Eitem ar yr agenda
CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED CERBYD HACNI
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i
adnewyddu Trwydded Cerbyd Hacni.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD gwrthod y
cais i adnewyddu Trwydded Cerbyd Hacni.
Cofnodion:
(i)
cais a dderbyniwyd i adnewyddu Trwydded Cerbyd
Hacni;
(ii)
y ffaith bod y cerbyd wedi’i drwyddedu
fel Cerbyd Hacni ers ei gofrestru am y tro cyntaf yn 2008 a bod y drwydded
wedi’i hadnewyddu bob blwyddyn ers hynny, ac y byddai’r drwydded gyfredol yn
dod i ben ar 31 Mawrth 2025 pan fyddai’r cerbyd yn 16 o flynyddoedd oed;
(iii)
y ffaith na fedrau swyddogion
gymeradwyo’r cais gan nad oedd y cerbyd mwyach yn cydymffurfio â pholisi
presennol y Cyngor oherwydd y cyfyngiad ar oedran cerbydau y gellir eu
hadnewyddu (hyd at 12 o flynyddoedd oed yn unig) a bod y cyfnod gras neu’r
‘hawliau taid’ wedi dod i ben ar 30 Mehefin 2024;
(iv)
gwybodaeth gefndirol a dogfennau
cysylltiedig a ddarparwyd, gan gynnwys datganiad ategol yr Ymgeisydd ynghyd â
chofnodion cynnal a chadw/cydymffurfiaeth y cerbyd, geirda gan y garej a phrawf
allyriadau; a
(v)
y ffaith y gwahoddwyd yr Ymgeisydd i’r cyfarfod i
siarad o blaid y cais i adnewyddu’r drwydded.
Roedd yr
ymgeisydd yn bresennol er mwyn siarad o blaid ei gais.
Cyflwynodd
y Swyddog Gorfodi (Trwyddedu) yr adroddiad a gofynnwyd i’r Pwyllgor Trwyddedu
ystyried a fyddai’n briodol gwyro o bolisi’r Cyngor ynghylch oedrannau cerbydau
a chymeradwyo’r cais i adnewyddu’r drwydded.
Dywedodd
yr Ymgeisydd nad oedd ganddo ddim i’w ychwanegu at yr hyn a nodwyd yn yr
adroddiad (a oedd yn cynnwys ei ddatganiadau ategol a dogfennau ar gyfer y
cerbyd).
Atebodd
yr Ymgeisydd gwestiynau ynglŷn â pham nad oedd eisoes wedi cymryd camau i
sicrhau cydymffurfiaeth â’r polisi ynghylch oedran cerbydau, gan grybwyll ei
oedran a’i amgylchiadau personol a sôn na fyddai’n gweddu iddo weithio i
weithredwr tacsi arall. Eglurodd hefyd
fod cofnodion trin a chynnal a chadw’r cerbyd yn anghyflawn gan mai ef a
gyflawnodd lawer o’r gwaith hwnnw ei hun.
Gofynnwyd cwestiwn hefyd i’r Swyddog Gorfodi, a gytunodd â datganiad
blaenorol yr Ymgeisydd fod yno brinder tacsis mewn safleoedd pwrpasol, yn
enwedig yn y Rhyl, a llai o dacsis yn cludo teithwyr. Ychwanegodd yr Ymgeisydd fod llawer o
weithredwyr yn canolbwyntio ar waith contract gydag ysgolion ac nad oedd ond
ychydig o weithredwyr a wnâi waith mewn safleoedd tacsis, a oedd yn farchnad
arbenigol.
Yn ei
ddatganiad i gloi, soniodd yr Ymgeisydd y trwyddedwyd cerbyd arall yn agos i’r
un oedran a’i gerbyd ef a bod yno gerbydau trwyddedig hŷn na hynny mewn
ardaloedd eraill. Soniodd hefyd am ei
ymddygiad da ers blynyddoedd lawer fel gyrrwr trwyddedig, a gofynnodd i’r
Pwyllgor fod yn bleidiol i’w gais.
Tynnodd Aelodau sylw at y ffaith bod y cerbyd y cyfeiriai’r Ymgeisydd
ato’n un o fath arbennig nad oedd yn berthnasol yn yr achos hwn, a derbyniwyd
fod awdurdodau lleol eraill yn arfer gwahanol bolisïau. Ychwanegodd y Swyddog Gorfodi bod y Cyngor yn
gweithredu polisi pendant a orfodid yn llym, a bod hynny’n effeithiol wrth
annog cerbydau newydd a oedd yn addas ar gyfer y ffordd ac yn ddiogel i’w
defnyddio. Cadarnhawyd bod yr Ymgeisydd
wedi cael yr holl wybodaeth am ofynion y polisi.
Wedi torri’r
cyfarfod i’r Pwyllgor ystyried y cais am adnewyddiad –
PENDERFYNWYD gwrthod y cais i adnewyddu Trwydded Cerbyd Hacni.
Dyma oedd
rhesymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –
Roedd y
Pwyllgor wedi pwyso a mesur yn ofalus yr hyn a gyflwynodd yr Ymgeisydd ynghyd
â’r wybodaeth a ddarparodd y swyddogion cyn y cyfarfod, a diolchodd yr aelodau
i bawb am eu cymorth. Wrth gyhoeddi ei
benderfyniad, tynnodd y Pwyllgor sylw at wasanaeth clodwiw’r Ymgeisydd am fwy
na deg ar hugain o flynyddoedd yn y diwydiant tacsis gan ddiolch iddo am hynny.
Roedd yr
aelodau wedi ystyried yn bwyllog y rhannau perthnasol o Bolisi’r Cyngor ar
gyfer Trwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat a’r Amodau ynghylch
oedran cerbydau. Yn benodol, roedd y
Pwyllgor wedi ystyried Adran 5.4.2, a oedd yn datgan “… bydd trwydded y
cerbyd yn cael ei hadnewyddu i hyd at 12 mlwydd oed yn unig, a bryd hynny, bydd
yn rhaid disodli’r cerbyd gydag un sydd hyd at uchafswm oedran o 5 mlwydd oed o
ddyddiad y cofrestriad cyntaf.”
Byddai’r cerbyd y ceisid adnewyddu’r drwydded ar ei gyfer yn 16 o
flynyddoedd ac 8 mis oed ar ddyddiad adnewyddu’r drwydded, a bron yn 18 o
flynyddoedd oed pan ddeuai’r drwydded honno i ben, a oedd yn bump neu chwe
blynedd yn hŷn na’r terfyn a bennid yn y polisi. Roedd y cerbyd hefyd wedi teithio cryn
bellter, gyda milltiredd o 272,053.
Roedd Adran
5.4.3 o’r Polisi’n ymdrin â ‘hawliau taid’.
Daeth y polisi i rym yn 2017 a chafodd yr Ymgeisydd bum mlynedd wedi
hynny i sicrhau cydymffurfiaeth â’r terfyn oedran, a dwy flynedd arall ar ben
hynny oherwydd y pandemig Covid-19. Barn
y Pwyllgor, felly, oedd y bu’r Ymgeisydd yn ymwybodol ers mwy na saith mlynedd
o’r sefyllfa a’r gofynion pan ddeuai’r drwydded i ben, a’i fod wedi methu â
bodloni’r gofynion hynny.
Credai’r
aelodau y cyflwynwyd y polisi er mwyn hybu cynlluniau amgylcheddol yn ogystal â
sicrhau bod y cyhoedd yn ddiogel ac yn gyfforddus wrth deithio.
Ar sail y
darpariaethau polisi uchod, bu’r Pwyllgor yn ystyried a fyddai’n briodol gwyro
o’r polisi yn yr achos hwn. Rhoes y
Pwyllgor sylw i’r hyn a gyflwynodd yr Ymgeisydd ac er bod yr aelodau’n
cydymdeimlo ag amgylchiadau personol yr Ymgeisydd, y cerbyd oedd yn destun y
cais oedd yr unig ystyriaeth berthnasol.
Methodd yr Ymgeisydd â darparu cofnodion llawn o drin a chynnal a
chadw’r cerbyd, ac roedd yno nifer o nodiadau cynghori yn y cofnodion
MOT/Cydymffurfiaeth. Tynnwyd sylw hefyd
at adroddiad y swyddog, a nodai fod yno gryn ôl traul a gwisgo ar y cerbyd gan
nad oedd yn un o fath arbenigol. Barnodd
y Pwyllgor hefyd y bu’r polisi cyfredol mewn grym ers 2017 a bod yr Ymgeisydd
yn ymwybodol ohono, gan gynnwys y gofynion ynglŷn ag oedran cerbydau. Roedd y Cyngor wedi mabwysiadu’r polisi er
mwyn codi safonau yn y fflyd gerbydau, ac roedd y terfyn oedran yn rhan o
hynny. Felly, roedd y Pwyllgor o’r farn
bod yr Ymgeisydd heb gynnig unrhyw ddadl dderbyniol o blaid ei gais o safbwynt
amgylchiadau eithriadol neu resymau cyfiawn a fyddai wedi dwyn perswâd ar y
Pwyllgor i wyro o’r polisi yn yr achos hwn.
Cyhoeddodd y
Cadeirydd y penderfyniad i’r Ymgeisydd ac eglurodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol
y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
Hysbyswyd yr Ymgeisydd hefyd fod ganddo hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad
i’r Llys Ynadon cyn pen 21 o ddiwrnodau.
Daeth y cyfarfod i ben am 10.40 am.
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./2 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./3 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./4 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./5 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./6 yn gyfyngedig