Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O'R GWASANAETH AILGYLCHU TROLIBOCS A SWYDDOGAETHAU CASGLU GWASTRAFF CYSYLLTIEDIG

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaeth Amgylcheddol (copi wedi’i amgáu) ar gynnydd a wnaed hyd yma wrth ddarparu’r gwasanaeth diwygiedig yn dilyn yr adnoddau ychwanegol a ddarparwyd; a’r broses a ddilynwyd i weithredu’r newidiadau/cyflwyno casgliadau pen draw lonydd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) gan atgoffa’r Pwyllgor bod yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf yn sgil penderfyniad y Cabinet ar 1 Hydref 2024 i neilltuo adnoddau ychwanegol i gyflwyno’r drefn casglu gwastraff newydd.

 

Yn ogystal â hynny, roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi derbyn cynnig i graffu ar y penderfyniad i newid y trefniadau casglu mewn rhai ardaloedd a chyflwyno trefn Pen Lôn. Cydnabu’r Aelod Arweiniol fod lle i’r gwasanaeth wella, ond dywedodd fod cynnydd wedi’i wneud ers ei gyflwyno ym mis Mehefin.

 

Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol fod a wnelo’r adroddiad yn bennaf â phenderfyniad y Cabinet i gymeradwyo rhoi £1.299 miliwn yn ychwanegol i’r Gwasanaeth, wedi’i ariannu drwy grantiau a benthyca cyfalaf. Soniwyd bod y Gwasanaeth yn dal yn aros i Lywodraeth Cymru gadarnhau’r swm y gallai ei gyfrannu.

 

Ac eithrio’r cyfnodau o dywydd eithafol yn y Sir ddechrau’r flwyddyn, roedd y Gwasanaeth wedi sefydlogi a dod yn fwy cyson, ac roedd pethau’n gwella bob wythnos.

 

Bwriedid cyflwyno casgliadau Pen Lôn ar gyfer 36 o aelwydydd o blith 47,000 ledled y Sir, a hysbyswyd y preswylwyr dan sylw. Roedd rhai trigolion wedi mynegi pryderon ynglŷn â newid eu gwasanaeth ond roedd gan yr Awdurdod rym i weithredu’r newidiadau hynny dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Aseswyd eiddo yn unol â’r protocolau a gweithdrefnau priodol cyn hysbysu’r trigolion o’r newid.

 

Soniodd rhai pobl fod y polisi perthnasol yn amwys a dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y polisi hwnnw dan adolygiad. Cydnabu’r Pennaeth Gwasanaeth hefyd na hysbyswyd yr aelodau o’r llythyrau a anfonwyd at y trigolion a dywedodd y dysgid gwers o hynny ar gyfer y dyfodol.

 

Holodd aelodau a oedd costau llogi cerbydau ychwanegol wedi’u cynnwys yn y cynllun ariannol cychwynnol. Dywedodd y swyddogion fod arian yng nghyllideb refeniw/gweithredu’r Gwasanaeth i dalu am y costau llogi. Gwnaed pob ymdrech i ddod â chyfnodau llogi’r cerbydau dros dro i ben cyn gynted â phosib.

 

Wrth ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor, dywedodd Swyddogion:

 

  • Ei bod yn anochel colli rhywfaint o gasgliadau ni waeth pa bynnag ddull a ddefnyddid – yn aml oherwydd pobl yn anghofio rhoi eu biniau allan neu yrwyr newydd yn hepgor un o’r tai ar ei rownd. Pan gyflwynwyd y dull newydd i ddechrau, y broblem oedd methu â chanfod ble’r oedd casgliadau wedi’u colli. Datryswyd y broblem honno bellach ac ymdriniwyd yn weddol chwim â chasgliadau a gollwyd.
  • Bu ôl-groniad o ohebiaeth â phreswylwyr ar y system C360 ac arweiniodd hynny at ddefnyddio cyfeiriad e-bost y Dull Gwastraff Newydd i bobl gysylltu.

Rhagwelid y byddai’r gwasanaeth yn dychwelyd i’r arfer yn yr wythnosau nesaf fel bod modd i breswylwyr roi gwybod am gasgliadau a gollwyd drwy’r Ganolfan Gyswllt neu ar-lein.

  • Wrth nodi cartrefi lle’r oedd angen casgliadau Pen Lôn, bu swyddog yn asesu eu mynedfeydd, allanfeydd a mannau troi.

Roedd angen hefyd ystyried topograffi a maint y cerbydau a ddefnyddir ac asesu risgiau i staff.

  • Cynhelid asesiadau ar sail maint y cerbyd a fyddai’n casglu gwastraff ar y rownd fel arfer.
  • Roedd Deddf Diogelu’r Amgylchedd yn rhoi’r grym i awdurdodau fynnu bod yr aelwyd yn cyflwyno ei gwastraff mewn man penodol.
  • Nid oedd y llythyr a anfonwyd i’r cartrefi dan sylw’n rhoi digon o wybodaeth i’r preswylwyr nac yn egluro’n iawn y sail resymegol ar gyfer newid y gwasanaeth, ac nid oedd yn sôn ychwaith am unrhyw hawl i apelio’r penderfyniad.
  • Roedd yno drefn apelio a gellid ailasesu cartrefi, er na fyddai hynny o reidrwydd yn golygu gwyrdroi’r penderfyniad gwreiddiol.
  • Os oedd rhywun yn gymwys i gael casgliadau â chymorth, gellid darparu ar eu cyfer – hyd yn oed gyda chasgliadau pen lôn – neilltuwyd y gwasanaeth i’r preswylydd yn hytrach na’r eiddo.
  •  Os oedd rhywun yn gymwys i gael casgliadau â chymorth a bod y cerbyd arferol ar y rownd yn rhy fawr, byddai angen darparu gwasanaeth pwrpasol.
  • Nid oedd y polisi presennol ynghylch casgliadau pen lôn ond yn cyfeirio at ffyrdd heb eu mabwysiadu. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, roedd rhai ffyrdd a fabwysiadwyd yn anaddas ar gyfer y cerbydau penodedig.
  • Fel arfer, mater gweithredol fyddai newid y polisi ynghylch casgliadau pen lôn, ond oherwydd sensitifrwydd y sefyllfa rhoes swyddogion sicrwydd yr ymgynghorid ag aelodau o hyn ymlaen.
  • Yn achos casgliadau pen lôn (blêr) yn yr AHNE, roedd y preswylydd yn gyfrifol am gyflwyno’r Trolibocs a’i roi o’r neilltu’n ddiymdroi er mwyn lleihau’r effaith weledol, atal bocsys rhag cael eu torri neu’u dwyn a lliniaru ar effeithiau tywydd garw.
  • Er bod y ganolfan gyswllt wedi derbyn 2,195 o alwadau ym mis Rhagfyr 2024, gallai nifer o’r rheiny fod yn alwadau mynych am yr un sefyllfa.
  • Ni ellid darparu manylion y cartrefi a nodwyd ar gyfer casgliadau pen lôn oherwydd y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, ond byddai modd rhannu nifer o lonydd yn ward pob un o’r aelodau.
  • Roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyllid ar gyfer cerbydau newydd. Byddai’r isafswm a ragwelid yn gyfwerth â’r gwahaniaeth rhwng pris dau o gerbydau trydan a dau o rai diesel.
  • Adolygid y drefn ar gyfer casglu tecstilau ar y cyd â’r gweithredwr allanol, Co-options.
  • Ers newid y gwasanaeth ym mis Mehefin 2024 amcangyfrifir fod incwm o tua  £750,000 wedi ei dderbyn o ailgylchu gwastraff (heb ei ddilysu). Rhoddwyd trefn newydd ar waith ar gyfer adrodd ynghylch tipio anghyfreithlon. Nid oedd unrhyw awgrym y bu cynnydd mewn achosion o dipio anghyfreithlon yn sgil gweithredu’r gwasanaeth gwastraff newydd.
  • Y polisi presennol oedd codi tâl ar breswylwyr am focsys newydd (troli) yn lle rhai oedd wedi torri neu fynd ar goll. Nid oedd y polisi’n cynnwys unrhyw ddisgresiwn ynglŷn â hynny. Os oedd gan breswylydd brawf mai un o’r gweithwyr gwastraff oedd wedi difrodi bocs, fodd bynnag, ni chodid tâl arnynt.

Hefyd, byddai pobl mewn tai newydd heb Drolibocs yn gyfrifol am dalu £45 i gael un.

  • Pe byddai gweithiwr yn canfod bocs halogedig (gyda phethau ynddo na ddylent fod), dylent roi sticer ar y bocs sy’n nodi beth yw’r deunydd dieisiau ac yn ei gofnodi ar y cyfrifiadur yn y cab. Pe byddai rhywun yn halogi bocs yn fynych, cysylltid â’r preswylydd i roi cyfarwyddiadau pendant ynglŷn â sut i waredu eitemau’n iawn.

 

Wrth sôn am newid y gwasanaeth a chyflwyno casgliadau pen lôn, cyfeiriodd y Cynghorydd Brian Jones at adroddiad i’r Cabinet ar 18 Rhagfyr 2018 ynglŷn â’r amrywiaeth o ffyrdd a lonydd yn y sir, a rhoddwyd sicrwydd y byddai’r dull arfaethedig yn addas ar eu cyfer. Soniodd yr adroddiad yn benodol ynghylch lonydd eithriadol o gul, a dylid fod wedi gwybod y byddai gofyn am lwybr casglu arbennig.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd y seiliwyd yr adroddiad ar ddamcaniaethau, gan nad oedd y llwybrau newydd wedi’u pennu eto bryd hynny.

 

Soniwyd sawl gwaith yn ystod y drafodaeth am gyfathrebu gwael gan y Gwasanaeth â phreswylwyr ac aelodau. Rhoes swyddogion sicrwydd fod y Gwasanaeth yn ymrwymo i gyfathrebu’n well.

 

Wrth ddod â’r drafodaeth i ben, cyfeiriodd y Cadeirydd at yr argymhellion yn yr adroddiad ac ni chredai y gallai’r Pwyllgor eu cymeradwyo. Yn lle hynny, cafwyd cynnig i ddod ag adroddiad gerbron y Pwyllgor ym mis Mai gan gynnwys gwybodaeth am ganran y deunydd ailgylchu a broseswyd a’r cyllid a ddarperid gan Lywodraeth Cymru.

 

 

PENDERFYNWYD:

  1. Y cyflwynid adroddiad arall i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 15 Mai, ac
  2. Y dylid ymgynghori â’r holl aelodau ynglŷn â’r cynigion ar gyfer y Polisi Casgliadau Pen Lôn.

 

Dogfennau ategol: