Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DOD Â’R GWASANAETH GWELLA YSGOLION RHANBARTHOL I BEN

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd (copi’n amgaeedig) ynglŷn â’r newidiadau sydd eu hangen a’r ffordd ymlaen arfaethedig i gyflawni swyddogaethau statudol gwella ysgolion yn dilyn cau GwE.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)      Bod y Cyngor hwn yn cymeradwyo terfynu’r cytundeb i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru yng nghyd-destun y Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion rhanbarthol (GwE) ar 31 Mai 2025 a diddymu’r gofyn am Gyd-bwyllgor GwE yn sgil hynny;

 

(b)      Bod y Cyngor hwn yn cadarnhau ei rwymedigaeth dan y contract wrth ddod â’r trefniant hwn i ben, a

 

(c)      Bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Diane King yr adroddiad, gan fanylu ar y newidiadau angenrheidiol, a chynhigiodd ffordd ymlaen i fynd i’r afael â swyddogaethau statudol gwella ysgolion yn dilyn cau’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE).

 

Sefydlwyd GwE drwy gytundeb rhwng y chwech o awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru ym mis Chwefror 2013.  Ym mis Ionawr 2024, cyfeiriodd y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg ar y pryd i adolygiad o bartneriaethau Addysg a gwelliant ysgolion i symud i ffwrdd i fodel rhanbarthol ehangach i sefydlu partneriaethau ar lefel fwy lleol, a byddai GwE yn peidio â bodoli fel consortiwm rhanbarthol ar 31 Mai, 2025.  O ganlyniad, gofynnwyd i’r Cabinet derfynu’r cytundeb hwnnw’n ffurfiol a diddymu Cyd-bwyllgor GwE.   Darparodd yr Aelod Arweiniol sicrwydd y byddai gwella safonau mewn ysgolion yn parhau, a bod y Pennaeth Addysg yn gweithio gyda chydweithwyr ledled Gogledd Cymru a, a byddai Adrannau AD a’r Gyfraith yn parhau gyda’u cefnogaeth i ysgolion.  Roedd codi safonau mewn ysgolion yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol.

 

Mynychodd y Pennaeth Addysg ar gyfer yr eitem hon hefyd.  Yn ystod y drafodaeth codwyd pryderon ynghylch y gost, ansicrwydd o ran newid, a chodwyd cwestiynau mewn perthynas â’r symudiad i ffwrdd o weithio’n rhanbarthol yn yr achos hwn, pan roedd yn ehangu mewn ardaloedd eraill, rhesymeg tu ôl penodi’r awdurdod arweiniol, craffu gwaith GwE, goblygiadau ar gyfer ysgolion, a datblygiad y gwasanaeth wrth symud ymlaen.  Ymatebodd y swyddogion i’r cwestiynau hynny a chwestiynau pellach fel a ganlyn –

 

·       manylion o gymhlethdod y sefyllfa a’r amwysedd o ran costau staffio o wybod proses barhaus trefniadau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth yn y chwe awdurdod lleol, a dod â threfniadau contract i ben, gyda chyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru ar gael yn y flwyddyn ariannol bresennol i helpu gyda’r costau hynny

·       sefydlu Bwrdd Trosiannol i oruchwylio’r trefniadau ar gyfer trosglwyddo gwasanaethau GwE i’r awdurdodau lleol a’r strwythurau a ddatblygwyd i ddarparu cefnogaeth i ysgolion ar lefel awdurdod lleol unigol

·       roedd gan y costau trosiannol natur untro a byddai’r cyllid ar ffurf grantiau, neu’n defnyddio cronfeydd wrth gefn (byddai’r gyllideb drosiannol £2 miliwn ar gyfer Cymru gyfan yn annhebygol o dalu am y costau); roedd costau parhaus y gwasanaeth yn dilyn diddymiad GwE wedi cael eu cynnwys yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, a byddai arbedion cylchol yn sgil costau llai y gwasanaeth newydd

·       roedd y rhesymeg tu ôl y penderfyniad hanesyddol i benodi Cyngor Gwynedd fel awdurdod arweiniol ar gyfer GwE yn anhysbys, a byddai trefniadau gwasanaeth newydd yn cael eu harwain gan bob awdurdod lleol unigol gydag ychydig o gydweithio gyda’r awdurdodau eraill

·       nodwyd cyfreithlondeb sefydlu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn 2021, yn ogystal â’u cyfrifoldebau yn nhermau gweithio’n rhanbarthol mewn meysydd penodol

·       symud i ffwrdd o fodel rhanbarthol ehangach ar gyfer y gwasanaeth gwella ysgolion, gydag adolygiad haen ganol i’w gwblhau yn genedlaethol ledled Cymru, ac ymgynghoriad gyda Phenaethiaid ac ysgolion; y canlyniad oedd tueddiad i symud i ffwrdd o ddull rhanbarthol o weithio i ganolbwyntio fwy yn lleol.  Serch hynny, roedd disgwyliad bod cydweithrediad o hyd gydag awdurdodau lleol ar brosiectau a chynlluniau penodol, ond byddai ffocws lleol penodol yn hytrach na rhanbarthol

·       Roedd ysgolion Sir Ddinbych fel arfer yn gwerthfawrogi gwaith GwE, a bod gwaith ac arfer da yn cael ei gymryd ymlaen i’r gwasanaeth newydd, a chytunodd aelodau eraill am yr ymgysylltiad cadarnhaol gyda’r gwasanaeth; roedd GwE wedi bod yn mynd i’r  Pwyllgor Craffu Perfformiad i drafod materion megis addysg yn y cartref, safonau, a phresenoldeb, heb unrhyw argymhellion negyddol ar y gwaith hwnnw

·       Amlygodd y Cynghorydd Gareth Sandilands, Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad bresenoldeb GwE mewn cyfarfodydd wrth ystyried materion yn ymwneud ag addysg i ddarparu safbwynt ac arbenigedd annibynnol, a oedd wedi cael ei werthfawrogi; byddai’r newidiadau’n cael eu craffu cyn gynted a bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei fewnosod

·       manylwyd ar y gwaith parhaus wrth ddatblygu’r gwasanaeth newydd, a thrafodaethau ar lefel genedlaethol a lleol, gan ystyried arferion da a gwersi a ddysgwyd, a llywio’r broses newydd er mwyn diwallu anghenion ysgolion i sicrhau eu bod wedi derbyn yr un lefel o wasanaeth a chefnogaeth; byddai rhagor o waith yn canolbwyntio ar addysg a chefnogaeth gan ysgolion eraill sy’n rhagori mewn meysydd allweddol er mwyn i eraill elwa ohonynt, gan ganolbwyntio ar ysgolion a diwallu eu hanghenion.

·       cydnabu bod hwn yn newid sylweddol i ysgolion a allai achosi pryder ac ansicrwydd, ond roedd cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gydag ysgolion er mwyn rhannu gwybodaeth ac roedd gan y cyngor bolisi drws agored ar gyfer ysgolion.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, amlygodd yr Aelod Arweiniol y byddai newid yn darparu cyfleoedd, a rhoddodd sicrwydd o ran y llwyth gwaith sylweddol er mwyn sicrhau cyfnod trosglwyddo llyfn o GwE i’r awdurdod lleol yn Sir Ddinbych.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)      Bod y Cyngor hwn yn cymeradwyo terfynu’r cytundeb i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru yng nghyd-destun y Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion rhanbarthol (GwE) ar 31 Mai 2025 a diddymu’r gofyn am Gyd-bwyllgor GwE yn sgil hynny;

 

(b)      Bod y Cyngor hwn yn cadarnhau ei rwymedigaeth dan y contract wrth ddod â’r trefniant hwn i ben, a

 

(c)      Bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

[Fe wnaeth y Cynghorydd Rhys Thomas ymatal wrth bleidleisio ar yr eitem uchod.]

 

 

Dogfennau ategol: