Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DYRANIADAU BLOC CYFALAF I’W CYNNWYS YNG NGHYNLLUN CYFALAF 2025/26

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn manylu ar yr egwyddorion ar gyfer ariannu cynlluniau cyfalaf ac yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet i’r prosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2025/26 a’u hargymell i’r Cyngor Llawn.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo’r egwyddorion ar gyfer cyllido cynlluniau cyfalaf fel y nodir yn yr adroddiad, a

 

(b)      cefnogi'r prosiectau a ddangosir yn Atodiad 2 yr adroddiad i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2025/26, a’u hargymell yn unol â hynny i'r Cyngor llawn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad gan geisio cefnogaeth y Cabinet i brosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2025/26, yn ôl argymhellion y Grŵp Craffu Cyfalaf, i’w cyflwyno i’r Cyngor llawn i’w hystyried a’u cymeradwyo.

 

Atgoffwyd y Cabinet am yr egwyddorion y cytunwyd arnynt i ariannu cynlluniau cyfalaf a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad mewn ymateb i’r heriau ariannol oedd yn wynebu’r Cyngor, adnoddau cyfalaf prin a’r angen am gyfyngu effaith y Cynllun Cyfalaf ar y gyllideb refeniw.  Rhoddwyd manylion am waith y Grŵp Craffu Cyfalaf wrth adolygu’r dyraniadau a gyflwynwyd gan wasanaethau yn unol â’r egwyddorion y cytunwyd arnynt a lleihau’r dyraniadau bloc tuag at lefel y cyllid cyfalaf oedd yn dod gan Lywodraeth Cymru (gan gymryd, ar y pryd, y byddai'r un fath â 2024/25, sef £6.185 miliwn). Darparwyd argymhellion a rhesymau’r Grŵp Craffu Cyfalaf am gefnogi prosiectau penodol hefyd, oedd yn creu cyfanswm o £7.227 miliwn (wedi gostwng o £8.362 miliwn yn 2024/25).  Roedd y cyllid cyfalaf oedd ar gael yn dilyn hynny, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, £760,000 yn uwch na’r disgwyl ac argymhellwyd i gyllid ychwanegol gael ei ddyrannu fel swm ychwanegol at raid wrth ddisgwyl am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru am y grantiau cyfalaf ychwanegol a fyddai ar gael yn 2025/26.  Byddai hyn yn cynorthwyo i benderfynu ar y ffordd orau o ddyrannu’r cyllid ychwanegol.

 

Diolchodd yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Cyllid ac Archwilio a’r Cabinet i’r Grŵp Craffu Cyfalaf a’r holl rai oedd ynghlwm â’r broses honno am eu gwaith caled.

 

Roedd y prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol –

 

·       trafodwyd y rhesymau am ddyrannu’r cyllid cyfalaf ychwanegol gan Lywodraeth Cymru fel swm ychwanegol at raid eto, a nododd y Cabinet fod grant cyfalaf eisoes wedi’i dderbyn ar gyfer gwaith cynnal a chadw mewn ysgolion ers y setliad dros dro. Byddai hyn yn ychwanegu at y dyraniad bloc hwnnw ac roedd disgwyl y byddai rhagor o grantiau cyfalaf at ddibenion penodol, fel gwaith ar briffyrdd, i ddod hefyd.  Gan nad oedd unrhyw gyfyngiad ar wario’r cyllid cyfalaf ychwanegol yn y setliad dros dro, argymhellwyd y dylid aros am ragor o fanylion ar y grantiau cyfalaf penodol a fyddai ar gael yn 2025/26 er mwyn bod â gwell gwybodaeth ar gyfer dyraniadau gwario cyfalaf yn y dyfodol gyda’r cyllid oedd yn weddill; byddai’r sefyllfa’n cael ei monitro’n ofalus

·       fel aelod o’r Grŵp Craffu Cyfalaf, croesawai’r Cynghorydd Gareth Sandilands fuddsoddiad cyfalaf sylweddol y Cyngor yn ei asedau, a holodd gwestiynau ynglŷn â’r prosiectau trawsnewidiol a buddsoddi cyfalaf.  Eglurwyd y byddai Bwrdd y Gyllideb a Thrawsnewid yn ystyried prosiectau trawsnewid a phe bai angen cyfalaf ar y prosiectau hynny, byddent hefyd yn cael eu hystyried gan y Grŵp Craffu Cyfalaf; roedd yn bwysig sicrhau bod y Cyngor yn buddsoddi’n ofalus ac yn gymesur mewn prosiectau trawsnewidiol er mwyn cyflawni ar gyfer trigolion.  Fodd bynnag, nodwyd bod y rhan fwyaf o ddyraniadau gwariant cyfalaf y Cyngor yn ymwneud â materion cyffredin i’r Cyngor fel gwaith cynnal a chadw ac addasiadau.

·       roedd yr adroddiad yn cyfeirio at gynlluniau cyfalaf a oedd yn rhai ‘untro’ o ran eu natur a chyfeiriodd y Cynghorydd Bobby Feeley at y buddsoddiad ychwanegol oedd ei angen yn y gwasanaeth gwastraff newydd a cheisiodd sicrwydd ynglŷn â mesurau i atal y drefn honno yn y dyfodol wrth ymdrin â phrosiectau trawsnewidiol.  Dywedodd yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr fod prosiectau o’r fath yn cael eu herio’n gadarn, gan dynnu sylw at y prosesau llywodraethu a chraffu a oedd ar waith i ymdrin â phrosiectau trawsnewidiol cyfalaf.  Er nad oedd unrhyw brosiect cyfalaf heb risg, roedd trefniadau wedi’u rhoi ar waith i liniaru a rheoli’r risgiau hynny.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)      cymeradwyo’r egwyddorion i ariannu cynlluniau cyfalaf oedd yn yr adroddiad; ac yn

 

(b)      cefnogi'r prosiectau a oedd yn Atodiad 2 i’r adroddiad i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2025/26, a’u hargymell yn unol â hynny i'r Cyngor llawn.

 

 

Dogfennau ategol: