Eitem ar yr agenda
DATBLYGU YSBYTY BRENHINOL ALEXANDRA (YBA)
- Meeting of Pwyllgor Craffu Partneriaethau, Dydd Iau, 13 Chwefror 2025 10.00 am (Item 5.)
- View the declarations of interest for item 5.
Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gynnydd a chynlluniau ar gyfer datblygu safle Ysbyty Brenhinol Alexandra, a cheisio adborth yr aelodau ar y cynigion
10:10am – 11:00am
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau
Cymdeithasol ac Addysg adroddiad ar Ddatblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) ochr yn ochr â Chyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig ar gyfer
Conwy a Sir Ddinbych Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gareth Evans. Rhannodd yr adroddiad ddiweddariad ar
gynnydd ar gyfer datblygu safle Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl.
Pwysleisiwyd, er bod y prosiect yn cael ei arwain gan y Bwrdd Iechyd, roedd
y Cyngor yn gweithio’n agos iawn gyda chydweithwyr y Gwasanaeth Iechyd arno, ac
roedd yr Aelod Arweiniol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol yn rhoi llawer iawn o
amser ac ymdrech i wireddu’r prosiect. Y cynnig oedd darparu gwasanaethau
newydd ochr yn ochr â gwasanaethau cefnogi wedi’u symud a’u hehangu mewn
adeilad clinigol newydd. Byddai’r prosiect hefyd yn ceisio ailwampio adeilad
presennol yr Ysbyty fel canolfan gefnogi gyda rhai gwasanaethau cleifion yn
parhau e.e. Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a Ffisiotherapi.
Arweiniodd Cyfarwyddwr
Cymuned Iechyd Integredig BIPBC y Pwyllgor drwy’r
cyflwyniad gan dynnu sylw at gefndir a chrynodeb o’r gwaith a wnaed hyd yma ar
y prosiect, yn cynnwys ei gwmpas, dyddiadau allweddol, strwythur llywodraethu’r
rhaglen a chyfleoedd i gydweithio.
Roedd BIPBC yn dyheu am gael
datblygu’r safle, sydd â hanes hir. Cyflwynwyd achos busnes yn 2021, ond
oherwydd costau chwyddiant a achoswyd gan ffactorau y tu hwnt i reolaeth y
Bwrdd Iechyd, megis y pandemig a materion daearyddol-gwleidyddol, nid oedd
digon o gyfalaf ar gael i ariannu’r gwaith a amlinellwyd yn yr achos busnes
hwnnw. O ganlyniad, cytunwyd ar Werthusiad o Opsiynau ar gyfer datblygiad
fyddai’n costio llai gyda Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2024. Yna,
cytunwyd i symud ymlaen gyda chwmpas y prosiect drwy gaffael dyluniad yn
arloesol, oedd wedi’i atodi at Achos Busnes Llawn 2021 a gyflwynwyd i
Lywodraeth Cymru.
Oherwydd cyfyngiadau ariannol,
bu’n rhaid ail werthuso cwmpas y gwaith. Roedd hyn yn golygu dyluniad oedd yn
blaenoriaethu darparu gwasanaethau newydd mewn adeilad clinigol newydd, llai.
Roedd hefyd yn golygu bod y Bwrdd Iechyd yn blaenoriaethu ailwampio adeilad
presennol Rhestredig Gradd ll yr Ysbyty fel canolfan
gefnogi. Hefyd, er mwyn lleddfu pwysau yn Ysbyty Glan Clwyd a chefnogi’r
boblogaeth leol, roedd disgwyl i’r Bwrdd Iechyd ddarparu’r gwasanaethau
canlynol yn yr adeilad newydd:
·
Uned newydd ar gyfer Mân
Anafiadau ac Anhwylderau
·
Rhai gwelyau “Gofal yn
Agosach at Adref”
·
Mwy o gyfleoedd i
gydweithio â phartneriaid ar y safle
Dan y cynlluniau diwygiedig,
byddai’r adeilad clinigol newydd yn cynnwys:
·
Uned Mân Anafiadau ac
Uned Mân Anhwylderau newydd er mwyn lliniaru’r galw ar Ysbyty Glan Clwyd a
gwasanaethu pobl yn nes at eu cartrefi
·
Tua 14 o welyau
cymunedol (yn dibynnu ar gyfyngiadau’r dyluniad), fel bod Iechyd a Gofal
Cymdeithasol yn gallu bodloni anghenion pobl leol
·
Gwasanaeth Radioleg
wedi’i symud a’i ehangu a gwasanaeth Deintyddol Cymunedol mwy.
Byddai’r adeilad presennol yn
cael ei ailwampio i gynnwys:
·
atgyweirio strwythur y
llawr a’r adeiladwaith allanol
·
ailwampio ardaloedd sy’n
wag ar hyn o bryd
·
isadeiledd trydanol a
gwresogi newydd
·
lleoli’r Trydydd Sector
gyferbyn â’r Tîm Cymunedol; ac
·
ailgyflwyno ac ehangu’r
gwasanaethau iechyd rhywiol, awdioleg ac orthoteg (yn
dibynnu ar gyfyngiadau dylunio ac ariannol).
Cafodd y Pwyllgor wybod beth
oedd dyddiadau allweddol dangosol datblygu a darparu’r prosiect:
·
Ionawr – Ebrill 2025: Caffael (roedd y cam hwn ar y gweill yn barod)
·
Mawrth – Awst 2025: Cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y safle
·
Mai 2025: Bwrdd BIPBC yn cymeradwyo dyluniad yr adeilad newydd a’i
gyflwyno i Lywodraeth Cymru
·
Gorffennaf 2025: Bwrdd BIPBC yn cymeradwyo’r adeilad presennol a’i
gyflwyno i Lywodraeth Cymru
·
Awst 2025: Diweddariad ar ddyluniad a chostau’r adeilad presennol
(RIBA 3)
·
Chwarter 1 2026: Dechrau cam adeiladu’r adeilad newydd
·
Chwarter 2 2026: Dechrau’r gwaith adeiladu ar yr adeilad presennol
Cafodd y Pwyllgor wybod hefyd
am yr ymgysylltiad parhaus sydd ar y gweill â budd-ddeiliaid.
·
Digwyddiadau ymgysylltu
byr parhaus ar Iechyd
·
Digwyddiadau yng
Nghanolfan y Rhosyn Gwyn y Rhyl yn 2025
·
Datblygu’r gwaith ar y
buddion economaidd ehangach i’r gymuned â budd-ddeiliaid mewn llywodraeth leol
a’r sector gwirfoddol
·
Parhau â digwyddiadau
ymgysylltu â staff
·
Dychwelyd at y Grŵp
Budd-Ddeiliaid Cydraddoldeb
·
Roedd Grŵp Cyfeirio
Clinigol wedi cael ei sefydlu’n ddiweddar.
Yn dilyn y cyflwyniad, wrth
ymateb i gwestiynau’r aelodau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol, swyddogion y
Cyngor a’r Bwrdd Iechyd:
·
Bod y dyluniadau newydd
wrthi’n cael eu cwblhau, a phan fyddant yn gyflawn, gwneir cais am ganiatâd
cynllunio.
·
Roedd deialog dda a
chadarnhaol wedi bod gyda Llywodraeth Cymru a’r budd-ddeiliaid lleol eraill ar
y prosiect a’r cyllid. Roedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi
cadarnhau elfen bartneriaeth y cyllid ac wedi’i gynnwys yn eu Cynllun Buddsoddi
Cyfalaf 10 mlynedd. Roedd swyddogion y Bwrdd Iechyd a swyddogion perthnasol
Cyngor Sir Ddinbych wedi cymryd rhan mewn trafodaethau â gweinidogion
Llywodraeth Cymru ar y lefel uchaf o ran y prosiect.
·
Bwriad y 14 gwely a
gynigir oedd atal pobl rhag gorfod mynd i ysbyty acíwt. Fe’u gwelwyd fel
darpariaeth camu i fyny/camu i lawr, fyddai’n nodwedd allweddol o’r
ddarpariaeth gofal cymdeithasol, gan ategu at agweddau eraill o’r gwaith atal
e.e. Tîm Adnodd Cymunedol a gwasanaethau eraill yn y gymuned.
·
Eglurwyd y byddai tua
20% o gyllid y prosiect yn dod gan bartneriaid rhanbarthol, drwy Fwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Gwneir cais i Lywodraeth Cymru am y
gweddill drwy ffrydiau cyllid cyfalaf.
·
Er nad oedd cyfleusterau
parcio ceir wedi’u cwblhau eto, roedd yr holl bartneriaid yn ffyddiog y byddai
atebion boddhaol yn cael eu cynnwys yn y cynlluniau terfynol.
·
Cadarnhawyd bod y
wardiau a gaewyd yn 2012 wedi cael eu cau oherwydd diogelwch tân, ac y byddai’n
costio gormod i’w huwchraddio i fodloni safonau modern.
Mynegodd nifer o aelodau’r Pwyllgor bod angen ailsefydlu
ysbytai cymunedol gan fod yr anghenion yn y gymuned yn cynyddu’n barhaus ac yn
achosi pwysau difrifol ar ysbytai acíwt megis Ysbyty Glan Clwyd.
Pwysleisiodd y Pwyllgor ei bod yn rhwystredig bod y
broses o ailddatblygu’r ysbyty yn cymryd cyhyd, yn enwedig i aelodau lleol oedd
wedi bod yn aelodau etholedig ers dechrau’r cynnig i ddatblygu’r ysbyty.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei bod yn deall
rhwystredigaeth yr aelodau ar y mater. Fodd bynnag, roedd y prosiect wedi cael
ei aildrefnu i gynnwys cyfyngiadau ariannol, roedd mwy o gyllid cyfalaf wedi
cael ei addo gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau iechyd,
felly roedd pob rheswm i deimlo’n fwy gobeithiol am y prosiect penodol hwn a
meddwl ymlaen i’r dyfodol.
Ymatebodd Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig BIPBC i bryderon yr aelodau y gallai’r mater ddioddef
oherwydd y prosesau gwleidyddol cyn etholiad y Senedd yn 2026, gan ddweud bod y
prosiect wedi bod ar y gweill ers sawl cylch etholiadol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi dangos ei
hymrwymiad i’r prosiect drwy osod cyllid o’r neilltu ar ei gyfer, yn amodol ar
gwblhau’r camau cwmpasu a chynllunio dyluniad.
Roedd wedi’i glustnodi fel un o’i brosiectau buddsoddiad cyfalaf mawr.
Pan fydd wedi’i gwblhau, bydd y prosiect yn dod â manteision sylweddol i’r
gymuned leol.
Diolchodd y Cadeirydd i
Gyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am ddod i’r cyfarfod a rhoi’r cyflwyniad, ac
am ateb cwestiynau’r aelodau ar y cyd â’r Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal
Cymdeithasol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg.
Yn dilyn trafodaeth fanwl:
Penderfynodd y Pwyllgor:
(i)
nodi cwmpas y gwaith, yr amserlen a’r cyllid
arfaethedig sydd ar gael ar gyfer datblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra;
(ii) bod yr
adborth a’r arsylwadau a wnaed yn ystod y drafodaeth yn cael eu hystyried fel rhan
o gynllunio darpariaeth gwasanaeth ar gyfer y datblygiad; a
(iii)
bod
adroddiad pellach ar gynnydd Datblygiad Ysbyty Brenhinol Alexandra yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Medi 2025.
Dogfennau ategol: