Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN CYFALAF 2024/25 - 2027/28

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Archwilio (copi ynghlwm) i ddiweddaru'r aelodau ar Gynllun Cyfalaf 2024/25 a chael cymeradwyaeth y Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis, adroddiad Cynllun Cyfalaf 2024/25 – 2027/28 (dosbarthwyd ymlaen llaw). 

 

Diweddarwyr yr Aelodau ar y Cynllun Cyfalaf a'r Adroddiad Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2025/26.  Roedd y Cynllun Cyfalaf yn cofnodi holl gyllid a gwariant cyfalaf gwirioneddol Cronfa’r Cyngor a’r hyn a ragwelir.  Roedd y Strategaeth Gyfalaf yn darparu trosolwg lefel uchel, cryno a chynhwysfawr o sut mae gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a gweithgaredd rheoli trysorlys Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor.  Roedd Cod Ymarfer Rheoli Trysorlysoedd y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Gyfalaf a’r Dangosyddion Darbodus yn flynyddol.

 

Y tro diwethaf i’r Cynllun Cyfalaf gael ei adrodd i’r Cyngor oedd ym mis Chwefror 2024.  Cyflwynwyd diweddariadau rheolaidd i’r Cabinet.

 

Roedd y Cyngor yn wynebu heriau ariannol, fel yr holl gynghorau yng Nghymru, o ganlyniad i bwysau chwyddiant a phwysau a arweinir gan alw sydd ymhell y tu hwnt i’r lefel o gyllid a ragwelir.  Oherwydd maint yr her ariannol, cytunwyd ar egwyddorion ar gyfer cynlluniau cyfalaf yn y dyfodol, a oedd wedi'u nodi o dan 4.2 yn yr adroddiad.

 

Roedd y Grŵp Craffu Cyfalaf wedi adolygu ceisiadau cyfalaf, gan wneud argymhellion i'w cynnwys yn y Cynllun Cyfalaf o 2025/26 ymlaen.  Manylwyd ar y rhain yn Atodiad 3 ac fe geir crynodeb yn Atodiad 4.

 

Yn ystod y trafodaethau, codwyd y pwyntiau canlynol –

(i)             Buddsoddiad ysgolion yn Ninbych – nid oedd ffigyrau buddsoddi wedi eu cynnwys yn y cynllun ac roedd y bloc cynnal a chadw wedi gostwng o £3 miliwn i £900 mil.  Cadarnhawyd y byddai'r ffigyrau wedyn yn ymddangos yn y Cynllun ar gyfer cymunedau dysgu cynaliadwy pan fyddai'r achos busnes llawn wedi'i gymeradwyo.  O ran y bloc cynnal a chadw, roedd y ffigurau ar gyfer 2024/25 a 2025/26.  Yr hyn a fyddai yn nhabl 2025/26 fyddai'r hyn a oedd newydd gael ei gymeradwyo fel rhan o'r dyraniad bloc.  Yr hyn a fyddai yn nhabl 2024/25 oedd yr hyn a ddyrannwyd dros nifer o flynyddoedd, ac a oedd wedi'i gynnwys yn y ffigur mwy hwnnw.  Roedd y ffigwr ar gyfer Gwaith Cynnal a Chadw Cyfalaf Ysgolion yn Atodiad 4 yr adroddiad.

(ii)            Roedd Cynllun Cyfalaf 2024/25 yn cynnwys ailfodelu’r gwasanaethau Gwastraff, a gofynnwyd am eglurhad ynghylch a fyddai angen cyfalaf ychwanegol wrth symud ymlaen yn 2025/26.  Cadarnhawyd hyd yma na fyddai angen unrhyw gyfalaf ychwanegol.  Roedd trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau grant tuag at yr £1.3 miliwn a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Hydref 2024.  Felly, byddai'r ffigwr a nodir yn is ar ôl i'r grant gael ei gymeradwyo.

(iii)          Bu gostyngiad yn y cyllid ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd.  Mynegwyd pryderon ynghylch cyflwr gwael y ffyrdd a byddai angen buddsoddi cyn i gost cynnal a chadw'r ffyrdd gynyddu.  Nodwyd y posibilrwydd o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ond nad oedd modd ei gadarnhau ar hyn o bryd.  Byddai hyn yn lleddfu peth o'r pwysau ar y gwaith cynnal a chadw priffyrdd. 

(iv)          Roedd pob dyraniad yn cynhyrchu achos busnes llawn, ac o fewn yr achos busnes roedd allyriadau carbon pob cynllun wedi'u nodi cyn belled ag y bo modd, a byddai'r wybodaeth honno'n cael ei rhannu gyda'r aelodau.

(v)           Cadarnhawyd y byddai’r grant tai sector preifat o £1.5 miliwn yn cael ei wario’n helaeth ar y gofynion statudol i ddarparu grantiau cyfleusterau i’r anabl, ar gyfer addasu cartrefi pobl er mwyn iddynt allu cynnal eu hannibyniaeth a byw’n annibynnol o fewn y gymuned.

(vi)          Gofynnodd yr aelodau a oedd ffigwr i godi lefel statudol o ran diogelwch ac ati priffyrdd Sir Ddinbych.  Cadarnhawyd y byddai'n amhosibl darparu union ffigwr.  Gellid edrych ar ffigwr bras a'i roi i'r aelodau yn y gwahanol Grwpiau lle adroddir ar gynnal a chadw Priffyrdd.  Byddai'r mater yn cael ei gyfeirio at y Pennaeth Priffyrdd.

(vii)         Cadarnhawyd y byddai'r Swyddog Priffyrdd yn mynd i holl gyfarfodydd Grwpiau Ardal yr Aelodau, fel y gwnaed yn y gorffennol i ddiweddaru'r aelodau ar y priffyrdd yn eu hardaloedd.

 

Ar y pwynt hwn, argymhellodd y Prif Weithredwr y dylid cynllunio Gweithdy Cyngor i drafod pryderon Priffyrdd gan ei fod yn fater yr oedd gan yr aelodau nifer o gwestiynau yn ei gylch. 

 

CYNIGIWYD gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, EILIWYD gan y Cynghorydd Gareth Sandilands.

 

Cafwyd pleidlais drwy godi dwylo a chytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo adroddiad Cynllun Cyfalaf 2024/25 – 2027/28.

 

PENDERFYNWYD

(i)             Bod Aelodau’n nodi’r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â’r Cynllun Cyfalaf 2024/25 – 2027/28 presennol sydd yn Atodiad 1 a’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau mawr yn Atodiad 2.

(ii)            Bod Aelodau yn cefnogi argymhellion y Grŵp Craffu Cyfalaf a’r Cabinet yn ymwneud â chynigion cyfalaf i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2025/26 fel y nodir yn Atodiad 3 ac a gaiff eu crynhoi yn Atodiad 4.

(iii)          Bod Aelodau’n cymeradwyo Cynllun Cyfalaf 2025/26 sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad 1.

(iv)          Bod Aelodau’n cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf a’r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2025/26 fel y manylir yn Atodiad 5.

 

Dogfennau ategol: