Eitem ar yr agenda
STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS
Derbyn adroddiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys gan y Pennaeth Gwasanaeth, Cyllid ac Archwilio (copi ynghlwm) er mwyn i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio cymeradwyo'r Strategaeth Rheoli Trysorlys blynyddol ar gyfer 2025/2026 a'r diweddariad chwarterol ar gyfer 2024/25.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio, ynghyd â’r
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, Ddatganiad Strategaeth
Rheoli'r Trysorlys 2025/26 ac Adroddiad Diweddaru Reoli'r Trysorlys Ch3 2024/45
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw).
Mae'r Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn dangos
sut y byddai'r Cyngor yn rheoli ei fuddsoddiadau a'i fenthyciadau am y flwyddyn
i ddod. Mae hefyd yn pennu'r polisïau y mae'r swyddogaeth Rheoli'r Trysorlys yn
eu dilyn wrth weithredu. Mae’r Adroddiad Diweddaru ar Reoli’r Trysorlys yn rhoi
manylion gweithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod chwarter 3 2024/25.
Roedd y Cyngor yn gyfrifol am ei benderfyniadau a’i
weithgareddau Rheoli Trysorlys, a oedd yn cynnwys gofalu am arian parod y
Cyngor. Roedd hyn yn rhan hanfodol o waith y Cyngor gan fod tua £0.5 biliwn yn
mynd drwy gyfrif banc y Cyngor bob blwyddyn.
Mae graffiau’r adroddiad yn dangos lefelau balansau benthyca a buddsoddi’r Cyngor dros y tair blynedd
diwethaf. Mae’r siart gyntaf yn dangos cynnydd yn y swm y mae’r Cyngor wedi’i
fenthyca dros y cyfnod hwn. Mae’r ail siart yn dangos gostyngiad yn y swm o
arian sydd ar gael i’w fuddsoddi. Mae’r ddau’n
cyd-fynd â’r rhagolygon ac wedi’u cysylltu’n uniongyrchol â Chynllun Cyfalaf y
Cyngor.
Gan gyfeirio at yr adroddiad diweddaru ar Reoli’r
Trysorlys, rhoddodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio rywfaint o gefndir i’r
adroddiad, cyn rhoi cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau: Byddai’r effaith ar y DU
o Gyllideb yr Hydref y Llywodraeth, toriadau cyfraddau llog arafach, twf
economaidd cymharol wannach dros y tymor canolig, yn ogystal ag effaith ail
dymor yr Arlywydd Trump yn ei swydd ac ansicrwydd
ynghylch polisi domestig a thramor yr Unol Daleithiau, yn cael dylanwad
sylweddol ar Strategaeth Rheoli Trysorlys yr Awdurdod ar gyfer 2025/26.
Rhoddwyd gwybod i’r aelodau hefyd y byddai’r adroddiad rheoli’r trysorlys nesaf
yn cael ei drafod yng nghyfarfod y pwyllgor ym mis Ebrill.
Trafododd yr Aelodau’r materion canlynol ymhellach -
- Tynnodd
yr aelodau sylw at y graff yn Atodiad Un, a oedd yn dangos cynnydd yn
2066; Ymatebodd swyddogion drwy ddweud bod y mater yn ymwneud yn ôl â
2015/16 a phrynu allan y cymhorthdal stoc tai, sef rhyddhau
cronfa'r Cyfrif Refeniw Tai o dalu'r cymhorthdal i
lywodraeth ganolog, a rhyddhau arian i wella ansawdd y stoc dai.
- Teimlai’r
Aelod Lleyg, Nigel Rudd, fod rhywfaint o fylchau
rhwng strategaeth y Cyngor, gwaith rhaglennu a Rheoli’r Trysorlys. Yn sylfaenol,
roedd gallu benthyca er mwyn ariannu gwaith cyfalaf yn hollbwysig. Cafodd
y penderfyniadau hynny effaith sylweddol ar gyfrif refeniw’r awdurdod, a
byddaf yn trafod hyn eto yn yr eitem nesaf: y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio, sef yr awdurdod dirprwyedig i adolygu ar ran trefniadau rheoli
trysorlys y Cyngor. Teimlai’r Aelod Lleyg, Nigel Rudd fod angen rhoi sylw
i’r bylchau yn y broses. Mewn ymateb i'r ymholiad, fe hysbyswyd yr aelodau
gan y Pennaeth Cyllid ac Archwilio fod y grŵp craffu cyfalaf yn
trafod materion cyfalaf; roedd ambell aelod o’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio yn aelodau; roeddent yn mynd trwy fanylion pob achos ac effaith
costau refeniw; roedd y cwestiwn yn sicrhau trafodaeth bellach rhwng y
Pennaeth Cyllid ac Archwilio a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a
Busnes; er mwyn sicrhau bod gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fwy o
gefndir ynghylch materion trysorlys o fewn y Cyngor. Ymatebodd yr Aelod
Lleyg, Nigel Rudd drwy ddiolch i’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio am yr
ymateb gan ddweud nad oedd yn dymuno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio ymgymryd â’r gwaith o asesu’r rhaglen gyfalaf; fodd bynnag,
roedd angen i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ddarparu elfen o
amddiffyniad yn achos penderfyniadau sy’n gysylltiedig â Rheoli Trysorlys.
Gofynnwyd hefyd a oedd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio wedi cael unrhyw
drafodaethau gydag Arling Close
ynghylch Rheoli Trysorlys. Roedd y mater yn parhau. Mae Arlene Close wedi cysylltu
â’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio ac mae’r mater wedi’i ohirio oherwydd
llwyth gwaith y Pennaeth Cyllid ac Archwilio, sydd angen ymateb iddynt.
- Codwyd
y terfyn benthyca; cafodd benthyciadau dros dro gan awdurdodau eraill eu
cynnwys gyda’r terfyn ar fenthyca.
- Cytunodd
yr aelodau a’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio y dylai aelodau’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio dderbyn hyfforddiant blynyddol ar Reoli
Trysorlys.
Cynigiodd Nigel Rudd ddiwygiad i’r argymhellion yn yr
adroddiad: dylai swyddogion ailgyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio ar gyfer ystyried y dewisiadau o ran lefel y wybodaeth ac amseriad
penderfyniadau ynghylch y cynllun cyfalaf a’r effaith ar y gyllideb refeniw.
Cytunodd y pwyllgor ar y diwygiad.
PENDERFYNWYD
- Bod y
pwyllgor yn adolygu’r Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer
2025/26 a’r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2025/26, 2026/27 a 2027/28.
- Bod y
pwyllgor yn nodi’r adroddiad diweddaru Rheoli’r Trysorlys.
- Bod y
pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o
Effaith ar Les (Atodiad 3) fel rhan o’i ystyriaethau.
- Dylai
swyddogion ailgyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio ar gyfer ystyried y dewisiadau o ran lefel y
wybodaeth ac amseriad penderfyniadau y dylid eu
hailgyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio mewn
perthynas â’r cynllun cyfalaf a’r effaith ar y gyllideb refeniw.
Dogfennau ategol:
-
GAC TMSS2526CoverReport 22 Jan 25 - Final, Eitem 6.
PDF 256 KB
-
GAC App 1 TMSS2526 22-Jan-25 Final, Eitem 6.
PDF 388 KB
-
GAC App 2 TM Update Report 22-Jan-2025 Final, Eitem 6.
PDF 127 KB
-
GAC App 3 TMSS 2025-26 - Well-being Impact Assessment Report, Eitem 6.
PDF 819 KB