Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

TROSGLWYDDO BARGEN DWF GOGLEDD CYMRU I GYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG GOGLEDD CYMRU

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd a’r Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi’n amgaeedig) ynghylch y cynnig i drosglwyddo Bargen Dwf Gogledd Cymru i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru yn unol â’r penderfyniad mewn egwyddor a wnaed gan y Cabinet blaenorol yn Rhagfyr 2021.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      Cytuno i sefydlu Cytundeb Partneriaeth a Chyllido (Atodiad 2 i’r adroddiad) a throsglwyddo swyddogaeth y Corff Atebol, cyfrifoldeb dros gyflawni Bargen Dwf Gogledd Cymru a’r trefniadau cyllido ar gyfer y Fargen Dwf i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar 31 Mawrth 2025 neu cyn hynny;

 

(b)      Cytuno i amnewid a neilltuo, fel y bo’r gofyn, i drosglwyddo gweithrediad Bargen Dwf Gogledd Cymru a’r hawliau a rhwymedigaethau ym mhob cytundeb cyllido sydd yng ngofal Cyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (“y Bwrdd Uchelgais”) i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (“y Cyd-bwyllgor Corfforedig”);

 

(c)      Cytuno i drosglwyddo ac amnewid a/neu neilltuo’r holl fuddiannau yn y portffolio o brosiectau a ariennir gan Fargen Dwf Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw gytundebau, taliadau a phrydlesi ategol gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran y Bwrdd Uchelgais i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig;

 

(d)      Cytuno i drosglwyddo a/neu neilltuo’r holl falansau ariannol, arian yn ddyledus ac asedau yng ngofal Cyngor Gwynedd ar ran y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru;

 

(e)      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151, i gymeradwyo a gweithredu’r cytundebau, y gweithredoedd a’r holl ddogfennau cyfreithiol eraill ar eu ffurf derfynol, fel y bo’n angenrheidiol i weithredu'r trosglwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a), (b) a (c) uchod;

 

(f)       Ar ôl cwblhau’r Cytundeb Partneriaeth a Chyllido, cytuno i derfynu’r cytundeb GA2 a dirwyn Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ben;

 

(g)      Cytuno i drosglwyddo atebolrwydd i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru a’i fod yn derbyn cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ar gyfer gweithredu Bargen Dwf Gogledd Cymru yn amodol ar amnewid y Fargen Dwf a chymeradwyo Rheolau Sefydlog ychwanegol sy'n cynnwys telerau allweddol y Cytundeb Cydweithio ("GA2") rhwng y chwech o Gynghorau Cyfansoddol a’r pedwar o bartïon Addysg, a

 

(h)      Chytuno i roi’r penderfyniadau uchod ar waith yn ddiymdroi heb eu galw i mewn, yn unol ag adran 7.25 o Gyfansoddiad y Cyngor, fel y gellir trosglwyddo ar 31 Mawrth 2025 neu cyn hynny.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad hwn yn ymdrin â’r cynnig i drosglwyddo gweithrediad Bargen Dwf Gogledd Cymru i Gydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru, yn unol â’r penderfyniad mewn egwyddor a wnaeth y Cabinet blaenorol ym mis Rhagfyr 2021.

 

Roedd sefydliad a chyfrifoldebau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ym mis Rhagfyr 2020 a Chyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ym mis Ebrill 2021 wedi’u nodi yn yr adroddiad, ynghyd â phenderfyniad mewn egwyddor y Cynghorau Cyfansoddol yn 2021/22 i drosglwyddo’r Fargen Dwf i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru. Roedd y penderfyniad gwreiddiol yn benderfyniad mewn egwyddor gan fod y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn parhau i ddatblygu, gyda chyfres derfynol o reoliadau ym mis Ebrill 2023.   Cyfeiriodd yr Arweinydd at Weithdy’r Cyngor diweddar a hwyluswyd gan Ambition North Wales, a oedd yn boblogaidd iawn gyda thrafodaeth dda ac adborth gan aelodau.

 

Arweiniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Llywodraethu a Busnes y Cabinet drwy elfennau technegol y trosglwyddiad a’r argymhellion ar gyfer ystyriaeth.  Sir Ddinbych oedd yr olaf o’r chwe awdurdod lleol i dderbyn yr adroddiad, ac roedd yr awdurdodau eraill wedi cytuno i’r trosglwyddiad ac roedd Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru wedi cytuno i arwyddo’r cytundeb. Er mwyn i’r trosglwyddiad ddigwydd erbyn 31 Mawrth 2025, gofynnwyd i’r Cabinet gytuno bod y penderfyniadau yn cael eu gweithredu heb alw i mewn.

 

Trafododd y Cabinet fuddion yr adroddiad ymhellach gyda'r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraeth a Busnes yn ymateb i gwestiynau, gan ymhelaethu ar fanteision y trosglwyddiad oherwydd y cyfuniad aelodaeth y ddau gorff, osgoi cael sawl corff rhanbarthol gyda swyddogaethau tebyg, a manteision cyfreithiol a gweithredol Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru yn dod yn endid corfforaethol ei hun.  Os yw argymhellion yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo, byddai Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru’n dod yn gorff atebol mewn perthynas â’r Fargen Dwf gyda throsglwyddiad pob cyfrifoldeb o Gyngor Gwynedd fel awdurdod cynnal a chorff cyfrifol i’r Cyd-bwyllgor, gan gynnwys staff a fyddai’n cael eu cyflogi ganddynt.  Roedd penodi Cyngor Gwynedd fel awdurdod cynnal presennol a chorff atebol yn benderfyniad hanesyddol yn dilyn trafodaeth rhwng awdurdodau lleol a sefydliadau addysgol wrth sefydlu Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      Cytuno i sefydlu Cytundeb Partneriaeth a Chyllido (Atodiad 2 i’r adroddiad) a throsglwyddo swyddogaeth y Corff Atebol, cyfrifoldeb dros gyflawni Bargen Dwf Gogledd Cymru a’r trefniadau cyllido ar gyfer y Fargen Dwf i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar 31 Mawrth 2025 neu cyn hynny;

 

(b)      Cytuno i amnewid a neilltuo, fel y bo’r gofyn, i drosglwyddo gweithrediad Bargen Dwf Gogledd Cymru a’r hawliau a rhwymedigaethau ym mhob cytundeb cyllido sydd yng ngofal Cyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (“y Bwrdd Uchelgais”) i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (“y Cyd-bwyllgor Corfforedig”);

 

(c)      Cytuno i drosglwyddo ac amnewid a/neu neilltuo’r holl fuddiannau yn y portffolio o brosiectau a ariennir gan Fargen Dwf Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw gytundebau, taliadau a phrydlesi ategol gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran y Bwrdd Uchelgais i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig;

 

(d)      Cytuno i drosglwyddo a/neu neilltuo’r holl falansau ariannol, arian yn ddyledus ac asedau yng ngofal Cyngor Gwynedd ar ran Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

(e)      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151, i gymeradwyo a gweithredu’r cytundebau, y gweithredoedd a’r holl ddogfennau cyfreithiol eraill ar eu ffurf derfynol, fel y bo’n angenrheidiol i weithredu'r trosglwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a), (b) a (c) uchod;

 

(f)       Ar ôl cwblhau’r Cytundeb Partneriaeth a Chyllido, cytuno i derfynu’r cytundeb GA2 a dirwyn Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ben;

 

(g)      Cytuno i drosglwyddo atebolrwydd i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru a’i fod yn derbyn cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ar gyfer gweithredu Bargen Dwf Gogledd Cymru yn amodol ar amnewid y Fargen Dwf a chymeradwyo Rheolau Sefydlog ychwanegol sy'n cynnwys telerau allweddol y Cytundeb Cydweithio ("GA2") rhwng y chwech o Gynghorau Cyfansoddol a’r pedwar o bartïon Addysg, a

 

(h)      Chytuno i roi’r penderfyniadau uchod ar waith yn ddiymdroi heb eu galw i mewn, yn unol ag adran 7.25 o Gyfansoddiad y Cyngor, fel y gellir trosglwyddo ar 31 Mawrth 2025 neu cyn hynny.

 

Ar y pwynt hwn (11.30am), cymerwyd egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: