Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 47/2024/1557 - GWEITHFEYDD GWAREDU CARTHION, TREMEIRCHION, LLANELWY

Ystyried cais ar gyfer newid defnydd tir ac adeiladu Triniaeth Gwlyptir Adeiledig Integredig (ICTW), gan gynnwys adeiladu 2 tanc septig o dan y ddaear, creu 3 cell gwlyptir gyda pheiriannau, cyfleuster lles, ffyrdd mewnol newydd, ffensio, tirlunio a gwaith cysylltiedig (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i newid defnydd tir ac adeiladu Triniaeth Gwlyptir Adeiledig Integredig, gan gynnwys gosod 2 danc septig tanddaearol, creu 3 cell gwlypdir a phlannu coed, cyfleuster lles, ffyrdd mynediad mewnol newydd, ffensys, gwaith tirlunio a gwaith cysylltiedig.

 

Siaradwr Cyhoeddus – Jenny Coxon – (Asiant) - (O blaid) – Ar hyn o bryd byddai dŵr wedi’i drin o waith trin dŵr gwastraff Tremeirchion yn llifo i’r afon gyfagos

 

Roedd y datblygiad arfaethedig yn cynnwys adeiladu tair cell gwlypdir ac isadeiledd cysylltiedig gerllaw'r gwaith presennol. Cyn i'r dŵr gwastraff gyrraedd y celloedd byddai'n mynd drwy danciau septig i gael gwared ar unrhyw falurion mawr. Byddai’r dŵr wedyn yn mynd yn araf drwy’r celloedd, gyda’r planhigion yn y gwlypdir yn glanhau’r dŵr ar bob cam, gan ddelio ag unrhyw ddŵr yn gollwng.

 

Roedd y datblygiad arfaethedig wedi’i ddylunio i gyflawni targedau ffosffad llymach a osodwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â chynyddu bioamrywiaeth ar y safle.

 

Roedd y datblygiad arfaethedig yn arbrawf i Dŵr Cymru a'r cyntaf yng Ngogledd Cymru. Fodd bynnag, profwyd y dechnoleg a ddefnyddiwyd ac roedd sawl cynllun llwyddiannus yn y DU.

 

Byddai'r gwaith presennol yn aros yn ei le am 3 blynedd ac unwaith y byddai'r gwlypdir yn gweithredu'n llwyddiannus a'r gwaith yn dod i ben yn barhaol, byddai’n cael ei dynnu oddi yno.

 

Bu pryderon ynglŷn â'r potensial i arogl ddod o'r safle, a gwnaed yn glir na fyddai'r newid yn y gwaith trin yn cynyddu'r risg o unrhyw arogl. Byddai'r dŵr yn y gwlypdiroedd yn rhedeg yn gyson ac unwaith y byddai'r planhigion wedi ymsefydlu'n llawn, llai nag 20% o’r gwlypdir fyddai’n ddŵr agored, gan gyfyngu ar yr arogleuon posibl.

 

Ni fyddai'r cynnig yn arwain at fwy o risg o sŵn ac roedd y cynllun wedi'i ddylunio i sicrhau nad oedd unrhyw risg o lifogydd i'r ardal gyfagos.

 

Byddai'r ymgeisydd yn cyflwyno mwy o fanylion mewn cynllun datblygu amgylcheddol adeiladu diwygiedig yn mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gan ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i'r ymgynghoriad.

 

Oherwydd lefel uchel y sgrinio i'r coetir i'r gogledd a natur graddfa fechan y cynnig, byddai'r effaith ar y dirwedd amgylchynol yn fach iawn.

 

Roedd y cais yn unol ag egwyddorion allweddol Polisi Cynllunio Cymru yn ogystal â pholisïau mabwysiedig megis y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Anerchodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Chris Evans, bryderon ynghylch traffig gwaith adeiladu o amgylch yr ardal ac i'r safle, a gofynnodd am eglurder ar y cynllun o ran cerbydau yn cael mynediad i'r safle. Nodwyd hefyd bod problemau dŵr eisoes yn Nhremeirchion.

 

Dywedodd yr Uwch Beiriannydd fod y cais yn cynnwys cynllun rheoli traffig adeiladu. Mae'r fynedfa i'r safle eisoes yn cael ei defnyddio ac ni chafodd unrhyw broblemau eu hadrodd yn flaenorol.

 

O ran y pryderon ynghylch y posibilrwydd y byddai arogl yn dod o'r safle, dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y system newydd a gynigiwyd yn system well na'r system sydd eisoes ar waith, ac felly ni ragwelir unrhyw broblemau’n ymwneud ag arogleuon. Pe bai problemau arogl yn codi, byddai Tîm Diogelu'r Cyhoedd yn ymchwilio ac yn delio â'r mater.

 

Croesawodd y Cynghorydd Merfyn Parry y cais cadarnhaol a gofynnodd am berthynas waith agos gyda Dŵr Cymru ar y cynllun newydd i roi gwybod am unrhyw geisiadau posibl yn y dyfodol.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Jon Harland y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y Swyddog, ac fe EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Alan James.

 

Pleidlais –

 

O blaid – 18

Yn erbyn – 0

Ymatal – 0

 

PENDERFYNWYD: y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

 

Dogfennau ategol: