Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS I AMRYWIO TRWYDDED EIDDO – BAR VIBEZ, 5 OAK MEWS, HEOL Y DDERWEN, LLANGOLLEN

Ystyried cais i amrywio Trwydded Eiddo, yn unol ag Adran 34 o Ddeddf Trwyddedu 2003, ar gyfer Bar VibeZ, 5 Oak Mews, Heol y Dderwen, Llangollen (mae amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

 

Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais i Amrywio Trwydded Eiddo yn amodol ar nifer o addasiadau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol (Trwyddedu) adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol -

 

(i)         cais wedi dod i law oddi wrth Mr. Joe Ainsworth i amrywio Trwydded Eiddo bresennol yn gysylltiedig â Bar VibeZ, 5 Oak Mews, Heol y Dderwen, Llangollen, i ddechrau darparu cerddoriaeth fyw (y tu mewn yn unig), a lluniaeth hwyr yn y nos (y tu mewn a thu allan), ynghyd ag ymestyn yr oriau trwyddedadwy ar gyfer chwarae cerddoriaeth wedi'i recordio (y tu mewn yn unig) ac i ymestyn yr oriau y ceir gwerthu alcohol i’w yfed ar y safle presennol ac oddi arno (Atodiad A  yr adroddiad) fel a ganlyn –

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDADWY

DIWRNODAU PERTHNASOL

O

TAN

Cyflenwi alcohol (i’w yfed ar y safle ac oddi arno)

Dydd Sul – Dydd Mercher

Dydd Iau – Dydd Sadwrn / Dydd Sul am

08:00

08:00

 

00:00

02:00

Darparu Cerddoriaeth Fyw (y tu mewn)

Dydd Llun – Dydd Sul

23:00

 

00:00

 

Chwarae Cerddoriaeth wedi’i Recordio (y tu mewn)

Dydd Sul – Dydd Mercher

Dydd Iau – Dydd Sadwrn / Dydd Sul am

23:00

23:00

00:00

02:00

Lluniaeth Hwyr yn y Nos (y tu mewn a thu allan)

Dydd Sul – Dydd Mercher

Dydd Iau – Dydd Sadwrn / Dydd Sul am

23:00

23:00

 

00:00

02:00

Gwerthu Alcohol (i’w yfed ar y safle ac oddi arno)

Dydd Sul – Dydd Mercher

Dydd Iau – Dydd Sadwrn / Dydd Sul am

08:00

08:00

00:00

02:00

Oriau y mae’r eiddo ar agor i’r cyhoedd

Dydd Sul – Dydd Mercher

Dydd Iau – Dydd Sadwrn / Dydd Sul am

08:00

08:00

00:00

02:00

 

(ii)       mae’r Ymgeisydd hefyd yn dymuno newid amod presennol ar ei drwydded o ‘Bydd cerddoriaeth wedi’i recordio yn cael ei chadw i lefel sŵn cefndirol’ i nodi ‘Pan fydd cerddoriaeth yn cael ei pherfformio ar ôl 21:00, gwneir gwiriadau rheolaidd y tu allan i’r eiddo bob awr o leiaf i geisio sicrhau nad yw’r sŵn yn achosi niwsans cyhoeddus’;

 

(iii)      y Drwydded Eiddo bresennol (Atodiad B yr adroddiad);

 

(iv)      roedd Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor wedi cyflwyno sylwadau, yn rhoi gwybod am gwynion blaenorol yn ymwneud â sŵn yn dod o’r eiddo ac ar yr adeg honno yr oedd Deiliad y Drwydded yn gallu rheoli’r niwsans sŵn posibl yn ddigonol heb gymryd unrhyw gamau ychwanegol. Fodd bynnag, nodwyd y byddai Iechyd yr Amgylchedd fel arfer yn argymell ychwanegu amodau penodol at drwydded sy’n gofyn am gael chwarae cerddoriaeth wedi’i recordio tan 02:00, ond ar adeg eu hymateb, roedden nhw’n credu na fyddai modd i’r amodau hyn gael eu gweithredu’n hawdd ac yn effeithiol yn yr eiddo (Atodiad C yr adroddiad);

 

(v)       nid yw Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud unrhyw wrthwynebiad i’r cais;

 

(vi)      mae tri o sylwadau ysgrifenedig wedi'u derbyn gan Unigolion Eraill mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus angenrheidiol yn ymwneud yn bennaf â tharfu posibl yn sgil sŵn, ymddygiad gwrthgymdeithasol, trosedd ac anrhefn a diogelwch y cyhoedd (Atodiad D yr adroddiad);

 

(vii)    mae’r ymgeisydd wedi cyflwyno ymateb ysgrifenedig i’r tri Unigolyn Arall a gyflwynodd sylwadau yn y gobaith o fynd i’r afael â rhai o’r pryderon a godwyd (Atodiad E yr adroddiad).

 

(viii)   mae rhagor o ohebiaeth wedi dod i law gan y tri Unigolyn Arall (Atodiad F yr adroddiad) a'r Ymgeisydd (Atodiad G yr adroddiad);

 

(ix)      cynigiwyd proses gyfryngu i bob parti yn sgil y sylwadau a gafwyd, ond ni fu modd dod i unrhyw gytundeb ffurfiol.  Yn rhan o’r broses gyfryngu, cynigodd yr Ymgeisydd i ddod â cherddoriaeth i ben am 23:00, yn unol â dadreoleiddio Deddf Trwyddedu 2003, nid oedd angen caniatâd trwyddedu ar gyfer: perfformio cerddoriaeth fyw heb ei chwyddo rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar unrhyw eiddo, neu berfformio cerddoriaeth fyw wedi ei chwyddo rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod ar eiddo a awdurdodwyd i werthu alcohol i’w yfed ar yr eiddo hynny, ar yr amod nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa.   Felly, nid oedd angen cerddoriaeth fyw ar y cais hwn mwyach;

 

(x)       yr angen i ystyried y cais gan ystyried Canllaw a Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a gafwyd, a’r

 

(xi)      dewisiadau sydd ar gael i’r Is-bwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Gwnaeth y Swyddog Arweiniol (Trwyddedu) grynhoi’r adroddiad a ffeithiau’r achos.  Gwnaeth hi hefyd atgoffa’r aelodau mai pwrpas y gwrandawiad oedd ystyried y cais i amrywio'r drwydded eiddo yn unig ac nid materion eraill.

 

CAIS YR YMGEISYDD

 

Roedd yr Ymgeisydd, Mr. Joe Ainsworth yn bresennol i gefnogi'r cais ac yn dibynnu ar ei sylwadau ysgrifenedig yr oedd wedi'u cynnwys ym mhecyn y rhaglen lle'r oedd wedi ymateb i'r pwyntiau a godwyd gan unigolion a oedd yn gwrthwynebu'r cais.

 

Gofynnodd Mr. Ainsworth am ganiatâd i gyflwyno deiseb i ddangos cefnogaeth i'r eiddo.  Darllenodd y Swyddog Arweiniol (Trwyddedu) sylwedd y ddeiseb yn gofyn am gefnogaeth ar gyfer oriau agor hwyrach ar gyfer bar a thynnu sylw at y manteision i dwristiaeth a phobl leol a oedd wedi denu 72 o lofnodwyr.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Cyfreithiol mai’r Cadeirydd fyddai’n ystyried perthnasedd y ddeiseb hwyr ac a ddylid ei derbyn.  Penderfynodd y Cadeirydd dderbyn y ddeiseb, ac, yn yr achos hwnnw, dywedodd y Cynghorydd Cyfreithiol mai mater i'r Is-bwyllgor oedd ystyried faint o sylw i'w roi iddi yn ystod eu trafodaethau. 

 

SYLWADAU GAN AWDURDODAU CYFRIFOL

 

Cyfeiriodd yr Uwch Swyddog Technegol (Adran Iechyd yr Amgylchedd) at ei sylwadau ysgrifenedig (Atodiad C yr adroddiad) yn cadarnhau nad oedd ganddo ddim byd arall i'w ychwanegu.

 

Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu codi gan aelodau i’r Ymgeisydd na'r Awdurdod Cyfrifol ar y cam hwn.

 

SYLWADAU GAN UNIGOLION ERAILL

 

Mae tri o sylwadau ysgrifenedig wedi'u derbyn (Atodiad D ac F yr adroddiad) gan Unigolion Eraill yn ymwneud yn bennaf â tharfu yn sgil sŵn, ymddygiad gwrthgymdeithasol, trosedd ac anrhefn a diogelwch y cyhoedd.

 

Roedd dau o'r rhai a gyflwynodd sylwadau yn bresennol - Mr Michael Adams a Mr Paul Smith.

 

Cyfeiriodd Mr. Adams at adroddiad Swyddog Iechyd yr Amgylchedd a oedd yn nodi amodau y bydden nhw fel arfer yn gofyn amdanynt nad oedd yn ymarferol yn y lleoliad, a dadleuodd os nad oedd yn ymarferol, nad oedd y lleoliad yn addas.  Holodd hefyd a oedd cyflwyno gwybodaeth newydd ar ddiwrnod y gwrandawiad nad oedd wedi'i rhannu â'r partïon i gyd yn gywir yn weithdrefnol.  Er ei fod yn derbyn y byddai'r wybodaeth yn cael ei hystyried, gofynnodd i'r codau post yn y ddeiseb gael eu dilysu i sicrhau y byddai'r bar yn effeithio'n uniongyrchol arnynt.  Pwysleisiodd hefyd ei fod yn ymwybodol iawn o sefyllfa a gofynion twristiaeth Llangollen.

 

Siaradodd Mr Smith ar ran ei hun a'i wraig a oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y cyd.  Gwnaeth ailddatgan eu gwrthwynebiad i’r newidiadau arfaethedig i’r drwydded a sail eu gwrthwynebiadau, gan godi’r pwyntiau canlynol –

 

·       byddai caniatáu ymestyn yr oriau agor yn cynyddu’r tarfu ac yn parhau i gael effaith negyddol ar ansawdd eu bywyd

·       gellir clywed sŵn cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi'i recordio yn glir y tu mewn i'w heiddo ac yr oedd hyn yn parhau i gael effaith niweidiol ar eu lles

·       nid oedd adroddiad Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn adlewyrchu’r adborth yn dilyn ymchwiliad i’w cŵyn yn ymwneud â sŵn; pan nodwyd na fyddai unrhyw gamau ychwanegol yn cael eu cymryd, y casgliad oedd y byddai'r ymchwiliad yn cael ei ohirio yn hytrach na’i gwblhau

·       ni chawsant wybod am welliannau i'r drws a symud y seinyddion yn Bar VibeZ, ac er eu bod nhw wedi gwella ychydig ar y sefyllfa, roedden nhw’n dadlau â’r ffaith bod y niwsans sŵn wedi'i reoli'n llwyddiannus

·       roedden nhw wedi dechrau cyflwyno recordiadau sain newydd yn ddiweddar i gael eu harchwilio wrth i’r lleoliad brysuro yn sgil tymor twristiaeth a thywydd braf

·       roedden nhw o’r farn nad oedd yr amod trwydded presennol sef y dylid cadw cerddoriaeth wedi’i recordio i lefel sŵn cefndirol yn cael ei lynu ato oherwydd bod modd ei glywed o’u tŷ

·       pe na bai'r eiddo'n gallu gweithredu'r amodau trwyddedu disgwyliedig, y cam cywir fyddai gwrthod y cais yn hytrach na chael gwared ar yr amodau

·       er gwaethaf y gwelliannau a wnaed i’r drws, roedd y ffaith bod pobl yn mynd i mewn ac allan ohono wedi effeithio ar ei effeithiolrwydd ac roedd gwahaniaeth sylweddol o ran y sŵn pan fyddai’r drws ar agor

·       roedd pobl yn yfed ac yn ymgynnull y tu allan i'r eiddo ac unigolion yn mwynhau eu hunain yn gadael yr eiddo yn cynyddu lefel y sŵn a’r tarfu a byddai'n cael ei ymestyn i 02.00

·       roedd yr ardal y tu allan yn bryder wrth i wydrau/poteli gael eu gadael ar ôl, a byrddau a chadeiriau y tu allan yn llenwi wrth i gwsmeriaid ymgynnull, nad oedd yn gadael fawr o le i gerddwyr

·       er ei fod, i ddechrau, yn barod i gyfryngu, roedd ymateb yr Ymgeisydd i’r gwrthwynebiad yn golygu nad oedd ganddo hyder yn ei allu i gyfryngu’n ddidwyll

·       nid oedd y rhan fwyaf o safleoedd eraill wedi tarfu arnynt gan nad oedden nhw mor agos; roedd modd clywed cerddoriaeth fyw o far penodol ond dim ond ychydig o weithiau’r flwyddyn yr oedden nhw'n eu cynnal. Roedd Bar VibeZ eisiau darparu cerddoriaeth fyw bron bob penwythnos ac yn ystod yr wythnos

·       roedd y sefyllfa bresennol yn cael effaith niweidiol ar ansawdd eu bywyd; petai'r newidiadau i'r drwydded yn cael eu cymeradwyo, byddai'r effaith yn cynyddu'n sylweddol.

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i’r Ymgeisydd ac atebodd fel a ganlyn -

 

·       o ran sylwadau Swyddog Iechyd yr Amgylchedd a’r anhawster i weithredu amodau penodol, cadarnhaodd fod telerau ei brydles yn gwahardd gwaith adeiladu fel gosod ffenestri gwydr dwbl [roedd yr eiddo wedi’i leoli mewn ardal gadwraeth].  Ychwanegodd fod popeth wedi'i wneud i leihau sŵn a tharfu a gofynnwyd i'r staff helpu i wasgaru cwsmeriaid o’r tu allan i'r eiddo pan fydd amser cau mewn modd tawel a hynny’n brydlon.

·       cadarnhaodd bod elfen Lluniaeth Hwyr yn y Nos y cais ar gyfer diodydd poeth yn unig ac nid ar gyfer bwyd poeth. Nid oedd hyn wedi’i ganiatáu dan y brydles

·       roedd wedi cynnig dod â’r gerddoriaeth fyw i ben am 23.00 ac felly nid oedd angen caniatâd trwyddedu o ran hynny; mewn gwirionedd roedd cerddoriaeth fyw yn dechrau am 20.30 ac yn gorffen am 22.30 a doedd dim bwriad i unrhyw gerddoriaeth fyw barhau ar ôl 22.30.

 

Cyfeiriwyd hefyd at y broses gyfryngu nad oedd wedi bod yn llwyddiannus yn yr achos hwn ac ni chafodd cytundeb ei wneud rhwng y partïon ynghylch ffordd ymlaen.

 

Eglurodd yr Uwch Swyddog Technegol (Adran Iechyd yr Amgylchedd) faterion mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau.  O ran y system drws cyntedd/ffenestri gwydr dwbl y byddai Iechyd yr Amgylchedd fel arfer yn eu hargymell, esboniwyd y byddai fel arfer yn hoffi gweld amodau o'r fath.  Fodd bynnag, wrth ystyried y fframwaith cyfreithiol ar gyfer erlyniad, mesurau rhesymol yn unig y gallai’r awdurdod lleol ofyn iddynt gael eu cymryd, a byddai gan yr Ymgeisydd neu unrhyw ddiffynnydd amddiffyniad ar gael iddyn nhw a elwir yn ‘fodd ymarferol gorau heb achosi gwariant sylweddol’ a fu’n ystyriaeth wrth lunio eu hymateb i’r cais.  Roedd hefyd o'r farn efallai na fyddai cyfraith Cynllunio yn caniatáu gosod gwydr dwbl ac er y gallai system drws cyntedd ar y tu mewn fod yn ymarferol yn dibynnu ar y cynllun, ar sail y wybodaeth yr oedd yn ei wybod yn unig y gallai wneud argymhellion.   Gan roi sylw i amodau eraill, dywedwyd wrth yr aelodau y gallai'r ffenestri gael eu gorchuddio â rhyw fath o lenni acwstig/gwrthsain ac fel y crybwyllwyd yn flaenorol, system drws cyntedd ar y tu mewn yn dibynnu ar sut y mae tu mewn i’r eiddo wedi’i osod.  Cadarnhawyd hefyd nad oedd yn ofynnol i dîm Gwarchod y Cyhoedd ymweld â'r safle.

 

DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD

 

Yn ei ddatganiad terfynol, esboniodd yr Ymgeisydd mai ychydig iawn o seddi oedd y tu allan i'r eiddo gyda'r nos i'w defnyddio gan nifer o gwsmeriaid anabl a oedd yn ysmygu. Ychwanegodd nad oedd yn ymwybodol o'r posibilrwydd o gael llenni acwstig ac y byddai'n ymchwilio i ymarferoldeb y rhai y gellir eu caniatáu dan delerau ei brydles.

 

Gyda chaniatâd y Cadeirydd, gwnaeth Mr. Adams annerch yr aelodau.  Pwysleisiodd fod y cyfryngu wedi methu ond pe bai'r Is-bwyllgor o blaid caniatáu'r cais, dylai gynnwys amodau ychwanegol sef gwneud gosod system drws cyntedd a llenni gwrthsain yn ofynnol i ddiogelu ansawdd bywyd a natur yr ardal.  Mewn ymateb i’r cwestiwn terfynol cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Technegol gŵyn sŵn flaenorol y cyfeiriwyd ati yn ei sylwadau ysgrifenedig ac yr oedd cwyn ddiweddar a oedd yn cael ei hymchwilio ar hyn o bryd hefyd.

 

GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS

 

Ar y pwynt hwn (3.00pm), daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben i bawb arall, ac aeth yr Is-Bwyllgor Trwyddedu ati i ystyried y cais mewn sesiwn breifat.

 

PENDERFYNIAD A’R RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais i Amrywio’r Drwydded Eiddo gyda’r amodau canlynol -

 

·       ‘Pan fydd gweithgareddau trwyddedadwy yn digwydd ar ôl 21.00, bydd gwiriadau sain yn cael eu cynnal y tu allan i’r lleoliad bob awr o leiaf gan ddechrau am 22.00 ar yr hwyraf i sicrhau nad oes unrhyw sŵn sy’n dod o’r eiddo yn achosi niwsans cyhoeddus’.  Mae’r amod hwn yn disodli’r amod presennol sef ‘Bydd cerddoriaeth wedi’i recordio yn cael ei gadw i lefel sŵn cefndirol’

·       mae’n rhaid i'r Ymgeisydd ymchwilio i ddichonoldeb gosod system drws cyntedd yn yr eiddo ar bob prif allanfa/allanfeydd ysmygu y tu mewn i'r lleoliad.  Mae’n rhaid i’r Ymgeisydd sicrhau bod ei ganfyddiadau ar gael i’r Awdurdod Trwyddedu ac os yw’n ystyried ei bod yn ymarferol ac yn gost-effeithiol gosod system drws cyntedd y tu mewn i’r lleoliad, mae’n rhaid iddo wneud hynny.

·       mae’n rhaid i'r Ymgeisydd ymchwilio i ddichonoldeb gosod llenni gwrthsain yn yr eiddo.  Mae’n rhaid i’r Ymgeisydd sicrhau bod ei ganfyddiadau ar gael i’r Awdurdod Trwyddedu ac os yw’n ystyried ei bod yn ymarferol ac yn gost-effeithiol gosod llenni gwrthsain yn yr eiddo, mae’n rhaid iddo wneud hynny.

·       gwrthod y rhan o'r cais a oedd yn gofyn am ddarparu cerddoriaeth fyw o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 23.00 a 00.00.

 

Gwnaeth yr Ymgynghorydd Cyfreithiol rannu penderfyniad yr Is-bwyllgor â phob parti a oedd yn bresennol a nododd yr amodau a osodwyd, gan ychwanegu y byddai’r penderfyniad llawn a’r rhesymau manwl, ynghyd â’r hawl i apelio, yn cael eu cyhoeddi’n ysgrifenedig.

 

Dyma’r rhesymau’r dros y penderfyniad –

 

Ar ôl ystyried y sylwadau, canfu’r Is-bwyllgor fod yr Amcan Trwyddedu ‘atal niwsans cyhoeddus’ yn cael ei ddefnyddio yn y cais.

 

Er bod yr Is-bwyllgor yn credu bod yr amcan trwyddedu ‘atal niwsans cyhoeddus’ yn berthnasol, roedden nhw o’r farn y gellid lliniaru’r risg o niwsans cyhoeddus a oedd yn deillio o niwsans sŵn gyda’r amodau ychwanegol y manylwyd arnynt uchod a thrwy wrthod y rhan o’r cais a oedd yn gofyn am gael darparu cerddoriaeth fyw o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 23:00 a 00.00.

 

Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn ei bod yn briodol caniatáu’r newid y gofynnwyd amdano i’r amod presennol: ‘Bydd cerddoriaeth wedi’i recordio yn cael ei gadw i lefel sŵn cefndirol’ oherwydd nad oedd modd gorfodi hyn mwyach o ganlyniad i ddadreoleiddio.

 

Er bod yr Is-bwyllgor yn disgwyl i'r Ymgeisydd fonitro sŵn sy'n dod o'r eiddo i sicrhau nad oedd yn achosi niwsans cyhoeddus fel mater o arfer da, roedd yr Is-bwyllgor yn dal i ystyried ei bod yn gymesur o ran hyrwyddo'r Amcanion Trwyddedu bod yr amod hwn yn cael ei ychwanegu gan fod yr Ymgeisydd wedi ei gynnig yn wreiddiol ac yr oedd yr oriau a gynigiwyd ar gyfer cynnal y gwiriadau sain pan fyddai trigolion lleol yn ystyried bod sŵn uchel yn dod o'r eiddo yn niwsans cyhoeddus.

 

Gwnaeth yr Is-bwyllgor ganiatáu yr amrywiad o ran newid oriau gweithgareddau trwyddedadwy i 08.00 gan nad oedd yn ymddangos bod yr agwedd hon o'r cais yn peri pryder i drigolion lleol ac felly eu bod nhw’n fodlon y gellid cynnal yr amcanion trwyddedu.

 

Er bod yr Is-bwyllgor wedi caniatáu i’r Ymgeisydd ddibynnu ar y ddeiseb er iddi gael ei chyflwyno’n hwyr, ni roddwyd pwysau ar hyn gan na chafodd ei darparu yn ystod y broses ymgynghori statudol.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor bwyslais ar sylwadau a chyflwyniadau llafar Swyddog Iechyd yr Amgylchedd o ystyried ei brofiad yn hynny o beth.  Felly, roedd yr Is-bwyllgor o'r farn ei bod yn briodol cyfarwyddo bod yr Ymgeisydd yn ymchwilio i ddichonoldeb a chost-effeithiolrwydd y mesurau lliniaru sŵn a awgrymwyd o ystyried y gofynnir am fesurau o'r fath fel arfer ar gyfer ceisiadau sy'n gofyn am weithgarwch rheoledig tan 02.00.

 

Roedd yr Is-bwyllgor o'r farn y byddai'n anghymesur ei gwneud yn ofynnol i'r Ymgeisydd gymryd mesurau nad oeddent yn ymarferol am resymau fel nad ydyn nhw’n cael eu caniatáu dan y Gyfraith Gynllunio neu fesurau a oedd yn rhy gostus, a nododd y gellid codi amgylchiadau o'r fath wrth amddiffyn camau gorfodi, fel erlyniad.  Fodd bynnag, pe bai mesurau o’r fath yn ymarferol ac yn gost-effeithiol, roedd yr Is-bwyllgor o’r farn ei bod yn briodol rhoi’r rhain ar waith i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu o ystyried cyflwyniadau Swyddog Iechyd yr Amgylchedd.

 

Gwrthododd yr Is-bwyllgor ran o'r cais a oedd yn gofyn am gael darparu cerddoriaeth fyw o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 23.00 a 00.00 gan fod yr Ymgeisydd wedi gofyn am ddiwygio ei gais drwy dynnu'r rhan hon yn ôl.

 

Caniataodd yr Is-bwyllgor y rhan o’r cais yn gofyn am luniaeth hwyr yn y nos gan nad oedd yn ymddangos bod unrhyw wrthwynebiad i’r agwedd hon ac yr oedd yr Is-bwyllgor o’r farn na fyddai’r defnydd arfaethedig ohono, sef gwerthu diodydd poeth, yn torri’r amcanion trwyddedu.

 

Gwnaeth yr Is-bwyllgor ystyried y sylwadau a oedd yn gwrthwynebu caniatáu'r cais yn ofalus.  Nododd yr Is-bwyllgor fod cwynion wedi'u gwneud yn erbyn y safle yn y gorffennol. Nododd hefyd nad oedd unrhyw gamau ffurfiol wedi'u cymryd yn gysylltiedig â'r rhain.  Felly, roedd yr Is-bwyllgor o'r farn y byddai gwrthod y cais yn llwyr wedi bod yn anghymesur ar sail cryfder y dystiolaeth.

 

Roedd yr Is-bwyllgor o'r farn y byddai'r Ymgeisydd yn cymryd camau i sicrhau nad oedd y sŵn sy'n dod o'i eiddo yn achosi niwsans cyhoeddus.

 

Dan yr amgylchiadau hyn, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon y byddai’r amcanion trwyddedu, yn enwedig ‘atal niwsans cyhoeddus’, yn cael eu cefnogi wrth gymeradwyo’r cais fel y disgrifir uchod.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.30pm.

 

 

Dogfennau ategol: