlaw’r trothwy yn y gwasanaeth gwastraff.
  • Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion eu bod yn fodlon â’r contract a’r gwaith yr oedd Bryson Recycling Limited wedi’i wneud hyd yn hyn, a’u huchelgais oedd cyflawni arbedion drwy’r contract.

 

Wrth ddod â’r drafodaeth i ben:

 

Penderfynwyd: wedi ystyried cynnwys yr adroddiad a’r atodiadau, ac yn amodol ar y sylwadau a wnaed yn ystod y drafodaeth –

 

(i)   cydnabod y cynnydd a wnaed hyd yn hyn i gyflawni arbedion costau ar yr un pryd â gwella a chynnal cyfraddau ailgylchu a boddhad cwsmeriaid ers cychwyn y contract â Bryson Recycling Limited ar gyfer canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref; ac

(ii) argymell gwneud mwy o waith i hyrwyddo’r ffaith y gall preswylwyr Sir Ddinbych ddefnyddio canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref dan reolaeth Bryson Recycling Limited boed y rheiny yn ardal ddaearyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy neu Gyngor Sir Ddinbych, yn amodol ar drefnu apwyntiadau o flaen llaw. 

(iii)                Gofyn bod y Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd yn meithrin cyswllt â’r Gwasanaeth Cyfathrebu a Marchnata er mwyn hyrwyddo’r gwasanaethau hynny a ddarperir yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn ogystal â llwyddiant a buddion y contract â Bryson Recycling Limited.

 

 

Dogfennau ategol: