Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

COFNODION

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2025 (copi i ddilyn) a chyfarfod Arbennig y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2025 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2025 a chyfarfod arbennig y Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2025.

 

Materion yn codi:  Cyfarfod Arbennig y Cyngor - 26 Mawrth 2025

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mendies at awgrym yr oedd wedi’i wneud yn y cyfarfod arbennig y gallai fod wedi bod yn ddoeth i’r cyngor sir fenthyca’r cyllid ar gyfer cynllun busnes arfaethedig Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig (HSDd), ac awgrymodd gwpl o gwmnïau ariannol neu fasnachol posibl fel Shawbrook a Bluestone. Dywedodd y Cynghorydd Mendies fod ymateb a wnaed gan Reolwr Gyfarwyddwr HSDd yn ystod y cyfarfod, sef bod Bluestone yn gwmni prydlesu, yn anghywir, a bod Bluestone mewn gwirionedd yn gwmni masnachol. Nododd y Cynghorydd Mendies nad oedd y drafodaeth hon wedi’i chynnwys yn y cofnodion.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd y cofnodion yn gofnod gair am air o'r trafodion ond y gellid nodi'r pwyntiau hyn pe bai'r aelodau yn dymuno i’r cofnodion gyfeirio atynt.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ei fod o’r farn nad oedd y cofnodion yn adlewyrchu’n ddigonol ochrau cadarnhaol y ddadl, megis y trefniadau ar gyfer cyfranddalwyr lle byddai cyfranddaliadau’n aros gyda’r cwmni pe bai cyfranddaliwr yn gadael y cwmni. Dywedodd nad gwerthu HSDd oedd y penderfyniad a wnaed ac yn hytrach ei fod yn benderfyniad ‘mewn egwyddor’, a theimlai ei bod yn bwysig nodi hynny yn y cofnodion er gwybodaeth i’r cyhoedd oherwydd bod y drafodaeth ei hun wedi digwydd yn Rhan 2 (sesiwn gaeedig). Cyfeiriodd hefyd at y gefnogaeth a roddodd yr Arweinydd (yn amodol ar drafodaethau undebau llafur), y tîm uwch arweinyddiaeth a mwyafrif yr aelodau i’r cynigion, ond condemniodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts rannu gwybodaeth gyfrinachol yn y cyfryngau a dywedodd fod hynny wedi arwain at golli ymddiriedaeth yn y Cynghorwyr a niweidio enw da'r Cyngor. Ychwanegodd y byddai'n fuddiol nodi bod y Cyngor wedi arfer rheoli contractau drwy gytundebau lefel gwasanaeth gan fod hyn wedi bod yn rhan o'r ddadl.

 

Nododd y Swyddog Monitro y pwyntiau a wnaed a dywedodd fod y drafodaeth wedi bod yn un anodd ei chofnodi oherwydd ei bod yn cwmpasu trafodaeth Rhan 2, felly'r nod oedd bod mor dryloyw â phosibl i'r cyhoedd, heb ddatgelu gwybodaeth eithriedig. Bu’n rhaid darparu cofnod mwy llawn nag oedd yn arferol ar gyfer trafodaeth Rhan 2 er mwyn cyflawni'r cydbwysedd hwn.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd McLellan, at ei ymholiad ynghylch y rheswm pam roedd aelod o staff, a oedd hefyd yn gynrychiolydd undeb llafur Unsain, wedi teimlo'r angen i adael yr ystafell gyfarfod unwaith y symudodd y cyfarfod i Ran 2. Teimlai’r Arweinydd y dylai’r drafodaeth a’r ffaith y byddai’n well ganddo petai’r aelod staff wedi aros yn y cyfarfod, fod wedi’u nodi gan eu bod yn gysylltiedig â’r pwyntiau a wnaeth am bwysigrwydd telerau ac amodau staff ac ymgysylltu â’r undebau llafur.

 

Wrth ymateb i ymholiadau gan y Cynghorydd Merfyn Parry, eglurodd y Swyddog Monitro, hyd yn oed yn ystod trafodaeth Rhan 2, y dylai'r Cyngor fod mor dryloyw â phosibl ynghylch y trafodion heb ddatgelu gwybodaeth eithriedig. O ran pleidlais wedi’i chofnodi, nid oedd y ffordd y pleidleisiodd yr aelodau yn wybodaeth eithriedig felly pe bai aelodau'n penderfynu cael pleidlais wedi’i chofnodi yn ystod eitem Rhan 2, byddai'n rhaid cofnodi'r ffordd y pleidleisiodd pob aelod yn y cofnodion. O ran datgelu gwybodaeth i'r cyhoedd ar ôl y cyfarfod, roedd y Swyddog Monitro o'r farn nad oedd o gymorth i wybodaeth a rennir fel un gyfrinachol gael ei rhyddhau heb awdurdod priodol gan y gallai hyn fod yn niweidiol i’r ffordd y mae’r Cyngor yn gweithio. Eglurwyd na fyddai popeth mewn trafodaeth Rhan 2 yn gyfrinachol, ac efallai na fydd gwybodaeth sy’n gyfrinachol heddiw yn gyfrinachol yn y dyfodol, felly roedd yn bwysig bod pobl yn gwirio cyn rhyddhau gwybodaeth a rennir o dan Ran 2.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts am farn y Swyddog Monitro o ran p’un a oedd gwybodaeth gyfrinachol wedi'i rhyddhau ar ôl y cyfarfod. Dywedodd y Swyddog Monitro, mewn o leiaf un achos, fod gwybodaeth a adroddwyd yn y wasg ac a briodolwyd i ffynhonnell anhysbys, yn mynd yn groes i reolau cyfrinachedd y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2025, ac yn amodol ar y sylwadau uchod, y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2025, fel cofnodion cywir.

 

 

Dogfennau ategol: