Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CRIST Y GAIR

Ystyried adroddiad cyfrinachol ar y cyd rhwng y Gwasanaeth Addysg a swyddogion GwE (copi ynghlwm) yn nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma wrth gyflwyno cynllun gweithredu ôl-arolwg yr ysgol a’r cynllun cefnogi ysgol ar y cyd.

 

10.10am – 11am

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor, a rhoddodd wybod fod Ysgol Gatholig Crist y Gair wedi agor ym mis Medi 2019.   Yn dilyn arolwg Estyn ym mis Mai 2022, rhoddwyd yr ysgol dan Fesurau Arbennig. Ers hynny, roedd cryn dipyn o waith wedi cael ei gwblhau gan fudd-ddeiliaid er mwyn mynd i’r afael â’r 5 argymhelliad gan Estyn a chyflawni gwelliannau parhaol yn yr ysgol.  Amlinellodd Pennaeth y Gwasanaeth Addysg y gwelliannau a’r cynnydd a wnaed hyd yma fel y nodir yn yr adroddiad, gan bwysleisio’r gefnogaeth sylweddol yr oedd yr ysgol yn parhau i’w derbyn ar sawl ffurf.   Roedd prif ffocws y gwaith a gwblhawyd yn cynnwys cyfuno’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth gan sicrhau sefydlogrwydd o ran arweinyddiaeth er mwyn cefnogi’r broses o ddatblygu cynlluniau gwella cadarn a fyddai’n sicrhau datblygiadau cynaliadwy i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau’r aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, y Cyngor, GwE a swyddogion:

 

·         nodi bod recriwtio staff yn broblem ar draws addysg gynradd ac uwchradd yn genedlaethol, nid oedd y ffaith fod Crist y Gair yn ysgol gydol oes wedi cyfrannu at y broblem hon.  Rhoddwyd sicrwydd bod swyddogion yn arbenigwyr yn y sectorau addysg perthnasol.  Gan fod Ysgol Crist y Gair yn ‘ysgol gydol oes’, roedd y nodweddion ar gyfer Pennaeth yn cynnwys gwybodaeth a phrofiad o ymdrin â phlant o 3 i 16 oed, roedd sgiliau arwain yn hanfodol, roedd modd trosglwyddo’r sgiliau hyn rhwng y ddau sector.  Gan fod Ysgol Crist y Gair yn ysgol Gatholig, roedd yn rhaid i’r Pennaeth fod yn arfer y ffydd Gatholig.  O ganlyniad, roedd hyn yn golygu bod llai o bobl yn gymwys i ymgeisio am y rôl.   Nid oedd hyn yn unigryw i ysgolion ffydd, roedd yr un heriau’n berthnasol wrth recriwtio i ysgolion cyfrwng Cymraeg.

·         sicrhau Aelodau nad oedd y gefnogaeth a ddarperir i Ysgol Crist y Gair yn cael effaith negyddol uniongyrchol neu anuniongyrchol ar ysgolion eraill megis Ysgol Uwchradd Prestatyn, wrth i staff gael eu secondio i gefnogi’r gwaith yn Ysgol Crist y Gair.   Roedd y sefyllfa’n cael ei monitro’n agos.  Roedd gan Ysgol Uwchradd Prestatyn broffil Estyn rhagorol ac roedd staff eraill yn yr ysgol wedi camu ymlaen i rôl arwain yn yr ysgol honno ac yn ennill profiad gwerthfawr. 

·         ddarparu sicrwydd na fyddai’r ffaith bod GwE fel sefydliad ar fin dod i ben yn cael effaith negyddol ar y gefnogaeth a ddarperir i’r ysgol, gan fod y ddarpariaeth gwasanaethau cefnogi ysgolion yn ofyniad statudol, felly byddai’r gwasanaeth yn parhau i gael ei ddarparu dan ddull darparu gwahanol.   Sefydlwyd Bwrdd Pontio yn cynnwys Penaethiaid Addysg ac AD i gefnogi darpariaeth y model newydd.

·         bwysleisio, er mwyn helpu gyda recriwtio, ei bod yn hanfodol gwneud swyddi addysgu ym mhob sector yn ddymunol ac yn ddeniadol a chwblhawyd gwaith i gyflawni hyn.

·         gadarnhau fod y berthynas gydag ysgolion lleol eraill wedi cael ei harchwilio’n fanwl.  Yn ogystal â hynny, roedd nosweithiau agored yn cael eu cynnal er mwyn helpu i recriwtio disgyblion.  Roedd rhagor o waith recriwtio yn mynd rhagddo i gynyddu nifer y disgyblion, roedd hyn yn cynnwys gwella canfyddiad y cyhoedd a’r darlun o’r ysgol drwy offer marchnata amrywiol, cynyddu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, gweithio gydag Ysgol Uwchradd Prestatyn i drefnu teithiau ysgol ar y cyd ac ati (gan y byddai hyn yn eu gwneud yn fwy fforddiadwy i deuluoedd), cyhoeddi newyddlen reolaidd, yn ogystal â hyrwyddo mentrau megis disgybl y dydd/wythnos/mis er mwyn creu ethos cadarnhaol yn yr ysgol.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol am ddarparu atebion cynhwysol i gwestiynau’r aelodau.   Ar ddiwedd trafodaeth fanwl:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar yr uchod ac ar ôl ystyried sylwadau Estyn yn dilyn eu hymweliad â’r ysgol ym mis Tachwedd 2024 -

(i)           cydnabod y cynnydd a gyflawnwyd hyd yma o ran darparu Cynllun Gweithredu Ôl Arolwg (CGOA) a Chynllun Cefnogi Ysgolion ar y cyd awdurdodau lleol a GwE yn dilyn Arolwg Estyn 2022;

(ii)          gwneud cais i adroddiad cynnydd arall gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ddechrau 2026; a

(iii)        gwneud cais yn y cyfamser i adroddiad cynnydd gael ei rannu ag aelodau’r Pwyllgor er gwybodaeth tuag at ddiwedd tymor yr haf 2025

 

AR YR ADEG HON (11.30 AM) CAFWYD EGWYL O 10 MUNUD

AILDDECHREUODD Y CYFARFOD AM 11.40AM.

 

RHAN I

 

 

Dogfennau ategol: