Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYFLEOEDD CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG AC ADDYSG GREFYDDOL GORFODOL I FLYNYDDOEDD 10 AC 11

Derbyn cyflwyniad ynghylch y cyfleoedd i ysgolion ddarparu Addysg Grefyddol orfodol i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yr eitem, a’r bwriad oedd rhoi cyflwyniad i aelodau ac ysgolion ar y cyfleoedd y gallai ysgolion eu defnyddio i ddarparu’r elfen orfodol o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11.

 

Dosbarthwyd y cyflwyniad gyda’r rhaglen a bu i’r Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg arwain yr aelodau drwy'r cyflwyniad PowerPoint, a oedd yn cyfeirio at y canlynol –

 

·       roedd newid o Addysg Grefyddol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn adlewyrchu cynnydd yng nghwmpas y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y rhoddir sylw iddynt drwy’r disgyblaethau amrywiol.

·       statws gorfodol yr elfen Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar gyfer plant rhwng 3 – 16 oed a’r ddeddfwriaeth gryno ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a oedd yn ymgorffori ‘argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol’; dileu hawl rhieni i dynnu eu plant o wersi Addysg Grefyddol mewn ysgolion sy’n cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru o 2022; ysgolion yn rhoi ystyriaeth i’r Maes Llafur Cytûn a'r canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg; Gofyniad Datblygiad Ysbrydol y gellid ei ddatblygu ym mhob maes o'r cwricwlwm, ac nid Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg neu’r Dyniaethau yn unig.

·       dolenni cyswllt i dudalen lanio’r Cwricwlwm i Gymru, Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) y Dyniaethau, tudalen Dylunio eich Cwricwlwm a Chanllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

·       cafodd y Canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg eu llunio i ategu’r Cwricwlwm i Gymru a cheir adrannau sy’n cyfeirio at y themâu trawsbynciol, sgiliau trawsgwricwlaidd, sgiliau hanfodol a datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, ynghyd â datblygiad ysbrydol, cysyniadau pellach sy’n berthnasol i ddisgyblaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a’r Lens Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

·       byddai'r lens Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn helpu ysgolion a lleoliadau i ddeall agweddau arwyddocaol o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig i gefnogi datblygiad y cwricwlwm.

·       mae’n rhaid i bob ysgol a gynhelir roi ystyriaeth i’r maes llafur cytûn a’r canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a rhannwyd enghreifftiau o sut y gellid cynnwys hyn yn natganiad rhesymeg ysgol mewn ysgolion sirol, ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru ac ysgolion Catholig.

·       dewisiadau cynllunio posibl manwl ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau.

 

Wrth ddod â’r cyflwyniad i ben, pwysleisiodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ei fod yn bwnc unigryw a phwysig ar y cwricwlwm, yn ogystal ag ar draws meysydd pwnc eraill, megis gwyddoniaeth a thechnoleg, a pha mor bwysig oedd sicrhau na chaiff gwybodaeth ei chamddefnyddio, ac yn hytrach ysgogi rhinweddau gorau disgyblion o ran dysgu a datrys problemau.

 

Bu i’r aelodau ymateb yn dda i’r cyflwyniad a diolchwyd i’r Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg am ei waith, a myfyriodd yr aelodau ar eu profiadau eu hunain o ran dysgu ac ysbrydolrwydd. Cafwyd rhywfaint o ddadl ynghylch cyfrifoldebau ysgolion o ran darparu gofynion gorfodol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a sicrhau bod y ddarpariaeth yn un ystyrlon a chyson ar gyfer pob dysgwr.   Adroddodd y Prif Reolwr Addysg ar Weithgor yn cynnwys dirprwy benaethiaid a phenaethiaid cynorthwyol o saith ysgol uwchradd yn Sir Ddinbych, a gefnogir gan arweinydd craidd ysgolion uwchradd GwE a Rheolwr Ymgysylltu a Dilyniant y Cyngor ar ddylunio eu cwricwlwm newydd ar gyfer mis Medi, yn unol â’r disgwyliadau newydd a’r Cwricwlwm i Gymru. Roedd y dasg o fodloni holl ofynion y cwricwlwm o fewn amserlen yr ysgol yn her sylweddol, ond bu i’r gwaith brofi’n fuddiol.

 

Trafododd y Cadeirydd gyda'r Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg pa wybodaeth bellach y gellid ei darparu i’r CYSAG ynghylch darpariaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mewn ysgolion uwchradd ar draws pob grŵp blwyddyn, a’r hyn yr oedd dysgwyr wedi’i elwa o’r ddarpariaeth honno, gan ystyried cynnig cefnogaeth ac anogaeth i ysgolion fel bo hynny’n briodol. Fodd bynnag, tynnwyd sylw at yr angen i sicrhau cydbwysedd o ran rhannu’r wybodaeth honno heb greu gwaith ychwanegol i athrawon. Cytunwyd y byddai’r Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a’r Prif Reolwr Addysg yn trafod y ffordd orau o weithredu ar y mater hwn y tu allan i’r cyfarfod, gan adrodd yn ôl i’r CYSAG ar hynny.

 

PENDERFYNWYD bod y cyflwyniad ynghylch y cyfleoedd i ysgolion ddarparu’r elfen orfodol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn cael ei dderbyn.

 

 

Dogfennau ategol: