Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU PENDERFYNIAD CABINET YN YMWNEUD Â'R CYNNIG ARBEDION CYFLEUSTERAU CYHOEDDUS - ASESIAD O ANGHENION LLEOL A STRATEGAETH DDRAFFT TOILEDAU LLEOL

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi yn atodedig) sy’n gofyn i’r Pwyllgor, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor, adolygu y penderfyniad wnaed gan y Cabinet ar 29 Ebrill 2025.

 

10.15am – 11.15am

Cofnodion:

Croesawodd y Cydlynydd Craffu’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, gan egluro ei fod wedi’i wahodd yn benodol i ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â’r penderfyniad.  Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) ac eglurodd i’r Pwyllgor y drefn a ddilynid wrth glywed y rhesymau pam y galwyd y penderfyniad i mewn i graffu arno, a barnu a oedd cyfiawnhad dros gyfeirio’r penderfyniad hwnnw’n ôl at y Cabinet i’w ailystyried.  Pe byddai’r Pwyllgor, wedi trafod y mater, yn penderfynu cyfeirio’r penderfyniad yn ôl at y Cabinet gan ofyn iddo adolygu ei benderfyniad gwreiddiol, byddai angen llunio argymhelliad pendant i’r Cabinet ei ystyried ac egluro’r sail resymegol ar ei gyfer.

 

Galwyd ar yr aelodau hynny a lofnododd y rhybudd o alw i mewn i ddatgan eu rhesymau dros arfer y weithdrefn galw i mewn er mwyn gofyn i’r Cabinet adolygu’r penderfyniad a wnaed ar 29 Ebrill 2025 ynglŷn â’r Cynnig Arbedion Toiledau Cyhoeddus – Asesiad o Anghenion Lleol a’r Strategaeth Toiledau Lleol Ddrafft.  Y llofnodwyr hynny oedd y Cynghorwyr Andrea Tomlin, David Williams, Karen Edwards, Hugh Evans, a Huw Hilditch-Roberts.  Cadarnhawyd fod enw’r Cynghorydd Christopher Evans wedi’i nodi fel y pumed llofnodwr yn wreiddiol, ond yn unol â’r e-bost a dderbyniwyd oddi wrtho ar 9 Mai 2025, cymerodd y Cynghorydd Hugh Hilditch-Roberts ei le fel y pumed llofnodwr.

 

Y Cynghorydd Andrea Tomlin oedd y Prif Lofnodwr, ac fe’i gwahoddwyd i gyflwyno’r rhesymau dros alw’r penderfyniad i mewn i graffu arno. Diolchodd i’r Cadeirydd am ganiatáu iddi siarad, a dywedodd y manylid ynghylch y rhesymau dros alw’r penderfyniad i mewn yn Atodiad A i’r adroddiad.  Eglurodd y rhesymau pam y dylid adolygu pob elfen o’r penderfyniad –

(a) ‘Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r asesiad o anghenion lleol.’

Dylai’r Cabinet ailystyried y penderfyniad gan y credai’r llofnodwyr ei fod yn seiliedig ar adroddiad gwallus. Nodwyd yn yr asesiad nad oedd angen toiledau cyhoeddus o gwbl yn Nyserth. Roedd hi’n amlwg nad oedd hynny’n wir i unrhyw un a oedd yn gyfarwydd â’r pentref ac yn gwybod mor boblogaidd ydoedd.  Nid oedd Dyserth chwaith wedi cael ‘asesiad o anghenion yn ôl poblogaeth y gymuned ac ymwelwyr’, gan nad oedd y system a ddefnyddid i gasglu data twristiaeth yn cynnwys unrhyw wybodaeth ar gyfer Dyserth.  Ar sail hynny, felly, roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi barnu ‘ei bod yn annhebygol y bydd angen dirfawr am doiledau cyhoeddus yn dymhorol’. Roedd y Cabinet presennol yn cynnwys chwech o aelodau o’r Rhyl a Phrestatyn a ddylai wybod yn iawn mor boblogaidd oedd Dyserth ag ymwelwyr gydag atyniadau fel y rhaeadr, llwybrau cerdded, tafarndai a bwytai a’r ras hwyaid flynyddol. Siawns na ddylai’r tri o aelodau eraill y Cabinet wybod hynny hefyd.

Er y nodwyd niferoedd ymwelwyr tymhorol ar gyfer Rhuddlan a Llanelwy, bernid nad oeddent hwythau’n cyrraedd y trothwy i fod angen toiledau cyhoeddus. Credai’r llofnodwyr ei bod yn annealladwy ac yn annerbyniol derbyn adroddiad asesu oedd yn argymell cael gwared â chyfleusterau mor hanfodol a phoblogaidd, a hwnnw’n adroddiad pen desg yn unig a oedd yn dangos cryn ddiffyg gwybodaeth am yr ardal.

(b) ‘Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r strategaeth toiledau lleol ddrafft.’

Dylai’r Cabinet ailystyried cymeradwyo’r strategaeth hon gan y byddai’n ‘canolbwyntio ar anghenion a nodwyd yn unig’, a oedd yn awgrymu y derbynnid yr asesiad o anghenion lleol fel un cywir, yn groes i farn y llofnodwyr fel y’i mynegir ym mhwynt (a).  Byddai seilio’r Strategaeth ar yr asesiad ‘gwallus’ o anghenion lleol yn golygu bod Rhuddlan, Dyserth a Llanelwy heb doiledau cyhoeddus angenrheidiol.  Ym marn llofnodwyr y rhybudd o alw i mewn, ni ddylid eithrio unrhyw ran o’r sir o’r strategaeth.

(c) ‘Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cam nesaf arfaethedig ar gyfer yr holl Doiledau Cyhoeddus.’

Dylai’r Cabinet ailystyried cymeradwyo’r camau nesaf ar gyfer yr holl doiledau cyhoeddus, gan fod hynny’n cynnwys cynnig i gau toiledau cyhoeddus Gerddi Botaneg y Rhyl, a oedd yn gyfleusterau hanfodol a phoblogaidd yn y man cyhoeddus hwn.  Roedd y camau nesaf yn cynnwys cael gwared  â’r holl doiledau cyhoeddus yn Nyserth, Rhuddlan a Llanelwy heb gynnig unrhyw ddarpariaeth arall, na chynnig dim yn lle’r podiau oedd wedi’u cau neu y bwriedid eu cau yn y gorsafoedd bws a rheilffordd prysur iawn yn y Rhyl a Phrestatyn, a oedd ill dwy’n drefi a nodwyd yn yr asesiad yn rhai a oedd angen mwy o doiledau cyhoeddus, nid llai.

(d)   ‘Bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les.’

Dylid gofyn i’r Cabinet ailystyried ei ddealltwriaeth o les yn gyffredinol. Roedd yr asesiad o’r effaith ar les yn datgan yn bendant na chafwyd canlyniad cadarnhaol ond ar gyfer un o’r saith o nodau lles (14%) a bod un yn datgan na fyddai’r newidiadau arfaethedig a chau’r toiledau yn cael unrhyw effaith negyddol ar fioamrywiaeth, yr ecosystem na’r ôl troed carbon – ac fe seiliwyd yr un olaf ar y ffaith na fyddai cymaint o staff yn teithio iddynt mewn cerbydau. Roedd unrhyw adroddiad o unrhyw ffynhonnell ynglŷn â’r angen am doiledau cyhoeddus yn datgan yn bendant fod yno gysylltiad rhwng lles a bod toiledau cyhoeddus ar gael.

(e)      ‘Dirprwyo awdurdod i Aelod Arweiniol Priffyrdd a’r Amgylchedd gytuno ynghylch unrhyw newidiadau sydd eu hangen cyn cyhoeddi’r Strategaeth Toiledau Cyhoeddus.’

Dylid argymell nad yw’r Cabinet yn dirprwyo unrhyw bwerau ynglŷn ag unrhyw agwedd ar y mater pwysig hwn i un Aelod yn unig.

Seiliwyd y rhan helaeth o’r adroddiad aeth gerbron y Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Mawrth yn seiliedig ar lwyddiant y cais am grant, ond gwyddai’r Cabinet fod y cais hwnnw wedi methu, ac felly roedd y sefyllfa dan sylw’n wahanol i’r hyn a gynigiodd y Pwyllgor Craffu Cymunedau.  Pryderai’r llofnodwyr ynglŷn ag iechyd a lles y staff o beidio â gwybod a fyddai ganddynt swyddi ymhen ychydig fisoedd. Roedd hi’n amlwg o’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad bod y mwyafrif llethol o bobl yn gwrthwynebu cau unrhyw doiledau cyhoeddus.

Awgrymai tystiolaeth lafar bod y busnesau lleol a dalai ardrethi, gan fwyaf, yn anfodlon ysgwyddo cyfrifoldeb moesol a dyngarol y Cyngor i ddarparu toiledau cyhoeddus.  Roedd y Cabinet yn camfarnu os credai y byddai busnesau’n darparu’r gwasanaeth hwn.

Roedd gan yr Awdurdod ei weithwyr ei hun allan yn y gymuned ledled y sir, heb swyddfeydd, a oedd yn dibynnu ar y Cyngor i fodloni’r angen sylfaenol hwn wrth iddynt ymgymryd â’u dyletswyddau beunyddiol; gweithwyr fel Nyrsys Ardal, gofalwyr, gyrwyr danfon nwyddau, negeswyr, gyrwyr tacsis, gweithwyr casglu gwastraff, gwasanaethau stryd a phriffyrdd. Dylent fedru dibynnu ar y Cyngor i ddarparu’r cyfleusterau angenrheidiol iddynt.

Soniwyd yn fynych yng nghyfarfod y Cabinet fod darparu toiledau’n wasanaeth anstatudol neu ddewisol ac fe seiliwyd y drafodaeth ar hynny, ond dymunai’r llofnodwyr ofyn am argymell bod y Cabinet yn gweithredu’n eofn, heb ddibynnu ar yr hyn yr oedd yn rhaid ei ddarparu yn ôl y gyfraith, ond yn hytrach gan farnu bod y bobl leol, busnesau ac ymwelwyr yn haeddu cadw’r toiledau cyhoeddus oedd eisoes ar gael a bod y Cyngor yn eu cadw’n agored a’u cynnal a chadw.  Dymunai llofnodwyr y rhybudd i alw i mewn i’r Cabinet gyfaddef na fyddai modd cyflawni’r arbedion a gynigid yn hyn o beth, ac y dylid rhoi blaenoriaeth i anghenion a dymuniadau pobl leol, busnesau ac ymwelwyr, gan wneud arbedion effeithlonrwydd neu leihau arferion gwastraffus mewn mannau eraill er mwyn talu’r diffyg yn y gyllideb.

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Tomlin am drefnu’r rhybudd o alw i mewn ac egluro’n fanwl beth oedd rhesymau’r llofnodwyr dros alw’r penderfyniad i mewn i’w adolygu.  Wedyn, gwahoddwyd y cyd-lofnodwyr i roi crynodeb o’u rhesymau hwythau dros gefnogi’r cais i alw’r penderfyniad i mewn i graffu arno.

Diolchodd y Cynghorydd David Williams i’r Cynghorydd Tomlin am y pwyntiau a godwyd ac am roi sylw i’w gymuned yn Nyserth. Roedd o’r farn bod y casgliad nad oedd angen toiledau yn Nyserth yn sarhaus, ac er ei fod yn deall nad oedd y Cyngor dan unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu toiledau cyhoeddus, credai fod y cyngor dan rwymedigaeth foesol i wneud hynny. Credai’n bendant fod angen i’r Cyngor gynorthwyo pobl i fynd allan yn lle bod yn sownd yn eu tai. Amlygodd y ffaith bod Treth y Cyngor yn cynyddu wrth i wasanaethau grebachu.  Roedd angen i’r Cyngor adfer rhywfaint o hygrededd a pheidio â chau’r toiledau cyhoeddus.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Karen Edwards ei bod yn cytuno â’r holl sylwadau a wnaed yn y rhybudd o alw i mewn a’r rhai a godwyd yn y cyfarfod hyd yn hyn. Er nad oedd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau lle craffwyd ar y cynigion wedi’u cadarnhau eto, roedd y cofnodion drafft wedi’u cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac yn datgan yn bendant bod y Pwyllgor wedi argymell cynnal mwy o drafodaethau â’r cynghorau dinas, tref a chymuned i geisio cynnal y cyfleusterau dan sylw. Nid oedd y Pwyllgor o blaid cau’r toiledau. Soniodd y Cynghorydd Edwards am yr elfen o gyfathrebu â chynghorau dinas, tref a chymuned ynglŷn â’r mater, gan dynnu sylw at yr ohebiaeth â’i chyngor tref lleol yn Llangollen. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd rai misoedd yn ôl i drafod y mater, hysbyswyd aelodau o’r cyngor tref y byddent yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf yn wythnosol ynglŷn â’r posibilrwydd o sicrhau cyllid i gadw’r toiledau cyhoeddus yn agored.  Ni dderbyniodd y cyngor tref unrhyw ohebiaeth am chwe mis, fodd bynnag.  Mynegodd y Cynghorydd Edwards bryderon ynglŷn ag anghydraddoldeb pe byddai disgwyl i gynghorau dinas, tref a chymuned ledled Sir Ddinbych gynyddu eu praeseptau i gadw toiledau cyhoeddus yn agored.  Cynigiodd Llangollen fel enghraifft; tref fechan â thua 4,000 o drigolion a fyddai angen cynyddu’r praesept tua 38% er mwyn cadw’r toiledau cyhoeddus yn agored.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Hugh Evans ei fod yn llwyr o blaid y cynnig i alw’r penderfyniad i mewn er adolygiad.  Roedd yn anghytuno â phenderfyniad y Cabinet yn bennaf gan nad oedd yn cytuno â chanlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd.  Roedd Cyngor Sir Ddinbych yn ceisio annog a chefnogi twristiaeth a byddai cau toiledau cyhoeddus yn mynd yn groes i’w uchelgeisiau ar gyfer y diwydiant twristiaeth. Nid oedd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru’n cau toiledau cyhoeddus, hyd yn oed mewn mannau anghysbell yng nghefn gwlad. Roedd yn anfodlon â’r dull a gynigiwyd i geisio cymorth y sector preifat i ddarparu gwasanaeth y dylai’r sector cyhoeddus fod yn ei ddarparu.  Dymunai Llywodraeth Cymru i bob corff cyhoeddus ystyried nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a byddai cau’r toiledau fel y cynigid yn tanseilio lles pawb, ac yn enwedig felly’r bobl fwyaf diamddiffyn.  Byddai hefyd yn amharu ar enw da’r Cyngor.  Credai fod angen i’r Cabinet ddangos arweinyddiaeth gref drwy roi blaenoriaeth i’r gwasanaeth allweddol hwn; nid oedd y diffyg ariannol yn sylweddol a gellid gwneud arbedion effeithlonrwydd gydol yr awdurdod er mwyn sicrhau y gellid cadw toiledau cyhoeddus yn agored.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Hilditch-Roberts ei fod yn cytuno â’r holl sylwadau a wnaethpwyd.  Pwysleisiodd fod angen i’r awdurdod lleol ofalu am y bobl fwyaf diamddiffyn yn ei gymunedau ac y byddai’n methu â chyflawni’r ddyletswydd honno wrth gau’r toiledau cyhoeddus dan sylw. Roedd o’r farn bod gwleidyddiaeth yn drech na phobl.

 

Wedyn, gwahoddwyd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion i ymateb i’r pwyntiau a godwyd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, na ddymunai neb gau unrhyw doiledau cyhoeddus.   Roedd yn ofynnol i’r Cabinet ystyried y darlun ehangach yng nghyd-destun y gyllideb.  Mynnai’r gyfraith bod y Cyngor yn mantoli ei gyllideb, roedd arian cyhoeddus yn eithriadol brin a phob penderfyniad yn heriol, ond ymdrinnid â hynny mewn modd pragmataidd.  Roedd hi’n bwysig pwysleisio na fyddai’r holl doiledau cyhoeddus yn cau ac yn wir, byddai’r Cyngor yn adnewyddu’r rhai hynny a fyddai’n dal yn agored.

 

Wrth ymateb i’r pwyntiau a godwyd yn y rhybudd i alw i mewn y penderfyniad am y toiledau cyhoeddus, dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol:  yr Amgylchedd a’r Economi

 

·         a’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol  ynghylch y toiledau cyhoeddus y mabwysiadwyd dull Cyngor cyfan wrth ddatblygu’r cynnig.  Ymgysylltwyd yn y dull safonol gyda’r nod o gadw cynifer o doiledau cyhoeddus yn agored â phosib.

·         Holwyd ynghylch dilysrwydd y data a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu’r cynnig a’r Strategaeth - Monitor Gweithgarwch Twristiaeth Scarborough (STEAM) - a chadarnhawyd fod hyn yn ddull oedd wedi ennill ei blwyf yn genedlaethol ar gyfer modelu effaith economaidd twristiaeth ac y’i defnyddid mewn rhannau helaeth o’r Deyrnas Unedig.  Roedd data STEAM wedi’u cynnwys yn yr holl ddata a gasglwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus gydol y sir ar sail cynnig i gadw cynifer o doiledau cyhoeddus yn agored â phosib.

·         Roedd toiledau cyhoeddus Gerddi Botaneg y Rhyl yn agored rhwng 9 a.m. a 3 p.m. Caeid y drysau am 3pm oherwydd fandaliaeth fynych a chostau i’r awdurdod lleol yn deillio o hynny.  Ers i Grŵp y Gerddi Botaneg gymeradwyo’r cynnig i gau’r toiledau cyhoeddus hynny am byth, roedd Cyngor Dinas Llanelwy a Chyngor Tref Rhuddlan wedi cysylltu â’r Cyngor gyda’r nod o drafod hyn ymhellach.  Roedd y trafodaethau hynny’n mynd rhagddynt gyda chymunedau lleol. Roedd y podiau’n hen ffasiwn bellach, fodd bynnag, ac nid oedd y darnau angenrheidiol i’w trwsio ar gael mwyach. Unwaith yr oeddent yn torri, felly, byddent yn cau ac ni fyddai modd eu hail-agor.

·         Rhoes y Cabinet ystyriaeth a chydnabyddiaeth lawn i gasgliadau negyddol yr Asesiad o’r Effaith ar Les ar gyfer y Strategaeth a’r cynigion wrth benderfynu.  Penderfynodd y Cabinet gan wybod yn iawn beth oedd y casgliadau hynny.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor ac arsylwyr i godi unrhyw bwyntiau ynglŷn â’r rhybudd o alw i mewn –

 

·         Amlygodd aelodau’r arbedion arfaethedig gan nodi eu bod yn gymharol fach yn y gwasanaeth hwn o gymharu â chyfanswm yr arbedion yr oedd yn rhaid i’r Cyngor eu cyflawni. Cadarnhaodd y swyddogion fod angen arbed cyfanswm o £11 miliwn gydol y Cyngor.  Byddai’r cynnig hwn, ynghyd â chynigion yn yr holl wasanaethau eraill, yn cyfrannu at gyflawni’r arbedion angenrheidiol o £11 miliwn.  Pe na chyflawnid yr arbedion drwy’r cynnig penodol hwn, byddai’n rhaid dod o hyd i arbedion yn rhywle arall.

·         Mynegwyd pryderon ynghylch effaith cau toiledau cyhoeddus ar bobl yng nghefn gwlad, rhai ohonynt yn bobl hŷn a bregus a deithiai i’r pentrefi a threfi mwy i siopa a chymdeithasu.  Roedd angen toiledau cyhoeddus hygyrch ar y bobl hynny a byddent yn cynllunio eu teithiau ar sail hynny.  Gallai cau’r toiledau’n unol â’r cynnig beri unigrwydd i’r bobl hynny a’u gwneud yn fwy dibynnol ar wasanaethau statudol.

·         Soniwyd am gyfathrebu a’r argraff y bu diffyg cyfathrebu rheolaidd. Pwysleisiodd y swyddogion eu bod wedi cyfathrebu cymaint ag y gallant. Roeddent wedi disgwyl i Gronfa’r Pethau Pwysig gyfathrebu’n gyson a’r Cyngor ynglŷn â hynt y cais am gyllid, a fu’n aflwyddiannus yn y pen draw.  Yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny ac felly ni fedrai swyddogion ddarparu gwybodaeth i aelodau na budd-ddeiliaid am y sefyllfa.  Cadarnhaodd y swyddogion eu bod wedi cytuno i ddarparu gwybodaeth wythnosol i Gyngor Tref Llangollen ond nad oedd unrhyw wybodaeth o bwys i’w darparu. Roeddent yn cydnabod y dylent fod wedi egluro hynny i’r bobl dan sylw a byddent yn dysgu o hynny. Er hynny, roedd yno ddeialog cyson â chynghorau dinas, tref a chymuned ynglŷn â chyfathrebu ac ymgynghori, ond yn anffodus nid oedd yr holl gynghorau tref a chymuned cystal â’i gilydd am ymateb i ohebiaeth y Cyngor.

·         Tynnodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio (Swyddog Adran 151) sylw’r aelodau at y costau ac arbedion a nodwyd yn adran chwech o’r adroddiad i’r Cabinet, a fu’n destun trafod yng nghyfarfod y Cabinet.  Pwysleisiodd eto yr amcangyfrifwyd ei bod yn costio tua £272,000 ar hyn o bryd i reoli’r holl doiledau cyhoeddus y bwriedid eu cau yn ôl Atodiad 6 [i’r adroddiad]. Derbynnid tua £57,000 o incwm o’r safleoedd hynny ac felly’r gost net i’r gyllideb oedd tua £215,000. Gan ystyried mai £70,000 oedd cyfanswm y gyllideb ar gyfer darparu toiledau cyhoeddus, byddai yno wasgfa o tua £150,000 ar y gyllideb o hyd. Roedd y wasgfa honno, fodd bynnag, yn seiliedig ar y costau a’r incwm cyfredol. Nid oedd yn cynnwys unrhyw incwm cynyddol o godi tâl am yr holl doiledau cyhoeddus yn y dyfodol a chynyddu’r pris mynediad.

·         Roedd aelodau o’r farn ei bod yn hollbwysig cadw toiledau cyhoeddus yn agored gan eu bod yn darparu gwasanaeth mor hanfodol i gynifer o bobl, yn enwedig felly pobl ag anawsterau iechyd.

·         Dywedodd y swyddogion fod trafodaethau’n parhau â Chyngor Cymuned Dyserth, a oedd wedi datgan na ddymunai ysgwyddo’r cyfrifoldeb am doiledau cyhoeddus, er mwyn ystyried yr holl ddewisiadau posib ar gyfer darparu toiledau cyhoeddus yn yr ardal.  Rhoddwyd sicrwydd na fyddai unrhyw doiledau cyhoeddus yn cau tra bo’r trafodaethau’n mynd rhagddynt.  Yn yr un modd, cychwynnwyd trafodaethau yn ddiweddar â’r grwpiau oedd yn gweithredu yng Ngerddi Botaneg y Rhyl gyda’r nod o ddod o hyd i ffyrdd o gadw’r toiledau cyhoeddus yn agored yno.

·         Pe byddai’r toiledau yn Llanelwy’n cau yn unol  â’r cynnig, byddai hynny’n creu argraff wael o’r ardal a’r Cyngor Sir gan mai hon fyddai’r unig ddinas heb doiledau cyhoeddus.  Yn ogystal â hynny, roedd Llanelwy a Rhuddlan eisoes wedi cynyddu eu praeseptau fel y gallant gyfrannu at y gost o gadw eu llyfrgelloedd ar agor am gyfnodau hwy.  Byddai gwneud hynny eto i gadw’r toiledau cyhoeddus yn agored yn ymddangos yn eithriadol o annheg i’r trigolion.

·         Dywedodd y swyddogion na fedrai’r Cyngor ddal i ddarparu’r un gwasanaeth heb wneud arbedion mewn mannau eraill.  Roedd costau darparu gwasanaethau statudol yn cynyddu o hyd ac er mwyn talu am y gwasanaethau hynny a chyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol, roedd yn rhaid i’r Cyngor wneud arbedion yn ei wasanaethau anstatudol er mwyn mantoli’r gyllideb.

·         Wrth i’r drafodaeth ddirwyn i ben, rhoddwyd cyfle i Brif Lofnodwr y rhybudd o alw i mewn a’r Aelod Arweiniol grynhoi eu safbwyntiau cyn i’r Pwyllgor benderfynu a ddylid cyfeirio’r mater yn ôl at y Cabinet neu beidio.

·         Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry bod y Pwyllgor yn cyfeirio’r penderfyniad yn  ol i’r Cabinet gan ofyn iddo ailystyried ei benderfyniad i gau cyfleusterau cyhoeddus oedd dan reolaeth Cyngor Sir Ddinbych ac yn hytrach, cynnal y gwasanaethau hynny drwy dalu’r costau gofynnol drwy gynnydd neilltuol o 0.27% yn sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2026/27.  Ni fyddai hynny’n costio mwy na £4.38 y flwyddyn ar gyfartaledd i aelwyd Band D. Mewn ymateb i’r cynnig hwnnw, mynegodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio (Swyddog Adran 151) ei phryderon ynglŷn â chynyddu Treth y Cyngor i ddatrys problem ag un gwasanaeth un unig, gan y gallai hynny osod cynsail i ymdrin â gwasgfeydd ar y gyllideb ar wahân yn hytrach nag ystyried y gyllideb yn ei chyfanrwydd.  Diolchodd y Cynghorydd Parry i’r swyddogion am eu cyngor, ond cynigiodd beidio â newid y geiriad serch hynny. 

 

Wedi ystyried yr holl safbwyntiau a’r atebion i’r cwestiynau a ofynnwyd, cytunodd aelodau’r Pwyllgor â’r holl bwyntiau a godwyd yn y Rhybudd o Alw i Mewn (Atodiad 1 i’r adroddiad).  Mynegodd y Pwyllgor ei bryderon ynglŷn â’r materion canlynol hefyd:

 

·           effaith cau toiledau cyhoeddus mewn mannau poblogaidd fel Dyserth, Rhuddlan a Llanelwy ar fywydau a lles pobl leol a chymunedau

·           effaith cau’r toiledau ar enw da’r Cyngor ymysg pobl leol, busnesau a budd-ddeiliaid eraill, gan gadw casgliadau’r Asesiad o’r Effaith ar Les mewn cof

·      effaith y penderfyniad ar staff y gwasanaeth toiledau cyhoeddus a’r aelodau hynny o staff a ddefnyddiai’r toiledau wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl leol a chymunedau

·      amlder yr ohebiaeth ag aelodau etholedig a budd-ddeiliaid eraill ynglŷn â newidiadau arfaethedig yn narpariaeth y gwasanaeth.

 

Wedi’r drafodaeth, pleidleisiodd y Pwyllgor ar yr argymhelliad a gynigiodd y Cynghorydd Parry a eiliwyd gan y Cynghorydd David Williams.  Pleidleisiodd mwyafrif o’r Pwyllgor o blaid cyfeirio’r mater yn ôl at y Cabinet gan ofyn iddo adolygu ei benderfyniad gwreiddiol a rhoi sylw wrth wneud hynny i’r rhesymau a nodwyd yn y Rhybudd o Alw i Mewn (Atodiad 1 i’r adroddiad) a’r pryderon uchod.  Wrth gyfeirio’r mater yn ôl i’w adolygu, gofynnai’r aelodau bod y Cabinet a’r swyddogion yn gwneud pob ymdrech i gyfathrebu â Chynghorau Dinas/Tref/Cymuned a’r holl fudd-ddeiliaid eraill drwy bob dull posib, er mwyn sicrhau mynediad i bawb ag urddas at gyfleusterau cyhoeddus o ansawdd da ledled y sir.  Hefyd, wrth gyfeirio’r penderfyniad yn ôl i’w adolygu am y rhesymau a nodwyd, cydnabu’r aelodau y cyfyd costau i’r Cyngor pe byddai’n cadw’r holl doiledau cyhoeddus presennol yn agored ac yn bodloni’r anghenion yn y dyfodol.  Felly:

 

Penderfynwyd: gofyn i’r Cabinet ailystyried ei benderfyniad i gau cyfleusterau cyhoeddus oedd dan reolaeth Cyngor Sir Ddinbych ac yn hytrach, cynnal y gwasanaethau hynny drwy dalu’r costau gofynnol drwy gynnydd neilltuol o 0.27% yn sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2026/27.  Ni fyddai hynny’n fwy na £4.38 y flwyddyn ar gyfartaledd i aelwyd Band D, a chredai’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau y byddai hynny’n fuddsoddiad teg a chymesur mewn diogelu iechyd, urddas a hygyrchedd i bobl leol ac ymwelwyr ledled y sir.

 

 

Dogfennau ategol: