Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN CLUDIANT RHANBARTHOL DRAFFT

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Trafnidiaeth a Thrafnidiaeth (copi ynghlwm) yn rhoi trosolwg o’r Cynllun Cludiant Rhanbarthol Drafft sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, ac fel rhan o’r ymgynghoriad sy’n ceisio barn y Pwyllgor ar ei gynnwys.

 

11:15am – 12:00pm

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Traffig a Chludiant, ynghyd â’r Prif Beiriannydd - Diogelwch ar y Ffyrdd a Theithio Llesol a’r Rheolwr Cludiant Gweithredol y Cynllun Cludiant Rhanbarthol Drafft (dosbarthwyd ymlaen llaw).

Roedd yr adroddiad yn sôn am ddatblygiad parhaus Cynllun Cludiant Rhanbarthol Gogledd Cymru, fyddai’n disodli Cyd Gynllun Cludiant Lleol Gogledd Cymru 2015.  Cydnabu’r swyddogion bryderon aelodau’r Pwyllgor am faint yr adroddiad a’i gymhlethdod, gan bwysleisio ei fod yn gynllun lefel uchel fyddai rhwng y cynllun cludiant cenedlaethol a’r cynlluniau cludiant lleol.

Yng Nghymru, roedd gofyn i bob un o’r pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig lunio Cynllun Cludiant Rhanbarthol (CCRh) ar gyfer eu rhanbarth. Roedd yr adroddiad hwn yn amlinellu datblygiad Cynllun Cludiant Rhanbarthol Gogledd Cymru, sy’n cael ei ddatblygu gan Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar y cyd â chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru. Roedd y Cynllun wedi’i lunio gan Is-bwyllgor Cludiant y Cyd-bwyllgor Corfforedig, a chynrychiolydd Cyngor Sir Ddinbych arno oedd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant. Byddai Cynllun Cludiant Rhanbarthol Gogledd Cymru yn disodli Cyd Gynllun Cludiant Lleol Gogledd Cymru 2015 yn y pen draw. Er hynny, bydd y Cynllun blaenorol yn parhau’n “fyw” nes bydd Cynllun Cludiant Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Disgwylir i hynny ddigwydd yn haf 2025.

Diben y pedwar Cynllun Cludiant Rhanbarthol oedd helpu i gyflawni’r uchelgeisiau yn Strategaeth Cludiant Cymru, Llwybr Newydd. Byddai Cynllun Cyflawni Cludiant Cenedlaethol yn cefnogi darpariaeth Strategaeth Cludiant Cymru. Llywodraeth Cymru sydd wedi datblygu’r Cynllun Cyflawni Cludiant Cenedlaethol a bydd yn darparu prosiectau cefnffyrdd, prosiectau rheilffyrdd a pholisïau, prosiectau a mentrau cludiant o bwys cenedlaethol. 

Cafodd y Pwyllgor wybod bod ymgynghoriad ar y gweill ar y Cynllun Cludiant Rhanbarthol Drafft a’i fod yn cael ei gynnal ar-lein yn bennaf. Fodd bynnag, byddai copïau papur o’r ymgynghoriad ar gael ar draws y rhanbarth mewn llyfrgelloedd a siopau un alwad.

Yn dilyn y cyflwyniad, trafododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol ymhellach –

·       Er y croesawyd y cynllun, codwyd cwestiynau am barcio, yn enwedig parcio ar ymyl y palmant, gan fod Llywodraeth Cymru yn cynnig gwahardd yr arfer hwn. Eglurodd y swyddogion fod hwn yn fater cymhleth, oedd yn cael ei gymhlethu ymhellach gan y ffaith bod pobl ifanc yn parhau i fyw gartref yn hirach oedd yn golygu bod mwy o geir ym mhob cartref. Nid oedd cyllid ar gael ar hyn o bryd i ddatblygu meysydd parcio preswylwyr. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnig symud ymlaen i wahardd pacio ar droedffyrdd pan oedd y terfyn cyflymder 20 mya wedi’i roi ar waith yn llawn, roedd hyd yn oed wedi’i gynnwys yn y Cynllun Cludiant Cenedlaethol ond nid oedd wedi nodi y dylid ei gynnwys yn y cynlluniau rhanbarthol. Fodd bynnag, nid oes cynnig cadarn wedi’i gyflwyno ar gyfer ei orfodi hyd yma. Gellid trafod y mater hwn drwy’r Cydbwyllgorau Corfforedig pe bai’r aelodau’n gofyn iddo gael ei uwchgyfeirio atynt.

·       Yr heriau o ran teithio llesol, yn enwedig yn ardaloedd gwledig y sir.

·       Datblygiadau tai a’r angen i sicrhau bod digon o gyfleusterau parcio ar gael.   Roedd yr aelodau’n teimlo y dylid amlygu’r broblem hon yn ymateb yr Awdurdod i’r ymgynghoriad. Cadarnhaodd y swyddogion ei bod yn anodd weithiau dod o hyd i gydbwysedd priodol rhwng digon o ddarpariaeth parcio mewn datblygiadau newydd wrth annog teithio llesol hefyd.

·       Roedd parcio mewn rhai ardaloedd trefol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn peri problemau mawr yn ystod y prif dymor gwyliau. Roedd yr aelodau’n credu’n gryf bod angen dod o hyd i atebion ymarferol. 

·       Oherwydd maint y cynllun cludiant a’i gymhlethdodau, roedd yr aelodau’n teimlo y byddai o fudd i’r prosiectau a amlinellir yn Atodiad B fynd gerbron cyfarfodydd y Grŵp Ardal Aelodau priodol er mwyn cael trafodaeth leol ar y cynnig. Cytunodd y swyddogion â’r awgrym a gyflwynwyd gan y Pwyllgor a sicrhawyd yr aelodau y byddai’r prosiectau hyn yn mynd gerbron y Grŵp Ardal Aelodau perthnasol pan oeddent wedi’u datblygu’n ddigonol.

 

Mynegodd yr aelodau bryderon am waith y Cydbwyllgorau Corfforedig ac a fyddai aelodau etholedig yn methu cyfle i drafod materion oedd yn effeithio ar eu cymunedau. Eglurodd y Cydlynydd Craffu fod gwaith ar y gweill i sefydlu cydbwyllgor craffu ar gyfer y Cydbwyllgorau Corfforedig. Fodd bynnag, byddai pwyllgorau craffu awdurdodau lleol yn dal i gadw’r pwerau i archwilio unrhyw fater sy’n effeithio ar eu hardaloedd lleol, byddai gwaith y cydbwyllgor craffu’n canolbwyntio ar archwilio amcanion strategol a chynlluniau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig, nid ar faterion yn ymwneud ag ardaloedd lleol.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

Penderfynodd y Pwyllgor:  gadarnhau -

 

(i)   fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried y Gwerthusiad Lles Integredig (Atodiad A); ac

(ii)  wedi ystyried cynnwys yr adroddiad a’r Cynllun Cludiant Rhanbarthol drafft, gofyn am i’r arsylwadau a wnaed yn ystod y drafodaeth gael eu cynnwys yn ymateb terfynol Cyngor Sir Ddinbych i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar ei Gynllun drafft.

 

 

Dogfennau ategol: