Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PONT LLANNERCH

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  yr Economi a’r Amgylchedd, y Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd a’r Gwasanaethau Amgylcheddol, a’r Rheolwr Risg ac Asedau y Cyngor (copi yn atodedig) sy’n ceisio adborth y Pwyllgor i gynorthwyo llywio’r camau nesaf mewn perthynas â’r prosiect i adnewyddu Pont Llannerch.

 

11am – 12pm

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant ynghyd â Chyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi, Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, y Rheolwr Risg ac Asedau a’r Uwch Beiriannydd - Pontydd ac Adeiladu adroddiad i’r Pwyllgor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar brosiect Pont Llannerch.

 

O ganlyniad i’r cymhlethdodau’n ymwneud â’r pwnc penodol hwn, fe arweiniodd y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol aelodau drwy gynnwys yr adroddiad.  Hefyd croesawodd Bennaeth Cynhyrchu Dŵr Dŵr Cymru i’r cyfarfod i ateb cwestiynau’r Pwyllgor ar eu gweithredoedd yn ardal y bont a sut gall unrhyw gynigion effeithio ar y gweithredoedd hynny. 

 

Ar ôl i Bont Llannerch ddymchwel yn ystod Storm Christoph ym mis Ionawr 2021, mae’r Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol wedi bod yn gweithio ar brosiect i adeiladu pont newydd.  Rhannwyd y prosiect yn dri cham:  Gwaith ar opsiynau, Dyluniad Manwl ac Adeiladu. Mae nawr wedi cyrraedd diwedd cam y Dyluniad Manwl. Mae cam y dyluniad manwl wedi bod yn broses gymhleth a hir ac wedi cyflwyno sawl her sylweddol.  Y brif her fu ystyried y sylfeini sydd eu hangen ar gyfer pont newydd.  Mae’r drafodaeth hon wedi bod yn gymhleth oherwydd bod Pont Llannerch wedi’i lleoli uwchben dyfrhaen dŵr croyw a oedd o fewn haen o dywodfaen wedi’i hindreulio ac oherwydd bod gan Dŵr Cymru safle echdynnu dŵr croyw yn union wrth ymyl lleoliad yr hen bont.  Roedd y ddyfrhaen hon a’r safle echdynnu dŵr croyw yn darparu dŵr i tua 85,000 o gartrefi yn y rhanbarth ac felly roedd y ddyfrhaen dŵr croyw a’r asedau echdynnu dŵr yn hynod o bwysig i nifer o gwsmeriaid Dŵr Cymru. O ganlyniad byddai angen i’r Cyngor sicrhau nad oedd yn cyfaddawdu’r asedau hyn wrth adeiladu pont newydd.

 

Dewiswyd dyluniad a ffefrir gan ddefnyddio sylfeini rafft oherwydd bod sylfeini rafft yn gweithio drwy ddosbarthu llwyth dros ardaloedd mawr o dir.  Fodd bynnag roedd risgiau sylweddol yn dal i fodoli gan y byddai gwaith adeiladu yn golygu bod angen gosod dalennau dur - yn ei hanfod drilio i’r graig islaw lle byddai’r sylfeini’n cael eu gosod.  Roedd y gwaith drilio yn peri risg o ran peryglu’r asedau.  Roedd yr ymchwiliadau tir dros dro ar y cam arloesi yn pennu fod y tywodfaen hwn sydd wedi hindreulio rhwng 12 a 36 metr islaw lefel y ddaear ac mae’n ymestyn i fyny’r afon cyn belled â Rhuthun.  Dangosodd ymchwiliadau tir pellach yn ystod cam y dyluniad manwl bod lefel y dŵr mor agos â 10 metr islaw lefel y ddaear.  Roedd yna safon ar gyfer asesu dyfnder erydu disgwyliedig y bont ac roedd hyn yn dangos y byddai’r 10m o raean gwely’r afon yn y lleoliad hwn yn debygol o fod wedi erydu yn y dyfodol.  Felly er mwyn diogelu pont newydd ac i sicrhau nad yw’n cael ei danseilio, byddai’n rhaid drilio / gosod y dalennau dur newydd a fyddai’n cynnwys y sylfeini rafft i’r ardal islaw lle mae’r sylfeini’n cael eu gosod, a byddai hyn yn treiddio i’r darn o dywodfaen sydd wedi hindreulio lle mae’r ddyfrhaen.  Mae’n bosibl y byddai drilio i mewn i’r ddyfrhaen yn amharu ar ansawdd y dŵr ym mhwynt echdynnu Dŵr Cymru ym Mharc Llannerch.  Byddai amharu ar y safle yn cyflwyno risg o golli cyflenwad ar gyfer 85,000 o gwsmeriaid Dŵr Cymru.  Roedd tîm y prosiect wedi bod yn gweithio’n agos gyda Dŵr Cymru drwy gydol y Cam Dylunio Manwl, a safbwynt Dŵr Cymru oedd bod yr holl asesiadau risg wedi methu â darparu tystiolaeth addas na fyddai’r gwaith drilio’n peri risg i’r ased hollbwysig hwn.

 

Roedd Dŵr Cymru wedi nodi y byddai drilio i’r ddyfrhaen yn creu llwybr ar gyfer risg o halogi’r cyflenwad dŵr, ac y byddai cyfaddawdu’r ddyfrhaen sy’n agos at y pwynt echdynnu yn arwain at sawl ffactor sy’n gysylltiedig â risg a diogelu ar gyfer eu cwsmeriaid.  Byddai cyflwyno risg sylweddol sy’n gysylltiedig â’r cyflenwad dŵr yn arwain at y posibilrwydd o gyflwyno risg iechyd cyhoeddus gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol.  Roedd Dŵr Cymru hefyd wedi nodi na fyddai’n hawdd unioni problem a achosir gan ddrilio i’r ddaear a byddai’n gostus iawn i’w ddatrys.  Roedd Dŵr Cymru hefyd wedi nodi efallai na fyddai hyd yn oed yn ymarferol ei atgyweirio pe byddai llwybr ffisegol yn cael ei ddrilio i’r ddyfrhaen.  Am y rhesymau hyn roedd Dŵr Cymru wedi asesu bod adeiladu’r bont yn weithgaredd risg uchel.

 

Cafodd aelodau hefyd eu harwain drwy gyflwyniad technegol yn darlunio manylion pellach yn ymwneud â cham dylunio’r prosiect a’r holl ddyluniadau arfaethedig ar gyfer y bont.

 

Wrth ymateb i gwestiynau’r aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, Swyddogion a chynrychiolydd Dŵr Cymru  

  • egluro o ganlyniad i fodolaeth y ddyfrhaen nad oedd adeiladu pont o unrhyw faint i ddarparu ar gyfer traffig cerbydau yn ymarferol heb risg.
  • cadarnhau nad oedd y pryderon wedi eu cyfyngu’n llwyr i gapasiti pwysau’r bont ond i gyflymder posibl a grym dyfroedd y llif a fyddai’n llifo o dan y bont.  O ganlyniad i’r ffactorau hyn byddai angen sylfaen gref waeth beth fo maint a chapasiti pwysau’r bont. Y sylfeini fyddai’n achosi’r risg ar gyfer y ddyfrhaen.
  • cadarnhau fod gan y Cyngor gynllun cynnal a chadw 10 mlynedd mewn grym ar gyfer pontydd gyda’r bwriad o ddiogelu strwythurau o’r fath.  Fel rhan o’r cynllun hwn roedd cyfyngiadau wedi eu gosod ar y bont garreg dros Afon Clwyd i Ruddlan.  Fodd bynnag roedd y bont hon wedi ei hadeiladu ar sylfaen o garreg nad oedd yr un fath â phont Llannerch. 
  • cadarnhau nad oedd yr effaith bosibl ar y ddyfrhaen wedi ei hasesu’n llawn tan y cam dylunio manwl.
  • dweud ei bod yn anodd i fesur yr effaith o golli’r bont ar gymunedau lleol, fodd bynnag credir fod tua 1,600 o gerbydau yn defnyddio’r ffordd yn ddyddiol cyn i’r bont gael ei sgubo ymaith.
  • cadarnhau fod y Cyngor wedi ymdrechu i gynnal cymaint o ohebiaeth gyda phreswylwyr â phosibl drwy gydol y broses ddylunio gyfan ar gyfer strwythur posibl yn lle’r bont.
  • pwysleisio eu bod yn llwyr ddeall gwerth y bont i breswylwyr ac roedd y posibilrwydd o godi pont dros dro wedi ei archwilio, ond byddai’r risgiau’n aros yr un fath ag y byddai ar gyfer strwythur parhaol gan y byddai angen sylfeini cryf ar y ddau.  Craidd y broblem oedd y sylfaen a’r risgiau posibl roedd hynny yn ei gyflwyno i’r ddyfrhaen.
  • cadarnhau na fyddai’n bosibl i godi pont yn lle’r un bresennol un ai ychydig filltiroedd i fyny neu i lawr yr afon gan y byddai’r broblem yn parhau gan fod y ddyfrhaen yn rhedeg ar hyd tua 22km yn is na gwely’r afon.
  • amlygu’r cyngor a dderbyniwyd gan yswirwyr y Cyngor (paragraff 10 yn yr adroddiad eglurhaol) pe byddai’n mynd ymlaen i adeiladu pont newydd yn lle’r un bresennol a fyddai’n arwain at achosi difrod i’r ddyfrhaen.
  • darparu sicrwydd, gyda’r bwriad o wella cysylltedd rhwng y cymunedau sy’n cael eu heffeithio, fod gwaith gwella ar y llwybrau dargyfeirio presennol yn cael eu hystyried gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

penderfynodd y pwyllgor: i gyfathrebu’r isod i Dîm y Prosiect a’r Cabinet -

 

(i)   ar ôl ystyried yr adroddiad a derbyn y cyflwyniad yn crynhoi’r cam dylunio manwl, wedi ei atodi yn Atodiad A i’r adroddiad, pwysleisiwyd fod ei ddyhead yn debyg i ddyhead preswylwyr lleol i gael pont newydd yn lle’r un bresennol i gysylltu’r cymunedau a gwneud teithio rhyngddynt yn haws.  Fodd bynnag, yn seiliedig ar gyngor peirianyddol a rheoli risg arbenigol a dderbyniwyd nid oedd cyflawni’r prosiect hwn yn ymddangos yn ymarferol gan y byddai ei adeiladu yn debygol o gyflwyno risg sylweddol i isadeiledd hanfodol yn yr ardal sy’n darparu dŵr i tua 85,000 o gartrefi;

(ii) gan gydnabod yr effaith roedd colli’r bont wedi ei gael ar gymunedau lleol a’u preswylwyr, y dylai’r Cyngor wneud pob ymdrech i leihau’r effaith ar gysylltedd rhwng y cymunedau a gaiff eu heffeithio drwy wella cysylltiadau cludiant lleol eraill a llwybrau priffyrdd yn yr ardal; a

(iii)                cadarnhau ei fod, wrth ystyried y mater, wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les, Atodiad B i’r adroddiad.

 

 

 

Dogfennau ategol: