Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHYBUDD O GYNNIG

Ystried Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Hugh Evans.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans gynnig a ddosbarthwyd ymlaen llaw fel a ganlyn:

 

‘Mae Cyngor Sir Ddinbych yn galw ar y Prif Weinidog a Changhellor y Trysorlys i ailystyried a gwrthdroi’r penderfyniad maent wedi’i wneud yn ddiweddar ar drothwy’r Dreth Etifeddiant yn gysylltiedig â’r diwydiant amaeth. Bydd hwn yn cael effaith niweidiol ar nifer o ffermwyr, eu teuluoedd a’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr ifainc’.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Evans adroddiad am yr effeithiau sylweddol posibl ar y diwydiant amaethyddol a ffermwyr, yn lleol ac yn genedlaethol, a'r economi ehangach o ganlyniad i'r trothwy treth etifeddiant, gan gynnwys:

 

·       Roedd angen i'r dreth fod yn deg a chael ei chysylltu'n well ag elw.

·       Nid oedd gwerth tir yn cyfateb i'r incwm a gynhyrchir ohono trwy ffermio a byddai llawer o ffermwyr yn ei chael yn anodd talu'r dreth o'r incwm a gynhyrchir ganddynt. Dim ond ar ôl gwerthu'r tir y sylweddolir gwerth y tir.

·       Mae’n bosibl y bydd angen i nifer o ffermwyr werthu eu tir a allai eu harwain allan o fusnes yn y pen draw.

·       Dangosodd ffigurau’r llywodraeth fod 1 o bob 25 o ffermydd wedi rhoi’r gorau i ffermio yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd amgylchiadau eraill. Fodd bynnag, ers datganiad y Canghellor, mae astudiaeth a gynhaliwyd gan CBI Economics gyda 4,000 o ffermwyr wedi canfod fod 50% o ffermydd teuluol wedi rhoi'r gorau i fuddsoddi yn eu ffermydd a bod 43% yn bwriadu rhoi'r gorau iddi erbyn 2026 er mwyn osgoi trethi cynyddol o ganlyniad i werth cynyddol y ffermydd.

·       Nid oedd Trysorlys y DU wedi cynnal asesiad o effaith y dreth ar ein hardaloedd gwledig.

·       Credai'r Trysorlys y byddai'r dreth yn effeithio ar tua 500 o ystadau mawr, ond amcangyfrifodd yr undebau amaethyddol a Chymdeithas Tir a Busnesau Gwledig y byddai'n effeithio ar rhwng 50% a 75% o ffermwyr.

·       Y lefel gymharol isel o incwm y byddai'r dreth yn ei gynhyrchu.

·       Ni fyddai'r dreth arfaethedig yn atal sefydliadau ariannol mawr rhag meddiannu tir fferm at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â ffermio h.y. nid at ddibenion amgylcheddol na chynhyrchu bwyd.

·       Byddai'r rhwymedigaethau y mae'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr yn eu hwynebu ac ymlediad defnyddio tir fferm at ddibenion eraill yn peryglu diogelwch bwyd.

·       Mae’r gymuned ffermio yng Nghymru yn chwarae rhan bwysig iawn yng ngoroesiad y Gymraeg. Gallai niweidio’r gymuned ffermio hefyd niweidio’r Gymraeg.

·       Nid oedd llawer o denantiaethau bellach yn cael eu hadnewyddu oherwydd ofnau tirfeddianwyr ynghylch y goblygiadau treth.

·       Cafodd y cynigion effaith andwyol ar ffermwyr oedrannus a phroblemau iechyd meddwl yn y gymuned ffermio.

·       I lawer o ffermwyr nid oedd unrhyw opsiynau realistig ar gyfer arallgyfeirio incwm fferm na chodi prisiau cynnyrch, gyda chig eidion a defaid yn brif gynhaliaeth i’r gymuned ffermio leol.

 

Yn absenoldeb yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Emrys Wynne, ymatebodd Arweinydd y Cyngor i'r cynnig. Nododd y Cynghorydd McLellan bod hwn yn fater lle gallai ymateb y Cynghorydd Wynne fod wedi bod yn wahanol i'w ymateb ef ei hun.

 

Roedd ymateb y Cynghorydd McLellan yn cynnwys y materion canlynol:

 

·       Byddai’n ddefnyddiol gwybod faint o ffermydd y byddai hyn yn effeithio arnynt yn Sir Ddinbych.

·       Roedd y dreth newydd yn cynnig trothwy llawer uwch na threth etifeddiant gyffredin ac roedd y taliadau'n llawer is hefyd.

·       Roedd y newidiadau'n cynnwys eithriadau priodasol, rhyddhad lleihau treth dros 7 mlynedd a'r gallu i'r rhai sy'n etifeddu dalu'r dreth dros gyfnod o ddeng mlynedd yn ddi-log.

·       Roedd diwygiadau'r Llywodraeth i ryddhad eiddo amaethyddol a busnes yn golygu y gallai un unigolyn â thir fferm drosglwyddo hyd at £1 miliwn a gallai dau unigolyn a oedd yn berchen ar fferm ar y cyd drosglwyddo hyd at £3 miliwn i ddisgynnydd uniongyrchol heb dalu unrhyw dreth etifeddiaeth.

·       Roedd y 7% uchaf o ystadau posibl yn cyfrif am 40% o gyfanswm gwerth y rhyddhad eiddo amaethyddol ac roedd hynny ar ei ben ei hun yn gyfanswm o £220 miliwn. Gofynnodd y Cynghorydd McLellan i'r aelodau ystyried y defnyddiau buddiol mewn gwasanaeth cyhoeddus y gellid defnyddio hyd yn oed symiau bach o'r symiau hynny ar eu cyfer.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Martyn Hogg at ddiffyg datganedig asesiad o effaith y newidiadau gan y llywodraeth, ac awgrymodd y gellid newid geiriad y cynnig o ailystyried a gwrthdroi’r dreth, i gynnal asesiad o effaith priodol yn seiliedig ar dystiolaeth cyn ailystyried.

 

Wrth gytuno â sylwadau’r Cynghorydd Hogg, pwysleisiodd y Cynghorydd Eryl Williams pa mor bwysig (mwy yng Nghymru nag yn Lloegr) yw ffermydd teuluol i ddiwydiant amaethyddol Cymru ac i gymunedau a busnesau lleol. Beirniadodd amddiffyniad yr Arweinydd o bolisi’r llywodraeth a’r ffordd y mae’r llywodraeth wedi ymdrin â’r mater a galwodd ar aelodau i gefnogi’r ardaloedd gwledig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod ystadegau o 2017 yn awgrymu y byddai 2,000 o ffermydd yn Sir Ddinbych yn cael eu heffeithio.

 

Tanlinellodd y Cynghorydd Delyth Jones bwysigrwydd ffermydd teuluol yng Nghymru i ardaloedd gwledig, diogelwch bwyd a'r Gymraeg a hunaniaeth Cymru. Adroddodd fod llawer o ffermydd wedi goroesi ar incwm isel er gwaethaf gwerthoedd uchel tir ac y dylai'r llywodraeth fod wedi cynnal asesiad priodol o'r effaith ar ffermydd teuluol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jones y dylid diwygio’r cynnig, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, fel a ganlyn:

 

Mae Cyngor Sir Dinbych yn galw ar y Prif Weinidog a Changhellor y Trysorlys i ailystyried ac ymrwymo i ymgynghoriad llawn â budd-ddeiliaid ar effaith y trothwy treth etifeddiant newydd ar y diwydiant amaethyddol yng Nghymru.

 

Mynegodd y Cynghorydd Merfyn Parry ei gefnogaeth i’r cynnig. Ychwanegodd y Cynghorydd Brian Jones ei gefnogaeth i'r cynnig a chanmolodd ymddygiad y ffermwyr ifanc yn y protestiadau diweddar.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Julie Matthews at y rhesymeg a'r eithriadau y tu ôl i'r newidiadau sef cael gwared ar y lloches dreth i filiwnyddion a biliwnyddion a oedd yn byw ar ffermydd bach heb dalu treth arnynt, a oedd yn effeithio ar yr incwm treth sydd ar gael i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus. Cytunodd y Cynghorydd Matthews y dylai’r newidiadau gael eu cefnogi gan asesiadau o effaith a chael eu llywio gan ddata.

 

Credai’r Cynghorydd McLellan fod nod y diwygiad yn adlewyrchu’r ymgynghoriad a oedd eisoes yn digwydd rhwng y llywodraeth a’r diwydiant amaethyddol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Brian Jones am bleidlais wedi’i chofnodi ar y diwygiad, a chytunwyd ar bleidlais wedi’i chofnodi yn briodol.

 

O blaid y diwygiad:

Y Cynghorwyr Chamberlain-Jones, Karen Edwards, Pauline Edwards, Ellis, Elson, Chris Evans, Hugh Evans, Justine Evans, Feeley, Hilditch-Roberts, Hogg, Hughes, Brian Jones, Delyth Jones, Keddie, Mendies, Parry, Price, Roberts, Sampson, Scott, Thomas, Tomlin, Eryl Williams, Huw Williams, ac Young.

 

Yn erbyn y diwygiad:

Y Cynghorwyr Chard, Clewett, Heaton, Holliday, James, King, Matthews, May, McLellan, Mellor, Sandilands a Cheryl Williams.

 

Ymatal:

Dim.

 

Cymeradwywyd y diwygiad felly.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Brian Jones am bleidlais wedi’i chofnodi ar y cynnig fel y’i diwygiwyd, a chytunwyd ar bleidlais wedi’i chofnodi yn briodol.

 

O blaid y cynnig diwygiedig:

Y Cynghorwyr Chamberlain-Jones, Karen Edwards, Pauline Edwards, Ellis, Elson, Chris Evans, Hugh Evans, Justine Evans, Feeley, Hilditch-Roberts, Hogg, Hughes, Brian Jones, Delyth Jones, Keddie, Mendies, Parry, Price, Roberts, Sampson, Scott, Thomas, Tomlin, Eryl Williams, Huw Williams, ac Young.

 

Yn erbyn y cynnig diwygiedig:

Y Cynghorwyr Chard, Clewett, Heaton, Holliday, James, King, Matthews, May, McLellan, Mellor, Sandilands a Cheryl Williams.

 

Ymatal:

Dim.

 

PENDERFYNWYD - Bod Cyngor Sir Ddinbych yn galw ar y Prif Weinidog a Changhellor y Trysorlys i ailystyried ac ymrwymo i ymgynghoriad llawn â budd-ddeiliaid ar effaith y trothwy treth etifeddiant newydd ar y diwydiant amaethyddol yng Nghymru.

 

 

Dogfennau ategol: