Eitem ar yr agenda
DATGANIAD POLISI TÂL 2025/26
Derbyn adroddiad gan yr arbenigwr Tâl a Thaliadau (copi ynghlwm), i geisio cymeradwyaeth i'r Datganiad Polisi Tâl am 2025/26 sydd ynghlwm.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Arweiniol
Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Julie Matthews,
adroddiad ar y Datganiad Polisi Tâl 2025 / 2026 (dosbarthwyd ymlaen llaw).
Dywedodd y Cynghorydd Matthews fod y Cyngor wedi ymrwymo
i dryloywder yn ei bolisi tâl ar gyfer graddfa pob aelod o staff. Roedd Deddf
Lleoliaeth 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi datganiadau
polisi tâl. Dywedwyd wrth yr aelodau bod yn rhaid i’r datganiadau egluro
polisi’r awdurdod dan sylw ynglŷn ag amryw faterion a wnelont â chyflogau
ei weithlu, yn enwedig felly ei staff uwch (neu “brif swyddogion”) a’i weithwyr
ar y cyflogau isaf. Mae’n rhaid i’r Cyngor gymeradwyo a chyhoeddi Datganiadau
Polisi Tâl bob blwyddyn.
Tynnodd y Cynghorydd Matthews sylw at bolisi tâl y Cyngor
ar gyfer cyfrannu at weithlu brwdfrydig iawn a dywedodd fod y datganiad polisi
tâl wedi'i argymell i'w fabwysiadu ym mis Ebrill 2025 gan Banel Tâl Uwch
Arweinyddiaeth y Cyngor, yr oedd hi wedi'i gadeirio. Nodau’r Datganiad Polisi
Tâl oedd darparu pecyn tâl cystadleuol a oedd yn galluogi’r Cyngor i ddenu,
cymell a chadw’r bobl ddawnus briodol sydd eu hangen i gynnal a gwella
perfformiad y Cyngor ac ymateb i heriau’r dyfodol. Roedd yn nodi dull cyson o
ymdrin â chyflogau, telerau ac amodau ar draws y Cyngor y mae staff a rheolwyr
yn eu deall ac yn eu cymhwyso i weithlu amrywiol a oedd yn adlewyrchu'r gymuned
yr oedd yn ei gwasanaethu mewn ffordd dryloyw a theg, gan gydymffurfio â’r
ddeddfwriaeth.
Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol –
Pobl (HCSSP) fod y polisi tâl blynyddol yn tueddu i aros yn weddol sefydlog o
un flwyddyn i'r llall ac mai ychydig iawn o newidiadau a wnaed i ddogfen
eleni.
Tynnodd y HCSSP sylw’r aelodau at baragraff 1.3 yn y
polisi tâl, a oedd yn rhoi crynodeb o’r heriau ariannol arwyddocaol a wynebir
gan bob cyngor yn y DU yn y tymor canolig. O ganlyniad i gostau cynyddol
darparu gwasanaethau a chynnydd yng nghymhlethdod gwasanaethau statudol sy'n
cael eu harwain gan y galw, mae cyllideb y Cyngor wedi cynyddu o flwyddyn i
flwyddyn.
Amlinellodd yr HCSSP y newidiadau:
·
Roedd y datganiad wedi'i ddiweddaru gyda dyfarniad
cyflog 2024 – 2025 ar gyfer yr holl staff.
·
Nid oedd y datganiad yn cynnwys y dyfarniad cyflog
ar gyfer 2025 – 2026 gan nad oedd hwnnw wedi’i gytuno arno eto. Byddai'r polisi
tâl yn cael ei ddiweddaru ar ôl cytuno ar y dyfarniad cyflog a gytunwyd yn
genedlaethol.
·
Agwedd bwysig ar y polisi tâl oedd y perthynoledd cyflogau
o fewn y Cyngor, lle'r oedd cyflog y Prif Weithredwr 6.4 gwaith cyflog
gweithiwr Cyngor ar y cyflog isaf a chyflog cyfartalog prif swyddogion yn 4.4
gwaith cyflog gweithiwr ar y cyflog isaf.
·
Roedd cyflog y Prif Weithredwr 5 gwaith cyflog
cyfartalog holl weithwyr y Cyngor ac roedd cyflog cyfartalog prif swyddogion
3.4 gwaith cyflog cyfartalog holl weithwyr y Cyngor.
·
Roedd gofyniad na allai unrhyw reolwr sector
cyhoeddus ennill mwy nag 20 gwaith cyflog gweithiwr ar y cyflog isaf yn y
sefydliad, felly roedd ffigurau Sir Ddinbych ymhell o fewn y terfyn hwnnw.
·
Roedd copi llawn o'r polisi ac Asesiad o Effaith ar
Les wedi'u cynnwys yn y ddogfennaeth ar gyfer adroddiad heddiw.
Mewn ymateb i ymholiadau gan y Cynghorydd Martyn Hogg,
eglurodd y HCSSP y dylai'r cyfeiriad at 'gyfartaledd canolrifol' ym mharagraff
7.3 o'r datganiad fod yn 'gyflog cyfartalog' ac y byddai'r ddogfen yn cael ei
diweddaru. O ran sut roedd y perthnasoledd cyflogau yn cymharu â chynghorau
eraill, adroddodd yr Aelod Arweiniol fod data o gynghorau eraill wedi'i
ystyried, ac er nad oedd y data ganddi wrth law, o’i chof roedd y Cyngor mewn
safle boddhaol yng nghanol yr ystod.
PENDERFYNWYD bod y Cyngor Llawn yn derbyn yr argymhelliad
gan y Panel Tâl Uwch Arweinyddiaeth ac yn cymeradwyo'r Polisi Tâl ar gyfer
2025/26 (copi yn Atodiad A) ac yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad B) fel rhan o'i ystyriaeth.
Dogfennau ategol:
-
Full Council Report - Pay Policy 2025-26, Eitem 8.
PDF 245 KB
-
Appendix A - Pay Policy 2025-2026, Eitem 8.
PDF 520 KB
-
Binder1, Eitem 8.
PDF 567 KB
-
Appendix B - WIA Pay Policy 25-26, Eitem 8.
PDF 94 KB