Eitem ar yr agenda
ARCHWILIO CYMRU - GWASANAETHAU COMISIYNU SIR DDINBYCH
Ystyried
adroddiad gan Archwilio Cymru (copi ynghlwm) gan Bennaeth y Gwasanaeth Cymorth
Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac
Asedau ar Wasanaethau Comisiynu Sir Ddinbych.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a
Strategaeth Gorfforaethol yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) i’r
aelodau.
Rhoes yr adroddiad grynodeb o Adroddiad Archwilio Cymru
ynghylch Trefniadau ar gyfer Comisiynu Gwasanaethau yng Nghyngor Sir Ddinbych
ac ymatebion Swyddogion i’r argymhellion ar gyfer gwelliant.
Rhwng mis Gorffennaf a mis Awst 2024, bu Archwilio Cymru
yn adolygu trefniadau Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer comisiynu gwasanaethau, ac
yn benodol i ba raddau y datblygwyd hynny’n unol â’r egwyddor datblygu
cynaliadwy; byddai hefyd yn helpu i sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio
adnoddau’r Cyngor. Cyflwynwyd yr adroddiad llawn yn Atodiad 1 (a’i ddosbarthu o
flaen llaw).
Roedd Archwilio Cymru’n gwneud y gwaith m mhob un o’r 22
o brif Gynghorau yng Nghymru ac yn ogystal ag adrodd yn lleol wrth bob Cyngor,
roeddent hefyd yn bwriadu cyhoeddi adroddiad cenedlaethol.
Comisiynu oedd y broses a ddefnyddiai’r Cyngor wrth ddylunio gwasanaethau y bwriadai
eu darparu. Roedd hynny’n dechrau drwy ddiffinio’r gwasanaethau a’r canlyniadau
a ddymunwyd ac yn dod i ben pan fyddai’r Cyngor yn trefnu’r dull darparu. Er
enghraifft, trwy sefydlu tîm darparu yn fewnol neu gaffael cyflenwr
allanol. Nid oedd yr Archwiliad hwn yn
ymdrin â threfniadau caffael na threfniadau rheoli contractau’r Cyngor.
Cyhoeddwyd adroddiad terfynol Cyngor Sir Ddinbych ym mis
Rhagfyr 2024 a deuai i’r casgliad cyffredinol fod y Cyngor wedi pennu
disgwyliadau eglur ar gyfer adrannau wrth gomisiynu gwasanaethau, ond nad oedd
gan y Cyngor drefniadau i sicrhau y cyflawnid y rheiny’n gyson.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys dau o argymhellion ar gyfer
gwella. Roedd Atodiad 2 (a ddosbarthwyd o flaen llaw) yn cynnwys ymateb
rheolwyr i argymhellion Archwilio Cymru ar gyfer gwella.
Rhoes Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl fwy o fanylion ynghylch yr adroddiad.
Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar un cwestiwn yn
benodol, sef a oedd y Cyngor yn sefydlu trefniadau priodol i sicrhau gwerth am
arian wrth ddefnyddio ei adnoddau. Dechreuai’r broses drwy ystyried y
gwasanaethau hynny roedd y Cyngor yn eu darparu a’r canlyniadau y dymunai eu
cyflawni, cyn gorffen drwy ystyried sut fyddai’r Cyngor yn darparu’r
gwasanaethau dan sylw.
Roedd y broses yn bwysig iawn wrth sicrhau y darperid
gwasanaethau’n ddarbodus, yn effeithiol ac yn effeithlon. Hynny oedd y sylfaen
ar gyfer gweddill y broses, a oedd yn cynnwys caffael a threfniadau rheoli
contractau.
Fel y nodwyd uchod, daeth adroddiad Archwilio Cymru i’r
casgliad cyffredinol fod y Cyngor wedi pennu disgwyliadau eglur ar gyfer
adrannau wrth gomisiynu gwasanaethau, ond nad oedd gan y Cyngor drefniadau i
sicrhau y cyflawnid y rheiny’n gyson. Roedd yr adroddiad yn ymhelaethu ar y
sail ar gyfer barn Archwilio Cymru ac roedd a wnelo hynny yn y bôn â’r ffaith y
gallai’r Cyngor ddangos sail resymegol bendant ar gyfer comisiynu gwasanaethau
a’i fod yn egluro hynny yn ei Strategaethau Caffael a Chomisiynu. Roedd y
prosesau a’r ffurflen Comisiynu’n annog adrannau i ystyried eu sail resymegol
hwythau ar gyfer comisiynu gwasanaethau i ateb eu gofynion a sut y byddent yn
gwneud hynny.
Sefydlwyd trefniadau hefyd i arfarnu dewisiadau wrth
gomisiynu gwasanaethau. Serch hynny, nid oedd gan y Cyngor drefniadau
systematig i annog adrannau i ddechrau ystyried dewisiadau comisiynu ar yr adeg
briodol. Yr adrannau eu hunain oedd yn trefnu eu gweithgareddau comisiynu yn
hytrach na bod yno drefn gorfforaethol.
Deuai’r adroddiad i’r casgliad nad oedd y Cyngor yn
ystyried ffactorau tymor byr, tymor canolig a thymor hir a allai ddylanwadu ar
amserlenni comisiynu, ac y dylid ymgorffori hynny yn y broses. Rhoes Pennaeth y
Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl eglurhad manwl o gasgliadau’r
adroddiad.
Gwnaeth Archwilio Cymru ddau o argymhellion i’r Cyngor:
· Cryfhau gorolwg strategol
ar waith comisiynu
· Datblygu’r trefniadau
ffurfiol ar gyfer rhannu gwersi a ddysgwyd.
Roedd yr adroddiad yn
manylu ynghylch ymateb Rheolwyr i’r argymhellion uchod, gan gynnwys Penaethiaid
Gwasanaethau’n gweithio â’u partneriaid Caffael a Chyllid i roi gorolwg o
weithgareddau comisiynu ar gyfer y 24 mis nesaf, a’r Rheolwr Mewnwelediad, Strategaeth
a Chyflawni’n cyfrannu at y daflen gynorthwyol a roddid i Benaethiaid
Gwasanaethau ar gyfer datblygu eu cynlluniau gwasanaeth bob blwyddyn, gan
ystyried unrhyw waith comisiynu oedd yn debygol o ddigwydd wrth lunio’r
cynlluniau hynny.
Diolchodd y Cadeirydd
i’r Aelod Arweiniol a Phennaeth y Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl am
yr adroddiad a gwahoddodd y Pwyllgor i ofyn cwestiynau.
Holodd yr Aelodau
ynglŷn â’r diwylliant yn y Cyngor o safbwynt comisiynu gwasanaethau o’r tu
allan, a chredant y dylid mynd i’r afael â hynny, gan nad oedd dim dewis ond
defnyddio adnoddau allanol mewn rhai sefyllfaoedd. Dywedodd y Swyddog Monitro bod
a wnelo’r adroddiad â phrosesau’r Cyngor ar gyfer comisiynu gwasanaethau, ac
nad oedd yn ofynnol cael cymeradwyaeth aelodau ar gyfer llawer o wasanaethau a
gomisiynid, gan y gellid eu cymeradwyo drwy drefniadau dirprwyo os oedd y
gwariant islaw’r trothwy a bennwyd.
Dywedodd yr aelodau bod
yr adroddiad yn gadarnhaol a chalonogol.
Holodd aelodau
ynglŷn â’r awydd i gomisiynu darparwyr allanol a’r gwersi a ddysgwyd, gan
ofyn a oedd angen dadansoddi cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau pob
adnodd (SWOT) fel y gallai aelodau weld pam a sut y’u detholwyd. Eglurodd y
Rheolwr Caffael Cydweithredol a Fframwaith y defnyddid dau o ddarnau o
ddeddfwriaeth, sef y Ddeddf Caffael a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a
Chaffael Cyhoeddus Cymru, a oedd yn mynnu bod y sector cyhoeddus yn ystyried
rhwystrau ar gyfer busnesau bach a chanolig a sefydliadau trydydd sector.
Cynhaliwyd trafodaethau â Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych i ddangos bod y
rhwystrau’n lleihau fel y gallai sefydliadau ymgeisio am gontractau a dod yn
fwy cynaliadwy yn ariannol.
Hysbysodd y Cadeirydd y
Pwyllgor y cynhaliwyd sesiwn hyfforddiant ynglŷn â chaffael ym mis Ionawr
2025 a bod y dogfennau ar gael yng Ngyriant Hyfforddiant yr Aelodau, pe dymunai
rywun ddysgu mwy am y ddeddfwriaeth uchod.
Gofynnodd aelodau am
eglurder ynglŷn â lefelau’r cwestiynau gan Archwilio Cymru fel y nodwyd yn
atodiad 1 i’r adroddiad. Nodwyd y defnyddiwyd cwestiynau lefel 2 a lefel 3 ond
nad oedd yno ddim cwestiynau lefel 1. Dywedodd cynrychiolydd Archwilio Cymru
mai’r prif gwestiwn oedd yr un lefel 1 ac y defnyddid cwestiynau lefel 2 a
lefel 3 i fanylu ynghylch y cwestiwn hwnnw.
Holodd aelodau a oedd
yno sefydliadau a oedd yn barod i ddarparu gwasanaethau, gan nodi y gallai fod
yn anodd canfod darparwyr allanol oherwydd cystadleuaeth yn y farchnad.
Eglurodd y Rheolwr Caffael Cydweithredol a Fframwaith ei bod yn bwysig iawn
datblygu’r farchnad. Roedd y Deddfau newydd oedd mewn grym yn rhoi pwerau i
Awdurdodau Lleol gyhoeddi manylion ynghylch contractau posib yn y dyfodol. Ar
sail hynny, gellid meithrin cyswllt yn ffurfiol â’r sector preifat a chynllunio
gwaith caffael o flaen llaw, yn ogystal â darparu dyddiadau terfynu contractau.
Holodd aelodau sut roedd
y Cyngor yn cyfathrebu â’r sector preifat. Croesawodd yr Aelod Arweiniol
Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol y cwestiwn a dywedodd mor
bwysig oedd meithrin cyswllt â’r sector preifat. Bu llawer iawn o gyswllt â
Busnes Cymru a chynhaliwyd sesiynau ymgysylltu â’r cyhoedd. Ychwanegodd y
Rheolwr Caffael Cydweithredol a Fframwaith ei bod wedi cymryd rhan mewn amryw
ddigwyddiadau â Busnes Cymru a Phartneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru. Cynhaliwyd
digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr y bu mwy na phedwar ugain o fusnesau lleol yn
bresennol ynddynt.
Wrth sôn am yr
adroddiad, dywedodd y Cadeirydd nad oedd gan y Cyngor drefniadau systemig i
annog adrannau i ddechrau ystyried dewisiadau comisiynu ar adegau priodol, a
holodd a oedd unrhyw anogaeth o gwbl. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth
Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac
Asedau na ddarperid anogaeth yn gorfforaethol a bod y Cyngor yn croesawu a
derbyn argymhelliad Archwilio Cymru ynglŷn â hynny.
Wedi trafodaeth drylwyr:
PENDERFYNWYD: derbyn a nodi adroddiad
Archwilio Cymru ynghylch Gwasanaethau Comisiynu Sir Ddinbych.
Dogfennau ategol:
-
Audit Wales Report- Commissioning- Gov Audit- 19.03.25, Eitem 5.
PDF 278 KB
-
Appendix 1- 4630A2024_Denbighshire_Commissioning_Services_Eng, Eitem 5.
PDF 372 KB
-
Appendix 2- Management Response Form - Denbighshire Commissioning v2, Eitem 5.
PDF 517 KB