Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 47/2023/0708 - HEN GLWB RYGBI’R RHYL, FFORDD WAEN, RHUDDLAN
Ystyried cais i
newid defnydd tir ac adeilad clwb presennol i ffurfio safle glampio, gan
gynnwys gosod 9 pod glampio, adleoli’r fynedfa bresennol, ffurfio ffyrdd a
llwybrau mewnol, gosod 2 uned trin carthion, a gwaith cysylltiedig (copi
ynghlwm)
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i newid defnydd tir ac
adeilad clwb presennol i ffurfio safle glampio gan gynnwys gosod 9 pod glampio,
adleoli’r fynedfa bresennol, ffurfio ffyrdd a llwybrau mewnol, gosod 2 uned
trin carthion a gwaith cysylltiol.
Siaradwr Cyhoeddus – Gethin Jones
(Asiant) - (O blaid) – Gofynnodd yr ymgeisydd am ganiatâd ar gyfer 9 Pod
gwyliau moethus ar dir hen Glwb Rygbi'r Rhyl.
Fel busnes lleol, y nod oedd arallgyfeirio
arlwy o fewn yr ardal a chynnig rhywbeth arbennig i’r gymuned chwaraeon. Y
weledigaeth oedd creu cyrchfan gwyliau unigryw mewn Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol (AHNE) tra'n adfer y Clwb Rygbi segur ynghyd â chreu swyddi rhan
amser a llawn amser.
Fel yr amlinellwyd mewn dogfennau blaenorol,
roedd y safle wedi wynebu problemau gyda mynediad heb awdurdod a thipio
anghyfreithlon yn ddiweddar. Yn flaenorol roedd Swyddogion Cyngor Sir Ddinbych
(CSDd) wedi cefnogi cais am 46 uned ar y safle. Roedd y cynllun newydd wedi'i
gwtogi'n sylweddol.
Ffocws allweddol y cynnig oedd gwella’r clwb
presennol, gan roi cyfle i fusnesau lleol ac entrepreneuriaid ddefnyddio’r
adeilad fel swyddfeydd am brisiau gostyngol. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru
eisoes wedi cymeradwyo’r cynllun draenio ar gyfer y safle ac, yn ddiweddar,
roedd timau pêl-droed lleol wedi mynegi diddordeb mewn defnyddio’r caeau
pêl-droed.
Roedd y cynnig yn wahanol iawn i
ddatblygiadau eraill yn yr ardal a'i nod oedd rhoi cyfle i ymwelwyr archwilio'r
dirwedd leol. Roedd y cynllun busnes yn amlinellu'r buddion i’r gymuned leol a
ddeuai yn sgil y datblygiad.
Anghytunwyd yn gryf y byddai llawer o
ymwelwyr â'r safle yn dibynnu ar ddefnyddio ceir i deithio o amgylch yr ardal
leol. O ystyried pa mor agos yw’r safle at lwybrau troed Clawdd Offa,
rhagwelwyd y byddai llawer o ymwelwyr â’r safle yn gerddwyr sy’n teithio i
bentrefi a threfi lleol ar droed gan ddilyn arwyddbyst o fewn yr ardal. Roedd
yn bwysig nodi y byddai'r cais blaenorol a gyflwynwyd wedi arwain at lawer mwy
o deithio mewn car, heb unrhyw wrthwynebiad gan y Gwasanaethau Priffyrdd.
Siaradwr Cyhoeddus - Deirdre
Williams (Trigolyn) - (Yn Erbyn) - Ystyriwyd y Podiau yn garafanau sefydlog ac
felly nid oeddent yn cael eu cefnogi gan Bolisi Cynllunio. Roedd y safle mewn
cefn gwlad agored ac wedi'i amgylchynu gan dir amaethyddol BMV.
Nid oedd y safle mewn lleoliad cynaliadwy gan
nad oedd yn hawdd ei gyrraedd heblaw mewn car. Nid oedd y cysylltiadau i
gerddwyr ag aneddiadau yn addas a byddai'n annog pobl i beidio â cherdded
oherwydd natur amodau'r priffyrdd.
Roedd Gweinidog Cymru wedi gwrthod caniatâd
yn flaenorol ar gyfer datblygiad caban mwy (40 uned). Fodd bynnag, roedd
egwyddor y penderfyniad hwn yn dal i fod yn berthnasol i'r cais llai hwn.
Byddai'r cynnig yn golygu bod mwy o geir yn
defnyddio'r ffyrdd o amgylch y safle ac mae’n bosib na fyddai ymwelwyr yn gyrru
yn unol ag amodau'r ffordd.
Roedd arlwy gwyliau presennol o fewn y
cyffiniau lleol ac nid oedd tystiolaeth o'r angen am y podiau arfaethedig.
Trafodaeth Gyffredinol –
Dywedodd y Cadeirydd fod cyfarfod safle
wedi'i gynnal a chroesawodd yr aelodau a oedd yn bresennol i roi adborth i'r
Pwyllgor.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Evans fod
presenoldeb da yn y cyfarfod safle. Roedd y cynlluniau ar gyfer y safle wedi
newid yn aruthrol ac roedd pryderon gan drigolion ynglŷn â'r ffyrdd o
amgylch y safle.
Aeth y Cynghorydd Merfyn Parry i’r cyfarfod
ar y safle a mynegodd ei dristwch gyda chyflwr presennol y safle. Roedd yn
amlwg bod llosgi wedi digwydd ar y safle ac wedi ei adael. Roedd yn ddiddorol
cerdded o amgylch y safle a gweld y cynlluniau.
Dywedodd y Cynghorydd Ellie Chard ei bod yn
falch iawn o gael y cynlluniau ar gyfer y safle a'i bod yn gobeithio y gallai'r
safle ddod yn ardal gymunedol ar gyfer timau a chlybiau pêl-droed lleol.
Nododd y
Cynghorydd Jon Harland nad oedd gan y Gwasanaethau Priffyrdd unrhyw
wrthwynebiad i'r cais ond CYNIGIWYD gwrthod y cais ar y sail nad oedd y ffyrdd
o amgylch y safle yn addas ar gyfer y cynnydd yn y defnydd o geir ac y gallai
fod yn beryglus.
EILIWYD y cynnig i wrthod y cais gan y
Cynghorydd Arwel Roberts, a nododd y byddai’r safle hwnnw’n arwain at fwy o
geir yn defnyddio’r priffyrdd o gwmpas y safle, a oedd yn beryglus.
Gofynnodd y Cynghorydd Delyth Jones i'r
Swyddogion gadarnhau statws presennol y safle gan gynnwys mynediad i'r safle.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y safle dan yr un berchnogaeth a bod y
perchnogion yn cynnal mynediad i'r caeau pêl-droed.
Cododd nifer o Aelodau bryderon a chwestiynau
ynghylch y priffyrdd o amgylch y safle.
Mewn ymateb i gwestiynau a ofynnwyd, dywedodd
y Prif Swyddog Cynllunio bod dwy agwedd i'r materion priffyrdd yn codi o'r
cais, diogelwch priffyrdd a chynaliadwyedd priffyrdd, a oedd yn ymwneud â
hygyrchedd y safle. Codwyd pryderon nad oedd y ffyrdd cyfagos yn ddiogel i
gerdded arnynt.
Roedd y ddeddfwriaeth yn nodi bod angen
anogaeth i ddefnyddio llwybrau cludiant cynaliadwy ac i annog pobl i beidio â
defnyddio ceir modur preifat. Dywedodd yr Arolygydd, a ategwyd gan Weinidog
Cymru, y byddai lleoliad y safle ond yn cynyddu’r defnydd o geir modur preifat
ac nad oedd pellter y llwybrau i’r anheddiad lleol cyfagos yn gynaliadwy.
Gofynnodd y Cynghorydd Andrea Tomlin a ellid
rhoi amod ar yr achos busnes pe byddai'r cais yn cael ei ganiatáu er mwyn
sicrhau bod achos busnes mwy cadarn yn cael ei gyflwyno. Gwnaed sylwadau
pellach ynglŷn â'r pwysau oedd yn cael ei roi i gais blaenorol a
gyflwynwyd ar gyfer y safle, ac nad oedd materion cludiant wedi peri pryder yn y gorffennol.
Eiliodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr
amod arfaethedig gan y Cynghorydd Andrea Tomlin ac ychwanegodd fod llawer o
safleoedd tebyg ar draws y Sir. Pe na bai'r cais yn cael ei ganiatáu roedd
posibilrwydd y byddai'r safle'n dadfeilio ymhellach, a chynigiwyd caniatáu'r
cais.
Gofynnodd y Cynghorydd Alan James lle byddai
lle parcio ar gael ar y safle gan nad oedd darpariaeth ar gyfer parcio yn y
cais. Eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio petai caniatâd yn cael ei roi i'r
cynnig y gellid ychwanegu amod at y cais. Pe bai'r caeau pêl-droed yn cael eu
defnyddio eto, yna byddai angen cyflwyno manylion y trefniadau parcio.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Evans na
adroddwyd am unrhyw ddigwyddiadau ar y briffordd o amgylch y safle ac y gellid
rheoli'r gwrthwynebiadau a gafwyd ynglŷn â phriffyrdd drwy osod amodau
cynllunio ar y cais. Parhaodd i dynnu sylw at ei bryderon ynghylch annog
ymwelwyr i gerdded yn ôl ac ymlaen o'r safle, gan ddefnyddio'r briffordd brysur
o'i amgylch. Holodd a ellid gwneud gwaith i ddarparu llwybr troed ar hyd y
ffordd. Roedd yr Uwch Beiriannydd yn gwerthfawrogi'r pryderon lleol ynghylch y
briffordd ond nid oedd unrhyw ddamweiniau wedi'u cofnodi ar y ffordd a oedd yn
teilyngu bod y Gwasanaethau Priffyrdd yn gwrthod y cais. Ni fyddai'n ymarferol
i waith gael ei wneud ar lwybr troed.
Eglurodd y Rheolwr Datblygu, oherwydd bod dau
gynnig wedi'u cyflwyno, un o blaid ac un yn erbyn argymhellion Swyddogion, bod
angen cynnal dwy bleidlais.
Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Arwel Roberts y dylid
GWRTHOD y cais yn unol ag argymhellion y Swyddog, ac fe EILIWYD hynny gan y
Cynghorydd Jon Harland.
Pleidlais –
O blaid – 5
Yn erbyn – 14
Ymatal – 0
Cynnig - Cynigodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag
argymhellion y Swyddog, ac EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Andrea Tomlin.
Pleidlais –
O blaid – 14
Yn erbyn – 5
Ymatal – 0
PENDERFYNWYD: CANIATÁU'R
cais yn erbyn argymhellion y Swyddogion ar sail dim tystiolaeth ynghylch
pryderon priffyrdd na chludiant a bod posibilrwydd y gallai'r safle adfeilio
ymhellach.
Dogfennau ategol:
-
FRONT SHEET 47-2023-0708 - Rhuddlan, Eitem 5.
PDF 99 KB
-
47-2023-0708 - PDF (Rhuddlan), Eitem 5.
PDF 3 MB