Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH DDRAFFT TOILEDAU LLEOL A CHYNNIG ARBEDION

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi ynghlwm) ar y cynnydd sydd wedi cael ei wneud hyd yma ar y Strategaeth Toiledau Lleol ynghyd ag argymhellion drafft ar gyfer cynigion arbedion.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw). Dywedodd fod tri rheswm dros gyflwyno’r adroddiad, sef i ystyried:

 

  1. Yr Asesiad o Anghenion am Doiledau Lleol ynghyd â’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ynghylch yr Asesiad o Anghenion Dros Dro.
  2. Y Strategaeth Toiledau Lleol ddrafft a’r ymgynghoriad cyhoeddus cysylltiedig.
  3. Yr opsiynau ar gyfer pob cyfleuster cyhoeddus yn Sir Ddinbych.

 

Sicrhaodd yr Aelod Arweiniol y Pwyllgor ei fod yn deall pwysigrwydd cyfleusterau cyhoeddus a dywedodd ei fod wedi bod yn gweithio gyda’r gwasanaeth ar gynllun i gadw’r cyfleusterau ar agor pan fo angen amlwg ar eu cyfer.

 

Gan gyfeirio at yr adroddiad amlygodd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Amgylchedd wybodaeth bwysig:

 

  1. Yr Asesiad o Anghenion Lleol (atodiad 1) sy’n nodi’r angen ymhob tref. Daeth i’r casgliad bod angen cyfleusterau cyhoeddus yng Nghorwen, Dinbych, Llangollen, Prestatyn a’r Rhyl.
  2. Y Strategaeth Anghenion ar gyfer Toiledau Lleol ddrafft (atodiad 3) sy’n nodi’r cynllun i gyrraedd y nod cyffredinol ar gyfer darparu cyfleusterau cyhoeddus.
  3. Y Sefyllfa a’r Gofynion Presennol o ran Cyfleusterau Cyhoeddus (atodiad 5) sy’n ystyried rhesymeg y Strategaeth Anghenion ar gyfer Toiledau Lleol ddrafft ochr yn ochr â chyfyngiadau cyllidebol yr Awdurdod.

Byddai’r strategaeth yn cymharu’r ddarpariaeth bresennol ar draws y sir gyda’r angen a nodwyd ymhob tref.

 

Byddai cyfleusterau cyhoeddus mewn trefi gydag angen a nodwyd yn gweld buddsoddiad a gwelliannau. Byddai ffioedd yn cael eu hadolygu i gyfrannu at gefnogi’r buddsoddiadau a’r costau gweithredu. Byddai prosesau gweithredu ac oriau agor yn destun adolygiad yn ogystal. Byddai’r Cyngor hefyd yn parhau i edrych ar opsiynau trosglwyddo i sefydliadau allanol ble bo’n bosibl, gan barhau i edrych ar ac ehangu’r Cynllun Toiledau Cymunedol.

 

Argymhellir y canlynol:

 

  1. O ystyried bod darparu cyfleusterau cyhoeddus yn wasanaeth yn ôl disgresiwn, bod y Cyngor yn rhoi’r gorau i weithredu cyfleusterau cyhoeddus heb angen a nodwyd – Dyserth, Rhuddlan a Llanelwy.
  2. Dylid datgomisiynu cyfleusterau pod sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes neu ddim yn gweithio.
  3. Dylid buddsoddi mewn cyfleusterau cyhoeddus trefol gydag angen a nodwyd, er mwyn derbyn taliadau heb arian parod a’u hagor heb staff.

Mae cais wedi’i gyflwyno i gronfa Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru i gael cyllid i gyfrannu at y buddsoddiad hwnnw – disgwylir penderfyniad ddechrau mis Ebrill 2025. Mae’r Cyngor yn edrych ar gyllid ychwanegol ac yn cynnal sgyrsiau gyda chynghorau Tref, Cymuned a Dinas ynglŷn â’u gallu i gyfrannu at y buddsoddiad sydd ei angen a/neu i leihau cost taliadau cyfleusterau cyhoeddus yn eu hardaloedd.

 

Wrth ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd y Swyddogion:

 

  • Mae prif gyfleusterau cyhoeddus pob tref gydag angen lleol a nodwyd yn destun cais am grant y Pethau Pwysig. Pan fo mwy nag un cyfleuster cyhoeddus mewn tref, byddai angen canfod cyllid ychwanegol. Bydd y camau nesaf yn dibynnu ar ganlyniad y cais am gyllid.
  • Ac eithrio Cyngor Tref Corwen, ychydig iawn o ddiddordeb sydd wedi bod mewn trosglwyddo cyfleusterau cyhoeddus i Gyngor Cymuned, Tref neu Ddinas.
  • O ran cynllunio ar gyfer twf posibl mewn twristiaeth mewn ardaloedd fel yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac ardaloedd gwledig eraill, mae’r Asesiad o Anghenion wedi dilyn methodoleg gydnabyddedig a ddaeth i’r casgliad ei fod yn argymhelliad rhesymol, o ystyried fod cyfleusterau cyhoeddus yn swyddogaeth anstatudol gyda goblygiadau cyllidebol, i roi’r gorau i ddarparu’r cyfleusterau os nad oedd angen wedi’i nodi.
  • Yn hytrach na chau cyfleusterau cyhoeddus dewis arall yw gofyn i Gynghorau Tref, Cymuned a Dinas gyfrannu mwy i gefnogi baich ariannol cadw cyfleusterau cyhoeddus ar agor. Mae trafodaethau yn parhau gyda Chynghorau Tref, Cymuned a Dinas. Mae’n bwysig nodi y byddwn yn gofyn i Gynghorau Tref, Cymuned a Dinas ddarparu cefnogaeth ariannol ar gyfer y cyfleusterau yn eu cymuned, yn hytrach nag ar gyfer y gwasanaeth cyfan.
  • Os nad yw cais i’r gronfa Pethau Pwysig yn llwyddiannus, byddai angen sgyrsiau pellach gyda Chynghorau Tref, Cymuned a Dinas a’r Grŵp Craffu Cyfalaf.
  • Mae yna ychydig o gyfleusterau pod ddim yn gweithio a’r darnau neu’r meddalwedd sydd eu hangen ar eu cyfer ddim ar gael mwyach. Dylid datgomisiynu’r rhain a phodiau eraill sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes.
  • Cyfrifoldeb yr Awdurdod yw nodi a oes angen cyfleusterau cyhoeddus a diwallu’r angen hwnnw ble bo’n bosibl. Fodd bynnag, nid yw’n ddyletswydd ar yr Awdurdod i’w darparu.
  • Mewn rhai ardaloedd mae’r angen am gyfleusterau cyhoeddus yn fwy na’r hyn sy’n cael ei ddarparu yno. Mae’r Awdurdod wedi bod yn ceisio ychwanegu at y ddarpariaeth drwy annog y Cynllun Toiledau Cymunedol, ond mae angen gwneud rhagor o waith yn y maes hwn.
  • Mae’r adroddiad sy’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet fis Ebrill yn gofyn am benderfyniad ynghylch y Strategaeth Toiledau Lleol ddrafft. Mae angen rhagor o waith, yn dibynnu ar lefel y cyllid a geir a’r ymgynghoriad gyda Chynghorau Tref, Cymuned a Dinas amrywiol, cyn gellir gwneud penderfyniad ynghylch cyfleusterau cyhoeddus unigol.
  • Mae angen gwneud mwy o waith ar fodel ariannol ffioedd cyfleusterau cyhoeddus. Gan fod llawer o’r cyfleusterau cyhoeddus wedi bod am ddim yn y gorffennol, does dim ffordd i wybod beth fydd yr incwm posibl.

 

Credodd yr Aelodau y byddai nifer yr ymwelwyr yn amrywio yn ystod y flwyddyn yn yr ardaloedd hyn heb angen a nodwyd. Gofynnwyd a fyddai modd gofyn i Gynghorau Tref, Cymuned a Dinas gyfrannu at gostau cyfleusterau cyhoeddus sydd ar agor yn dymhorol.

 

Awgrymwyd y dylai’r taliad sy’n cael ei gynnig fel rhan o’r Cynllun Toiledau Cymunedol gael ei adolygu gan nad yw £500 yn cwrdd â chost darparu’r gwasanaeth.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oes gormod o ffocws yn cael ei roi ar anghenion ymwelwyr a ddim digon ar anghenion trigolion, yn enwedig o ran iechyd, lles a hygyrchedd. Yn yr ardaloedd gwledig mae cael mynediad at gyfleusterau cyhoeddus yn rhoi tawelwch meddwl i bobl sy’n sâl, anabl a phobl gyda phroblemau symudedd a’u helpu i fyw bywydau egnïol.

 

Argymhellodd y Pwyllgor y dylid amlygu budd economaidd cael lle i drigolion ac ymwelwyr stopio wrth ymgysylltu â Chynghorau Tref, Cymuned a Dinas.

 

Pan fydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet am benderfyniad, gofynnodd yr Aelodau i’r adroddiad hwnnw gynnwys gwybodaeth am y matrics STEAM a ddefnyddir i gyfrifo nifer yr ymwelwyr a’r angen dilynol a nodir ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus.

 

Nodwyd fod lefel y pryderon a godwyd gan aelodau a phreswylwyr yn ystod yr ymgynghoriad ynghylch cynigion i gau rhai cyfleusterau cyhoeddus mor fawr nes eu bod yn credu bod angen i gyfleusterau cyhoeddus, ble ceir angen a nodwyd, fod yn ofyniad statudol – wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Dylai’r Awdurdod, drwy gynghorwyr lleol, lobio’r llywodraeth i newid y gofyniad statudol mewn perthynas â’r gwasanaeth. Bydd diffyg cyfleusterau cyhoeddus yn arwain at broblemau iechyd y cyhoedd sylweddol.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am yr adroddiad manwl iawn.

 

PENDERFYNWYD:

 

  1. Bod yr adborth a’r sylwadau a ddarparwyd yn ystod y drafodaeth yn cael eu hystyried fel rhan o’r Asesiad o Anghenion Lleol a’r Strategaeth Toiledau Lleol Ddrafft;
  2. Nodi’r ddarpariaeth cyfleusterau cyhoeddus bresennol a’r opsiynau sy’n cael eu hystyried ar gyfer pob un, gan argymell bod sgyrsiau pellach yn cael eu cynnal gyda Chynghorau Tref, Cymuned a Dinas ynghylch cefnogi’r cyfleusterau hynny yn eu cymunedau; a
  3. Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les.

 

 

 

Dogfennau ategol: