Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEB Y CYNGOR 2025/26

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ar Archwilio (copi ynghlwm) sy’n nodi’r cynigion i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, yr Aelod Arweiniol Cyllid Perfformiad ac Asedau Strategol, a’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar Gyllideb y Cyngor 2025 / 2026.

 

Rhoddwyd gwybod i aelodau fod y Cyngor wedi derbyn Setliad Dros Dro ar gyfer 2025/26 ar 11 Rhagfyr 2024, a oedd yn gynnydd o £14.427 miliwn neu 7% mewn arian parod o gymharu â lefel y cyllid a gafwyd ddechrau 2024-25. Roedd Llywodraeth Cymru wedi llunio tablau fel bod modd cymharu lefelau cyllid 2024/25 a 2025/26 ar draws Cynghorau Cymru. Roedd canran cynnydd Sir Ddinbych yn 4.6%, sy’n is na’r gymhariaeth mewn arian parod a geir uchod oherwydd bod cyllid ychwanegol i gwrdd â chostau cyflogau a phensiynau wedi’i ddarparu yn ystod y flwyddyn ac roedd  Llywodraeth Cymru wedi cynnwys hynny yn y gymhariaeth a ddefnyddir ar gyfer 2024/25.

 

Mae cynnydd Sir Ddinbych yn cymharu’n ffafriol gyda chyfartaledd Cymru o 4.3% ac mae’n dilyn cynnydd yn nifer y disgyblion a data prydau ysgol am ddim a ddefnyddir i ddosbarthu cyllid i ysgolion.

 

Eglurodd y Cynghorydd Ellis mai nod heddiw oedd cyflwyno cyllideb gytbwys a rhoddodd wybod bod y broses o osod cyllideb gytbwys wedi bod yn heriol, gyda gwaith yn dechrau flwyddyn yn ôl yn syth ar ôl gosod cyllideb 2023/24.  Rhoddodd wybod bod awdurdodau lleol ar draws y wlad hefyd yn profi’r heriau ariannol yn Sir Ddinbych.  Yn ogystal â hynny, nododd y Cynghorydd Ellis:

 

·       bod y gyllideb a gyflwynwyd heddiw’n wahanol i’r gyllideb a drafodwyd yn y Cyngor llawn ym mis Tachwedd 2024, gan fod Sir Ddinbych wedi derbyn mwy o gyllid na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid oedd y cynnydd yn y setliad yn ddigon i fantoli’r gyllideb heb i’r Cyngor wneud arbedion eraill a chynyddu lefelau treth y Cyngor.

·       Roedd cyllideb ddrafft y Cyngor wedi cynyddu am sawl rheswm, gan gynnwys chwyddiant cyflogau, y costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â chyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a’r galw cynyddol ar wasanaethau rheng flaen statudol hanfodol.  Roedd y galw am wasanaethau’n dal i gynyddu ac roedd natur yr anghenion hefyd wedi mynd yn fwy cymhleth mewn meysydd fel Addysg a Gwasanaethau Plant a Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

·       Er mwyn gosod cyllideb gytbwys, roedd y cyfraniad mwyaf wedi dod gan setliad ariannol Llywodraeth Cymru, gyda’r gweddill yn dod gan arbedion a chynnydd mewn Treth y Cyngor, roedd yr adroddiad  i’r Cyngor heddiw’n cynnig £4,2 miliwn o arbedion a chynnydd yn nhreth y Cyngor yn gyfystyr â £5.2 miliwn.  Roedd y cynnydd o 5.3% yn nhreth y Cyngor yn ogystal â’r 0.7% sy’n ofynnol ar gyfer yr Awdurdod Tân ac Achub yn dod â’r ffigwr i 6%. 

·       Roedd y cynigion arbedion yn canolbwyntio ar arbedion effeithlonrwydd a chynyddu incwm yn unol â’r polisi ffioedd a thaliadau, ac arbedion ym mhrosiectau trawsnewidiol y Cyngor.

·       Roedd Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar gael i helpu’r rhai mwyaf diamddiffyn.

·       Nid oedd y gyllideb a gyflwynwyd wedi rhagweld unrhyw incwm ychwanegol a allai gael ei gynhyrchu yn hwyrach yn y flwyddyn gan y llywodraeth i ariannu’r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol. 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio aelodau at y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn atodiad un, a oedd yn cynnwys cynigion ar gyfer gosod cyllideb gytbwys heddiw a’r pwysau cyllidebol sydd wedi arwain at y lefel ofynnol o arbedion. 

 

Rhoddwyd gwybod i aelodau am y goblygiadau cyllidebol ar gyfer ysgolion, gan gynnwys gwobrau tâl athrawon a staff nad ydynt yn athrawon, cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a phwysau chwyddiannol eraill.  Rhoddodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio wybod bod y rhain wedi arwain at ddyrannu £5.2 miliwn i ysgolion a oedd yn gyfystyr â chynnydd cyffredinol o 5.9%, a’i fod yn setliad gwell na’r hyn a ragwelwyd yn flaenorol.

 

Agorodd y Cadeirydd y ddadl i arweinwyr grŵp:

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, arweinydd y Grŵp Annibynnol, ei bryderon am ddarparu’r cynnydd cyllidebol sydd ei angen ar gyfer addysg plant (uwchben y symiau chwyddiannol), y cynnydd mewn ffioedd i breswylwyr, er enghraifft, mewn perthynas â’r ffioedd parcio.  Mynegodd ei bryderon am y diffyg prosiectau trawsnewidiol yn Sir Ddinbych a gofynnodd am sicrwydd na fyddai angen ceisio arbedion eraill nad ydynt wedi’u cynnwys yn y gyllideb yn ystod y flwyddyn.

 

Yn ogystal â hynny, ceisiodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts eglurhad ar b’un a oedd y gyllideb yn cynnwys dyraniad ar gyfer darpariaeth toiledau cyhoeddus, p’un a fyddai’r gyllideb yn caniatáu ar gyfer dychwelyd i oriau arferol llyfrgelloedd, a ph’un a oedd y penaethiaid gwasanaeth yn ymrwymo i’r arbedion a oedd yn ofynnol. 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio fod yr uwch dîm arwain yn gyfarwydd gydag ac yn ymrwymo i’r arbedion a nodwyd ar gyfer eu gwasanaethau.  Nododd nad oedd bob amser yn bosibl rhagweld sut gallai costau a phwysau newid dros y flwyddyn a rhoddodd enghreifftiau o’r amgylchiadau a allai ymofyn mesurau adweithiol pe baent yn codi.  Roedd y gyllideb ar gyfer toiledau cyhoeddus 2024/25 wedi’i gostwng ac roedd angen penderfynu ar y cynlluniau ar gyfer toiledau cyhoeddus i’r dyfodol ac roedd gweithgor wedi cael ei sefydlu i ystyried oriau agor llyfrgelloedd.

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Brian Jones, arweinydd y Grŵp Ceidwadol, y pwyntiau a godwyd gan arweinydd y Grŵp Annibynnol gan fod y Cynghorydd Jones hefyd wedi bwriadu codi’r cynigion ynglŷn â chau toiledau cyhoeddus ac oriau agor llyfrgelloedd fel pryderon ar gyfer Cyngor sy’n gofalu am ei breswylwyr.  Wrth nodi arbedion i’r dyfodol, gofynnodd y Cynghorydd Jones am broses dryloyw ar gyfer adolygu gwasanaethau a gwariant y Cyngor.

 

Nododd y Cynghorydd Ellis y gwaith a oedd yn mynd rhagddo gan benaethiaid gwasanaeth i adolygu eu cyllidebau a’u gwasanaethau a’r ffocws newydd ar gyflawni newidiadau trawsnewidiol.  Cytunodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio y gallai hi gefnogi presenoldeb ar lefel grŵp gwleidyddol o benaethiaid gwasanaeth er mwyn craffu’r cyllidebau adrannol, gwasanaethau a strwythurau staffio.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Martyn Hogg, arweinydd y Grŵp Gwyrdd, wybod nad oedd unrhyw frwdfrydedd ymhlith aelodau i gynyddu treth y Cyngor yn uwch na chwyddiant, lleihau gwasanaethau, cynyddu ffioedd, lleihau lefelau staffio na chadw swyddi’n wag, ond roedd y broses o osod cyllideb wedi bod yn gadarn ac yn gytbwys ac wedi amlygu’r bwlch rhwng incwm a gwariant hanfodol y Cyngor.  Amlygodd bwysigrwydd y broses asesu effaith ar gyfer y gwasanaeth a chynigion cyllidebol.  Lleisiodd y Cynghorydd Hogg ei obeithion y byddai polisïau ariannol cenedlaethol yn symud tuag at ddarparu cefnogaeth well i wasanaethau cyhoeddus ac y byddai rhaglen drawsnewid y Cyngor yn llwyddiannus.  Roedd y Cynghorydd Hogg yn cydnabod y cynnydd bychan yng nghyllid y rhaglen newid hinsawdd a gobeithiodd y byddai’r Cyngor yn dangos enillion cadarnhaol ar fuddsoddiad.

 

Roedd y Cynghorydd Delyth Jones, arweinydd Grŵp Plaid Cymru, yn cydnabod bod y siaradwyr blaenorol wedi trafod elfennau a oedd o ddiddordeb iddi hi, a chanmolodd y broses o osod cyllideb.  Cymeradwyodd y Cynghorydd Jones y cynnig gan arweinydd y Grŵp Ceidwadol mewn perthynas â’r ymgysylltiad rhwng grwpiau gwleidyddol a phenaethiaid gwasanaeth i graffu gwasanaethau adrannol, strwythurau a gwariant gyda’i gilydd.   Mynegodd y Cynghorydd Jones ei siomedigaeth na chafodd lefelau cyllid y llywodraeth eu rhannu â Chynghorau tan ddechrau’r flwyddyn ariannol, a nododd y dylent wneud hyn dros gyfnod mwy hirdymor.  Nododd y Cynghorydd Jones fod y gyllideb arfaethedig yn ddarbodus ac yn briodol, roedd yn mynd i’r afael â gofynion chwyddiannol ac addysg pwysig, ac roedd hi’n cefnogi’r ffocws ar y rhaglen drawsnewid. 

 

Cytunodd y Cynghorydd Ellis a’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio i gais y Cynghorydd Jones am broses gynhwysol gyda phob aelod ar gyfer dyrannu unrhyw gyllid yswiriant gwladol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd y Grŵp Llafur, i’r Aelod Arweiniol Cyllid, y Pennaeth Cyllid a’u timau am ymgysylltu ar a chynhyrchu’r gyllideb hon sydd, yn ei farn ef ac arweinydd Grŵp Plaid Cymru, yn gyllideb deg a darbodus, ac yn diogelu gwasanaethau i breswylwyr, yn diogelu addysg ac yn gyllideb well na’r disgwyl.  Cymeradwyodd y Cynghorydd McLellan y gyllideb hon am beidio â chynnwys y toriadau sylweddol a oedd yn ofynnol mewn rhai blynyddoedd blaenorol pan nad oedd setliad y Cyngor mor ffafriol, a nodwyd mai Sir Ddinbych fyddai â’r dreth Cyngor isaf yng ngogledd Cymru.

 

Agorodd y Cadeirydd y drafodaeth i aelodau eraill.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mark Young at yr arolwg addysg Estyn cadarnhaol diweddar, ond roedd yn bryderus am nifer yr ysgolion a oedd yn wynebu diffygion ariannol ac nad oedd y rhain o ganlyniad i reolaeth ariannol wael gan yr ysgolion a’u cyrff llywodraethu.  Nododd bod angen adolygu cyllidebau craidd ysgolion. 

 

Datganodd y Cynghorydd Young gysylltiad personol â’r eitem hon gan ei fod yn gadeirydd corff llywodraethu ysgol ac yn aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Ellis nad oedd y gyllideb arfaethedig yn cynnwys derbyn cyllid ar gyfer cyfraniadau yswiriant gwladol.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Young gysylltiad rhwng lefelau uchel o absenoldeb yn yr ysgol a thlodi, ac roedd yn annog rhoi sylw i wella presenoldeb yn yr ysgol.  Cyfeiriodd at ddyraniad arfaethedig y gyllideb o £500,000 ar gyfer cronfeydd wrth gefn a’i fod yn debygol y byddai cyllid yswiriant gwladol ychwanegol yn cael ei ddarparu yn ystod y flwyddyn.  Cynigodd y Cynghorydd Young ddiwygiad i’r gyllideb i ddefnyddio’r £500,000 a ddyrannwyd ar gyfer cronfeydd wrth gefn er mwyn cefnogi addysg i wella lles a phresenoldeb dysgwyr.

 

Cytunodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, fod lefelau uchel o absenoldeb yn annerbyniol, a’i bod hi a’r gwasanaeth addysg yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â phresenoldeb a chefnogi ysgolion a’i bod yn cymeradwyo mentrau’r Cynghorydd Young.

 

Nododd y Cynghorydd McLellan, fel Arweinydd y Cyngor, na fyddai’r diwygiad yn achosi i’r gyllideb fod yn anghytbwys nac yn ymofyn lefel uwch o dreth y Cyngor, felly roedd o blaid cefnogi ac eilio’r diwygiad.  Roedd y Cynghorydd Ellis, a’r Aelod Arweiniol Cyllid hefyd yn cefnogi’r diwygiad.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio wybod i aelodau am y lefelau gwahanol o gronfeydd wrth gefn a gynigwyd yn y gyllideb ddrafft.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Emrys Wynne am bleidlais, a chytunodd y Cyngor.

 

O blaid y diwygiad oedd:

Y Cynghorwyr Blakely-Walker, Butterfield, Chamberlain-Jones, Chard, Clewett, Davies, Karen Edwards, Pauline Edwards, Ellis, Elson, Chris Evans, Hugh Evans, Justine Evans, Feeley, Harland, Heaton, Hilditch-Roberts, Hogg, Holliday, Hughes, James, Brian Jones, Delyth Jones, Keddie, King, Matthews, May, McLellan, Mellor, Metri, Parry, Price, Roberts, Sampson, Sandilands, Scott, Thomas, Tomlin, Cheryl Williams, Eryl Williams, Wynne ac Young.

 

Yn erbyn y diwygiad oedd:

Y Cynghorwyr Irving a Mendies.

 

Bu i’r canlynol ymatal rhag pleidleisio:

Dim.

 

Cymeradwywyd y diwygiad felly.

 

Cynigodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ddiwygiad i gynnwys pwysau o £560,000 yn y gyllideb ar gyfer llyfrgelloedd a thoiledau cyhoeddus i’w ariannu gan gredyd cyfraniadau yswiriant gwladol, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Brian Jones.

 

Cytunwyd i gynnal pleidlais.

 

O blaid y diwygiad oedd:

Y Cynghorwyr Chamberlain-Jones, Davies, Karen Edwards, Pauline Edwards, Elson, Chris Evans, Hugh Evans, Justine Evans, Feeley, Hilditch-Roberts, Brian Jones, Keddie, Mendies, Parry, Price, Sampson, Scott, Tomlin, ac Young.

 

Yn erbyn y diwygiad oedd:

Y Cynghorwyr Blakely-Walker, Butterfield, Chard, Clewett, Ellis, Harland, Heaton, Hogg, Holliday, Hughes, Irving, James, Delyth Jones, King, Matthews, May, McLellan, Mellor, Metri, Roberts, Sandilands, Thomas, Cheryl Williams, Eryl Williams, ac Wynne.

 

Bu i’r canlynol ymatal rhag pleidleisio:

Dim.

 

Ni chafodd y diwygiad hwn ei gymeradwyo felly.

 

Cytunodd Aelodau i gynnal pleidlais ar yr argymhellion fel y’u diwygiwyd gan gynnig y Cynghorydd Young.

 

O blaid:

 

Y Cynghorwyr Blakely-Walker, Butterfield, Chamberlain-Jones, Chard, Clewett, Davies, Ellis, Elson, Feeley, Harland, Heaton, Hogg, Holliday, Hughes, James, Delyth Jones, Keddie, King, Matthews, May, McLellan, Mellor, Metri, Roberts, Sandilands, Scott, Thomas, Cheryl Williams, Eryl Williams, Wynne ac Young.

 

Yn erbyn:

 

Y Cynghorwyr Karen Edwards, Pauline Edwards, Chris Evans, Hugh Evans, Justine Evans, Hilditch-Roberts, Irving, Brian Jones, Mendies, Parry, Price, Sampson, a Tomlin.

 

Bu i’r canlynol ymatal rhag pleidleisio:

Dim.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn -

 

(i) Cefnogi’r cynigion a amlinellwyd yng Nghynllun Ariannol Tymor Canolig 2025/26 - 2027/28 (Atodiad 1), a nodwyd yn Adran 4, fel yr argymhellwyd gan y Cabinet er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2025/26 yn amodol ar drosglwyddo £500,000 i gyllideb yr Adran Addysg er mwyn datblygu cynlluniau i wella lles, presenoldeb ac ymddygiad dysgwyr yn ogystal â dysgwyr mewn tlodi, yn ddibynnol ar ystyriaeth gan y Pwyllgorau Craffu a chymeradwyaeth gan y Cabinet.

 

(ii) Cymeradwyo’r cynnydd cyfartalog i Dreth y Cyngor o 5.29% ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor yn ogystal â chynnydd o 0.71% ar gyfer ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. Gyda’i gilydd mae hyn yn gynnydd arfaethedig o 6.00% (paragraff 4.5).

 

(iii) Rhoi awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid, i addasu’r defnydd o arian wrth gefn sydd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500,000 os ceir symudiad rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gosod Treth y Cyngor yn amserol.

 

(iv) Cefnogi’r strategaeth er mwyn defnyddio cronfeydd wrth gefn fel yr amlinellir ym mharagraff 4.6, yn amodol ar drosglwyddo’r cyfraniad o £500,000 i gronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi y cyfeirir atynt ym mharagraff 4.6.1 yn yr adroddiad i gyllideb yr Adran Addysg yn unol â datrysiad (i) uchod.

 

(v) yn cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o Effaith ar Les fel y nodwyd yn Adran 7 o’r adroddiad, ei ddeall a’i ystyried.

 

 

Dogfennau ategol: