Eitem ar yr agenda
POLISÏAU AD - POLISI AFLONYDDU RHYWIOL NEWYDD A’R POLISI ADLEOLI A DDIWEDDARWYD
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb
a Strategaeth Gorfforaethol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet i fabwysiadu’r Polisi Aflonyddu Rhywiol a’r diwygiadau i’r Polisi
Adleoli.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) cymeradwyo ac yn mabwysiadu’r Polisi
Aflonyddu Rhywiol a’r Polisi Adleoli, ac yn
(b) cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o
Effaith ar Les (Atodiad 3 a 4 i’r adroddiad), ei ddeall a’i ystyried wrth ddod
i benderfyniad.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad
yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu diwygiadau i’r Polisi Aflonyddu
Rhywiol a’r Polisi Adleoli.
Roedd yr adroddiad yn trafod dau bolisi cadarnhaol
i gefnogi staff a’u lles, a darparwyd crynodeb o bob polisi, fel a ganlyn -
Polisi Aflonyddu Rhywiol – roedd hwn yn bolisi
newydd a luniwyd yn unol â’r ddeddfwriaeth Cydraddoldeb newydd a oedd yn rhoi
dyletswydd ar gyflogwyr i gymryd camau ‘rhesymol’ i atal aflonyddu
rhywiol. Nod y polisi yw sicrhau bod
pawb yn deall beth yw aflonyddu rhywiol a’r ymddygiad proffesiynol a
ddisgwyliwn yn y Cyngor, a phennu ein cyfrifoldebau ninnau fel Cyngor i atal
aflonyddu rhywiol. Roedd hefyd yn egluro
sut i roi gwybod am aflonyddu rhywiol, y broses y dylid ei dilyn a’r cymorth
sydd ar gael. Daeth yr Asesiad o'r
Effaith ar Les i'r casgliad bod yr effaith yn gadarnhaol. I fewnosod y polisi yn niwylliant yr
awdurdod, byddai’n cael ei gefnogi gan Becyn Gwaith Atal i Reolwyr, a fydd yn
cynnwys hyfforddiant, dogfen ar gyfer cyflwyno’r polisi mewn cyfarfodydd tîm a
chyflwyniadau diogelwch, ynghyd â thempledi ar gyfer asesiadau risg i
wasanaethau eu cwblhau a’u cadw’n gyfredol.
Polisi Adleoli – roedd y polisi hwn
wedi bod yn destun adolygiad llawn ac roedd yr adroddiad yn cynnig crynodeb o’r
diwygiadau a wnaed. Roedd y polisi’n
canolbwyntio ar dair sefyllfa bosib sy’n creu’r angen i adleoli: gallu, colli swydd
a meddygol. Dan y polisi presennol, dim
ond gweithwyr gyda mwy na dwy flynedd o wasanaeth parhaus a oedd yn cael eu
rhoi ar y gronfa adleoli, ac mae’r fersiwn newydd yn sicrhau bod pob gweithiwr
yn cael eu rhoi ar y rhestr adleoli, waeth beth fo hyd eu gwasanaeth. Roedd y polisi hefyd yn cynnwys ‘cwestiynau
cyffredin’ buddiol a gafodd eu diweddaru.
Roedd Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:
Rheolwr Gwasanaeth Pobl ac AD yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Roedd y polisïau wedi’u datblygu mewn
ymgynghoriad gyda’r Undebau Llafur ac wedi’u cymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor
Ymgynghorol ar gyfer Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr.
Trafododd y Cabinet y polisïau gyda’r Aelod Arweiniol a’r
swyddogion. Roedd y Polisi Aflonyddu
Rhywiol yn bolisi cyflogaeth i staff, a byddai ymddygiad aelodau etholedig mewn
perthynas ag aflonyddu rhywiol, ac yn y blaen yn cael ei gynnwys yn y Cod
Ymddygiad Aelodau. Ar gais yr Aelod
Arweiniol, cytunwyd y byddai modiwl eDdysgu ar gael i aelodau etholedig i gefnogi
eu dealltwriaeth o’r mater. Roedd yr
Undebau Llafur wedi cymryd rhan weithredol mewn llunio’r polisi, a oedd wedi
cael ei dderbyn yn dda gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig, ac roedd yr Undebau
Llafur wedi gwerthfawrogi eu cyfranogiad yn y broses honno. Diolchodd yr Aelod Arweiniol i’r holl fudd-ddeiliaid
am eu cyfraniadau a’u cyfranogiad gyda’r polisi newydd. Roedd y camau nesaf yn cynnwys mewnosod y
polisi i ddiwylliant yr awdurdod a chodi ymwybyddiaeth, a fyddai’n debygol o
arwain at gynnydd i’r nifer o achosion a adroddir. Byddai effeithiolrwydd y polisi yn bennaf yn
cael eu mesur i ddechrau gan y nifer o ddigwyddiadau sy’n cael eu hadrodd, a
dros gyfnod hirach o amser sy’n cael ei adlewyrchu yn yr arolwg staff.
Gofynnwyd am eglurhad dros eiriad y Polisi Adleoli a’i
oblygiadau o ganlyniad i’r newid o ran symud i ffwrdd o isafswm o ddwy flynedd
o wasanaeth cyn adleoli. Amlygodd y
Cynghorydd Emrys Wynne yn benodol yr amddiffyniad ar gyfer staff sydd dan y
polisi dwy flynedd ar hyn o bryd, yn benodol o ganlyniad i ymddiswyddiad, ac i
ddiogelu’r adleoliadau dilynol a all effeithio rhai aelodau o staff yn
negyddol. Gan gydnabod y pryderon hynny, amlygwyd bod y rhesymau ar gyfer
adleoliad yn amrywio a bod y trosglwyddiad yn arddangos buddion cadarnhaol ar
gyfer staff a all wneud cais am adleoliad, ni waeth hyd eu gwasanaeth, ac
ystyriwyd bod gan y Cyngor ddyletswydd gofal o ran hynny. Rhoddwyd sicrwydd bod yr Undebau Llafur wedi
cefnogi’r newid yn llawn, ac yn ymestyn eu hamddiffyniad i bob aelod o staff o ddiwrnod
cyntaf eu gwaith. Derbyniwyd bod yr
Undebau Llafur yn fudd-ddeiliad allweddol wrth ddatblygu’r polisi.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) cymeradwyo ac yn mabwysiadu’r Polisi
Aflonyddu Rhywiol a’r Polisi Adleoli, ac yn
(b) cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o
Effaith ar Les (Atodiad 3 a 4 i’r adroddiad), ei ddeall a’i ystyried wrth ddod
i benderfyniad.
Dogfennau ategol:
-
HR POLICIES REPORT, Eitem 6.
PDF 222 KB
-
HR POLICIES - APPENDIX 1 - Draft Sexual Harassment Policy, Eitem 6.
PDF 639 KB
-
HR POLICIES - APPENDIX 2 - Draft Redeployment Policy, Eitem 6.
PDF 717 KB
-
HR POLICIES - Appendix 3 - WIA Sexual Harassment Policy, Eitem 6.
PDF 103 KB
-
HR POLICIES - Appendix 4 - WIA Redeployment Policy, Eitem 6.
PDF 104 KB