Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD O DDOSBARTHIADAU ETHOLIADOL A MANNAU PLEIDLEISIO YN SIR DDINBYCH
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) ynghylch yr
adolygiad o Ardaloedd Pleidleisio a Mannau Pleidleisio yn Sir Ddinbych.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, Steve Price, adroddiad yr Adolygiad o
Ardaloedd Pleidleisio a Lleoedd yn Sir Ddinbych (dosbarthwyd ymlaen llaw).
Roedd gan y
Cyngor ddyletswydd statudol i adolygu ei ddosbarthiadau etholiadol a mannau
pleidleisio o leiaf unwaith bob pum mlynedd.
Gwahoddwyd
sylwadau gan y cyhoedd ar y dosbarthiadau etholiadol, y mannau pleidleisio a’r
gorsafoedd pleidleisio presennol neu a awgrymwyd yn ystod mis Tachwedd a mis
Rhagfyr 2024. Argymhellwyd y dylai
unrhyw awgrymiadau ar gyfer newidiadau i fannau pleidleisio ystyried y pwyntiau
canlynol -
(i)
A
oedd yr eiddo yn ddigon mawr ar gyfer nifer yr etholwyr (pleidleiswyr
cofrestredig) a ddyrannwyd
(ii)
A
oedd yr eiddo mewn lleoliad mor ganolog ag sy’n bosibl ar gyfer y dosbarth
etholiadol mae’n ei wasanaethu
(iii)
A
fyddai modd gwarantu y byddai’r man pleidleisio ar gael i’w ddefnyddio yn yr
hirdymor
(iv)
Fyddai’r
eiddo, cyn belled ag sy'n ymarferol, yn hygyrch i bobl ag anableddau.
Aeth yr
ymgynghoriad yn fyw gyda gwybodaeth a gyhoeddwyd ar wefan y Cyngor a'i hanfon
at Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, yr holl gynghorwyr, ac ystod o sefydliadau
hygyrchedd a gwirfoddol yr oedd eu cylch gorchwyl yn cwmpasu Sir Ddinbych.
Roedd yr
ymgynghoriad a’r wybodaeth ar y wefan yn cynnwys dolen i holiadur ar gyfer
ymatebion ar y cyd, a dangoswyd yr ymatebion a ddaeth i law yn Atodiad 2.
Nid oedd asesu
addasrwydd mannau a gorsafoedd pleidleisio yn dibynnu ar yr adolygiad statudol,
gan y byddai swyddfa'r etholiad yn ystyried newidiadau, newidiadau mewn
amgylchiadau a chynigion ar unrhyw adeg.
Mae profiadau o
etholiadau diweddar a gynhaliwyd yn yr ardal neu ar safle a allai fod yn fwy
addas yn arwain at newid. Mae'n bosibl
na fydd adeilad a ddefnyddiwyd gynt fel gorsaf bleidleisio ar gael mwyach.
Digwyddodd hyn yn ddiweddar, ac arweiniodd at orfod chwilio am ddewis arall
addas ar unwaith.
Dywedodd y
Comisiwn Etholiadol y dylai fod dewis o adeiladau cwbl hygyrch wedi'u lleoli'n
gyfleus i etholwyr yn yr ardal, a pherchnogion yn fodlon eu llogi fel gorsaf
bleidleisio am gost isel. Yn anffodus,
yn ymarferol, nid dyma’r achos yn aml ac mewn rhai ardaloedd efallai mai
ychydig iawn o ddewis sydd ar gael.
Ymddengys bod y rhwydwaith presennol yn cael ei groesawu ac yn addas at
y diben. Roedd gwybodaeth yr
ymgynghoriad yn nodi nad oes gofyniad na disgwyliad i gyflwyno sylwadau er bod
croeso i bobl wneud hynny. Pe na bai
unrhyw sylwadau'n cael eu cyflwyno, tybir bod y trefniadau pleidleisio
presennol yn addas ar gyfer y gymuned.
Roedd y sylwadau
a wnaed i'w gweld yn Atodiad 2 ac roeddent yn cefnogi'r trefniadau
presennol. Yr eithriad oedd yr awgrym a
wnaed gan y Swyddog Canlyniadau Gweithredol ar gyfer Dwyrain Clwyd, sydd hefyd
yn Brif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint. Roedd yn gyfrifol am etholiadau
Seneddol y DU ar gyfer Dwyrain Clwyd, gan gynnwys yr ardal a gwmpesir gan
Neuadd Blwyf y Waen y gwnaeth y Swyddog Canlyniadau
Gweithredol ei sylwadau arni.
Y newid y
gofynnwyd amdano i'w ystyried oedd cyfuno tair gorsaf bleidleisio, a defnyddio
Neuadd Blwyf y Waen fel yr un orsaf ar gyfer
Etholiadau Seneddol y DU. Cefnogwyd y
newid hwn gan y swyddfa etholiadol gan na fyddai'n effeithio ar bleidleiswyr,
ac ni fyddai pleidleiswyr yn sylwi ar y newid.
Byddai'n ddefnydd mwy effeithlon o staff yr orsaf bleidleisio a byddai
modd rheoli cyfanswm y pleidleiswyr ar gyfer yr orsaf bleidleisio honno.
Roedd un
gŵyn wedi’i gwneud yng ngogledd y sir mewn etholiad a gynhaliwyd yn 2024
ynghylch dyfais bleidleisio gyffyrddol y gallai pobl â nam ar eu golwg ei
defnyddio. Gwrthododd y pleidleisiwr
ddefnyddio'r ddyfais. Nid oedd y gŵyn a gafwyd wedi dod gan y pleidleisiwr
ei hun ond gan unigolyn a oedd wedi bod yn yr orsaf bleidleisio ar y pryd ac
wedi drysu ynghylch a oedd dyfais bleidleisio gyffyrddol ar gael.
Roedd hygyrchedd
yn hynod bwysig a chafodd ei godi gan Ddeddf Etholiadau 2022. Bydd mwy o declynnau yn y gorsafoedd
pleidleisio, e.e.: gripiau beiros, goleuadau digonol,
arwyddion a hefyd hyfforddiant i staff yr orsaf bleidleisio ar faterion
hygyrchedd.
Nid oedd pob
gorsaf bleidleisio wedi'i hadeiladu’n hygyrch, ond roedd y swyddfa etholiadol
yn ymwybodol o faterion fel hyn.
CYNIGWYD gan y
Cynghorydd Julie Matthews ac EILIWYD gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.
Cafwyd pleidlais
drwy godi dwylo a chytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo’r adolygiad.
PENDERFYNWYD –
(i)
Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r rhwydwaith presennol o ddosbarthiadau
etholiadol, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio fel y nodwyd yn Atodiad
1, yn amodol ar argymhelliad (ii) isod
(ii)
Mewn perthynas â ward etholiadol Tremeirchion, bod y Cyngor yn cefnogi
ymateb y Swyddog Canlyniadau i’r sylwadau a wnaed yn Atodiad 2 i gyfuno’r tair
gorsaf bleidleisio ar gyfer etholiadau seneddol i un orsaf bleidleisio ar gyfer
dosbarthiadau etholiadol BKB, BKC a BKD, sydd wedi’u lleoli yn Neuadd Blwyf y Waen.
Dogfennau ategol:
-
Report to Council - Review of Polling Places_cy, Eitem 11.
PDF 240 KB
-
Appendix 1 - current-polling-districts-and-polling-places-2024, Eitem 11.
PDF 97 KB
-
Appendix 2 - Responses, Eitem 11.
PDF 424 KB