Eitem ar yr agenda
ER GWYBODAETH - ADRODDIAD ARCHWILIO CYMRU: CRACIAU YN Y SYLFEINI – DIOGELWCH ADEILADAU YNG NGHYMRU
Derbyn adroddiad
(copi ynghlwm) gan Archwilio Cymru gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd
a Gwasanaethau Cefn Gwlad ar Graciau yn y Sylfeini - Diogelwch Adeiladau yng
Nghymru.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y
Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw)
i’r Pwyllgor.
Rhoes yr adroddiad orolwg ar Adroddiad
Archwilio Cymru ynghylch ‘Craciau yn y Sylfeini’ – Diogelwch Adeiladau yng
Nghymru’ ac ymateb rheolwyr i’r argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol.
Wedi’r tân yn Nhŵr Grenfell yn 2017,
cynhaliwyd adolygiad annibynnol o Reoliadau Adeiladu a Diogelwch Tân a
chyhoeddwyd y canfyddiadau yn 2018. Amlygodd yr adolygiad bryderon difrifol
ynghylch y gyfundrefn bresennol ar gyfer diogelwch adeiladau ac yn sgil hynny,
argymhellwyd rhoi fframwaith newydd ar waith, sef Deddf Diogelwch Adeiladau
2022.
Cyflwynodd y Ddeddf honno’r newid mwyaf
sylweddol mewn rheoliadau diogelwch adeiladau ers 1984 a neilltuwyd nifer o
gyfrifoldebau arwyddocaol i Awdurdodau Lleol a swyddogion.
Nod Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 oedd
gwella diogelwch wrth godi adeiladau uchel ac ansafonol drwy bennu rheoliadau
ychwanegol ar gyfer dylunio adeiladau felly, eu hadeiladu, eu cynnal a chadw
a’u defnyddio. Roedd Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 hefyd wedi cyflwyno
gofynion newydd i sicrhau fod Swyddogion Rheoli Adeiladau’n profi eu cymhwysedd
mewn un o dair o lefelau (Domestig, Cyffredinol ac Arbenigol).
Er mwyn deall sefyllfa bresennol Awdurdodau
Lleol a dangos i ba raddau y cydymffurfir â’r Ddeddf newydd, cyhoeddodd
Archwilio Cymru’r adroddiad ‘Craciau yn y Sylfeini – Diogelwch Adeiladau yng
Nghymru’ (a ddosbarthwyd o flaen llaw). Roedd yr adroddiad yn ystyried
trefniadau Rheoli Adeiladau Awdurdodau Lleol yng Nghymru a’u gallu i gyflawni
gofynion newydd Deddf Diogelwch Adeiladau 2022. Roedd y canfyddiadau allweddol
yn yr adroddiad yn amlygu pryderon ynghylch gallu swyddogion a phrinder
gweithwyr proffesiynol cymwys. Yn unol â hynny, soniai’r adroddiad na châi
cyfrifoldebau a gofynion y ddeddf o reidrwydd eu cyflawni fel y bwriadwyd.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys wyth o argymhellion; neilltuwyd pedwar
ohonynt i Lywodraeth Cymru a phedwar i Awdurdodau Lleol, ac fe’u cyflwynwyd yn
Atodiad 2 i’r adroddiad.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Cynllunio,
Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad am yr adroddiad a gwahoddodd
Aelodau i ofyn cwestiynau.
Holodd aelodau pam nad oedd yr adroddiad yn
sôn am goncrit awyredig awtoclafiedig cydnerth (RAAC). Dywedodd y
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad ei fod ar
ddeall bod RAAC ymysg cyfrifoldebau’r adrannau Eiddo ac Addysg ac y byddai’n
siarad â’r adran Eiddo ar ôl y cyfarfod i ofyn am nodyn i’w gynnwys yn ymateb y
Cyngor ynghylch RAAC (cam gweithredu i EJ).
Holodd aelodau a oedd yr adroddiad yn golygu
ei bod bellach yn ddiogel i gaffael / defnyddio’r holl gladin a ddarperid yng
Nghymru. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Adeiladu Dros Dro fod yno bellach fesurau
rheoli dan y gyfundrefn safonau cymhwysedd newydd. Rhennid y Safonau Cymhwysedd
yn feini prawf Domestig, Cyffredinol ac Arbenigol a chynorthwywyd swyddogion i
gyflawni’r safonau hynny er mwyn cynnal lefelau cymhwysedd a diogelwch.
Holwyd pwy oedd yn gyfrifol am ddiogelwch
adeiladau uchel, ai’r Awdurdod Lleol ynteu’r contractwr. Eglurodd y Pennaeth
Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad bod y sefyllfa’n dra
chymhleth. Gwyddai Awdurdodau Lleol yn bendant beth oedd eu cyfrifoldebau
ynglŷn â chladin a diogelwch tân, a gweithiant mewn partneriaeth â
Llywodraeth Cymru yn hynny o beth. Ychwanegodd y Rheolwr Rheoli Adeiladu Dros
Dro na châi unrhyw adeiladau eu cymeradwyo na’u defnyddio heb fod yno
dystiolaeth o gydymffurfio’n briodol, a bod y drefn honno’n cychwyn yn y cam
dylunio ac yn parhau nes cwblheid y gwaith ar y safle.
Soniodd aelodau am broblemau â thir
halogedig, ond dywedodd y Cadeirydd nad oedd yr adroddiad yn ymdrin â hynny gan
awgrymu y dylid trafod y mater yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Craffu, a chytunodd yr aelodau â hynny. Cytunodd y Swyddog Monitro
y byddai’n anfon ffurflen â chynnig drafft at y Cadeirydd, i’w chyflwyno er
ystyriaeth yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Craffu (cam gweithredu i GW).
Gofynnodd y Cadeirydd am
sicrwydd nad oedd y Cyngor wedi comisiynu rhai o’r cwmnïau hynny a enwyd yn
gyhoeddus yn ystod yr ymchwiliad i drychineb Tŵr Grenfell.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at
argymhelliad 5 yn yr adroddiad a gofynnodd a roddwyd ystyriaeth i broblemau
posib â recriwtio a chadw staff ychwanegol ac arbenigol. Cydnabu’r Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y
Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad ei bod yn anodd recriwtio staff ond bod
gwaith yn mynd rhagddo ag Adnoddau Dynol i geisio mynd i’r afael â’r risg. Nid
oedd o’r farn bod cadw staff yn broblem arwyddocaol ar hyn o bryd.
Wrth sôn am argymhelliad 7
yn yr adroddiad, holodd y Cadeirydd a fyddai’n ymarferol cydweithio mwy â’r
sector preifat. Atebodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau
Cefn Gwlad yr ymchwilid i gyfleoedd i gydweithio ag awdurdodau cyfagos, ond bod
yr Awdurdod Lleol yn y pen draw’n cystadlu â’r sector preifat.
Yn dilyn trafodaeth fanwl:
PENDERFYNWYD:
I.
derbyn a nodi Adroddiad Archwilio Cymru:
Craciau yn y Sylfeini – Diogelwch Adeiladu yng Nghymru, a
II.
bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’n cyfeirio’r
mater at y drefn Graffu, yn ogystal ag eitem ynghylch Tir Halogedig.
Dogfennau ategol:
-
Governance Audit Committee report - Cracks in Foundations Ver2, Eitem 6.
PDF 232 KB
-
Cracks_in_the_Foundations_Building_Safety_in_Wales_English_0 - Appendix 1, Eitem 6.
PDF 787 KB
-
Organisational Response Form - Building Safety in Wales - Appendix 2, Eitem 6.
PDF 153 KB