Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM OSOD CYLLIDEB REFENIW 2025/26

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Archwilio (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar setliad cyllid dros dro Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer 2025/26, ei oblygiadau ar gyfer gosod cyllideb gytbwys, ac sy’n gofyn am sylwadau aelodau ar faterion a amlinellir yn yr adroddiad.

 

11am – 11.30am

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad, ac Asedau Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn egluro bod atebolrwydd cyfreithiol ar y Cyngor i osod cyllideb gytbwys.  Roedd gwaith yn mynd rhagddo i wella dangosyddion monitro’r gyllideb, ond cymerir gofal i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd.  Nodwyd hefyd bod ariannu gwasanaethau’r Cyngor yn her barhaus.  Pwysleisiodd y Swyddog Adran 151 y pwysigrwydd o adolygu’r gyllideb ar gyfer 2025/2026 a 2027/2028 yn rheolaidd a chadarnhaodd y byddai diweddariadau rheolaidd yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet.  Amlygodd fod y Cyngor yn ddibynnol iawn ar setliadau gan Lywodraeth Cymru (LlC).  Cydnabuwyd effaith pensiynau a chodiadau cyflog a dyraniadau cyllid grant yn ystod y flwyddyn cyn cyhoeddi’r Grant Cynnal Refeniw hefyd.   Roedd hyn yn golygu bod y sefyllfa wirioneddol yn dangos cynnydd ariannol o 7% ar gyfer 2024/25.  Roedd LlC yn gweithio tuag at ddefnyddio dull mwy cynaliadwy i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â setliadau ariannol yn y dyfodol.   Er bod y sefyllfa’n llawer mwy cadarnhaol na’r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, roedd yr Awdurdod yn dal i wynebu pwysau cyllidebol yn sgil cynnydd yn y galw am wasanaethau, yn arbennig gwasanaethau gofal cymdeithasol dwys a chymhleth. 

 

Holodd Aelodau am addewid uchelgeisiol y Cyngor i fynd i’r afael â’r Argyfwng Newid Hinsawdd, a gofynnodd p’un a ddylid ei ystyried fel pwysau cyllidebol.  Rhoddodd y swyddogion wybod bod yr Argyfwng Hinsawdd yn nod gyffredinol ac felly roedd y ffordd yr ymdrinnir â hi yn wahanol i’r ffordd yr ymdrinnir â phwysau eraill e.e. digartrefedd, a oedd yn haws i’w fesur o ran anghenion cyllid.    Er na fyddwn o bosibl yn cyrraedd y targed di-garbon net erbyn 2030, roedd hyn yn parhau i fod yn uchelgais.   Tynnodd y swyddogion sylw aelodau at Atodiad 1 i’r adroddiad a oedd yn cynnwys buddsoddiad o £250,000 mewn blaenoriaethau sy’n ymwneud yn benodol â newid hinsawdd.  Roedd yn bwysig cofio bod dyraniad tuag at wireddu’r uchelgais hon hefyd wedi’i gynnwys yng nghyllideb cyfalaf y Cyngor.  Nodwyd bod angen gwirio’r gymhareb refeniw: cyfalaf, gan fod cyfraddau’n newid yn dragwyddol, ac roedd angen ystyriaeth bellach ar draws pob cyllideb i fynd i’r afael â’r newid hinsawdd.  Eglurwyd bod y dull hwn yn wahanol i’r dull arferol, gan eu bod yn dewis rhoi mesurau ymyrraeth ar waith nawr yn hytrach na mynd i’r afael â phroblemau yn y dyfodol, a allai fod yn fwy costus.  Roedd yn bwysig ystyried cyllid yn y cynllun ariannol tymor canolig at y diben hwn.

 

Gofynnodd Aelodau am eglurhad mewn perthynas â’r costau sy’n gysylltiedig ag Yswiriant Gwladol, o ystyried y pryderon a godwyd gan Lywodraeth yr Alban ynghylch costau cynyddol.  Nodwyd nad oedd y costau ychwanegol hyn wedi’u hariannu’n llawn â’r setliad Grant Cynnal Refeniw.  Roedd swyddogion yn cytuno ei bod yn bwysig bod yn ymwybodol o’r materion hyn, ond pwysleisiwyd nad oedd unrhyw dybiaethau wedi’u gwneud o ran faint o incwm neu gyllid a dderbynnir i dalu am gostau anuniongyrchol cyfraniadau YG cyflogwyr ar wasanaethau y mae’r Cyngor yn eu comisiynu gan ddarparwyr gwasanaeth allanol.   Cynigwyd y dylai’r Pwyllgor ysgrifennu at Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i geisio eglurhad ar y sefyllfa mewn perthynas â darparu cyllid digonol i dalu am gostau’r cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr.

 

Pwysleisiodd aelodau’r angen am ddull sensitif a gofalus wrth fynd i’r afael â phrosiectau trawsnewidiol i’r dyfodol.  Gofynnwyd p’un a oedd y gyllideb yn ddigon i fynd i’r afael â’r pwysau a nodwyd.  Ymatebodd swyddogion drwy amlygu’r agwedd ddemocrataidd, gan nodi fod aelodau wedi derbyn llawer o wybodaeth drwy gydol y flwyddyn, a’i bod yn bwysig gwneud tybiaethau’n seiliedig ar ragfynegiadau.  Roedd y tybiaethau a’r rhagfynegiadau cyllidebol yn seiliedig ar Ddadansoddiad Cyllid Cymru, offeryn a ddefnyddiwyd yn eang gan awdurdodau cyhoeddus fel sail ar gyfer gosod cyllideb.   Cadarnhawyd bod rhagor o waith wedi’i gwblhau i nodi pwysau, a byddai’r trafodaethau’n parhau yn y Gweithdy Aelodau’r diwrnod wedyn. 

 

Awgrymodd Aelodau efallai y byddai’n ddoeth i’r Cyngor ddal rhywfaint o’r cyllid ychwanegol a dderbyniwyd yn ôl, yn hytrach na gwario’r arian i gyd, neu ystyried cynnydd pellach yn Nhreth y Cyngor, er mwyn lleddfu diffygion posibl yn y gyllideb i’r dyfodol.  Nodwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i fabwysiadu dull mwy ataliol a gofalus, ond cydnabuwyd bod pryderon yr oedd angen mynd i’r afael â hwy.  Daeth y Pennaeth Cyllid ac Archwilio i gasgliad gan nodi fod y setliad yn well na’r disgwyl, a bod yr Aelod Arweiniol a swyddogion yn edrych ar y gyllideb o safbwynt tymor canolig.

 

Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau uchod, argymell bod y Cabinet yn:

 

(i)           yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd mewn perthynas â setliad dros dro 2025/26 llywodraeth leol ynghyd â’r pwysau cyllidebol a nodwyd, cefnogi’r mesurau arfaethedig a gymerwyd hyd yma mewn ymgais i osod cyllideb gytbwys ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26;

(ii)          gofyn i’r Aelod Arweiniol ar gyfer Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol ysgrifennu at Ganghellor Trysorlys Llywodraeth y DU i geisio eglurhad brys ar b’un a fydd awdurdodau lleol yn derbyn digon o gyllid refeniw i dalu’r costau ychwanegol o ganlyniad i’r cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, a bod cyhoeddiadau cyllidebol i’r dyfodol yn fwy eglur o ran costau anuniongyrchol tebyg.   Dylid hefyd anfon copi o’r llythyr at Ysgrifenwyr Cabinet Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllid a’r Gymraeg a Thai a Llywodraeth Leol; ac

(iii)         ystyried nodi’r costau/pwysau disgwyliedig sydd ynghlwm â darparu uchelgais y Cyngor i gyflawni statws di-garbon net ac ecolegol gadarnhaol erbyn 2030 mewn strategaethau cyllidebol/cynlluniau ariannol tymor canolig.

 

 

Dogfennau ategol: