Eitem ar yr agenda
HAMDDEN SIR DDINBYCH CYF
- Meeting of Special Meeting, Cyngor Sir, Dydd Mercher, 26 Mawrth 2025 2.00 pm (Item 3.)
- View the declarations of interest for item 3.
Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes (copi ynghlwm) mewn perthynas â Hamdden Sir Ddinbych Cyf.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes yr adroddiad cyfrinachol (dosbarthwyd ymlaen llaw) ar strwythur amgen ar gyfer Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig.
Adolygodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes yr heriau ariannol sylweddol yr oedd y Cyngor wedi eu hwynebu yn 2019 a oedd wedi’i arwain i adolygu’r ffordd yr oedd gweithgareddau hamdden yn cael eu darparu, gan arwain at greu cwmni cyfyngedig drwy warant o’r enw Hamdden Sir Dinbych Cyfyngedig a oedd wedi bod yn masnachu ers 2020 ac mae'n eiddo llwyr i'r Cyngor. Dywedodd wrth yr aelodau bod y Cyngor wedi cyflawni ei amcanion yn cynnwys sicrhau twf a chynaliadwyedd o fewn y gwasanaethau hamdden, chwaraeon a diwylliannol o safon yr oedd HSDd yn eu darparu ar gyfer y Cyngor heb unrhyw gost ychwanegol i'r Cyngor.
Cynghorwyd y Cyngor bod HSDd wedi ysgwyddo’r costau rhedeg cynyddol a achosir gan chwyddiant a dyfarniadau cyflog ers 2020 ac nid oedd wedi ceisio nac wedi derbyn unrhyw gynnydd mewn cyllid gan y Cyngor yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae HSDd wedi cyflawni hyn drwy dyfu rhannau penodol o’i fusnes mewn modd masnachol.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes sut y byddai’r strwythur newydd arfaethedig ar gyfer HSDd yn gweithio, drwy greu cwmni newydd a fyddai wedi’i gyfyngu gan gyfranddaliadau sy’n eiddo i’r Cyngor drwy HSDd. Byddai busnes HSDd yn cael ei drosglwyddo i gwmni newydd a’r cyfranddaliadau yn y cwmni newydd wedi hynny’n cael eu trosglwyddo i bryniant rheolwr wedi’i ariannu gan gronfa ecwiti preifat. Byddai’r cwmni newydd yn cadw’r contract am wasanaethau gyda’r Cyngor. Byddai'r Cyngor yn derbyn un taliad am y cyfranddaliadau yn y cwmni newydd. Yn ogystal, byddai'r contract a roddir i'r cwmni newydd yn darparu’r un gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd am yr un gost ym mlwyddyn 1 â'r contract presennol gyda gofyniad i'r gost flynyddol honno leihau canran sefydlog ym mhob blwyddyn ddilynol.
Hysbyswyd yr aelodau bod effaith ar staff yn ystyriaeth allweddol ar gyfer y Cyngor. Byddai staff yn gweithio i HSDd ar adeg y trosglwyddiad yn trosglwyddo i’r cwmni newydd ar eu telerau a’u hamodau presennol yn cynnwys eu haelodaeth o’r cynllun pensiwn llywodraeth leol. Fe allai staff newydd a gyflogir ar ôl trosglwyddo gael eu cyflogi ar delerau ac amodau gwahanol, ar yr amod nad ydynt yn ‘llai ffafriol’. Ni fyddai’n rhaid i’r cwmni newydd gynnig aelodaeth i’r cynllun pensiwn llywodraeth leol ar gyfer staff newydd ond byddai’n rhaid iddo gynnig trefniadau pensiwn addas yn unol â deddfwriaethau pensiynau.
Nododd yr aelodau y byddai’r Cyngor yn cadw perchnogaeth rhydd-ddaliad o’r holl gyfleusterau a weithredir gan HSDd ar hyn o bryd. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes at wybodaeth yn yr adroddiad am y dewisiadau ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer darparu swyddogaethau hamdden, ac i’r darpariaethau i’w cynnwys mewn contract diwygiedig ar gyfer gwasanaethau hamdden. Nodwyd nad oedd y rhestr o ddarpariaethau’n gyflawn ac y byddai’n cynnwys elfennau eraill megis defnydd o gyfleusterau’r cwmni arfaethedig at ddibenion etholiad.
Adroddodd y Pennaeth Cyllid (y Swyddog Adran 151 hefyd) ynghylch canlyniadau gwiriadau’r Cyngor ar y cwmni ecwiti preifat a oedd wedi cael statws risg isel.
Fel Cadeirydd Bwrdd HSDd, dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas wrth yr aelodau ei fod wedi bod yn amheus o’r cynlluniau i greu HSDd 5 mlynedd yn ôl, ond ei fod bellach yn ei ystyried fel y dewis cywir ac roedd wedi gweld HSDd yn datblygu’n gwmni llwyddiannus iawn. Y broblem yn awr oedd bod HSDd wedi tyfu’n rhy fawr i’w strwythur presennol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at e-byst staff HSDd a oedd yn cefnogi’r strwythur newydd arfaethedig a dangoswyd clipiau fideo i’r aelodau o gymeradwyaeth staff HSDd.
Roedd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yn gwrthwynebu gwerthu HSDd ac roedd yn erbyn ei breifateiddio mewn egwyddor. Dywedodd y Cynghorydd Ellis nad oedd cyflwyno clipiau fideo ac e-byst gan staff o blaid y newid yn ffordd briodol o fesur barn staff ehangach HSDd. O ran y dewisiadau, nid oedd y Cynghorydd Ellis yn credu bod ystyriaeth ddigonol wedi cael ei rhoi i’r dewisiadau ar gael i’r Cyngor ar gyfer HSDd ac ar gyfer cadw darpariaeth gwasanaethau HSDd o fewn y sector cyhoeddus yn llwyddiannus. Ymddengys bod yr amserlenni ar gyfer ystyried y strwythur newydd wedi cael eu rhuthro ac roedd o’r farn nad oedd yr aelodau wedi cael digon o wybodaeth am y dewisiadau eraill er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus heddiw.
Derbyniodd Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd y byddai cael mwy o amser i aelodau ystyried yr achos am strwythur newydd wedi bod o fudd, ond roedd angen iddynt gyflwyno cynllun wedi’i ddatblygu o fewn yr amserlen yr oedd ar gael.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan ei fod, fel Arweinydd y Cyngor, yn ei chael hi’n anodd trafod preifateiddio gwasanaethau ond ei fod yn falch o wasanaethau HSDd ac nid oedd eisiau i’r Cyngor orfod wynebu cau canolfannau hamdden yn y dyfodol. Amlygodd y Cynghorydd McLellan sut yr oedd angen i’r effaith ar staff fod yn brif ystyriaeth ac roedd o’r farn bod mwy o ymgynghoriadau ystyrlon gydag undebau llafur yn angenrheidiol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes y gallai’r contract arfaethedig gynnwys darpariaethau gweithlu ychwanegol i gefnogi’r gweithlu.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynwyd, ystyriwyd y pwyntiau canlynol:
• O ystyried y cyfyngiadau ariannol parhaus ar y Cyngor, roedd yn annhebygol y byddai’r Cyngor yn gallu diogelu a buddsoddi yn nhwf ei wasanaethau hamdden, chwaraeon a diwylliannol. Roedd y Cyngor wedi gorfod blaenoriaethu gwasanaethau eraill yn gyson, er enghraifft gyda chyllid ar gyfer ysgolion, gofal cymdeithasol ac isadeiledd ffyrdd.
• Trefniadau ac arwyddocâd y cyfranddaliadau.
• Y farn bod HSDd yn darparu’r gwasanaethau hamdden gorau yng ngogledd Cymru.
• Y risg y gallai peidio â chytuno i’r strwythur newydd arwain at gyfnod o leihau gwasanaethau oherwydd ni fyddai’n bosib i HSDd gyflawni twf pellach o fewn cyfyngiadau ei fodel awdurdod lleol presennol.
• Yr anawsterau a wynebwyd yn sgil gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei rhyddhau i’r cyhoedd heb awdurdod cyn y cyfarfod heddiw.
• Byddai’r taliadau a dderbynnir gan y Cyngor am werthu HSDd yn rhoi mwy o ddewisiadau ariannol i’r Cyngor ar gyfer diogelu a buddsoddi mewn gwasanaethau eraill, yn cynnwys y rhai hynny a fyddai fel arall angen eu torri neu barhau i gael eu darparu ar lefelau is.
• Yr anawsterau posibl y gallai’r Cyngor eu hwynebu o ran sicrhau bod y cwmni newydd yn cyflawni uchelgeisiau’r Cyngor pan fyddai darpariaeth gwasanaeth yn ddibynnol ar ddehongliad a gweithrediad contract.
• Roedd yn rhaid i ymgysylltu ag undebau llafur fod yn flaenoriaeth uchel.
• Ar ôl pwyso a mesur, dywedodd y Prif Weithredwr bod y Tîm Gweithredol Corfforaethol o blaid y newidiadau arfaethedig, ond bod hwn yn benderfyniad i’r aelodau.
Cytunodd yr aelodau ar ddiwygiad arfaethedig i’r argymhellion yn yr adroddiad.
Galwodd yr aelodau am bleidlais wedi’i chofnodi ar yr argymhellion fel y’i diwygiwyd.
O blaid y cynnig:
Y Cynghorwyr Chamberlain-Jones, Karen Edwards, Pauline Edwards, Chris Evans, Hugh Evans, Feeley, Hilditch-Roberts, Holliday, James, Keddie, King, Matthews, McLellan, Mellor, Metri, Parry, Roberts, Scott, Thomas, Tomlin, Cheryl Williams, David Williams, Huw Williams, Wynne ac Young.
Yn erbyn y cynnig:
Y Cynghorwyr Blakely-Walker, Butterfield, Chard, Clewett, Davies, Ellis, Elson, Justine Evans, Harland, Heaton, Hogg, Hughes, Brian Jones, Delyth Jones, May, Mendies, Price a Sandilands.
Ymatal:
Dim.
Cymeradwywyd y cynnig, ac felly:
PENDERFYNWYD -
(i) Bod y Cyngor yn cytuno i drosglwyddo busnes Hamdden
Sir Ddinbych Cyfyngedig (HSDd) i DLL Group Limited (y Cwmni Newydd), cwmni
wedi’i gyfyngu gan gyfranddaliadau, ac mewn perchnogaeth lwyr gan HSDd.
(ii) Bod y Cyngor yn awdurdodi gwerthiant dilynol y
cyfranddaliadau yn y Cwmni Newydd i Dîm Rheoli HSDd a ariennir gan fuddsoddwr
preifat am swm o £1.5 miliwn, ar amod bod y materion rheolaethol, cyfreithiol a
chytundebol a nodir ym mharagraffau 4.21 - 4.33 yr adroddiad yn cael eu datrys
i foddhad y Cyngor.
(iii) Bod y Cyngor yn dirprwyo awdurdod i’r Prif
Weithredwr, y Swyddog a151 a’r Swyddog Monitro, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd
a’r Dirprwy Arweinydd, i ddatrys y materion rheolaethol, cyfreithiol a
chytundebol a nodir ym mharagraffau 4.21 - 4.33 yr adroddiad.
(iv) Cyn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet o gontract ar
gyfer darparu gwasanaethau hamdden a phrydlesi’r cyfleusterau i’w gweithredu o
dan y contract hwnnw, bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor i geisio
argymhelliad y Cyngor mewn perthynas â’r cymeradwyaethau hynny.
(v) Yn amodol ar y Cabinet yn cymeradwyo rhoi contract ar
gyfer darparu gwasanaethau hamdden a phrydlesi’r cyfleusterau i’w gweithredu o
dan y contract hwnnw i’r Cwmni Newydd, bod y Cyngor yn dirprwyo awdurdod i’r
Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog a151, y Swyddog Monitro, yr
Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd, i gwblhau’r dogfennau cyfreithiol
angenrheidiol i gyflawni’r trosglwyddiad o gyfranddaliadau yn unol â pharagraff
ii.
(vi) Bod y Cyngor yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall
ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 6) fel rhan o’i ystyriaethau.
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 3./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 3./2 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 3./3 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 3./4 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 3./5 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 3./6 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 3./7 yn gyfyngedig