Eitem ar yr agenda
INCWM MEYSYDD PARCIO
Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Traffig a Chludiant
(copi ynghlwm) sy’n gofyn am farn y Pwyllgor ar gynhyrchu incwm meysydd parcio
ers gweithredu’r taliadau diwygiedig yn 2024/25 a’r camau gweithredu
arfaethedig wrth symud ymlaen.
11.35am – 12.10pm
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a
Thrafnidiaeth a’r Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn
Gwlad yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) ar Incwm Meysydd Parcio i’r
Aelodau.
Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth am yr
incwm ychwanegol o feysydd parcio a ragamcanwyd y byddai’n deillio o gynyddu’r
prisiau parcio, ymestyn yr oriau codi tâl am barcio a chodi tâl mewn meysydd
parcio a oedd am ddim yn flaenorol.
Rhoddodd y
Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd fwy o fanylion i'r aelodau, a
oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.
Fel rhan o’r gwaith i gyflawni arbedion
a chynyddu incwm ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25, cafodd y mesurau canlynol
eu rhoi ar waith ar gyfer ein meysydd parcio, a rhagwelwyd y byddai’r rhain yn
cynhyrchu £699 mil o incwm ychwanegol:
·
Cynyddu’r holl brisiau mewn meysydd parcio
talu ac arddangos.
·
Ymestyn yr oriau codi tâl yn y meysydd parcio
tan 11pm (5pm yn flaenorol)
·
Cynyddu prisiau trwyddedau meysydd parcio.
·
Codi tâl ar gyfer rhai meysydd parcio am
ddim.
Roedd y
cynnydd a ragwelwyd o £699 mil yn cynnwys £591 mil o’r cynnydd yn y prisiau,
£60 mil o barcio min nos, £30 mil o godi tâl mewn meysydd parcio am ddim, a £18
mil o gynyddu’r pris am drwydded. Mae
eglurhad o ran cyfrifo’r ffigyrau unigol hyn yn Atodiad A yr adroddiad. Fodd bynnag, mae’r rhagamcanion presennol yn
amcangyfrif y bydd yr incwm ychwanegol o feysydd parcio ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2024/25 yn sylweddol is na’r targed a ragwelwyd yn wreiddiol. Byddai cymhwyso cynnydd o 19.2% am weddill y
flwyddyn ariannol yn arwain at £295 mil o incwm ychwanegol o gymharu â blwyddyn
ariannol 2023/24. Byddai hyn yn
cynrychioli diffyg o £404 mil yn is na’r targed cynnydd incwm o £699 mil.
Roedd yr hen
dariffau a’r tariffau newydd i’w gweld yn Atodiad B. Mae’r tabl yn Atodiad C yn
cymharu incwm talu ac arddangos fesul tref, ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill i
fis Tachwedd 2024, gan gynnwys y misoedd hynny, ac ar gyfer yr un cyfnod yn
2023. Dangoswyd gwahaniaeth mawr yn y
cynnydd o ran incwm parcio mewn rhai trefi o gymharu â rhai eraill.
Mae’r polisi
presennol o osod prisiau parcio yn ôl y math o faes parcio (h.y. boed yn
arhosiad hir neu arhosiad byr) yn anhyblyg ac yn trin pob
tref / pentref fel pe baent yr un fath, ac nid yw hyn yn wir. Cynigiwyd creu system newydd i sicrhau bod
tariffau yn seiliedig ar y galw. Byddai hyn yn golygu codi tariffau uwch ar
feysydd parcio y mae galw mawr amdanynt a thariffau is ar gyfer meysydd parcio
gyda llai o alw.
Diolchodd y
Cadeirydd i’r Swyddogion am yr adroddiad a chroesawyd cwestiynau gan yr
Aelodau.
Roedd yr
aelodau'n anghyfforddus ynglŷn â chodi tâl ar feysydd parcio di-dâl yn y
Sir. Teimlwyd nad oedd digon o leoedd parcio am ddim yng nghanol trefi i
alluogi ymwelwyr i ymweld a gwario arian. Eglurodd y Rheolwr Traffig, Parcio a
Diogelwch Ffyrdd fod llawer o barcio am ddim ar ymyl y ffordd mewn trefi a
phentrefi, ac y byddai data yn dangos hyn yn cael ei ddarparu mewn cyfarfod yn
y dyfodol. Roedd yn bwysig cael y cydbwysedd cywir rhwng parcio am ddim a
pharcio am dâl.
Gofynnodd yr
aelodau a oedd trwyddedau parcio'n cael eu hysbysebu, gan nad oedd llawer o
drigolion yn ymwybodol ohonynt. Eglurodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch
Ffyrdd fod hawlenni parcio yn cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor ac ar wefannau cyfryngau cymdeithasol. Roedd Canolfan Alwadau’r Cyngor hefyd yn eu
hyrwyddo mewn ymateb i ymholiadau a gafwyd. Bu cynnydd o 17% yn y gost o brynu
trwyddedau parcio, a nodir yn yr adroddiad.
Holodd yr Aelodau sut
roedd prisiau parcio'r Sir yn cymharu â thariffau mewn awdurdodau lleol eraill.
Eglurodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad fod
ymarfer cymharu prisiau'n cael ei gynnal bob tro yr oedd adolygiad o'r prisiau
parcio ceir, er mwyn cymharu prisiau â'r 5 Awdurdod Lleol arall yng Ngogledd
Cymru. Yn ddiweddar bu cynnydd pellach mewn tariffau mewn awdurdodau cyfagos,
ac felly mae meysydd parcio Sir Ddinbych yn codi tariffau is ar hyn o bryd.
Trafododd yr Aelodau
bwysigrwydd parcio am ddim yn y Sir ymhellach, a'r gwahaniaeth y gallai ei
wneud i fusnesau lleol ac ymwelwyr.
Dywedodd y swyddogion, er bod maes parcio am ddim ar ymyl y ffordd ar
gael ym mhob tref ac, mewn rhai ohonynt, roedd y cynghorau tref yn darparu
cyfnod o amser rhydd ar gyfer parcio mewn rhai meysydd parcio, roedd angen
sicrhau cydbwysedd da os oedd y Cyngor Sir am allu fforddio buddsoddi i gynnal
y meysydd parcio yn ei berchnogaeth.
Cynigiodd y
Cadeirydd y dylid trefnu gweithdy i aelodau etholedig ar y strwythur prisiau
maes parcio newydd arfaethedig, er mwyn galluogi'r holl aelodau i gyfrannu ato
a dylanwadu ar unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol ynghylch y strwythur
tariffau. Cafodd hyn ei gynnig, ei eilio a’i gytuno gan holl aelodau’r
Pwyllgor.
Anogodd yr
aelodau y swyddogion i ailystyried codi tâl am barcio ar ôl 5pm. Dywedodd y
Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd fod llawer o adborth wedi dod i law
ynghylch codi tâl gyda'r nos, a bod trafodaethau'n parhau a fyddai'n cael eu
hadlewyrchu yn y cynnig.
Diolchodd y
Cadeirydd i’r Swyddogion am ddod i’r cyfarfod.
Ar ddiwedd y drafodaeth drylwyr:
Penderfynodd y Pwyllgor:
(i)
dderbyn yr adroddiad, cadarnhau ei gynnwys, ei ganfyddiadau a chamau
gweithredu pellach arfaethedig;
(ii)
yn amodol ar ystyried yr awgrymiadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth,
bod strwythur prisiau maes parcio newydd arfaethedig yn cael ei ddatblygu gan
swyddogion a'i ddwyn yn ôl i'r Pwyllgor Craffu yn yr Hydref 2025; ac
(iii)
fel rhan o ddatblygiad y strwythur prisiau maes parcio newydd arfaethedig,
cynhelir gweithdy i bob aelod i alluogi pob cynghorydd i gyfrannu at y gwaith
datblygu.
Dogfennau ategol:
-
Car Park Income Report 130325, Eitem 7.
PDF 239 KB
-
Car Park Income Report - App A 130325, Eitem 7.
PDF 107 KB
-
Car Park Income Report - App B 130325, Eitem 7.
PDF 407 KB
-
Car Park Income Report - App C 130325, Eitem 7.
PDF 65 KB
-
Car Park Income Report - App D 130325, Eitem 7.
PDF 427 KB
-
Car Park Income Report - App E 130325, Eitem 7.
PDF 63 KB
-
Car Park Income Report - App F 130325, Eitem 7.
PDF 86 KB