Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 40/2024/1079 - TIR GER MAES OWEN, BODELWYDDAN
Ystyried cais ar
gyfer codi 49 annedd fforddiadwy a gwaith isadeiledd cysylltiedig, gan gynnwys
ffyrdd a llwybrau troed, gofod cyhoeddus agored, tirlunio a draenio, gan
gynnwys gorsaf bwmpio newydd (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i godi 49 o anheddau
fforddiadwy a gwaith isadeiledd cysylltiedig, gan gynnwys ffyrdd a llwybrau
troed, mannau agored cyhoeddus, gwaith tirlunio a draenio gan gynnwys gorsaf
bwmpio newydd.
Siaradwr Cyhoeddus – Steve
Grimster (Asiant) - (O blaid) – Cais oedd hwn i godi 49 o anheddau fforddiadwy,
ynni-effeithlon yr oedd mawr eu hangen ym Modelwyddan.
Byddai'r tai yn cael eu rheoli gan Adra
Housing a byddent ar gael ar gyfer Cynllun Rhent Canolradd a Thai Cymdeithasol
i drigolion lleol. Byddai'r anheddau yn cynnwys 4 fflat a 3 byngalo a fyddai'n
gallu bodloni anghenion canran uchel o'r boblogaeth leol. Byddai'r anheddau
wedi'u gosod o fewn y Fframwaith Isadeiledd Gwyrdd gan ddarparu mynediad i
fannau agored cyhoeddus defnyddiadwy a llwybrau i gerddwyr er mwyn sicrhau
diogelwch.
Drwy gydol y broses gynllunio, addaswyd y
cynllun i fynd i’r afael â chymaint o ymgynghoreion a sylwadau trigolion â
phosibl. Roedd gofynion polisi gan gynnwys materion yn ymwneud â dylunio,
mannau agored, ecoleg a draenio a oedd wedi llywio dyluniad y cynllun. Roedd y
cais yn ateb cytbwys i bob un o'r materion uchod ac ni chafwyd unrhyw
wrthwynebiadau gan unrhyw ymgynghorai statudol.
Codwyd pryderon ynghylch priffyrdd,
llifogydd, draenio ac addysg ac ystyriwyd y rhain oll er mwyn sicrhau bod y
datblygiad yn ddiogel, yn hunan-effeithiol ac yn gynaliadwy heb achosi niwed i
drigolion cyfagos a'r amgylchedd. Roedd hyn yn cynnwys cyfraniadau ariannol i
addysg a mannau chwarae oddi ar y safle.
Byddai Adra yn cyflawni'r cynllun ymhen 24
mis a byddai'r anheddau yn mynd i'r afael ar unwaith â'r prinder tai
fforddiadwy ym Modelwyddan.
Trafodaeth Gyffredinol –
Tynnodd y Cadeirydd sylw at y pryderon a
godwyd ynghylch priffyrdd yn yr ardal a gofynnodd am eglurhad gan Swyddogion.
Dywedodd y Prif
Swyddog Cynllunio bod trafodaethau wedi'u cynnal ynghylch materion priffyrdd ar
ddatblygiadau ym Modelwyddan, nad oeddent bellach yn mynd ymlaen. Cyn hynny,
cynigiwyd y safle strategol allweddol ar gyfer 1700 o anheddau, a daeth y
ceisiadau dan sylw yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf i gyfanswm o 187 yn
unig. Roedd y trafodaethau ynghylch ffyrdd cyswllt yr oedd eu hangen yn
flaenorol yn ymwneud â chynnig llawer mwy. Roedd capasiti gwaith carthffosiaeth
ar geisiadau blaenorol hefyd yn bryder ac, ar y cais hwn, byddai carthion yn
cael eu cludo i waith trin Rhuddlan lle'r oedd capasiti ac roedd hyn wedi'i
gadarnhau gan Dŵr Cymru.
Croesawodd yr Aelod Lleol y Cynghorydd Raj
Metri y cais gan ddweud ei fod yn un ar gyfer tai y mae mawr angen amdanynt yn
yr ardal. Byddai 49 o gartrefi ynni effeithlon yn cael eu creu ac ychydig iawn
o drigolion oedd wedi codi unrhyw bryderon ynghylch y cais. Roedd rhai pryderon
ynglŷn â chapasiti amwynderau lleol megis ysgolion a meddygfeydd, fodd
bynnag, roedd Swyddogion wedi mynd i'r afael â'r rhain.
Amlygodd y Cynghorydd Andrea Tomlin ymhellach
y pryderon ynghylch capasiti ysgolion a meddygfeydd yn yr ardal, a gofynnodd a
oedd y Cyngor yn gohebu â'r Bwrdd Iechyd i ofyn am eu barn ar geisiadau o fewn
yr ardal.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu bod rhai polisïau
yn y CDLl yn gofyn am gyfraniadau isadeiledd. Byddai'r rhain fel arfer yn
ymwneud â darparu tai fforddiadwy a mannau agored ac, mewn rhai achosion,
darpariaeth addysg. Pe bai datblygiad yn creu problem o ran ei effaith ar
wasanaethau, byddai'n ofynnol i'r datblygwr wneud cyfraniadau ariannol i geisio
gwella'r capasiti, er enghraifft mewn ysgolion. Byddai’n rhaid cysylltu â'r
Bwrdd Iechyd drwy'r broses gynllunio o dan y CDLl. Byddai proses ymgynghori
wedi ei chynnal gyda'r cyrff iechyd perthnasol a fyddai wedi rhoi'r cyfle
iddynt gyfrannu at unrhyw drafodaethau a fyddai'n digwydd ar y datblygiad bryd
hynny.
Gofynnodd y Cynghorydd Delyth Jones beth
fyddai'r canlyniad petai'r capasiti yn yr ysgolion wedi’i gyrraedd.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu yr ymgynghorwyd
â'r Gwasanaeth Addysg pan gafwyd cais i ymgynghori ar gapasiti ychwanegol ysgol
yn yr ardal. Roedd Canllawiau Cynllunio Atodol ar gael i gyfrifo'r capasiti
ychwanegol sydd ei angen mewn ysgol pan fydd datblygiad wedi’i gwblhau.
Croesawodd y Gwasanaethau Addysg y cyfraniadau ariannol gan y datblygwr ym
Modelwyddan a fyddai'n helpu gydag addasiadau i'r ysgol bresennol.
Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Raj Metri y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y
Swyddog, ac fe EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Alan James.
Pleidlais –
O blaid – 16
Yn erbyn – 2
Ymatal – 0
PENDERFYNWYD: y dylid
CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y Swyddog.
Dogfennau ategol:
-
FRONT SHEET 40-2024-1079 - Bodelwyddan, Eitem 8.
PDF 173 KB
-
40-2024-1079 - PDF (Bodelwyddan), Eitem 8.
PDF 3 MB