Eitem ar yr agenda
RHAGLEN ADFYWIO AC UWCHGYNLLUN GLAN Y MÔR Y RHYL
Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) sy’n rhoi diweddariad lefel uchel i’r Pwyllgor ar
Raglen Adfywio ac Uwchgynllun Glan y Môr y Rhyl, yn cynnwys y camau nesaf yn
dilyn cwblhau Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl.
Cofnodion:
Cyflwynodd
Arweinydd y Cyngor / Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd, y
Cyng. Jason McLellan yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw). Dywedodd fod arian
y Gronfa Ffyniant Bro yn dod i law, ynghyd â chyllid o gronfa Cynllun ar gyfer
Cymdogaethau (Cynlluniau Hirdymor ar gyfer Trefi gynt).
Mae llawer o
waith yn cael ei wneud o ran:
- Marchnad y Frenhines
- Datganiadau o ddiddordeb ar gyfer
sinema’r Vue
- Uwchgynllun Glan y Môr
Rhoddodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Amgylchedd y wybodaeth ddiweddaraf ar
Raglen Adfywio’r Rhyl sydd yn bennaf yn canolbwyntio ar brosiectau cyfalaf i
ddatrys problemau ffisegol ac amgylcheddol – i geisio annog twf economaidd a
swyddi newydd. Mae’r rhaglen hefyd yn ymwneud â materion eraill sy’n
gysylltiedig â digartrefedd, anweithgarwch hirdymor,
trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae’r Cyngor wedi
llwyddo i gael grantiau i gyflawni cynlluniau cyfalaf mawr – gyda thros £200
miliwn o fuddsoddiadau cyfalaf wedi’u cyflawni yn ystod y ddegawd ddiwethaf.
Mae £12 miliwn
arall wedi’i fuddsoddi mewn pedwar prosiect ychwanegol i wella canol y dref a’r
promenâd yn ystod y tair blynedd nesaf. Mae’r grant £20 miliwn o Gronfa Cynllun
ar gyfer Cymdogaethau yn caniatáu darparu strategaeth adfywio hirdymor gymunedol
yn ystod y 10 mlynedd nesaf.
Piler y rhaglen
oedd Gweledigaeth Canol Tref y Rhyl. Datblygwyd y cynllun chwe blynedd yn ôl,
mae rhai prosiectau wedi’u cyflawni ac eraill heb. Mae cymdeithas wedi newid
dros y blynyddoedd hynny – yn bennaf oherwydd y pandemig, ac roedd yn rhaid
adolygu’r weledigaeth i wneud yn siŵr ei bod yn cyd-fynd â’r cynllun 10
mlynedd nesaf.
Yn debyg iawn,
lluniwyd Uwchgynllun Glan y Môr y Rhyl sawl blwyddyn
yn ôl. Roedd yn gysyniad uchelgeisiol gyda’r holl elfennau yn amodol ar sicrhau
cyllid i’w darparu, ynghyd â rhywfaint o fuddsoddiad preifat. Y cynnig oedd
datblygu pedwar parth penodol ar hyd glan y môr (atodiad a).
Mae model 3D
drafft o’r glan y môr a chanol y dref wedi’i gynnwys yn yr adroddiad (atodiad
b). Cafodd y cynllun ei gomisiynu at ddibenion marchnata, fel ffordd i ddangos
sut mae glan y môr y Rhyl wedi’i ddatblygu dros y ddegawd ddiwethaf – a gellir
hefyd ei ddefnyddio i fodelu datblygiadau newydd ac annog buddsoddiadau preifat
yn y Rhyl. Y dyhead oedd gweld y Rhyl yn cyrraedd pwynt ble na fyddai angen
ymyrraeth sector cyhoeddus, a bod y farchnad breifat yn cymryd drosodd.
Wrth ymateb i
gwestiynau'r Pwyllgor, cynghorodd yr Arweinydd a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol:
- Mae’r Adran Gymunedau (Ffyniant Bro,
Tai a Chymunedau gynt) wedi ymrwymo i wneud newidiadau gwerth am arian
parhaol i gymunedau (bydd cylch gorchwyl cynlluniau hirdymor yr Adran yn
cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor).
- Bydd rhaglen o ymgysylltu cyhoeddus
yn dechrau’n fuan i weld sut fydd y weledigaeth yn cyd-fynd ag anghenion y
gymuned.
- Byddai llwyddiant adfywiad y Rhyl yn
rhoi budd i’r sir / rhanbarth cyfan.
- Yr her fwyaf i’r Rhyl yw ei henw da
oherwydd y sylw negyddol mae’r dref wedi’i gael yn y cyfryngau yn ystod y
blynyddoedd diwethaf. Mae ymgyrch gyfryngau yn cael ei lansio i hyrwyddo’r
agweddau cadarnhaol.
- Mae Bwrdd Cymdogaeth y Rhyl, a
sefydlwyd yn ddiweddar, yn cynnwys cynrychiolwyr annibynnol o’r gymuned yn
hytrach na chynghorwyr.
- Bydd gwasanaethau cymuned ac
ieuenctid yn rhan o’r ymgynghoriad ynghylch y weledigaeth.
- Mae gan y cyfryngau cymdeithasol rôl
i’w chwarae ym mhroses ymgysylltu gyhoeddus Gweledigaeth y Rhyl. Tra bod
modd defnyddio tudalennau Facebook i gael barn trigolion, nid Facebook
yw’r llwyfan cymdeithasol a ffafrir gan bobl ifanc.
- Roeddynt yn hyderus y bydd Marchnad y
Frenhines ar agor erbyn yr haf (2025).
Roedd yr Aelodau
yn credu bod angen ymgysylltu â’r cyhoedd ar draws y sir i hyrwyddo adfywiad y
Rhyl. Yn hanesyddol mae’r Rhyl a’r glan y môr wedi bod yn gyrchfan glan môr i
drigolion y sir. Mae angen hysbysebu manteision y cynlluniau adfywio i bawb.
Roedd yr Aelodau
hefyd yn annog swyddogion i gysylltu â threfi cyfagos, Bae Cinmel a Thowyn, fel rhan o’r Strategaeth Twristiaeth. Cytunodd yr
Arweinydd a dywedodd y byddai’r gwaith ar y marina yn hwyluso hynny.
Roedd gwahoddiad
i bob Cynghorydd Sir Ddinbych ymweld â safle newydd Marchnad y Frenhines ar 10
Ebrill. Croesawodd y Pwyllgor y gwahoddiad a dweud y byddai gan bob Aelod
ddiddordeb cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith adfywio, nid
Grŵp Aelodau Ardal y Rhyl yn unig.
Gofynnodd y
Pwyllgor am adroddiad arall ar ôl i’r broses ymgysylltu ddod i ben a Chynllun
Gweledigaeth y Rhyl gael ei lunio.
PENDERFYNWYD:
- Bod yr adborth a’r sylwadau a
ddarparwyd yn ystod y drafodaeth yn cael eu hystyried fel rhan o waith
cyflawni Rhaglen Adfywio’r Rhyl ac Uwchgynllun
Glan y Môr y Rhyl; a
- Bod adroddiad diweddaru yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar ôl y broses ymgynghori a sefydlu
Cynllun Gweledigaeth Canol Tref y Rhyl.
Dogfennau ategol:
-
2025.03.27_Communities Scrutiny_ Rhyl Regeneration and waterfront v2, Eitem 7.
PDF 244 KB
-
Appendix A_Waterfront plan, Eitem 7.
PDF 285 KB
-
Appendix B - Presentation Template - Rhyl Waterfront, Eitem 7.
PDF 3 MB