Eitem ar yr agenda
GOFAL BRYS AC ARGYFWNG: LLIF ALLAN O'R YSBYTY - RHANBARTH GOGLEDD CYMRU
- Meeting of Pwyllgor Craffu Partneriaethau, Dydd Iau, 3 Ebrill 2025 10.00 am (Item 5.)
- View the declarations of interest for item 5.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg, ochr yn ochr â’r
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro – Cymorth Cartrefi Gofal a Chomisiynu Gofal
Iechyd Parhaus a Chyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus (BIPBC), Gofal Brys ac Mewn
Argyfwng: Llif Allan o’r Ysbyty – adroddiad Rhanbarth Gogledd Cymru (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw). Nod yr adroddiad oedd i ddarparu cyfrif/gwybodaeth
wedi’i ddiweddaru i bartneriaid yn ymwneud â’r gwaith cysylltiedig a wnaed ers
cyhoeddi adroddiad Archwilio Cymru gyntaf a’r ymateb sefydliadol ar y cyd ym
Medi 2024.
Hysbyswyd y Pwyllgor y canfuwyd ar y cyfan tra bod partneriaid yn deall ac
yn dangos ymrwymiad i wella llif cleifion o’r ysbyty, fod perfformiad yn parhau
yn hynod o heriol gydag effeithiau andwyol ar brofiad cleifion a gofal. Roedd
partneriaid yn parhau i weithio’n unigol a gyda’i gilydd i bennu a gweithredu
canllawiau eglur, lliniaru’r heriau a achosir gan lai o gapasiti
a chynnydd mewn gofal mwy cymhleth, a sicrhau bod effaith gweithgareddau’n cael
eu monitro, eu herio a’u cynyddu’n barhaus.
Canfu’r adroddiad gwreiddiol fod graddfa’r oedi mewn rhyddhau o’r ysbyty
yng Ngogledd Cymru wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diweddar. Rhwng
Ebrill 2023 a Chwefror 2024 bob mis roedd yna 334 o gleifion ar gyfartaledd a
oedd yn feddygol abl gyda’u rhyddhau yn wynebu oedi gyda chwblhau asesiadau y
prif achos dros yr oedi. Ar gyfer y flwyddyn hyd at ac yn cynnwys Chwefror
2024, roedd cyfanswm y diwrnodau gwely a gollwyd oherwydd oedi wrth ryddhau yn
71,871 gyda chost blwyddyn gyfan yn gyfwerth â £39.202 miliwn. Roedd yr effaith
o ganlyniad ar lif cleifion o fewn ysbytai a’r system gofal brys ac mewn
argyfwng yn sylweddol, gydag amseroedd aros mewn adrannau brys a
throsglwyddiadau ambiwlans ymhell o gyrraedd targedau cenedlaethol. Yn Chwefror
2024 collwyd dros 8,000 o oriau ambiwlans oherwydd oedi wrth drosglwyddo ac
roedd amser aros ar gyfartaledd o fewn adrannau brys y Bwrdd Iechyd tua 8.5 awr.
Cafodd anawsterau gyda rhyddhau effaith hefyd ar allu sefydliadau partner i
fodloni anghenion rhai cleifion yn effeithiol, yn arbennig yng ngorllewin y
rhanbarth lle rhoddwyd cyfran sylweddol o gleifion mewn llety dros dro ar ôl
cael eu rhyddhau o’r ysbyty.
Tynnodd aelodau sylw at sawl rhan o’r adroddiad a thrafod y canlynol
ymhellach –
- p’un ai a gyfrannodd y
sylw negyddol parhaus a gafodd y Bwrdd Iechyd yn y wasg/cyfryngau at yr
anawsterau a gafwyd yn recriwtio staff ar bob lefel ac felly cael effaith
ar y llif i mewn ac allan o’r ysbyty.
Ymatebodd swyddogion fod sylw negyddol yn y wasg yn broblem. Fodd
bynnag, nid oedd wedi cael unrhyw effaith ar staffio ac roedd y lefelau
staffio yn dderbyniol yn yr holl ddisgyblaethau ac eithrio iechyd meddwl a
oedd yn parhau yn profi’n her o ran cyflogi staff.
- y camau a oedd yn cael eu
cymryd i sicrhau nad oedd cleifion diamddiffyn yn cael eu rhyddhau gartref
yng nghanol y nos heb neb i’w derbyn pan oeddent yn cyrraedd. Pa
gefnogaeth oedd ar gael iddynt i sicrhau eu bod yn deall yn iawn pryd a
sut i gymryd eu meddyginiaeth ayb a ph’un ai a
oedd unrhyw ymweliadau dilynol wedi eu trefnu. Wrth ymateb cydnabu
swyddogion fod yna broblemau gyda’r broses ryddhau a chytunwyd gydag
aelodau na ddylai pobl ddiamddiffyn gael eu rhyddhau yng nghanol y nos.
Pwysleisiodd swyddogion BIPBC na ddylai cleifion diamddiffyn gael eu
rhyddhau yng nghanol y nos a heb gefnogaeth. Os oedd hyn yn digwydd dylai gael ei
adrodd fel digwyddiad. Roedd y
Bwrdd Iechyd yn cadw data rhyddhau fesul awr, a oedd yn cael ei fonitro’n
fanwl, ac roedd yn gweithio’n agos gyda’r tîm iechyd cymunedol i sicrhau
fod camau dilynol yn cael eu cymryd.
- Roedd y Bwrdd Iechyd yn
ddiweddar wedi cwblhau ei bolisi rhyddhau o’r ysbyty gyda chydweithrediad
yr awdurdod lleol a budd-ddeiliaid eraill.
- P’un ai a oedd sianeli
cyfathrebu yn ddigon effeithiol i sicrhau fod cleifion yr ystyriwyd eu bod
yn feddygol abl ar gyfer eu rhyddhau yn cael cefnogaeth briodol er mwyn
cynorthwyo eu rhyddhau. Eglurodd swyddogion fod llawer o waith wedi ei
wneud a chyfathrebu wedi bod gyda chleifion wrth iddynt gael eu
rhyddhau. Rhoddwyd taflenni yn
cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol iddynt a manylion cyswllt. Roedd yna waith parhaus i wella’r broses
o rannu gwybodaeth rhwng sefydliadau a gwella cyfathrebu. Roedd rhagor o
waith yn cael ei wneud mewn ymgais i symleiddio’r broses ryddhau drwy
gyflwyno proses electronig. Hefyd
roedd Hwyluswyr Optimeiddio Llif wedi eu cyflogi gyda’r bwriad o wella
llif cleifion i mewn ac allan o’r ysbyty.
Ar hyn o bryd roedd y tri Hwylusydd Optimeiddio Llif yn
canolbwyntio eu gwaith ar wella’r llif i mewn ac allan o Ysbyty Glan
Clwyd. O ran cefnogaeth a gofalwyr,
eglurodd swyddogion eu bod yn ymdrechu i ddarparu gofal lleol i breswylwyr
ac roedd y defnydd o feicro ddarparwyr yn
cynorthwyo gyda hyn.
- arian y Gronfa
Integreiddio Rhanbarthol a holwyd p’un ai oedd swyddogion yn credu y
byddai’r cyllid yn parhau y tu hwnt i 2027. Rhoddodd Swyddogion wybod i’r Pwyllgor
eu bod yn trafod arian y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn barhaus a’r
cyllid posibl ar ôl 2027 gyda Llywodraeth Cymru (LlC).
- roedd yr adroddiad yn
drosolwg rhanbarthol ac nid oedd yn canolbwyntio’n unig ar Sir
Ddinbych. Trafodwyd ei ganfyddiadau
a’r argymhellion ynghyd â’r cynnydd mewn cyflawni’r camau gweithredu a
nodwyd ym Mwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Roedd wedi ei gyflwyno i gychwyn i’r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a awgrymodd y dylid cyflwyno’r
adroddiad i’r pwyllgor craffu.
Roedd yr oedi o ran ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu o ganlyniad i’r
ffaith fod y cyrff perthnasol yn edrych ar broses ddemocrataidd yr
adroddiad cyn iddo gael ei drafod yn y cyfarfod presennol.
- Byddai ‘arian llithro’r Gronfa
Integreiddio Rhanbarthol’ yn tyfu pan oedd rôl yn wag a heb ei llenwi ers
peth amser. Tra roedd y swydd yn
wag byddai’r cyllid yn cael ei ailddyrannu lle roedd ei angen.
- Eglurodd swyddogion fod
pob sefydliad ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn cyfrannu
tuag at y gwaith o gyflawni’r cynllun gweithredu.
- O ran oedi mewn rhyddhau
dywedwyd wrth Aelodau fod yr achosion hyn fel arfer yn golygu anghenion
cymhleth lle roedd angen cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol i asesu
anghenion gofal yr unigolyn yn llawn.
Roedd codau oedi yn cael eu hadolygu yn genedlaethol gyda’r bwriad
o symleiddio’r weithdrefn.
- Roedd aelod o’r tîm Un
Pwynt Mynediad nawr wedi ei leoli yn yr ysbyty gyda’r bwriad o gydlynu
ymholiadau gwasanaeth yn fwy effeithiol.
- O ran lefelau absenoldeb
salwch sicrhaodd swyddogion yr aelodau fod yna ychydig o gynnydd wedi bod
mewn absenoldebau salwch. Fodd
bynnag, wrth weithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol, yn wahanol i
sectorau eraill, ni allai pobl weithio pan yn dioddef gyda byg salwch,
anwydau ayb gan fod risg y gallant eu
trosglwyddo i gleifion diamddiffyn. Roedd hyn yn achosi i ystadegau salwch
tymor byr i gynyddu.
- Cododd aelodau bryderon
am y diffyg gwybodaeth leol gan ddarparwyr gofal eilaidd, gan nad oedd
nifer o weithwyr asiantaeth yn adnabod yr ardal leol ac ni allent leoli
pobl yn briodol. Pryderon eraill oedd y systemau TG a ddefnyddiwyd gan y
sector iechyd a gofal cymdeithasol a’r diffyg synergedd ymddangosiadol
rhyngddynt. Dywedodd swyddogion fod
yna gyfarfodydd parhaus gyda LlC a oedd yn anelu
i ganolbwyntio mwy ar ofal yn y gymuned ac roedd yna waith parhaus i
sicrhau fod y systemau TG yn gweithio’n well gyda’i gilydd.
- Rhoddwyd cadarnhad fod
gwaith ar y gweill i symleiddio gwasanaethau fferyllol mewn ymgais i
wella’r broses ryddhau.
- Cadarnhaodd swyddogion
fod trefniadau gweithio mewn partneriaeth yn gryf a chadarnhaol, nid oedd
yr un partner yn beio’r llall. Y
cyfryngau oedd yn ceisio creu rhaniadau.
Roedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn gweithio i wella’r
gwasanaeth a ddarparwyd yn rhanbarthol, gyda chydweithrediad a
chydweithio. Roedd yr ymagwedd hon
ar brydiau yn gofyn am ambell gyfaddawd, ond roedd yn gwireddu ei
amcanion.
- Dywedwyd er mwyn galluogi
preswylwyr i fyw bywydau llawn fod angen ail fframio’r naratif a symud y
ffocws o system wedi’i ganoli o amgylch yr ysbyty i un gofal
cymunedol. Roedd hyn yn gofyn am
newid i ymagwedd ataliol ac ymagwedd yn ymwneud ag ymyrraeth gynnar mewn
gofal cynradd a chymunedol.
- Rhoddwyd cadarnhad fod
cynlluniau cynnal a chadw rheolaidd mewn grym ar gyfer offer hanfodol ac
arbenigol yn yr ysbytai.
- Cytunodd y Pwyllgor y
byddai’n ddoeth i gael adroddiad gwybodaeth dilynol ar y cynllun
gweithredu cyn gynted â phosibl.
Ar ddiwedd y
drafodaeth drylwyr:
Penderfynodd y Pwyllgor:
(i)
gadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi
ystyried y gwaith sydd ei angen yn barhaus i fodloni disgwyliadau a gwella llif
ysbytai yng Ngogledd Cymru.
(ii) fod yr Aelod
Arweiniol a swyddogion yn cymryd sylw o sylwadau’r Pwyllgor ar y gwaith a wnaed
hyd yma drwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i fynd i’r afael â’r
argymhellion; a
(iii)
bod Adroddiad Gwybodaeth arall ar y cynnydd a wnaed
mewn cyflawni’r cynllun gweithredu sefydliadol ar y cyd, mewn ymateb i
argymhellion Archwilio Cymru, yn cael ei gylchredeg i aelodau’r Pwyllgor pan fo
ar gael.
Ar y pwynt hwn cymrodd y Pwyllgor egwyl am 12.55pm ac
ailymgynnull am 1pm.
Dogfennau ategol:
-
Flow Out of Hospital Scrutiny Report 030425, Eitem 5.
PDF 239 KB
-
Flow Out of Hospital Scrutiny Report 030425 - App 1, Eitem 5.
PDF 2 MB
-
Flow Out of Hospital Scrutiny Report 030425 - App 2, Eitem 5.
PDF 479 KB