Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

HAMDDEN SIR DDINBYCH CYF.

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Llywodraethu a Busnes (copi ynghlwm) mewn perthynas â Hamdden Sir Ddinbych Cyf.

12.25pm – 1pm

 

Cofnodion:

Arweiniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Llywodraethu a Busnes a’r Swyddog Monitro yr aelodau drwy adroddiad cyfrinachol (dosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn manylu ar strwythur amgen arfaethedig ar gyfer Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig. 

 

Bu'r Aelodau'n trafod yn fanwl amrywiol agweddau ar y dull amgen arfaethedig.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd cwestiynau ar faterion yn amrywio o:

·       gynigion y cyfranddalwyr

·       gwerth ariannol cyfredol pob agwedd ar fusnes Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig

·       graddau’r gwaith diwydrwydd dyladwy a wnaed ar y darpar fuddsoddwr a’i Gynllun Busnes arfaethedig

·       telerau ac amodau gweithwyr a hawliau pensiwn

·       rheoli cymhorthdal ​​a dadreoleiddio

·       dyfodol Fframwaith Hamdden y DU

·       effaith y cynigion ar y contract presennol rhwng y Cyngor a Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig, a threfniadau rheoli contract arfaethedig yn y dyfodol. 

Cafwyd atebion gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Llywodraethu a Busnes a’r Swyddog Monitro, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig a Swyddog Adran 151 y Cyngor.

Cyn gadael y cyfarfod, cadarnhaodd Rheolwr-gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig ei fod wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd staff i amlinellu'r cynigion ac ateb eu cwestiynau.  Roedd hefyd wedi cyfarfod â chynrychiolwyr undebau llafur staff i drafod y cynigion.

 

Gadawodd cynrychiolwyr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor drafod y cynigion ymhellach gyda swyddogion y Cyngor ac ystyried ei argymhellion. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Llywodraethu a Busnes a’r Swyddog Monitro wrth yr aelodau fod cyfarfod arbennig o'r Cyngor Sir wedi'i drefnu ar gyfer 26 Mawrth 2025 er mwyn trafod y cynigion yn fanwl cyn rhoi cyfle i bob aelod bleidleisio arnynt. 

 

Hyd yma, cynhaliwyd dau weithdy i'r holl aelodau i egluro'r cynigion a gyflwynwyd.  Yn ogystal, roedd cynrychiolwyr o Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig wedi cyfarfod â grwpiau gwleidyddol y Cyngor i ateb eu cwestiynau ar y cynigion.  Nod cyflwyno'r cynigion i'r Pwyllgor Craffu oedd ei alluogi i nodi pa wybodaeth bellach yr oedd angen ei chynnwys yn yr adroddiad i'r Cyngor Sir, er mwyn galluogi aelodau etholedig i wneud penderfyniad ar y cynigion. 

 

Ar ddiwedd trafodaeth ddwys, drwy bleidlais fwyafrifol:

 

Penderfynwyd: er mwyn galluogi’r Cyngor Sir i wneud penderfyniad gwybodus mewn perthynas â strwythur cwmni arall ar gyfer darparu gwasanaethau hamdden, y dylid darparu’r wybodaeth ganlynol i gynghorwyr sir cyn cyfarfod arbennig y Cyngor ar 26 Mawrth 2025 –

 

(i)             eglurhad ar ddiben a gwerth cynigion y cyfranddalwyr (gan gynnwys beth fyddai’n digwydd i gyfranddaliadau a ddychwelir i’r cwmni pan fyddai gweithiwr yn gadael ei swydd, ac a fyddai gweithwyr yn cael taliad am gyfranddaliadau a ddychwelwyd)

(ii)           manylion wedi’u gwirio am werth cyfredol asedau, benthyciadau a rhwymedigaethau Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig, ynghyd â gwybodaeth am beth fyddai’n digwydd i’r rhain ar drosglwyddo pe bai strwythur y cwmni arall yn cael ei gymeradwyo

(iii)         darparu adroddiad prisio cyfredol ar Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig ynghyd â mantolenni / cyfrifon cyfredol ar gyfer y busnes

(iv)         darparu adroddiad diwydrwydd dyladwy ar y darpar fuddsoddwr, gan gynnwys maint y gwaith diwydrwydd dyladwy a wnaed

(v)           darparu Cynllun Busnes arfaethedig y cwmni amgen posibl yn y dyfodol

(vi)         eglurhad ar Delerau ac Amodau gweithwyr yn y dyfodol o dan drefniadau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth, gan gynnwys eu hawliau pensiwn a ddiogelir a’u hawliau pensiwn yn y dyfodol

(vii)        eglurhad o’r sefyllfa o ran rheoli cymhorthdal ​​a'r gofynion dadreoleiddio pe bai’r strwythur cwmni amgen arfaethedig yn cael ei gymeradwyo

(viii)      cadarnhad ar berchnogaeth a hawliau sy'n gysylltiedig â Fframwaith Hamdden y DU pe bai'r strwythur cwmni amgen arfaethedig yn cael ei gymeradwyo

(ix)         gwybodaeth am ymrwymiadau’r cwmni / buddsoddwr amgen posibl i fesurau lleihau carbon a chefnogi uchelgais y Cyngor i ddod yn ddi-garbon net ac yn ecolegol gadarnhaol erbyn 2030

(x)           manylion y newidiadau sydd eu hangen i'r contract presennol rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig ar gyfer darparu gwasanaethau hamdden, ynghyd â threfniadau rheoli contract yn y dyfodol, pe bai'r strwythur cwmni amgen arfaethedig yn cael ei gymeradwyo.

 

 

          Daeth y cyfarfod i ben am 3.10pm

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: