Eitem ar yr agenda
PENDERFYNIAD CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR YMATEB I’R AROLYGYDD
Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Polisi, Ymchwil a
Gwybodaeth (mae copi ynghlwm) am yr ymgynghoriad ar safleoedd tai ychwanegol a
pholisi fesul cyfnod drafft.
Cofnodion:
Roedd
copi o adroddiad gan y Rheolwr Polisi,
Ymchwil a Gwybodaeth, am yr ymgynghoriad ar safleoedd tai
ychwanegol a’r polisi fesul cyfnod drafft, wedi’i
gylchredeg gyda’r papurau
i’r cyfarfod.
Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai penderfyniad yn cael ei geisio
gan yr Aelodau o ran cyflwyno’r rhestr o’r 21 safle tai ychwanegol, ynghyd â’r
polisi fesul cyfnod cysylltiedig yn benodol i’r safleoedd tai ychwanegol hynny,
i Arolygydd Cynllunio’r Cynllun Datblygu Lleol. Byddai penderfyniad y Cyngor yn
cael ei gyflwyno i’r Arolygwyr a fyddai’n penderfynu a
oes gan y Cyngor Gynllun Datblygu Lleol cadarn ai peidio. Pe byddai’r Cyngor yn
penderfynu peidio â chyflwyno safleoedd ychwanegol, byddai’n methu â mynd i’r
afael â chanfyddiadau’r Arolygwyr a byddai’r Arolygwyr yn canfod bod y Cynllun
yn ‘ansicr’, er gwaethaf y ffaith mai’r unig achos pryder wedi’i nodi gan yr
Arolygwyr fyddai cyflenwad tai.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at
arwyddocâd strategol ehangach y Cynllun Datblygu Lleol, cynllun statudol, a
fyddai’n chwarae rhan uniongyrchol mewn cyflawni blaenoriaethau ‘Datblygu’r
Economi Leol’ a ‘Sicrhau Bod Tai o Safon Ar Gael’ drwy ei bolisïau a’i
gynigion. Byddai’r Cynllun Datblygu Lleol yn darparu gweledigaeth i’r Sir am y
blynyddoedd i ddod ac yn dylanwadu ar ddyfodol Sir Ddinbych drwy feithrin hyder
yn y sector preifat, annog buddsoddiad a gwella rhagolygon cyflogaeth.
Pwysleisiodd y
Prif Weithredwr fod y Cynllun Datblygu Lleol wedi’i ddatblygu gan Sir Ddinbych
a bod y cyngor wedi cytuno ar y ffigur o 7500 o gartrefi newydd sydd yn y
Cynllun yn 2008. Cyfeiriodd at y polisi fesul
cyfnod ac eglurodd mai ffigur cynllunio oedd y ffigur o 7500 ac nad oedd yn nodi nifer y tai y mae’n rhaid eu hadeiladu. Ni
fyddai gweithredu’r 21 safle i’r cyfnod olaf yn y
Cynllun yn caniatáu i’w dwyn ymlaen heblaw bod y cyflenwad tir tai cyflenwadwy
yn syrthio islaw pum mlynedd, a byddai hyn yn cael ei bennu gan y farchnad a’r
economi. Awgrymwyd hwyrach y byddai’r Aelodau, wrth ffurfio eu penderfyniad, am
ystyried pwysigrwydd Cynllun Datblygu Lleol i Sir Ddinbych, tebygolrwydd
defnyddio’r safleoedd a rhoi ystyriaeth i bob un
safle.
Bu’r Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd yn crynhoi’r adroddiad a oedd yn disgrifio’r hanes a’r cyfnodau allweddol ers dechrau’r Cynllun Datblygu Lleol yn 2006. Roedd yr adroddiad yn amlygu’r broses a fabwysiadwyd, y sylwadau a gafwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad ar safleoedd tai ychwanegol arfaethedig a’r polisi fesul cyfnod drafft a gyflwynwyd mewn ymateb i ganfyddiadau’r Arolygwyr Cynllunio ynghylch yr angen a’r cyflenwad tai a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2012.
Roedd dwy brif swyddogaeth y Cynllun Datblygu Lleol yn cynnwys dyrannu safleoedd am ddatblygiad posibl, a darparu polisïau penodol i arwain a rheoli’r ffordd y dylai datblygiad gael ei wneud. Byddai felly’n ddogfen allweddol i hwyluso datblygiad economaidd ledled y Sir drwy ddyrannu tir i fodloni anghenion y Sir o ran denu defnyddiau cyflogaeth newydd, darparu tai newydd, sefydlu cyfleusterau hamdden a chymunedol, gwella ffyrdd a seilwaith arall. Byddai cyflenwi dwy o flaenoriaethau’r Cyngor yn llwyddiannus, sef sicrhau bod tai o safon ar gael a datblygu’r economi leol, hefyd yn dibynnu’n helaeth ar gael Cynllun Datblygu Lleol wedi’i fabwysiadu.
Roedd Strategaeth y Cynllun Datblygu Lleol y cytunwyd arni yn 2008 yn cynnwys twf tai posibl o 7500. Byddai mwyafrif helaeth y twf posibl yn digwydd ar dir llwyd ac yn rhan o aneddiadau presennol. Fodd bynnag, bu’r lefel hon o dwf islaw rhagamcaniadau tai Llywodraeth Cymru ar gyfer y Sir, sef 8500. Roedd gwybodaeth am boblogaeth wedi’i chynnwys yn Atodiadau 5 a 6 i’r adroddiad.
Ar ôl cytuno yn y Cyngor Llawn ym mis Mai 2011, cyflwynwyd y Cynllun
Datblygu Lleol yn ffurfiol i’r Arolygiaeth Gynllunio am Archwiliad cyhoeddus.
Bu’r Arolygwyr yn ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd a chyhoeddwyd nodyn
ganddynt ym mis Mehefin 2012 yn rhoi gwybod i’r Cyngor eu bod wedi derbyn
targed tai’r Cyngor sef darparu 7500 o dai newydd erbyn 2021 i fodloni
anghenion tai ac nad oeddent yn cynnig newid hynny. Fodd bynnag, roedd yr
Arolygydd yn ystyried nad oedd y Cyngor wedi canfod
cyflenwad digonol o dir tai yn y Cynllun i fodloni’r angen y cytunwyd
Eglurwyd bod Aelodau wedi cytuno i symud ymlaen i nodi safleoedd a gyflwynwyd yn flaenorol ym mhroses y Cynllun Datblygu Lleol i ddarparu lle i 1000 o anheddau ychwanegol i’r cyflenwad tai cyffredinol yn y Sir. Cafodd yr holl safleoedd a gyflwynwyd yn flaenorol eu sgrinio am gyfyngiadau a nodwyd 21 o safleoedd tai posibl fel y nodwyd yn Atodiad 2 i’r adroddiad. Roedd rhyw 825 o’r anheddau yn y 21 safle ychwanegol mewn aneddiadau yng ngogledd y Sir ac mewn trefi a chanddynt gyfleusterau eisoes.
Barn y Cyngor yn ystod yr Archwiliad oedd nad oedd y 1000 o dai ychwanegol yn ofynnol gan fod cyflenwad tai digonol yn y Cynllun Datblygu Lleol i gyrraedd y targed o 7500 a nodwyd. Fodd bynnag, roedd yr Arolygydd yn anghytuno, ar sail yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd iddo yn ystod y Sesiynau Gwrandawiad. O ystyried y gwahaniaeth barn rhwng y Cyngor a’r Arolygydd, ystyriwyd ei bod yn briodol cynnig polisi ychwanegol yn ogystal â chyflwyno’r rhestr o safleoedd ychwanegol. Roedd y polisi ychwanegol, Atodiad 1, yn bolisi fesul cyfnod a oedd yn ceisio cyfyngu ar weithredu’r 21 safle hyd gyfnod olaf y Cynllun a sicrhau na fyddent yn cael eu dwyn ymlaen heblaw bod y cyflenwad tir tai cyflenwadwy’n syrthio islaw 5 mlynedd.
Eglurodd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd fod y polisi fesul cyfnod wedi’i ddrafftio i sicrhau dull clir a chadarn ac wedi’i gynnwys yn rhan o’r ymgynghoriad ar yr 21 safle am ei fod yn rhan annatod o’r ymateb i’r Arolygydd. Amlinellwyd y broses ymgynghori ac roedd Atodiad 3 yn nodi nifer y gwrthwynebiadau a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori gan breswylwyr lleol ar bob safle. Roedd Atodiad 4 yn darparu asesiad cynhwysfawr o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd a’r ymatebion a gafwyd.
Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau, os byddant yn penderfynu cyflwyno safleoedd ychwanegol i’r Arolygwyr, y byddai Sesiynau Gwrandawiad yn cael eu cynnal ar ddiwedd mis Ionawr a byddai gwrthwynebwyr yn cael y cyfle i gyflwyno eu pryderon a’u tystiolaeth i’r Arolygwyr a fyddai’n cyhoeddi eu hadroddiad ar ôl i’r Sesiynau Gwrandawiad gau. Amlinellodd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd ganlyniadau peidio â chyflwyno safleoedd ychwanegol i’r Arolygwyr. Byddai’n rhaid i’r Cyngor ddechrau’r broses eto a byddai hyn yn golygu bod angen ymchwil ac ymgynghori ychwanegol, Archwiliad cyhoeddus pellach, gan greu costau sylweddol i’r Cyngor ac efallai cymryd 3 i 4 blynedd bellach.
Pwysleisiodd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd fod risgiau clir a phwysig ynghlwm wrth benderfyniad gan y Cyngor i beidio â chytuno i’r safleoedd ychwanegol ac felly peidio â chael Cynllun Datblygu Lleol. Roedd y rhain yn cynnwys:
· Ni fyddai gan y Cyngor unrhyw gynllun defnydd tir strategol ar gyfer datblygiad a thwf y Sir.
· Byddai’r broses o gyflenwi blaenoriaethau Corfforaethol tai a datblygu economaidd yn cael ei rhwystro’n ddifrifol.
· Ni fyddai gan y Cyngor 5 mlynedd o gyflenwad tir tai.
· Byddai datblygiad yn cael ei ysgogi gan y farchnad a gellid cyflwyno ceisiadau am dai newydd ar gyfer unrhyw safle yn y Sir, gan gynnwys y rheini a wrthodwyd ar y rhestr tai ychwanegol yn Atodiad 2. Heb 5 mlynedd o gyflenwad tai, byddai’n anodd gwrthod ceisiadau felly a phe byddent yn cael eu gwrthod byddai’n anoddach byth cyfiawnhau hynny mewn unrhyw apêl ddilynol.
· Byddai mewnfuddsoddiad ar gyfer defnyddiau cyflogaeth newydd yn annhebygol o ddod i’r amlwg oherwydd prin y byddai tir cyflogaeth cyflenwadwy ar ôl.
· Defnyddio adnoddau’r Cyngor yn aneffeithlon, o ystyried bod gwaith a chostau sylweddol wedi bod ers 2006 i gyrraedd y man hwn.
· Ni ellid ystyried polisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol a wrthodwyd wrth ymdrin â cheisiadau cynllunio ac, fel y cyfryw, byddai ceisiadau cynllunio’n cael eu hasesu ar sail polisïau yn yr hen Gynllun Datblygu Unedol.
· Ni fyddai’r cyflenwad tai fforddiadwy ychwanegol a ragwelir i fodloni anghenion lleol yn cael ei gyflawni.
Pwysleisiodd
y swyddogion y byddai pwyso a mesur y risgiau ynghlwm wrth beidio â chytuno i
argymhelliad yr adroddiad, a hynny mewn perthynas â’r tebygolrwydd na fyddai’r
21 safle ychwanegol yn dod i’r amlwg i’w datblygu o ystyried y polisi fesul
cyfnod arfaethedig cysylltiedig, realiti’r economi, y cyflenwad tir tai sydd
eisoes wedi’i gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol a thebygolrwydd cynnal 5
mlynedd o gyflenwad tai drwy gydol oes y Cynllun. Cadarnhawyd bod mwyafrif y
costau i symud y Cynllun Datblygu Lleol yn ei flaen eisoes wedi digwydd ac y
byddai peidio â’i fabwysiadu’n golygu costau ychwanegol sylweddol.
Eglurodd y Cynghorydd E.W. Williams mai dogfen Sir Ddinbych oedd y Cynllun Datblygu Lleol a bod Aelodau wedi cytuno ar ei gynnwys. Fodd bynnag, roedd rhai pethau wedi’u cynnwys yn y ddogfen yn groes i ddymuniadau’r Aelodau o ran eu hardaloedd priodol eu hunain ac yn aml dylanwadwyd arnynt gan gyrff allanol, fel Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog. Eglurodd y byddai’n bwysig cyflwyno cynigion i’r Arolygwyr i sicrhau bod gan Sir Ddinbych gynllun defnydd tir strategol ac y gallai ddylanwadu ar ddatblygiadau’r dyfodol, a byddai hyn yn galluogi Sir Ddinbych i gyfyngu ar ddatblygiad y tu allan i’r 21 ardal a nodwyd.
Cadarnhaodd y Rheolwr Polisi, Ymchwil a Gwybodaeth fod Atodiad 4 yn darparu asesiad cynhwysfawr o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd a’r ymatebion a gafwyd, ac fel y cytunodd y Cabinet roedd sylwadau hwyr wedi’u cylchredeg i’r Aelodau ar ôl y terfyn amser o 5.00pm y diwrnod blaenorol. Mynegodd y Cynghorydd E.W. Williams bryder fod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflwyno sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori penodedig. Cyfeiriodd at y Polisi Fesul Cyfnod ac eglurodd na fyddai’r 21 safle’n cael eu dwyn ymlaen heblaw bod y cyflenwad tir tai cyflenwadwy’n syrthio islaw 5 mlynedd. Cadarnhawyd mai dim ond un o’r safleoedd a nodwyd, sef safle tir llwyd yn y Rhyl, oedd y tu mewn i ardal y gorlifdir.
Bu’r Aelodau’n cwestiynu statws yr 21 o safleoedd ychwanegol a nodwyd yn y dyfodol. Cefnogodd y Cynghorydd M.L. Holland, ac eiliodd y Cynghorydd A. Roberts, gynnig gan y Cynghorydd G.M. Kensler i gynnwys argymhelliad ychwanegol yn nodi “nad yw’r un o’r safleoedd sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd yn cael eu hystyried yn rhan o’r sefyllfa sydd ohoni yn 2021”. Ar fwrw pleidlais, cafodd y cynnig ei dderbyn.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd T.R. Hughes y gellid cyflwyno cais cynllunio gan ddatblygwr ar gyfer datblygu tai fforddiadwy yn un o’r 21 ardal a nodwyd, eglurodd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd y byddai swyddogion, yn unol â’r Polisi Fesul Cyfnod, yn argymell gwrthod y cais. Fodd bynnag, byddai’r cais yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynllunio i’w ystyried ac am benderfyniad terfynol. Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai’r broses gynllunio’n llawer mwy bregus heb Gynllun Datblygu Lleol yn ei le a byddai cael Cynllun Datblygu Lleol wedi’i fabwysiadu’n rhoi’r cyfle i swyddogion a’r Pwyllgor Cynllunio wrthod ceisiadau a gwarchod yr 21 ardal a nodwyd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd E.A.
Jones at y problemau llifogydd diweddar a gafwyd yn y Sir a mynegodd bryder y
byddai datblygu’r 21 safle’n effeithio ar yr ardal arfordirol, gan gyfeirio’n
arbennig at ardaloedd Bodelwyddan a Rhuddlan. Awgrymodd y Cynghorydd Jones, o
ystyried bod tystiolaeth newydd ar gael mewn perthynas â llifogydd yn ardal
Bodelwyddan, y dylid gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried y safle strategol
allweddol ym Modelwyddan. Roedd yn teimlo na ddylai’r Awdurdod fwrw ymlaen â’r
Cynllun Datblygu Lleol nes egluro statws llifogydd tir strategol allweddol, a
gofynnodd am graffu’n drwyadl ar strategaeth safleoedd strategol y Cynllun
Datblygu Lleol.
Cynigiwyd gwelliant yn yr
argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd E.A. Jones, a eiliwyd gan y
Cynghorydd A. Roberts, sef “bod y Cyngor yn cyfeirio’r safle strategol
allweddol ym Modelwyddan, yn rhan o strategaeth y Cynllun Datblygu Lleol, at
Lywodraeth Cymru i’w ailystyried ac i graffu arno oherwydd byddai’r cynnig yn
rhan o ddatblygu ardal fawr o orlifdir C1 a C2”.
Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democratig y byddai 10 diwrnod gwaith o rybudd yn ofynnol, o dan
Reolau Sefydlog y Cyngor, i dderbyn cynnig. Cadarnhawyd y gellid derbyn
gwelliannau i gynnig heb rybudd. Fodd
bynnag, roedd y cynnig gan y Cynghorydd Jones yn cyfeirio at safle strategol
allweddol ac nid oedd yn berthnasol i’r argymhelliad i’w ystyried gan y Cyngor.
Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democratig nad oedd y cynnig gan y
Cynghorydd Jones, yn unol â Rheolau Sefydlog, yn welliant y gellid ei wneud i’r
cynnig cyfredol. Mewn ymateb, roedd y
Cynghorydd Jones yn teimlo y dylai’r cynnig fod yn ddilys, am fod y cynnig yn
berthnasol i’r safle strategol allweddol, a oedd yn rhan bwysig o’r Cynllun
Datblygu Lleol ac a oedd yng nghyd-destun yr 21 safle dan ystyriaeth.
Roedd y Cadeirydd yn ystyried
nad oedd y gwelliant a gynigiwyd gan y Cynghorydd E.A. Jones yn gynnig digon
clir ac felly gwrthodwyd y cynnig.
Bu’r Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r
Cyhoedd yn rhoi gwybodaeth gefndir am faterion yn ymwneud â llifogydd, ac yn
arbennig o ran y safleoedd strategol allweddol. Cyfeiriodd at y broses
ymgynghori a gynhaliwyd ac at ystyried y materion hyn gan yr Arolygwyr ac
Asiantaeth yr Amgylchedd. Cadarnhawyd na fyddai safleoedd a oedd yn destun
gwrthwynebiadau gan Asiantaeth yr Amgylchedd, y nodwyd eu bod yn y gorlifdir,
yn cael eu cyflwyno oni nodwyd eu bod yn safleoedd tir llwyd lle’r oedd
materion adfywio.
Amlinellodd y Rheolwr Polisi, Ymchwil a Gwybodaeth y gwaith sy’n cael ei wneud i ddod
ymlaen â Bodelwyddan
yn safle strategol allweddol. Eglurodd
fod risg llifogydd wedi’i nodi fel mater allweddol yn ystod cyfnodau cynnar
paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol. Cadarnhaodd,
yn unol â chanllawiau cenedlaethol, nad oedd safleoedd yn y gorlifdir yn cael
eu cyflwyno’n gyffredinol i’w cynnwys, a bod y safle allweddol strategol ym
Modelwyddan wedi’i nodi fel un sydd y tu allan i’r ardal llifogydd.
Cydsyniodd yr Aelodau fod y
Polisi Fesul Cyfnod Drafft wedi’i ystyried yn fanwl ac, ar fwrw pleidlais, cytunodd yr Aelodau i gymeradwyo’r Polisi Fesul Cyfnod Drafft,
Atodiad 1, i’w gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio, yn amodol ar gynnwys
argymhelliad ychwanegol “nad yw’r un o’r safleoedd sy’n cael eu hystyried ar
hyn o bryd yn cael eu hystyried yn rhan o’r sefyllfa sydd ohoni yn 2021”.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at Atodiad
2 i’r adroddiad, Archwiliad Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych, Rhestr o ddyraniadau
tai ychwanegol, a dywedodd wrth yr Aelodau y byddai pleidlais yn cael ei
chynnal o ran pob un safle unigol ynghylch y cynnig i’w gynnwys yn y rhestr ar
gyfer safleoedd tai ychwanegol. Cyflwynodd y Rheolwr Polisi, Ymchwil a
Gwybodaeth bob un o’r safleoedd a darparodd grynodeb o’r wybodaeth am y
safleoedd priodol, gan gynnwys manylion unrhyw wrthwynebiadau a gafwyd fel y
maent wedi’u cynnwys yn Atodiad 4.
Codwyd y pryderon a’r materion canlynol a rhoddwyd yr ymatebion
canlynol:-
Safle 1. AHS 01.
Tir wrth ochr Rhif 16 ystâd tai Maes y Graig, Bodfari –
cadarnhaodd y Cynghorydd B.A. Smith nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi’u
cyflwyno gan breswylwyr a bod y Cyngor Cymunedol wedi mynegi ei gefnogaeth. Ar
fwrw pleidlais, derbyniwyd y cynnig.
Safle
2. AHS 02.
Tir y tu ôl i Lys Heulog, Cyffylliog – eglurodd y Cynghorydd J.S.
Welch fod y farn wedi’i mynegi’n lleol fod digon o dir eisoes ar gael yn yr
ardal. Ar fwrw pleidlais, derbyniwyd y cynnig.
Safle
3. AHS 03.
Tir gerllaw Bryn Gwynt, Cynwyd – cynigiodd y Cynghorydd C.H.
Williams welliant sef lleihau nifer yr unedau o 15 i 10. Ar fwrw pleidlais,
collwyd y gwelliant. Pleidleisiodd yr
Aelodau am y cynnig o 15 uned a derbyniwyd hwn.
Safle
4. AHS 04.
Tir yn Lodge Farm, Dinbych – roedd y Cynghorydd C. Hughes
o blaid darparu tai ychwanegol yn yr ardal ond roedd yn poeni bod y safle wrth
ymyl ardal risg llifogydd. Pwysleisiodd y byddai’n bwysig sicrhau na fyddai unrhyw
ddatblygiad yn cael effaith niweidiol ar y system lliniaru llifogydd sydd yn yr
ardal ar hyn o bryd. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd G.M.
Kensler, eglurodd y Rheolwr fod Dŵr Cymru wedi cadarnhau, pe byddai’r
safle’n cael ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol, y gellid cynnwys unrhyw
waith gofynnol i gynyddu’r cynhwysedd yn y Gwaith Trin yn eu Cynllun Rheoli
Asedau. Ar fwrw pleidlais, derbyniwyd y cynnig.
Safle
5. AHS 05.
Tir gerllaw Ysgol Pendref (hen Ysgol Heulfre), Dinbych – Mewn
ymateb i gais gan y Cynghorydd C. Hughes, cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio a
Diogelu’r Cyhoedd gynnwys y gair “dylai” wrth gyfeirio at yr angen am ddarparu
mesurau lleddfu traffig. Ar fwrw pleidlais, derbyniwyd y cynnig.
Safle
6. AHS 06.
Tir rhwng yr hen Ffordd Rhuthun a’r Ffordd Rhuthun newydd, Dinbych
– eglurodd y Cynghorydd J.R. Davies fod y tir oddi ar Ffordd Rhuthun yn
briffordd brysur iawn. Eglurodd fod preswylwyr yn teimlo y bu diffyg
ymgynghori, a oedd wedi gwrthod y cyfle iddynt ystyried safleoedd amgen.
Mynegwyd pryderon hefyd am faterion priffyrdd amrywiol a oedd yn gysylltiedig â
mynediad i’r safle, maint y traffig, natur beryglus y llwybr i blant sy’n teithio
i’r ysgol, diffyg cyfleusterau gwasanaeth, llifogydd a phrinder gwasanaethau
carthffosiaeth. Cefnogodd y Cynghorydd J.R. Bartley y farn a fynegwyd ac
eglurodd y byddai’r safle hwn a safle AHS 05 yn cael effaith niweidiol ar ddiwylliant a
chymeriad yr ardal o’u cwmpas. Cyfeiriodd yn benodol at faterion yn ymwneud â
llifogydd yn yr ardal a’r prinder cyfleusterau carthffosiaeth ar gyfer unrhyw
ddatblygiad newydd. Mynegodd y Cynghorwyr C. Hughes a G.M. Kensler eu
cefnogaeth ynghylch y pryderon a amlygwyd gan yr Aelodau Lleol.
Dywedodd
y Rheolwr Polisi, Ymchwil a Gwybodaeth wrth yr Aelodau fod y radd tir
amaethyddol, sef y tir gorau a mwyaf hyblyg, wedi’i chydnabod yn y gwerthusiad
cynaliadwyedd ac nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi’u cael gan Asiantaeth yr
Amgylchedd ynglŷn â risg llifogydd.
Rhoes fanylion mynediad priffordd i’r safle a darpariaeth gwasanaethau
yn yr ardal, ac eglurodd fod Dŵr Cymru wedi cadarnhau bod darpariaeth
carthffosiaeth ar gael ar hyn o bryd, ond gallai gwaith gwella fod yn ofynnol
yn y Gwaith Trin. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Bartley ynglŷn
ag anhawster yn cael yswiriant rhag llifogydd yn yr ardal, eglurwyd bod cwmnïau
yswiriant yn cael eu tywys gan godau post yn hytrach na thopograffeg yr ardal.
Ar fwrw pleidlais, derbyniwyd y cynnig.
Safle
7. AHS 07.
Tir oddi ar Ffordd Eglwys Wen, Dinbych – cyfeiriodd y
Cynghorydd J.R. Bartley at faint y traffig sy’n defnyddio’r briffordd, gan
gyfeirio’n arbennig at y tagfeydd a geir yng nghyffiniau Eglwys Wen. Cyfeiriodd at ecoleg yr ardal ac eglurodd fod
y gwrthwynebiadau a godwyd yn AHS 06 hefyd yn berthnasol i’r safle hwn.
Cefnogodd y Cynghorydd R.J. Davies y farn a fynegwyd. Ar fwrw pleidlais, derbyniwyd y cynnig.
Safle
8. AHS 08.
Gerllaw Ystâd Glan Ffyddion, Dyserth – mynegodd y Cynghorwyr D.
Owens, ar ran yr Aelod Lleol y Cynghorydd P.W. Owen, a J. Thomson-Hill bryder
ynglŷn â nifer y tai a gynigiwyd, a mynediad priffordd i’r safle.
Cyfeiriodd y Cynghorydd A. Roberts at Afon Ffyddion a risg posibl llifogydd yng
nghyffiniau’r safle. Ar fwrw pleidlais,
derbyniwyd y cynnig.
Safle
9. AHS 09. Tir y tu ôl i Faes Meurig, Galltmelyd - dywedodd
y Cynghorydd D.I. Smith wrth yr Aelodau fod yr Aelod Lleol, y Cynghorydd P.A.
Evans, wedi mynegi ei gefnogaeth. Ar fwrw pleidlais, derbyniwyd y cynnig.
Safle
10. AHS 10. Tir y tu ôl i ystâd Maes
Garmon, Llanarmon-yn-iâl - eglurodd y Cynghorydd M.L. Holland fod y gymuned
leol wedi mynegi’r farn y byddai 10% o gynnydd yn rhesymol ac yn dderbyniol o
ystyried maint y pentref a’r datblygiad y cytunwyd iddo’n flaenorol. Cododd
bryderon ynglŷn â phroblemau mewn perthynas â materion priffyrdd a
charthffosiaeth, a allai greu anawsterau a chynyddu’r gost o ddarparu
datblygiad cost isel yn yr ardal. Eglurodd y Rheolwr Polisi, Ymchwil a
Gwybodaeth fod sicrwydd wedi’i roi bod mynediad priffordd yn bosibl. Roedd Dŵr
Cymru wedi cadarnhau na fyddai cysylltu â’r system garthffosiaeth yn creu
problemau, ond gallai gwaith gwella fod yn ofynnol yn y Gwaith Trin a byddai
hwn yn cael ei ymgorffori yn eu cynlluniau buddsoddi yn y dyfodol. Ar fwrw
pleidlais, derbyniwyd y cynnig.
Safle
11. AHS 11.
Tir i’r gogledd-orllewin o Faes Derwen, Llanbedr Dyffryn Clwyd –
cyfeiriodd y Rheolwr
Polisi, Ymchwil a Gwybodaeth at wall ar dudalen 6 o’r daflen
sylwadau hwyr ac eglurodd fod AHS 11 i’w newid i AHS 12. Mynegodd y Cynghorydd H.O. Williams ei
gefnogaeth i’r safle. Ar fwrw pleidlais, derbyniwyd y cynnig.
Safle
12. AHS 12.
Tir gerllaw The Old Rectory, Llanbedr Dyffryn Clwyd – mynegodd
y Cynghorydd H.O. Williams ei gefnogaeth i’r safle. Ar fwrw pleidlais,
derbyniwyd y cynnig.
Cafwyd seibiant yn y man hwn yn y cyfarfod (13.05pm).
Ailddechreuodd y cyfarfod am 1.35pm.
YN BRESENNOL
Y
Cynghorwyr J. Chamberlain-Jones (Cadeirydd), I.W. Armstrong, J.R. Bartley, B. Blakeley,
J.A. Butterfield, W.L. Cowie, J.A. Davies, M.Ll. Davies, R.J. Davies, S.A.
Davies, P.C. Duffy, H.H. Evans, R.L. Feeley, C.L. Guy-Davies, H.
Hilditch-Roberts, C. Hughes, T.R. Hughes, H.C. Irving, E.A. Jones, H.Ll. Jones,
P.M. Jones, G.M. Kensler, G. Lloyd-Williams, M. McCarrol, J.M. McLellan, B.
Mellor, W.M. Mullen-James, R.M. Murray, D. Owens, T.M. Parry, A.G. Pennington,
A. Roberts, G. Sandilands, D. Simmons, B.A. Smith, D.I. Smith, W.N. Tasker, J.
Thompson-Hill, J.S. Welch, C.H. Williams, C.L. Williams, E.W. Williams a H.O.
Williams.
HEFYD YN BRESENNOL
Y Prif Weithredwr (MM), Cyfarwyddwyr Corfforaethol: Uchelgais
Economaidd a Chymunedol (RM); Cwsmeriaid (HW); Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democratig a’r Swyddog Monitro (RGW), y Pennaeth Cyllid ac
Asedau (PM), y Pennaeth Cynllunio a
Diogelu’r Cyhoedd (GB), y Rheolwr Polisi Cynllunio (AL), yr Uwch Swyddog
Trwyddedu (NS) a Gweinyddwr y Pwyllgor (CIW).
Safle
13. AHS 13. Tir yn Ysbyty H.M. Stanley - mynegodd y
Cynghorydd D. Owens ei gefnogaeth i’r safle. Ar fwrw pleidlais, derbyniwyd y
cynnig.
Safle
14. AHS 14.
Tir y tu cefn i’r groesffordd a Bron y Clwyd, Llanfair Dyffryn
Clwyd – eglurodd y Cynghorydd H.H. Evans fod sylwadau wedi’u cael gan y gymuned ynglŷn
â’r broses ymgynghori, gan gyfeirio’n arbennig at y diffyg ymgynghori gan y
Cyngor Cymunedol, ac yn gofyn am ohirio’r broses o ystyried y safle tan rywbryd
yn y dyfodol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at yr amserlenni sy’n ymwneud â’r
broses ymgynghori ac eglurodd na allai’r Cyngor Sir ddylanwadu ar y broses
ymgynghori a fabwysiadir gan y Cyngor Cymunedol. Eglurodd ei fod wedi annog twf
pentrefi yn ei ward at ddibenion cynaliadwyedd ac i ddarparu tai i bobl
ifanc. Fodd bynnag, cydnabu y gallai’r
diffyg gallu i ddarparu gwasanaethau carthffosiaeth gyfyngu ar ddatblygiad
newydd yn yr ardal ac roedd yn teimlo y gellid annog a dylanwadu ar ddatblygiad
y dyfodol drwy gynnwys y safle yn y Cynllun Datblygu Lleol.
Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd
gan y Cynghorydd E.A. Jones am gamau’r Cyngor Cymunedol wrth gyflwyno’r’ safle
i’w gynnwys yn y rhestr o ddyraniadau tai ychwanegol, cadarnhaodd y Cynghorydd
H.H. Evans fod cyfarfod y Cyngor Cymunedol wedi’i gynnal yn unol â’r Cod
Ymddygiad. Ar fwrw pleidlais, derbyniwyd y cynnig.
Safle
15. AHS 15.
Tir yn Wern Road, Llangollen – eglurodd y Cynghorydd S.A.
Davies ei fod wedi cael nifer o wrthwynebiadau gan breswylwyr lleol ynglŷn
â’r safle. Cyfeiriodd at faterion priffyrdd, a oedd yn gysylltiedig â’r lôn gul
yng nghyffiniau’r safle. Ar fwrw pleidlais, derbyniwyd y cynnig.
Safle
16. AHS 16.
Tir gerllaw Dolwar, Pentre Llanrhaeadr – eglurodd y Cynghorydd
J.S. Welch ei fod yn deall bod materion yn ymwneud â’r terfyn cyflymder yn yr
ardal yn destun adolygiad ar hyn o bryd. Ar fwrw pleidlais, derbyniwyd y
cynnig.
Safle
17. AHS 17.
Tir yn Mid Nant Homestead, oddi ar Ffordd Gronant,
Prestatyn – yn absenoldeb y Cynghorydd J.M. Davies, eglurodd y Cynghorydd J.
Thompson-Hill fod y safle gyferbyn ag adeilad rhestredig a gerllaw’r AHNE a
safle SoDdGA, er bod rhan o’r safle ar hen safle tir llwyd. Cadarnhaodd y
byddai cymeradwyo’r safle’n arwain at bosibilrwydd colli fferm waith ac
amlygwyd achosion pryder mewn perthynas â mynediad i’r safle. Amlygodd y Cynghorydd J.M. McLellan y
cynnydd posibl yn y traffig yn y cyffiniau ar ôl uno Ysgol Bodnant yn ysgol
Babanod ac Iau ar y cyd. Cadarnhaodd y Cynghorydd H.C. Irving y farn a fynegwyd.
Eglurodd y Rheolwr Polisïau,
Ymchwil a Gwybodaeth nad oedd y safle yn y rhwystr glas ac nad oedd yr Adran
Briffyrdd wedi cyflwyno gwrthwynebiadau. Ar fwrw pleidlais,
derbyniwyd y cynnig.
Safle 18. AHS 18. Tir yng nghae rhif 3583, i’r de o
Ddyffryn Teg, Rhuallt - mynegodd y Cynghorydd B.A. Smith ei bod yn cefnogi’r
safle. Ar fwrw pleidlais, derbyniwyd y
cynnig.
Safle 19. AHS 19.
Tir gerllaw Hafod y Gân ac Ysgol Tir Morfa, Rhuddlan - roedd y
Cynghorydd J.A. Davies yn teimlo nad oedd maint y safle’n uniaethu â maint y
Dref. Roedd y preswylwyr a’r Cyngor Cymunedol wedi mynegi pryderon am fynediad
annigonol i’r safle, system ddraenio sy’n heneiddio a phroblemau llifogydd
cysylltiedig, cymorth amwynderau annigonol gyda materion gallu yn y gwasanaeth
iechyd lleol, ysgolion a phroblemau traffig. Gyda chymorth cyflwyniad
PowerPoint, amlygodd y Cynghorydd A. Roberts achosion pryder mewn perthynas â’r
seilwaith priffyrdd lleol, gan gyfeirio’n arbennig at bont Rhuddlan a
phroblemau mynediad, llifogydd ac effaith gyffredinol ar y gymuned leol.
Mynegodd y Cynghorwyr E.A. Jones a G.M. Kensler eu cefnogaeth i’r pryderon a
godwyd gan yr Aelodau Lleol.
Eglurodd
y Rheolwr Polisi, Ymchwil a Gwybodaeth y gallai darparu tai ychwanegol helpu i
gefnogi cyfleusterau cymunedol lleol a darparu tai i breswylwyr lleol. Mae’r
Adran Briffyrdd wedi dweud y gellid cael mynediad i’r safle ac y gellid
archwilio posibilrwydd gosod terfyn pwysau ar bont Rhuddlan. Roedd Dŵr
Cymru wedi nodi bod digon o le am gysylltiad â’r system garthffosiaeth
bresennol ac yn y Gwaith Trin. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd
E.A. Jones, rhoddwyd manylion y berchenogaeth ar y tir dan sylw. Ar fwrw’r
bleidlais, derbyniwyd y cynnig.
Safle
20. AHS 20. Tir gerllaw Maes Hafod a Llys
Famau, Rhuthun – cadarnhaodd y Cynghorydd D.I. Smith nad oedd unrhyw
wrthwynebiadau wedi’u cael gan yr Aelodau Lleol. Ar fwrw’r bleidlais,
derbyniwyd y cynnig.
Safle 21. AHS 21.
Safle ar gornel Sydenham Avenue a Rhodfa’r Gorllewin - cyfeiriodd y
Rheolwr Polisi, Ymchwil a Gwybodaeth at ganllawiau Llywodraeth Cymru ac
eglurodd fod y safle’n safle adfywio, er ei fod mewn ardal llifogydd. Mewn
ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd G.M. Kensler, amlinellodd y Rheolwr
Polisi, Ymchwil a Gwybodaeth y rhesymau dros ddwysedd uwch yr eiddo ar y safle
hwn, a oedd yn gysylltiedig â’r datblygiad ansawdd uchel yn yr ardal.
Cadarnhaodd fod trafodaethau’n parhau gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, o ran
materion mewn perthynas â risgiau llifogydd. Eglurodd y Cynghorydd J.
Butterfield nad oedd Aelodau o ardal y Rhyl yn gwrthwynebu’r safle ond yn poeni
am ddwysedd y safle. Cynigiodd welliant, sef lleihau nifer y cartrefi ar y
safle o 26 i 12, a chyfyngu ar ddatblygiad i bedwar llawr. Ar fwrw’r bleidlais,
derbyniwyd y cynnig.
Pleidleisiodd
yr Aelodau am gynnwys safle AHS 21 yn y rhestr o ddyraniadau tai ychwanegol,
dros 12 cartref, gan gyfyngu ar ddatblygiad i bedwar llawr. Ar fwrw’r bleidlais, derbyniwyd y
cynnig.
PENDERFYNWYD – bod y Cyngor yn cymeradwyo cyflwyno’r canlynol i’r Arolygiaeth
Gynllunio:-
(a) y Polisi Fesul Cyfnod Drafft fel sydd yn Atodiad 1, yn amodol ar gynnwys
argymhelliad ychwanegol yn dweud “nad yw’r un o’r safleoedd dan ystyriaeth yn
cael eu hystyried yn rhan o’r sefyllfa sydd ohoni yn 2021”, a
(b) safleoedd AHS 01 i AHS 21, yn ddyraniadau tai ychwanegol posibl ar sail
unigol yn y drefn a nodir yn Atodiad 2, yn amodol ar y gwelliannau uchod.
Dogfennau ategol:
- LDP Report, Eitem 6. PDF 101 KB
- LDP App 1, Eitem 6. PDF 77 KB
- LDP App 2, Eitem 6. PDF 51 KB
- LDP App 3, Eitem 6. PDF 14 KB
- LDP App 4, Eitem 6. PDF 3 MB
- LDP App 5, Eitem 6. PDF 23 KB
- LDP App 6, Eitem 6. PDF 2 MB